Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “adolygiad ymarfer” ac “adolygu ymarfer” (“practice review”) yw naill ai adolygiad ymarfer cryno neu adolygiad ymarfer estynedig fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 4;

ystyr “Bwrdd” (“Board”) yw Bwrdd Diogelu;

ystyr “Bwrdd Cenedlaethol” (“National Board”) yw’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a sefydlwyd gan adran 132(1) o’r Ddeddf;

ystyr “Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board”) yw Bwrdd Diogelu Plant(1) neu Fwrdd Diogelu Oedolion(2);

ystyr “cofrestr amddiffyn plant” (“child protection register”) yw rhestr a grëir ac a gynhelir gan awdurdod lleol ac sy’n cynnwys enwau plant sy’n destun cynllun amddiffyn plant(3) o ganlyniad i benderfyniad mewn cynhadledd amddiffyn plant fod y plentyn mewn perygl parhaus o niwed o bwys ar ffurf camdriniaeth gorfforol, camdriniaeth emosiynol, camdriniaeth rywiol neu esgeulustod;

ystyr “cynllun gweithredu” (“action plan”) yw adroddiad ysgrifenedig sy’n cael ei lunio gan Fwrdd yr un pryd ag adroddiad ar yr adolygiad ymarfer, gan fanylu ar y camau sydd i’w cymryd gan y cyrff cynrychioliadol o ganlyniad i ganfyddiadau ac argymhellion adroddiad yr adolygiad ymarfer;

ystyr “digwyddiad dysgu amlasiantaethol” (“multi-agency learning event”) yw digwyddiad sy’n ffurfio rhan o’r broses adolygu ymarfer ac y mae Bwrdd yn gwahodd iddo ymarferwyr a rheolwyr o gyrff cynrychioliadol ac unrhyw gyrff neu bersonau eraill y bernir eu bod yn berthnasol gan Gadeirydd y Bwrdd ac sy’n ymwneud, neu sydd wedi ymwneud, â’r person sy’n destun yr adolygiad, at y diben o wella polisi ac ymarfer amddiffyn plant neu oedolion yn y dyfodol;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

ystyr “fforymau proffesiynol amlasiantaethol” (“multi-agency professional forums”) yw’r fforymau, a drefnir ac a hwylusir gan Fwrdd ar gyfer ymarferwyr a rheolwyr o gyrff cynrychioliadol, a chyrff neu bersonau eraill y bernir eu bod yn berthnasol gan Gadeirydd y Bwrdd, at y diben o ddysgu oddi wrth achosion, archwiliadau, arolygiadau ac adolygiadau er mwyn gwella polisi ac ymarfer amddiffyn plant neu oedolion yn y dyfodol;

ystyr “oedolion” (“adults”) yw oedolion y mae arfer swyddogaethau Bwrdd yn effeithio, neu y gall effeithio, arnynt;

ystyr “plant” (“children”) yw plant y mae arfer swyddogaethau Bwrdd yn effeithio, neu y gall effeithio, arnynt;

ystyr “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yw plentyn sy’n derbyn gofal gan:

(a)

awdurdod lleol o dan adran 74(1) o’r Ddeddf,

(b)

awdurdod lleol yn Lloegr o dan adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989(4),

(c)

awdurdod lleol yn yr Alban yn unol â Phennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(5),

(d)

Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn unol ag erthygl 25 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995(6).

Swyddogaethau Byrddau Diogelu

3.—(1Mae paragraff (2) yn pennu swyddogaethau—

(a)Bwrdd Diogelu Plant mewn perthynas â’i amcanion o dan adran 135(1)(7) o’r Ddeddf, a

(b)Bwrdd Diogelu Oedolion mewn perthynas â’i amcanion o dan adran 135(2)(8) o’r Ddeddf.

(2Y swyddogaethau yw—

(a)cydweithredu â Byrddau Diogelu eraill a’r Bwrdd Cenedlaethol gyda golwg ar—

(i)cyfrannu at ddatblygu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol ar gyfer Byrddau Diogelu,

(ii)gweithredu polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol a argymhellir gan, a chanllawiau a chyngor a roddir gan, y Bwrdd Cenedlaethol;

(b)codi ymwybyddiaeth ledled ardal y Bwrdd Diogelu o amcanion y Bwrdd a sut y gallai’r rheini gael eu cyflawni;

(c)ymgymryd ag adolygiadau, archwiliadau ac ymchwiliadau perthnasol;

(d)adolygu effeithiolrwydd mesurau a gymerir gan y Bwrdd i gyflawni amcanion y Bwrdd;

(e)gwneud argymhellion yng ngoleuni’r adolygiadau hynny, monitro i ba raddau y mae’r argymhellion hynny wedi eu rhoi ar waith a chymryd camau priodol pan fo’n cael ei ddangos nad yw amcanion y Bwrdd yn cael eu cyflawni;

(f)lledaenu gwybodaeth am yr argymhellion hynny i Fyrddau Diogelu priodol eraill a’r Bwrdd Cenedlaethol;

(g)hwyluso ymchwil i faterion amddiffyn, ac atal cam-drin ac esgeuluso, plant neu oedolion sy’n wynebu risg o ddioddef niwed;

(h)adolygu anghenion hyfforddi personau sy’n gweithio i gyflawni amcanion y Bwrdd a hyrwyddo’r broses o ddarparu hyfforddiant addas ar eu cyfer;

(i)trefnu a hwyluso rhaglen flynyddol o fforymau proffesiynol amlasiantaethol;

(j)cydweithredu neu weithredu ar y cyd ag unrhyw gorff tebyg sydd wedi ei leoli mewn unrhyw awdurdodaeth pan fo’r Bwrdd o’r farn y byddai hynny’n ei gynorthwyo i gyflawni ei amcanion;

(k)sicrhau cyngor neu wybodaeth arbenigol sy’n berthnasol i gyrraedd amcanion y Bwrdd;

(l)ymgymryd ag adolygiadau ymarfer yn unol â rheoliad 4.

Adolygiadau ymarfer

4.—(1Rhaid i Fwrdd gynnal adolygiad ymarfer yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Diben adolygiad ymarfer yw canfod unrhyw gamau y gall partneriaid y Bwrdd Diogelu neu gyrff eraill eu cymryd i wella ymarfer amddiffyn plant ac oedolion amlasiantaethol.

(3Rhaid i Fwrdd gynnal adolygiad ymarfer cryno yn unrhyw un neu rai o’r achosion canlynol, pan fo’n hysbys neu pan amheuir, o fewn ardal y Bwrdd, fod plentyn neu oedolyn wedi ei gam-drin neu ei esgeuluso a—

(a)bod y plentyn neu’r oedolyn—

(i)wedi marw, neu

(ii)wedi dioddef anaf a allai roi ei fywyd mewn perygl, neu

(iii)wedi dioddef nam difrifol a pharhaol i’w iechyd neu i’w ddatblygiad; a

(b)o ran plentyn, nad oedd y plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant nac yn blentyn a oedd yn derbyn gofal ar unrhyw ddyddiad yn ystod y 6 mis cyn—

(i)dyddiad y digwyddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a)(i) neu (a)(ii), neu

(ii)pan fo is-baragraff (a)(iii) yn gymwys, y dyddiad y mae awdurdod lleol, person neu gorff y cyfeirir atynt yn adran 28 o Ddeddf Plant 2004(9) neu gorff a grybwyllir yn adran 175 o Ddeddf Addysg 2002(10) yn canfod bod plentyn wedi dioddef nam difrifol a pharhaol i’w iechyd ac i’w ddatblygiad; ac

(c)o ran oedolyn, nad yw’r oedolyn wedi bod, ar unrhyw ddyddiad yn ystod y 6 mis cyn dyddiad y digwyddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), yn berson y mae awdurdod lleol wedi penderfynu cymryd camau mewn cysylltiad ag ef i’w amddiffyn rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso yn unol ag adran 32(1)(b)(i) o’r Ddeddf yn dilyn ymholiadau gan awdurdod lleol o dan adran 126(2) o’r Ddeddf.

(4Rhaid i Fwrdd gynnal adolygiad ymarfer estynedig yn unrhyw un neu rai o’r achosion canlynol, pan fo’n hysbys neu pan amheuir, o fewn ardal y Bwrdd, fod plentyn neu oedolyn wedi ei gam-drin neu ei esgeuluso a—

(a)bod y plentyn neu’r oedolyn—

(i)wedi marw, neu

(ii)wedi dioddef anaf a allai roi ei fywyd mewn perygl, neu

(iii)wedi dioddef nam difrifol a pharhaol i’w iechyd neu i’w ddatblygiad; a

(b)o ran plentyn, bod y plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant a/neu ei fod yn blentyn a oedd yn derbyn gofal ar unrhyw ddyddiad yn ystod y 6 mis cyn—

(i)dyddiad y digwyddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a)(i) neu (a)(ii), neu

(ii)pan fo is-baragraff (a)(iii) yn gymwys, y dyddiad y mae awdurdod lleol, person neu gorff y cyfeirir atynt yn adran 28 o Ddeddf Plant 2004 neu gorff a grybwyllir yn adran 175 o Ddeddf Addysg 2002 yn canfod bod plentyn wedi dioddef nam difrifol a pharhaol i’w iechyd a’i ddatblygiad; ac

(c)o ran oedolyn, bod yr oedolyn wedi bod, ar unrhyw ddyddiad yn ystod y 6 mis cyn dyddiad y digwyddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), yn berson y mae awdurdod lleol wedi penderfynu cymryd camau mewn cysylltiad ag ef i’w amddiffyn rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso yn unol ag adran 32(1)(b)(i) o’r Ddeddf yn dilyn ymholiadau gan awdurdod lleol o dan adran 126(2) o’r Ddeddf.

(5Wrth gynnal adolygiad ymarfer, rhaid i Fwrdd—

(a)gofyn i bob corff cynrychioliadol roi gwybodaeth yn ysgrifenedig i’r Bwrdd am ei ymwneud â’r plentyn neu’r oedolyn sy’n destun yr adolygiad;

(b)sicrhau y ceir persbectif y plentyn neu’r oedolyn sy’n destun yr adolygiad a bod persbectif y plentyn neu’r oedolyn hwnnw yn cyfrannu at y broses adolygu, i’r graddau y bo’n ymarferol a phriodol i amgylchiadau’r achos;

(c)sicrhau y ceir persbectifau aelodau o’r teulu neu gynrychiolydd penodedig y plentyn neu’r oedolyn sy’n destun yr adolygiad a bod y persbectifau hyn yn cyfrannu at y broses adolygu, i’r graddau y bo’n ymarferol a phriodol i amgylchiadau’r achos;

(d)cynnal digwyddiad dysgu amlasiantaethol ar ôl cael yr wybodaeth ysgrifenedig y cyfeirir ati yn is-baragraff (a);

(e)yn achos adolygiad ymarfer cryno, sicrhau bod y digwyddiad dysgu amlasiantaethol y cyfeirir ato yn is-baragraff (d) yn cael ei drefnu a’i hwyluso gan un adolygydd a benodir gan y Bwrdd;

(f)yn achos adolygiad ymarfer estynedig, sicrhau bod y digwyddiad dysgu amlasiantaethol y cyfeirir ato yn is-baragraff (d) yn cael ei drefnu a’i hwyluso gan ddau adolygydd a benodir gan y Bwrdd;

(g)sicrhau bod unrhyw adolygydd y cyfeirir ato yn is-baragraff (e) neu (f) yn annibynnol ar unrhyw ymwneud uniongyrchol â gwaith achos neu reoli achosion mewn cysylltiad â’r plentyn neu’r oedolyn sy’n destun yr adolygiad;

(h)llunio adroddiad ar yr adolygiad ymarfer sy’n argymell pa gamau (os o gwbl) y mae’n ofynnol eu cymryd ar ôl y digwyddiad dysgu amlasiantaethol;

(i)sicrhau nad yw’r adroddiad ar yr adolygiad ymarfer yn datgelu pwy yw’r plentyn neu’r oedolyn sy’n destun yr adolygiad na theulu’r plentyn neu’r oedolyn na lle y maent;

(j)llunio cynllun gweithredu gan fanylu ar y camau sydd i’w cymryd gan y cyrff cynrychioliadol i weithredu argymhellion yr adroddiad ar yr adolygiad ymarfer;

(k)rhoi copi o’r adroddiad ar yr adolygiad ymarfer a’r cynllun gweithredu i Weinidogion Cymru ac i’r Bwrdd Cenedlaethol;

(l)trefnu bod yr adroddiad ar yr adolygiad ymarfer ar gael i’r cyhoedd;

(m)cynnal adolygiadau cynnydd cyfnodol ar roi’r cynllun gweithredu ar waith;

(n)rhoi i Weinidogion Cymru a’r Bwrdd Cenedlaethol adroddiad ysgrifenedig ar ôl unrhyw adolygiad cynnydd y cyfeirir ato yn is-baragraff (m), gan adrodd ar y cynnydd o ran rhoi’r cynllun gweithredu ar waith a’r effaith ar bolisi ac ymarfer amddiffyn plant neu oedolion yng Nghymru;

(o)rhoi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddo gan Weinidogion Cymru, drwy arfer ei swyddogaethau o dan y rheoliad hwn.

(6Yn y rheoliad hwn ystyr “cynrychiolydd penodedig” (“appointed representative”) yw person sydd â’r awdurdod i siarad neu weithredu ar ran plentyn neu oedolyn.

Gweithdrefnau Byrddau Diogelu

5.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r rheoliad hwn, mae Bwrdd Diogelu i benderfynu ei weithdrefnau ei hun a threfnu bod copi o’r gweithdrefnau hynny ar gael i’r cyhoedd.

(2Yng nghyfarfod cyntaf Bwrdd, rhaid i’r aelodau sy’n bresennol benodi un o’r aelodau i fod yn Gadeirydd ac un i fod yn Is-gadeirydd.

(3Rhaid i’r Bwrdd gytuno ar reolau gweithredu ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd, gan gynnwys person i lywyddu mewn cyfarfodydd.

(4Oni fydd rheolau gweithredu’r Bwrdd yn darparu fel arall, rhaid i’r Bwrdd weithredu’n unol â phleidlais mwyafrif syml o’r aelodau sy’n bresennol, a’r person sy’n llywyddu yn y cyfarfod yn cael ail bleidlais neu bleidlais fwrw os bydd y bleidlais yn gyfartal.

(5Ym mhob cyfarfod o’r Bwrdd rhaid i’r Bwrdd ystyried sut y bydd yn rhoi cyfle i blant neu oedolion gymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd.

(6Yn ei gyfarfod nesaf ar ôl i blentyn neu oedolyn gymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd, rhaid i’r Bwrdd werthuso effeithiolrwydd y cymryd rhan hwnnw.

(7Rhaid i’r Bwrdd gadw cofnodion o’i gyfarfodydd; mae’r cofnodion i gofnodi’r penderfyniadau a wnaed, y dystiolaeth y gwnaed penderfyniadau arni, unrhyw farn ac unrhyw farn anghydsyniol a fynegwyd ac unrhyw drafodaeth am blentyn neu oedolyn yn cymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd.

(8Daw penodiad Cadeirydd neu Is-gadeirydd i ben:

(a)os oedd y penodiad am gyfnod penodol a bod y cyfnod hwnnw yn dirwyn i ben;

(b)os yw’r person a benodwyd yn ymddiswyddo;

(c)os nad yw’r person a benodwyd bellach yn aelod o’r Bwrdd;

(d)os yw’r aelodau, drwy benderfyniad y mwyafrif, yn penderfynu hynny.

Cyfle i gymryd rhan yng ngwaith Byrddau Diogelu

6.  O leiaf unwaith y flwyddyn rhaid i Fwrdd Diogelu, fel y bo’n berthnasol, roi cyfle i blant neu oedolion gymryd rhan mewn digwyddiad lle y bydd ganddynt gyfle i gymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd.

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

1 Gorffennaf 2015

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill