Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Enwi, cymhwyso a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Ac eithrio fel y darperir ym mharagraffau (4) i (6), daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 13 Rhagfyr 2014.

(4At ddibenion y darpariaethau a ganlyn, daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Medi 2014—

(a)rheoliad 4;

(b)rheoliad 12 ac Atodlen 4 i’r graddau (drwy gymhwyso, gyda rhai addasiadau, ddarpariaethau penodedig yn y Ddeddf) y maent yn galluogi hysbysiad gwella i gael ei gyflwyno i berson yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gydymffurfio â’r ddarpariaeth yn FIC a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 5 ac yn galluogi apêl i gael ei gwneud yn erbyn hysbysiad o’r fath ac ymdrin â’r apêl honno, a’i gwneud yn drosedd i fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwella o’r fath;

(c)rheoliad 14 i’r graddau y mae’n ymwneud â Rhan 1 o Atodlen 7;

(d)Atodlen 2;

(e)Rhan 1 o Atodlen 5; ac

(f)Rhan 1 o Atodlen 7.

(5At ddibenion y darpariaethau a ganlyn, daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 13 Rhagfyr 2016—

(a)Rhan 3 o Atodlen 5; a

(b)rheoliad 12 ac Atodlen 4 i’r graddau (drwy gymhwyso, gyda rhai addasiadau, ddarpariaethau penodedig yn y Ddeddf) y maent yn galluogi hysbysiad gwella i gael ei gyflwyno i berson yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gydymffurfio â’r ddarpariaeth yn FIC a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 5 ac yn galluogi apêl i gael ei gwneud yn erbyn hysbysiad o’r fath ac ymdrin â’r apêl honno, a’i gwneud yn drosedd i fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwella o’r fath.

(6At ddibenion Rhan 2 o Atodlen 6, a rheoliad 13 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno o Atodlen 6, daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 13 Rhagfyr 2018.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “a gynigir i’w werthu” yr un ystyr a roddir i “offered for sale” yn Erthygl 44 ac mae “cynnig gwerthu” (“offers for sale”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

mae i “arlwywr mawr” yr ystyr a roddir i “mass caterer” yn Erthygl 2(2)(d) ac mae “arlwywyr mawr” (“mass caterers”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “awdurdod bwyd” (“foodauthority”) yw—

(a)

cyngor sir;

(b)

cyngor bwrdeistref sirol;

mae i “bwyd wedi ei ragbecynnu” yr ystyr a roddir i “prepacked food” yn Erthygl 2(2)(e);

ystyr “Cyfarwyddeb 1999/2/EC” (“Directive 1999/2/EC”) yw Cyfarwyddeb 1999/2/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyd-ddynesiad cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau ar fwydydd a chynhwysion bwydydd sydd wedi eu trin ag ymbelydredd ïoneiddio(1);

mae i “cyfrwng cyfathrebu o hirbell” yr ystyr a roddir i “means of distance communication” yn Erthygl 2(2)(u);

mae i “defnyddiwr terfynol” yr ystyr a roddir i “final consumer” ym mhwynt 18 o Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;

ystyr “y Ddeddf” (“theAct”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “FIC” (“FIC”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004;

mae i “gweithredwr busnes bwyd” yr ystyr a roddir i “food business operator” ym mhwynt 3 o Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor;

mae i “parod i’w fwyta” yr un ystyr a roddir i “ready for consumption” yn Erthygl 2(2)(d); F1...

mae i “wedi ei ragbecynnu i’w werthu’n uniongyrchol” yr un ystyr a roddir i “prepacked for direct sale” yn Erthygl 2(2)(e).

[F2ystyr “Rheoliad 828/2014” (“Regulation 828/2014”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 828/2014 ynghylch y gofynion ar gyfer darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr am absenoldeb glwten mewn bwyd neu fod llai o glwten yn bresennol ynddo; ac]

(2Ac eithrio fel y darperir fel arall—

(a)mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Erthygl yn gyfeiriad at Erthygl yn FIC, a

(b)mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Atodiad yn gyfeiriad at Atodiad i FIC.

(3Mae unrhyw gyfeiriad at FIC, neu ddarpariaeth yn FIC (gan gynnwys cyfeiriad at Erthygl yn FIC neu Atodiad iddo ac y mae paragraff (2) yn gymwys iddo) [F3neu at Reoliad 828/2014 neu ddarpariaeth yn Rheoliad 828/2014,] mewn darpariaeth yn y Rheoliadau hyn a restrir yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at y ddarpariaeth honno fel y’i diwygiwyd o bryd i’w gilydd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 2 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)

Rhanddirymiad ynglŷn â llaeth a chynhyrchion llaethLL+C

3.  Nid yw’r gofynion a nodir yn Erthyglau 9(1) a 10(1) yn gymwys i laeth na chynhyrchion llaeth a gynigir mewn potel wydr pan fwriedir i’r botel wydr gael ei hailddefnyddio.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 3 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)

Rhanddirymiad ynglŷn â briwgigLL+C

4.—(1Nid yw’r gofynion a nodir ym mhwynt 1 o Ran B o Atodiad VI yn atal briwgig nad yw’n cydymffurfio â’r gofynion hyn rhag cael ei osod ar y farchnad gan ddefnyddio dynodiad briwgig os bydd y marc cenedlaethol yn Rhan 1 o Atodlen 2 yn ymddangos ar y label.

(2Mae Rhan 2 o Atodlen 2 yn gymwys i ffurf y marc cenedlaethol.

(3Ym mharagraff (1)—

mae i “ar y label” yr un ystyr ag sydd i “on the labelling” ym mhwynt 2 o Ran B o Atodiad VI fel y’i darllenir gyda’r diffiniad o “labelling” yn Erthygl 2(2)(j);

mae “ei osod ar y farchnad” (“placed on the market”) i’w ddehongli fel pe bai’n cymryd i ystyriaeth ystyr “placing on their national market” fel y’i defnyddir ym mhwynt 3 o Ran B o Atodiad VI.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 4 mewn grym ar 19.9.2014, gweler a. 1(4)(a)

Bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu etc. sy’n cynnwys sylwedd neu gynnyrch alergenaidd etc.LL+C

5.—(1Caniateir i weithredwr busnes bwyd sy’n cynnig gwerthu bwyd perthnasol y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo roi ar gael y manylion a bennir yn Erthygl 9(1)(c) (labelu sylweddau neu gynhyrchion penodol sy’n peri alergeddau neu anoddefeddau) ynglŷn â’r bwyd hwnnw drwy unrhyw ddull y mae’r gweithredwr hwnnw’n ei ddewis, gan gynnwys ar lafar, yn ddarostyngedig i baragraff (3).

(2Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd perthnasol a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol neu i arlwywr mawr ac eithrio drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell ac sydd—

(a)heb ei ragbecynnu, [F4neu]

(b)wedi ei becynnu ar y fangre lle y gwerthir y bwyd ar gais y defnyddiwr[F5.]

F6(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(3Pan fo gweithredwr busnes bwyd yn bwriadu rhoi’r manylion a bennir yn Erthygl 9(1)(c) ynglŷn â bwyd perthnasol ar gael ar lafar, a bod sylwedd neu gynnyrch a restrir yn Atodiad II neu sy’n deillio o sylwedd neu gynnyrch a restrir yn Atodiad II yn cael ei ddefnyddio fel cynhwysyn neu gymorth prosesu wrth weithgynhyrchu neu baratoi’r bwyd, rhaid i’r gweithredwr ddangos bod modd sicrhau manylion y sylwedd neu’r cynnyrch hwnnw drwy ofyn i aelod o’r staff.

(4Rhaid i’r dangosiad a grybwyllir ym mharagraff (3) gael ei roi—

(a)ar label sydd ynghlwm wrth y bwyd, neu

(b)ar hysbysiad, bwydlen, tocyn neu label sy’n glir i’w weld gan brynwr arfaethedig yn y man lle y mae’r prynwr arfaethedig yn dewis y bwyd hwnnw.

(5O ran bwyd perthnasol y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid i’r manylion yn Erthygl 9(1)(c) a roddwyd ar gael gan weithredwr busnes bwyd gael eu rhoi ar gael â chyfeiriad clir at enw’r sylwedd neu’r cynnyrch a restrir yn Atodiad II—

(a)pan fo’r cynhwysyn neu’r cymorth prosesu perthnasol yn deillio o sylwedd neu gynnyrch a restrir yn Atodiad II, a

(b)pan fo’r manylion yn cael eu rhoi ar gael ac eithrio drwy ddull y darperir ar ei gyfer yn FIC.

(6Yn y rheoliad hwn ystyr “bwyd perthnasol” (“relevant food”) yw bwyd y mae cynhwysyn neu gymorth prosesu a restrir yn Atodiad II, neu sy’n deillio o sylwedd neu gynnyrch a restrir yn Atodiad II, wedi eu defnyddio wrth ei weithgynhyrchu neu ei baratoi ac yn dal yn bresennol yn y cynnyrch gorffenedig (hyd yn oed os yw mewn ffurf a addaswyd).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 5 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)

[F7Bwydydd sydd wedi eu rhagbecynnu i’w gwerthu’n uniongyrchol – dyletswydd i restru cynhwysionLL+C

5A.(1) Rhaid i weithredwr busnes bwyd sy’n cynnig gwerthu bwyd y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ddarparu’n uniongyrchol ar y pecyn neu ar label sydd ynghlwm wrth y pecyn y manylion sy’n ofynnol o dan y canlynol—

(a)Erthygl 9(1)(b) (rhestr cynhwysion), fel y’i darllenir gyda’r canlynol—

(i)Erthygl 13(1) i (3),

(ii)Erthygl 15,

(iii)Erthygl 16(2), i’r graddau y mae’n ymwneud â’r manylion sy’n ofynnol o dan Erthygl 9(1)(b),

(iv)Erthygl 17, fel y’i darllenir gyda Rhannau A ac C o Atodiad 6 ac, yn achos cynhwysyn sy’n defnyddio dynodiad briwgig fel enw, y pwyntiau canlynol o Ran B o Atodiad 6—

(aa)pwynt 1, a

(bb)pwynt 3, fel y’i darllenir gyda rheoliad 4 ac Atodlen 2,

(v)Erthygl 18, fel y’i darllenir gydag Atodiad 7 a pharagraff (1)(a)(iv) o’r rheoliad hwn,

(vi)Erthygl 19(1), a

(vii)Erthygl 20;

(b)Erthygl 9(1)(c) (labelu sylweddau neu gynhyrchion penodol sy’n peri alergeddau neu anoddefeddau) fel y’i darllenir gydag Erthygl 21(1) ac Atodiad 2.

(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd—

(a)a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol neu i arlwywr mawr ac eithrio drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell, a

(b)sydd wedi ei ragbecynnu i’w werthu’n uniongyrchol.]

Bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu etc. – gofyniad cyffredinol i’w henwiLL+C

6.—(1Rhaid i weithredwr busnes bwyd sy’n cynnig gwerthu bwyd y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ddarparu’r manylion sy’n ofynnol o dan Erthygl 9(1)(a) (enw’r bwyd) fel y’i darllenir gyda’r canlynol—

(a)Erthygl 17(1) i (4), a

(b)yn achos bwyd a gynigir i’w werthu gan ddefnyddio dynodiad briwgig yn enw—

(i)Erthygl 17(5) a phwynt 1 o Ran B o Atodiad VI, a

(ii)pwynt 3 o Ran B o Atodiad VI fel y’i darllenir gyda rheoliad 4 ac Atodlen 2.

(2Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol neu arlwywyr mawr ac sydd—

(a)heb ei ragbecynnu, [F8neu]

(b)wedi ei becynnu ar y fangre lle y gwerthir y bwyd ar gais y defnyddiwr[F9.]

F10(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(3Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd a baratowyd i fod yn barod i’w fwyta gan ddefnyddiwr terfynol a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol gan arlwywyr mawr (boed mewn sefydliad arlwyo mawr lle y gwerthir yn bersonol i ddefnyddiwr terfynol ynteu drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell) fel rhan o’i fusnes fel arlwywr mawr.

(4Rhaid i’r manylion ymddangos—

(a)ar label sydd ynghlwm wrth y bwyd, neu

(b)ar hysbysiad, tocyn neu label sy’n glir i’w weld gan brynwr arfaethedig yn y man lle y mae’r prynwr arfaethedig yn dewis y bwyd hwnnw.

(5Nid yw paragraff (4) yn gymwys yn achos cynnig i werthu a wneir drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 6 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)

[F11Bwydydd sydd wedi eu rhagbecynnu i’w gwerthu’n uniongyrchol – gofyniad cyffredinol i’w henwiLL+C

6A.(1) Rhaid i weithredwr busnes bwyd sy’n cynnig gwerthu bwyd y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ddarparu’r manylion sy’n ofynnol o dan Erthygl 9(1)(a) (enw’r bwyd), fel y’i darllenir gyda’r canlynol—

(a)Erthygl 17(1) i (4),

(b)Rhan A o Atodiad 6, ac

(c)yn achos bwyd a gynigir i’w werthu gan ddefnyddio dynodiad briwgig yn enw—

(i)Erthygl 17(5),

(ii)pwynt 1 o Ran B o Atodiad 6, a

(iii)pwynt 3 o Ran B o Atodiad 6, fel y’i darllenir gyda rheoliad 4 ac Atodlen 2.

(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd—

(a)a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol neu i arlwywr mawr, a

(b)sydd wedi ei ragbecynnu i’w werthu’n uniongyrchol.

(3) Rhaid i’r manylion ym mharagraff (1) gael eu darparu’n uniongyrchol ar y pecyn neu ar label sydd ynghlwm wrth y pecyn, ac eithrio yn achos cynnig i werthu a wneir drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell.]

Bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu etc. sy’n cynnwys cig a chynhwysion eraillLL+C

7.—(1Rhaid i weithredwr busnes bwyd sy’n cynnig gwerthu bwyd y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ddarparu’r manylion sy’n ofynnol o dan Erthygl 9(1)(d) (swm cynhwysion penodol), fel y’i darllenir gydag Erthygl 22 ac Atodiad VIII, o ran y cynhwysion yn y bwyd sy’n gig.

(2Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd (heblaw bwyd a bennir yn Atodlen 3) a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol neu arlwywr mawr, sy’n cynnwys cig ac unrhyw gynhwysyn arall ac sydd—

(a)heb ei ragbecynnu,

(b)wedi ei becynnu ar y fangre lle y gwerthir y bwyd ar gais y defnyddiwr, neu

(c)wedi ei ragbecynnu i’w werthu’n uniongyrchol.

(3Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd a baratowyd i fod yn barod i’w fwyta gan ddefnyddiwr terfynol a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol gan arlwywyr mawr (boed mewn sefydliad arlwyo mawr lle y gwerthir yn bersonol i ddefnyddiwr terfynol ynteu drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell) fel rhan o’i fusnes fel arlwywr mawr.

(4Mae swm y cig sydd i’w bennu yn y manylion a grybwyllir ym mharagraff (1) i’w bennu drwy gymryd i ystyriaeth y darpariaethau ynghylch cyfanswm y cynnwys braster a meinwe gysylltiol ym mhwynt 17 o Ran B o Atodiad VII, gan gynnwys unrhyw addasiad tuag i lawr sy’n angenrheidiol mewn achos lle y mae cyfanswm y cynnwys braster a meinwe gysylltiol yn y bwyd yn fwy na’r gwerthoedd a ddangosir yn y tabl yn y pwynt hwnnw.

(5Rhaid i’r manylion ymddangos—

(a)ar label sydd ynghlwm wrth y bwyd, neu

(b)ar hysbysiad, tocyn neu label sy’n glir i’w weld gan brynwr arfaethedig yn y man lle y mae’r prynwr arfaethedig yn dewis y bwyd hwnnw.

(6Nid yw paragraff (5) yn gymwys yn achos cynnig i werthu a wneir drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell.

(7Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cig” (“meat”) yw cyhyrau ysgerbydol rhywogaethau o famaliaid ac adar y cydnabyddir eu bod yn addas i’w bwyta gan bobl gyda’r feinwe y mae’n ei chynnwys yn naturiol neu feinwe ymlynol ond nid yw’n cynnwys cig a wahenir yn fecanyddol; ac

mae i “cig a wahenir yn fecanyddol” yr ystyr a roddir i “mechanically separated meat” ym mhwynt 1.14 o Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n nodi rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n deillio o anifeiliaid(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 7 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)

Bwydydd a arbelydrwydLL+C

8.—(1Rhaid i unrhyw berson sy’n gosod ar y farchnad, mewn swmp, gynnyrch y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo, sicrhau bod y dangosiad perthnasol yn ymddangos, ynghyd ag enw’r cynnyrch, ar arddangosiad neu hysbysiad uwchben y cynhwysydd y gosodir y cynhyrchion ynddo ar y farchnad neu wrth ochr y cynhwysydd hwnnw.

(2Mae paragraff (1) yn gymwys—

(a)i gynnyrch a fwriedir i’r defnyddiwr terfynol neu i arlwywyr mawr sydd wedi ei drin ag ymbelydredd ïoneiddio, a

(b)i gynnyrch a fwriedir i’r defnyddiwr terfynol neu i arlwywyr mawr sy’n cynnwys cynhwysyn sydd wedi ei drin ag ymbelydredd ïoneiddio.

(3Rhaid i unrhyw berson sy’n gosod ar y farchnad gynnyrch y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo sicrhau bod y dangosiad perthnasol yn ymddangos yn rhestr cynhwysion y cynnyrch hwnnw er mwyn dangos bod y cynnyrch wedi ei arbelydru.

(4Mae paragraff (3) yn gymwys i gynnyrch a fwriedir ar gyfer y defnyddiwr terfynol neu arlwywyr mawr—

(a)sy’n cynnwys cynhwysyn cyfansawdd mewn achos lle y mae un o gynhwysion y cynhwysyn cyfansawdd hwnnw wedi ei drin ag ymbelydredd ïoneiddio, a

(b)y byddai, mewn perthynas â’r cynhwysyn cyfansawdd hwnnw, ddarpariaethau pwynt 2 o Ran E o Atodiad VII (sy’n nodi achosion lle nad yw rhestr o gynhwysion ar gyfer cynhwysion cyfansawdd yn orfodol) yn gymwys, oni bai am y gofyniad ym mharagraff (3).

(5Y dangosiad perthnasol yw’r geiriau “irradiated” neu’r geiriau “treated with ionising radiation”.

(6Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i’r canlynol—

(a)cynnyrch a fu’n agored i ymbelydredd ïoneiddio a gynhyrchwyd gan ddyfeisiau mesur neu arolygu, ar yr amod nad yw’r dogn a amsugnwyd yn fwy na 0.01 Gy yn achos dyfeisiau arolygu sy’n defnyddio niwtronau a 0.5 Gy mewn achosion eraill, ar lefel ynni ymbelydredd uchaf o 10 MeV yn achos pelydr X, 14 MeV yn achos niwtronau a 5 MeV mewn achosion eraill, neu

(b)cynnyrch a baratoir i gleifion y mae arnynt angen deietau sterilaidd o dan oruchwyliaeth feddygol.

(7Yn y rheoliad hwn—

mae i “cynnyrch” yr un ystyr ag sydd i “product” yng Nghyfarwyddeb 1999/2/EC;

mae “gosod ar y farchnad” i’w ddehongli drwy gymryd i ystyriaeth ystyr “placed on the market” fel y’i defnyddir yn Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 1999/2/EC;

mae i “mewn swmp” yr un ystyr ag sydd i “in bulk” yn ail is-baragraff Erthygl 6(1)(a) o Gyfarwyddeb 1999/2/EC; ac

mae i “ymbelydredd ïoneiddio” yr un ystyr ag sydd i “ionising radiation” yng Nghyfarwyddeb 1999/2/EC.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 8 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)

GorfodiLL+C

9.  Dyletswydd awdurdod bwyd o fewn ei ardal ac awdurdod iechyd porthladd o fewn ei ddosbarth yw gorfodi’r Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 9 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)

TroseddLL+C

10.—(1Mae person yn euog o drosedd os yw’n methu â chydymffurfio—

(a)ag unrhyw rai o ddarpariaethau FIC a bennir ym mharagraff (2), fel y’i darllenir gydag Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)[F12;]

(b)â rheoliad 5(5) [F13; F14...]

[F15(ba)â rheoliad 5A(1)(b); neu]

[F16(c)ag unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad 828/2014 a bennir ym mharagraff (3).]

(2Y darpariaethau yn FIC yw—

(a)Erthygl 9(1)(c), fel y’i darllenir hefyd gydag Atodiad II;

(b)Erthygl 21(1)(a), fel y’i darllenir hefyd gydag Erthyglau 9(1)(c) a 18(1) ac Atodiad II;

(c)ail is-baragraff Erthygl 21(1), fel y’i darllenir hefyd gydag Erthyglau 9(1)(c) a 19(1) ac Atodiad II; a

(d)Erthygl 44(1)(a), fel y’i darllenir hefyd gydag Erthygl 9(1)(c) a rheoliad 5.

[F17(3) Y darpariaethau yn Rheoliad 828/2014 yw—

(a)Erthygl 3(1) fel y’i darllenir gydag Erthyglau 1(3), 6, 7 ac 36(1) a (2) yn FIC ac Erthyglau 2 a 3(2) a (3) o Reoliad 828/2014 a’r Atodiad iddo;

(b)Erthygl 4 fel y’i darllenir gydag Erthygl 2.]

CosbiLL+C

11.  Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 10 yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 11 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)

Cymhwyso darpariaethau’r DdeddfLL+C

12.—(1Mae is-adrannau (1) a (2) o adran 10 o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 4, er mwyn—

(a)galluogi hysbysiad gwella i gael ei gyflwyno i berson yn ei gwneud yn ofynnol i’r person gydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau a ganlyn—

(i)darpariaeth yn FIC [F18neu Reoliad 828/2014] a bennir yn Atodlen 5, i’r graddau y darperir ar ei chyfer yn adran 10 fel y’i cymhwysir gan baragraff (1) a’i haddasu gan Ran 1 o Atodlen 4;

(ii)rheoliad 5(3), (4) neu (5);

[F19(iia)rheoliad 5A(1);]

(iii)rheoliad 6(1) neu (4);

[F20(iiia)rheoliad 6A(1) neu (3);]

(iv)rheoliad 7(1), (4) neu (5); neu

(v)rheoliad 8(1) neu (3); a

(b)peri bod y methiant i gydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn drosedd.

(2Mae is-adrannau (1) i (8) o adran 32(3) o’r Ddeddf (pwerau mynediad) yn gymwys, gyda’r addasiadau (yn achos adran 32(1)) a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 4, er mwyn galluogi swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd neu awdurdod iechyd porthladd—

(a)i arfer pŵer mynediad er mwyn darganfod a oes neu a oedd darpariaeth yn FIC [F21neu Reoliad 828/2014] a bennir yn Atodlen 5 wedi ei thorri, i’r graddau y darperir ar ei chyfer yn adran 32(1)(a) fel y’i cymhwysir gan y paragraff hwn a’i haddasu gan Ran 2 o Atodlen 4;

(b)i arfer pŵer mynediad er mwyn darganfod a oes unrhyw dystiolaeth bod darpariaeth o’r fath wedi ei thorri; ac

(c)wrth arfer pŵer mynediad o dan ddarpariaethau adran 32 fel y’i cymhwysir gan y paragraff hwn, i arfer y pwerau yn is-adrannau (5) a (6) ynglŷn â chofnodion.

(3Mae is-adrannau (1) a (6) o adran 37 o’r Ddeddf (apelau) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 4, er mwyn galluogi apêl yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).

(4Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelio yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiadau (yn achos is-adrannau (1) a (3) o adran 39) a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 4, er mwyn ymdrin ag apelau yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).

(5Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 y tabl yn Rhan 5 o Atodlen 4 yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r Rhan honno, at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(6Mae paragraffau (1) i (4) heb ragfarn i gymhwyso adrannau 10, 32, 37 a 39 o’r Ddeddf at y Rheoliadau hyn at ddibenion ac eithrio’r rhai a bennir yn y paragraffau hynny.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 12 mewn grym ar 19.9.2014 at ddibenion penodedig, gweler a. 1(4)(b)

I13A. 12 mewn grym ar 13.12.2014 at ddibenion penodedig, gweler a. 1(3)

I14A. 12 mewn grym ar 13.12.2016 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler a. 1(5)(b)

DirymiadauLL+C

13.  Mae’r Rheoliadau a restrir yn Atodlen 6 wedi eu dirymu i’r graddau a bennir.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 13 mewn grym ar 13.12.2016 at ddibenion penodedig, gweler a. 1(3)

I16A. 13 mewn grym ar 13.12.2018 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler a. 1(6)

Diwygiadau canlyniadol a mân ddiwygiadau eraill i offerynnau statudolLL+C

14.  Mae Atodlen 7 yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 14 mewn grym ar 19.9.2014 at ddibenion penodedig, gweler a. 1(4)(c)

I18A. 14 mewn grym ar 13.12.2014 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler a. 1(3)

[F22Darpariaethau trosiannol: ymadael â’r UELL+C

15.(1) Ni chaiff swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 9(1)(h), ac Erthygl 9(1)(i) fel y’i darllenir gydag Erthygl 26(3)—

(a)pe bai’r hysbysiad gwella yn ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad [F23cyn 1 Ionawr 2024], a

(b)pe na bai’r mater wedi methu â chydymffurfio â’r darpariaethau hynny fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn dyddiad cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(2) Ni chaiff swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 7(1) neu Erthygl 36(2)(a) neu (b)—

(a)pe bai’r hysbysiad gwella yn ymwneud â chynnyrch penodedig a osodwyd ar y farchnad cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, a

(b)pe na bai labelu’r cynnyrch penodedig wedi methu â chydymffurfio â’r darpariaethau hynny fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(3) Caniateir i gynhyrchion y mae paragraff (1) neu (2) yn gymwys iddynt barhau i gael eu marchnata nes i’r stociau gael eu disbyddu.

(4) Ni chaiff swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 7(1) neu Erthygl 36(2)(a) neu (b)—

(a)pe bai’r hysbysiad gwella yn ymwneud â chynnyrch penodedig a osodwyd ar y farchnad o fewn y cyfnod sy’n dechrau â diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2023, a

(b)pe na bai labelu’r cynnyrch penodedig wedi methu â chydymffurfio â’r darpariaethau hynny fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(5) Caniateir i gynhyrchion gwin y mae paragraff (4) yn gymwys iddynt barhau i gael eu marchnata nes i’r stociau gael eu disbyddu.

(6) Caniateir i gynhyrchion eraill y mae paragraff (4) yn gymwys iddynt barhau i gael eu marchnata hyd 31 Rhagfyr 2023.

(7) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cynnyrch gwin” (“wine product”) yw cynnyrch y mae Rhan 2 o Atodiad 7 i Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniadaeth gyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddolfel yr oedd y Rheoliad hwnnw yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn gymwys iddo;

ystyr “cynnyrch penodedig” (“specifiedproduct”) yw cynnyrch y gellir ei adnabod yn unigol, gan gynnwys cynnyrch gwin, sy’n dwyn dangosiad a restrir ym mhwynt 5, 6 neu 7 o Atodiad 10 i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 668/2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1151/2012 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cynlluniau ansawdd ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a deunydd bwydfel yr oedd y Rheoliad hwnnw yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

ystyr “hysbysiad gwella” (“improvement notice”) yw hysbysiad gwella yn unol â rheoliad 12(1).]

[F24Darpariaeth drosiannol: y Cytundeb Masnach a ChydweithreduLL+C

16.(1) Ni chaiff swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad gwella mewn cysylltiad â gwin Atodiad 15 yr UE (gan gynnwys gwin Atodiad 15 yr UE a labelwyd ar 1 Mai 2021 neu ar ôl hynny) a roddir ar y farchnad yng Nghymru—

(a)gan gyfanwerthwr neu gynhyrchwr yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ionawr 2022 ac sy’n dod i ben ar 1 Mai 2023;

(b)gan fanwerthwr ar 1 Ionawr 2022 neu ar ôl hynny hyd nes bydd y stociau o win Atodiad 15 yr UE wedi eu disbyddu.

(2) Yn y rheoliad hwn—

mae “a roddir ar y farchnad” (“placed on the market”) i’w ddehongli gan gymryd i ystyriaeth y diffiniad o “placing on the market” ym mhwynt 8 o Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor;

mae i “y Cytundeb Masnach a Chydweithredu” yr un ystyr a roddir i “the Trade and Cooperation Agreement” yn adran 37(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020;

ystyr “gwin Atodiad 15 yr UE” (“EU Annex 15 wine”) yw gwin—

(a)

y mae Erthygl 5 (mesurau trosiannol) o Atodiad 15 (masnachu gwin) i’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu, fel y’i darllenir gydag Erthygl 1(1) (cwmpas) o’r Atodiad hwnnw, yn gymwys iddo, a

(b)

a gaiff ei fewnforio i Brydain Fawr o Aelod-wladwriaeth;

ystyr “hysbysiad gwella” (“improvement notice”) yw hysbysiad gwella yn unol â rheoliad 12(1).]

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

28 Awst 2014

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill