- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 3
1. Pan fo rhwymedigaeth ar y corff llywodraethu (yn rhinwedd adran 33 o Ddeddf 2002) i gynnal cyfarfod rhieni blynyddol—
(a)manylion y dyddiad, amser a lle ar gyfer y cyfarfod rhieni blynyddol nesaf a'i agenda;
(b)rhywbeth sy'n nodi mai pwrpas y cyfarfod hwnnw fydd trafod adroddiad y llywodraethwyr yn ogystal â sut y mae'r corff llywodraethu, y pennaeth a'r awdurdod lleol wedi cyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol; ac
(c)adroddiad ar yr ystyriaeth sydd wedi ei rhoi i unrhyw benderfyniadau a gymeradwywyd yn y cyfarfod rhieni blynyddol blaenorol (pan oedd rhwymedigaeth ar y corff llywodraethu i gynnal y cyfryw gyfarfod).
2. Manylion canlynol aelodau'r corff llywodraethu a'i glerc—
(a)enw pob llywodraethwr gan nodi, ym mhob achos, y categori (yn unol â'r diffiniadau yn Rhan 2 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(1)) y mae'r llywodraethwr yn perthyn iddo a, phan fo'r llywodraethwr yn llywodraethwr ex officio, ei fod ef yn llywodraethwr ex officio;
(b)yn achos llywodraethwr penodedig, y person y penodwyd ef ganddo;
(c)mewn perthynas â phob llywodraethwr nad yw'n llywodraethwr ex officio, y dyddiad pryd y daw tymor ei swydd i ben; ac
(ch)enw a chyfeiriad cadeirydd y corff llywodraethu a'i glerc.
3. Unrhyw wybodaeth sydd ar gael i'r corff llywodraethu ynghylch y trefniadau ar gyfer yr etholiad nesaf o rieni-lywodraethwyr.
4. Datganiad ariannol—
(a)sy'n atgynhyrchu neu'n crynhoi unrhyw ddatganiad ariannol y darparwyd copi ohono i'r corff llywodraethu gan yr awdurdod lleol o dan adran 52 o Ddeddf 1998(2) ers adroddiad blaenorol y llywodraethwyr;
(b)sy'n nodi, mewn termau cyffredinol, sut y defnyddiwyd unrhyw swm y trefnodd yr awdurdod iddo fod ar gael i'r corff llywodraethu (gan gynnwys cyfran yr ysgol o'r gyllideb) yn ystod y cyfnod a gwmpaswyd gan yr adroddiad;
(c)sy'n rhoi manylion am y defnydd o unrhyw roddion a roddwyd i'r ysgol yn ystod y cyfnod hwnnw; ac
(ch)sy'n nodi cyfanswm unrhyw lwfansau teithio a chynhaliaeth a dalwyd i aelodau o'r corff llywodraethu yn y cyfnod hwnnw.
5. Yr wybodaeth ysgol gymharol ddiweddaraf mewn perthynas â pherfformiad yr ysgol mewn asesiadau diwedd cyfnod sylfaen a diwedd cyfnod allweddol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ar DEWi.
6. Yn achos ysgol sydd â disgyblion cofrestredig 15 oed ar ddechrau blwyddyn adrodd yr ysgol, y Crynodeb diweddaraf o Berfformiad yr Ysgol Uwchradd mewn perthynas â'r ysgol.
7.—(1) Nifer yr absenoldebau anawdurdodedig a nifer yr absenoldebau awdurdodedig yn ystod blwyddyn adrodd yr ysgol wedi'u mynegi fel canran o gyfanswm y presenoldebau posibl yn ystod y flwyddyn honno.
(2) At ddibenion y paragraff hwn ystyr “cyfanswm y presenoldebau posibl” yw'r rhif a geir drwy luosi nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar ddechrau'r flwyddyn adrodd â nifer y sesiynau ysgol yn y flwyddyn honno.
8. Yr wybodaeth sy'n ymwneud â—
(a)disgyblion sy'n ymadael â'r ysgol, neu gyflogaeth neu hyfforddiant y mae disgyblion yn ymgymryd ag ef ar ôl iddynt ymadael â'r ysgol; a
(b)absenoldeb awdurdodedig disgyblion ac absenoldeb anawdurdodedig disgyblion,
y mae'n ofynnol ei chyhoeddi ym mhrosbectws yr ysgol yn unol â'r rheoliadau a wnaed o dan adran 537(1) o Ddeddf 1996(3).
9. Y camau a gymerwyd gan y corff llywodraethu i ddatblygu neu gryfhau cysylltiadau'r ysgol â'r gymuned (gan gynnwys cysylltiadau â'r heddlu).
10. Y cyfryw wybodaeth am unrhyw dargedau—
(a)ar gyfer gwelliannau a osodir gan y corff llywodraethu o ran perfformiad disgyblion yn yr ysgol fel y mae'n ofynnol ei chyhoeddi yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 1997(4); a
(b)i ostwng lefel yr absenoldebau anawdurdodedig o ran disgyblion dydd perthnasol yn yr ysgol fel y'u gosodwyd gan y corff llywodraethu yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 63 o Ddeddf 1998(5).
11. Mewn perthynas â'r cyfnod ers adroddiad blaenorol y llywodraethwyr, crynodeb o'r ddarpariaeth a wnaed i ddisgyblion gymryd rhan mewn chwaraeon yn yr ysgol gan gynnwys y ddarpariaeth a wnaed ar gyfer gweithgareddau chwaraeon allgwricwlaidd yn ystod y cyfnod hwnnw.
12. Crynodeb o unrhyw adolygiad a wnaed gan y corff llywodraethu o ran unrhyw bolisïau neu strategaethau a fabwysiadwyd ganddo wrth arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol ac unrhyw gamau a gymerwyd ganddo yn sgil y cyfryw adolygiad.
13. Dyddiadau dechrau a diwedd pob tymor ysgol a gwyliau hanner tymor, ar gyfer y flwyddyn ysgol nesaf.
14.—(1) Crynodeb o unrhyw newidiadau i wybodaeth sydd (yn unol â rheoliadau a wneir o dan adrannau 408 neu 537 o Ddeddf 1996(6) neu o dan adran 92 o Ddeddf 1998(7)) ym mhrosbectws yr ysgol ers i adroddiad blaenorol y llywodraethwyr gael ei lunio.
(2) Pan fo rheoliadau yn cael eu gwneud o dan adrannau 408 neu 537 o Ddeddf 1996 neu o dan adran 92 o Ddeddf 1998 sy'n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gyhoeddi gwybodaeth wahanol mewn prosbectysau gwahanol, cymerir bod is-baragraff (1) yn cyfeirio at bob prosbectws o'r fath.
15. Datganiad ar y cwricwlwm a threfniadaeth addysg a dulliau dysgu yn yr ysgol gan gynnwys manylion unrhyw drefniadau arbennig yn y cwricwlwm neu fel arall ar gyfer categorïau arbennig o ddisgyblion, gan gynnwys y disgyblion hynny sydd â datganiad anghenion addysgol arbennig a wnaed yn unol ag adran 324 o Ddeddf 1996(8).
16. Y categori iaith sy'n rhoi'r disgrifiad gorau o'r ysgol.
17. Manylion am ddefnydd o'r Gymraeg yn yr ysgol gan ddisgyblion o bob grŵp oedran neu o grwpiau oedran gwahanol gan gynnwys, yn enwedig—
(a)defnydd o'r Gymraeg fel yr iaith a ddefnyddir yn y cyfnod sylfaen a phob un o'r cyfnodau allweddol i addysgu unrhyw bwnc a'r graddau, os o gwbl, y mae addysg amgen ar gael yn Saesneg yn y pwnc hwnnw;
(b)y graddau, os o gwbl, y mae'r Gymraeg yn iaith gyfathrebu arferol yn yr ysgol;
(c)unrhyw gyfyngiad sy'n gymwys i allu rhiant i ddewis yr iaith y rhoddir addysg ynddi; ac
(ch)disgrifiad cryno o'r trefniadau yn yr ysgol i hwyluso parhad yn rhychwant yr addysg yn Gymraeg i ddisgyblion—
(i)yn ystod y cyfnod y maent yn gofrestredig yn yr ysgol; a
(ii)wrth drosglwyddo o'r ysgol, os ysgol gynradd yw'r ysgol honno, i ysgol uwchradd.
18. Datganiad cryno ar y cyfleusterau toiled a ddarperir yn yr ysgol ar gyfer disgyblion sy'n gofrestredig yn yr ysgol a'r trefniadau a wnaed i lanhau'r cyfleusterau toiled hynny.
O.S. 2005/2914 (Cy.211) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/3200 (Cy.236), O.S. 2006/873 (Cy.81), O.S. 2007/944 (Cy.80) ac O.S. 2010/638 (Cy. 64).
Diwygiwyd is-adran (1) gan Ddeddf Addysg 2005 (p.18), Atodlen 18, paragraff 10(1), (2)(a) a (b). Diwygiwyd is-adrannau (1) a (2) gan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009, adran 253(1) a (2) (p.22). Mewnosodwyd is-adran (1A) gan Ddeddf Addysg 2005, Atodlen 18, paragraff 10(1) a (3). Diwygiwyd is-adrannau (1), (1A), (2), (2A) a (7) hefyd gan O.S. 2010/1158. Diwygiwyd is-adran (2) gan Ddeddf Addysg 2002 (p.32), Atodlen 18, paragraff 10(1), (4)(a) a (b). Diwygiwyd is-adran (2)(b) gan Ddeddf Addysg 2002, Atodlen 22, Rhan 3. Diwygiwyd is-adran (2)(d) gan Ddeddf Addysg 2002, adran 45(1) a (2). Mewnosodwyd is-adran (2A) gan Ddeddf Addysg 2002, adran 45(1) a (3) a mewnosodwyd is-adran (2B) gan Ddeddf Addysg 2005, Atodlen 18, paragraff 10(1) a (5).
Amnewidiwyd is-adran (1) gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), Atodlen 30, paragraff 152(a). Diwygiwyd is-adrannau (1), (6) a (7) gan O.S. 2010/1158. Mewnosodwyd is-adran (4) gan Ddeddf Addysg 1997 (p.44), Atodlen 7, paragraff 37. Diwygiwyd is-adran (7)(a) gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, Atodlen 30, paragraff 152(b) ac Atodlen 31. Diwygiwyd is-adran (7)(b) gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p.21), Atodlen 9, paragraffau 1 a 60. Diwygiwyd is-adran (7)(b) ymhellach gan Ddeddf Addysg 2002 (p.32), Atodlen 7, Rhan 2, paragraff 6(1) a (5). Diddymwyd is-adrannau (9) a (10) gan Ddeddf Addysg 2002, Atodlen 22, Rhan 3.
Amnewidiwyd is-adran (3) gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), Atodlen 30, paragraff 213.
Diwygiwyd is-adrannau (1), (3) a (4) gan Ddeddf Addysg 2002, Atodlen 22, Rhan 3. Mewnosodwyd is-adran (3A) gan Ddeddf Addysg 2002, adran 52(1) a (3).
Diwygiwyd adran 408 gan baragraff 30 o Atodlen 7 ac Atodlen 8 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), paragraffau 57 a 106 o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, paragraff 57 o Atodlen 9 i Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p.21), Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002, Atodlen 12 a Rhan 7 o Atodlen 16 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22) a chan O.S. 2010/1158.
Amnewidiwyd gan Ddeddf Addysg 2002, Atodlen 4, paragraff 7.
Mewnosodwyd is-adran (4A) gan Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001, adran 9. Diwygiwyd is-adran (5)(b) gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, Atodlen 30, paragraff 77(a) a Deddf Addysg 2002, Atodlen 21, paragraff 43. Mewnosodwyd is-adran (5A) gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, Atodlen 30, paragraff 77(b). Diwygiwyd is-adrannau (1), (4) a (5) gan O.S. 2010/1158.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys