- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
12. Mae’r meini prawf ansawdd ychwanegol a nodir yn y tabl a ganlyn yn gymwys—
Meini prawf | Swm |
---|---|
Cynnwys siwgr | |
1.—(1) Cynnwys ffrwctos a glwcos (cyfanswm y ddau)— | |
(a) mêl blodau | dim llai na 60g/100g |
(b) mêl melwlith a chyfuniad o fêl melwlith â mêl blodau | dim llai na 45g/100g |
(2) Cynnwys swcros— | |
(a) pob mêl ac eithrio mêl a bennir ym mharagraff (b) neu (c) | dim mwy na 5g/100g |
(b) mêl pren locust ffug (Robinia pseudoacacia), mêl alffalffa (Medicago sativa), mêl Banksia Menzies (Banksia menziesii), mêl gwyddfid Ffrainc (Hedysarum), mêl gwm coch (Eucalyptus camadulensis), mêl lledrwydden (Eucryphia lucida, Eucryphia milliganii), mêl Citrus spp. | dim mwy na 10g/100g |
(c) mêl lafant (Lavandula spp.), mêl tafod y fuwch (Borago officinalis) | dim mwy na 15g/100g |
Cynnwys lleithder | |
2. Cynnwys lleithder— | |
(a) pob mêl ac eithrio mêl a bennir ym mharagraff (b), (c) neu (d) | dim mwy nag 20% |
(b) mêl o rug (Calluna) | dim mwy na 23% |
(c) mêl pobydd ac eithrio mêl pobydd o rug (Calluna) | dim mwy na 23% |
(d) mêl pobydd o rug (Calluna) | dim mwy na 25% |
Cynnwys annhoddadwy mewn dŵr | |
3. Cynnwys annhoddadwy mewn dŵr— | |
(a) pob mêl ac eithrio mêl wedi ei wasgu | dim mwy na 0.1g/100g |
(b) mêl wedi ei wasgu | dim mwy na 0.5g/100g |
Dargludedd trydanol | |
4. Dargludedd trydanol— | |
(a) pob mêl ac eithrio mêl grug clochog (Erica), mêl castan, mêl coeden ewcalyptws, mêl melwlith, mêl pisgwydden (Tilia spp.), mêl grug (Calluna vulgaris), mêl llwyn manwca neu jelly bush (Leptospermum), mêl mefusbren (Arbutus unedo) a mêl coeden de (Melaleuca spp.) | dim mwy na 0.8mS/cm |
(b) cyfuniadau o felau y mae paragraff (a) yn gymwys iddynt | dim mwy na 0.8mS/cm |
(c) mêl melwlith | dim llai na 0.8mS/cm |
(d) cyfuniadau o fêl melwlith ac eithrio cyfuniadau o’r mêl hwnnw â mêl grug clochog (Erica), mêl coeden ewcalyptws, mêl pisgwydden (Tilia spp.), mêl grug (Calluna vulgaris), mêl llwyn manwca neu jellybush (Leptospermum), mêl mefusbren (Arbutus unedo) a mêl coeden de (Melaleuca spp.) | dim llai na 0.8mS/cm |
(e) mêl castan | dim llai na 0.8mS/cm |
(f) cyfuniadau o fêl castan ac eithrio cyfuniadau o’r mêl hwnnw â mêl grug clochog (Erica), mêl coeden ewcalyptws, mêl pisgwydden (Tilia spp.), mêl grug (Calluna vulgaris), mêl llwyn manwca neu jellybush (Leptospermum), mêl mefusbren (Arbutus unedo) a mêl coeden de (Melaleuca spp.) | dim llai na 0.8mS/cm |
Asid rhydd | |
5. Asid rhydd— | |
(a) pob mêl ac eithrio mêl pobydd | dim mwy na 50 mili-cyfwerthydd o asid am bob kg |
(b) mêl pobydd | dim mwy na 80 mili-cyfwerthydd o asid am bob kg |
Gweithgarwch diastas a chynnwys hydroxymethylfurfural | |
6. Gweithgarwch diastas a chynnwys hydroxymethylfurfural (HMF) a bennir ar ôl prosesu a chyfuno— | |
(a) gweithgarwch diastas (graddfa Schade) — | |
(i) pob mêl ac eithrio mêl pobydd a mêl a bennir yn is-baragraff (ii) | dim llai nag 8 |
(ii) mêl sydd â chynnwys ensym naturiol isel (e.e. mêl sitrws) a chynnwys HMF o ddim mwy na 15mg/kg | dim llai na 3 |
(b) HMF— | |
(i) pob mêl ac eithrio mêl pobydd a mêl a bennir yn is-baragraff (ii) | dim mwy na 40mg/kg |
(ii) mêl o darddiad a ddatganwyd o ranbarth sydd â hinsawdd drofannol a chyfuniadau o’r melau hyn | dim mwy na 80mg/kg |
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys