- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
22.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 102(4) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am awdurdod i wneud gorchymyn rheoli interim).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r gorchymyn drafft;
(b)datganiad o'r materion sy'n berthnasol i ystyriaeth y tribiwnlys o—
(i)pa un a yw'r amod iechyd a diogelwch yn adran 104 o Ddeddf 2004 wedi ei fodloni; a
(ii)i ba raddau y cydymffurfiwyd ag unrhyw god ymarfer cymwys a gymeradwywyd o dan adran 233 o Ddeddf 2004; a
(iii)pan fo'r ATLl yn gofyn am ymdrin â'r cais fel mater brys o dan reoliad 10, datganiad sy'n rhoi manylion digonol i alluogi'r tribiwnlys i ffurfio barn ynglŷn ag a yw'n ymddangos bod yr amgylchiadau eithriadol a grybwyllir ym mharagraff (3) o'r rheoliad hwnnw yn bodoli.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw person perthnasol yn ôl diffiniad “relevant person” ym mharagraffau 8(4) a 35 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004.
23.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 102(7) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am awdurdod i wneud gorchymyn rheoli interim mewn perthynas â thŷ y mae adran 103 o Ddeddf 2004 yn gymwys iddo).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r gorchymyn drafft;
(b)datganiad o'r materion sy'n berthnasol i ystyriaeth y tribiwnlys ynglŷn ag a yw'r amodau yn adran 103(3) a (4) o Ddeddf 2004 wedi eu bodloni; ac
(c)pan fo'r ATLl yn gofyn am ymdrin â'r cais fel mater brys o dan reoliad 10, datganiad sy'n rhoi manylion digonol i alluogi'r tribiwnlys i ffurfio barn ynglŷn ag a yw'n ymddangos bod yr amgylchiadau eithriadol a grybwyllir ym mharagraff (3) o'r rheoliad hwnnw yn bodoli.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw person perthnasol yn ôl diffiniad “relevant person” ym mharagraffau 8(4) a 35 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004.
24.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 105(10) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn bod gorchymyn rheoli interim yn parhau mewn grym hyd nes byddir wedi penderfynu apêl).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r gorchymyn rheoli interim; a
(b)copi o'r hysbysiad o apêl o dan baragraff 24 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 yn erbyn gwneud gorchymyn rheoli terfynol.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ceisydd sydd wedi gwneud yr apêl berthnasol.
25.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 110(7) o Ddeddf 2004 (cais gan landlord perthnasol am orchymyn mewn perthynas â threfniadau ariannol tra bo gorchymyn rheoli interim mewn grym).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r gorchymyn rheoli interim; a
(b)copi o'r cyfrifon a gadwyd gan yr ATLl yn unol ag adran 110(6) o Ddeddf 2004.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.
26.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 114(7) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn bod gorchymyn rheoli terfynol sy'n bodoli eisoes i barhau mewn grym hyd nes penderfynir apêl yn erbyn gorchymyn rheoli terfynol newydd).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r gorchymyn rheoli terfynol sy'n bodoli eisoes;
(b)copi o'r gorchymyn rheoli terfynol newydd a wnaed i ddisodli'r gorchymyn sy'n bodoli eisoes; ac
(c)copi o'r hysbysiad o apêl o dan baragraff 24 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 yn erbyn gwneud y gorchymyn rheoli terfynol newydd.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ceisydd sydd wedi gwneud yr apêl berthnasol.
27.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 120(1) o Ddeddf 2004 (cais gan berson yr effeithir arno am orchymyn bod yr ATLl yn rheoli yn unol â'r cynllun rheoli yn y gorchymyn rheoli terfynol).
(2) Y ddogfen benodedig yw copi o'r gorchymyn rheoli terfynol sy'n cynnwys y cynllun rheoli y cyfeirir ato yn y cais.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.
28.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 126(4) o Ddeddf 2004 (cais am addasu hawliau a rhwymedigaethau mewn perthynas â dodrefn a freinir yn yr ATLl tra bo gorchymyn rheoli mewn grym).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r gorchymyn rheoli perthnasol; a
(b)datganiad sy'n rhoi manylion am briod hawliau a rhwymedigaethau (gan gynnwys perchnogaeth) pob un o'r personau sydd â buddiant yn y dodrefn.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r person arall sydd â buddiant yn y dodrefn.
29.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 130(9) o Ddeddf 2004 (cais i benderfynu pwy yw “y landlord perthnasol” (“the relevant landlord”) at ddibenion adran 130 pan ddaw'r gorchymyn rheoli i ben).
(2) Y ddogfen benodedig yw copi o'r gorchymyn rheoli.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r landlord perthnasol arall(1).
30.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 24 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn gwneud gorchymyn rheoli, neu yn erbyn amodau'r gorchymyn neu'r cynllun rheoli cysylltiedig).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r gorchymyn rheoli (gan gynnwys y cynllun rheoli);
(b)copi o'r hysbysiad a gyflwynwyd gan yr ATLl o dan baragraff 7(2)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf 2004;
(c)pan fo'r cais yn ymwneud â thelerau'r gorchymyn rheoli, datganiad sy'n pennu pob un o'r telerau a wrthwynebir, ynghyd â'r rhesymau dros y gwrthwynebiad; ac
(ch)pan wneir y cais ar y sail a bennir ym mharagraff 24(3) o Atodlen 6 i Ddeddf 2004, datganiad o'r materion yn adran 110(5) o Ddeddf 2004 (sy'n ymwneud â thalu rhenti dros ben, etc) sy'n berthnasol i'r sail honno.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.
31.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 28 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i amrywio neu ddirymu gorchymyn rheoli, neu wrthod newid neu ddirymu gorchymyn rheoli).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i amrywio gorchymyn rheoli, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 9 ac 11 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004;
(b)pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i amrywio gorchymyn rheoli, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 14 ac 16 o'r Atodlen honno;
(c)pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddirymu gorchymyn rheoli, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 17 ac 19 o'r Atodlen honno;
(ch)pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ddirymu gorchymyn rheoli, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 20 a 22 o'r Atodlen honno; a
(d)ym mhob achos—
(i)copi o'r gorchymyn rheoli; a
(ii)copi o'r hysbysiad a gyflwynwyd gan yr ATLl o dan baragraff 7(2)(b) o'r Atodlen honno.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.
32.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 32(2) o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 (apêl gan drydydd parti yn erbyn penderfyniad gan ATLl o dan adran 128 o Ddeddf 2004 ynglŷn â'r digollediad sy'n daladwy i drydydd partïon).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r gorchymyn rheoli (gan gynnwys y cynllun rheoli);
(b)copi o hysbysiad yr ATLl i'r trydydd parti, o benderfyniad yr ATLl yn unol ag adran 128(2) o Ddeddf 2004; ac
(c)datganiad sy'n rhoi manylion llawn o'r canlynol—
(i)yr hawliau yr honnir yr ymyrrwyd â hwy o ganlyniad i'r gorchymyn rheoli; a
(ii)swm y digollediad a hawlir oherwydd yr ymyrraeth honno.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.
Gweler adran 130(11) o Ddeddf 2004 am y diffiniad o “relevant landlord”.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys