- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gwnaed
14 Ionawr 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
15 Ionawr 2010
Yn dod i rym
15 Chwefror 2010
1. Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Chwefror 2010 a'u henw yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 24, Cyfnewidfa Coldra, Casnewydd) (Terfyn Cyflymder 40 MYA) 2010.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Traffordd yr M4” (“the M4 Motorway”) yw Traffordd Llundain i Dde Cymru yr M4.
3. Ni chaiff neb yrru unrhyw gerbyd yn gyflymach na 40 milltir yr awr ar y darnau o'r ffordd wrth Gyffordd 24 Traffordd yr M4, Cyfnewidfa Coldra, yn Ninas Casnewydd a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
14 Ionawr 2010
Y FFORDD YMADAEL TUA'R DWYRAIN
Y darn hwnnw o'r ffordd ymadael tua'r dwyrain sy'n ymestyn o bwynt 123 o fetrau i'r gorllewin o'i chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra hyd at bwynt lle mae'n uno â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra.
Y FFORDD YMUNO TUA'R DWYRAIN
Y darn hwnnw o'r ffordd ymuno tua'r dwyrain sy'n ymestyn o bwynt wrth ei chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra hyd at bwynt 25 o fetrau i'r dwyrain o'i chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra.
Y FFORDD YMADAEL TUA'R GORLLEWIN
Y darn hwnnw o'r ffordd ymadael tua'r gorllewin sy'n ymestyn o bwynt 114 o fetrau i'r gorllewin o'r pwynt lle mae'n gwyro oddi ar brif gerbytffordd Traffordd yr M4 hyd at bwynt wrth ei chyffordd â cherbytffordd Cyfnewidfa Coldra.
Y FFORDD YMADAEL TUA'R GORLLEWIN (Y LÔN AR WAHÅN)
Y darn hwnnw o'r ffordd ar wahân i ymadael tua'r gorllewin sy'n ymestyn o bwynt 114 o fetrau i'r gorllewin o'r pwynt lle mae'n gwyro oddi ar brif gerbytffordd Traffordd yr M4 hyd at bwynt lle mae'n uno â cherbytffordd Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol yr A48.
Y FFORDD YMUNO TUA'R GORLLEWIN
Y darn hwnnw o'r ffordd ymuno tua'r gorllewin sy'n ymestyn o bwynt wrth ei chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra hyd at bwynt 6 metr i'r gorllewin o'i chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod terfyn cyflymder uchaf o 40 milltir yr awr (yn lle'r terfyn cyflymder cyffredinol o 70 milltir yr awr a osodir ar draffyrdd gan Reoliadau Traffig Traffyrdd (Terfyn Cyflymder) 1974 (O.S. 1974/502)) ar y darnau o draffordd yr M4 a bennir yn y Rheoliadau hyn.
1984 p.27. Yn rhinwedd O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Deddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'r pwerau hyn bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru o ran Cymru.
Amnewidiwyd adran 134(2) gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22), Atodlen 8, paragraff 77.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys