Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Arolygu a Gwybodaeth ar gyfer Awdurdodau Lleol)(Cymru) 2010

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Arolygu a Gwybodaeth ar gyfer Awdurdodau Lleol)(Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) yw'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r person yn gweithredu fel gwarchodwr plant (neu wedi gweithredu felly) neu'n darparu (neu wedi darparu) gofal dydd i blant, ac yn gofrestredig (neu wedi bod yn gofrestredig) mewn perthynas â hynny;

  • mae i “gofal dydd i blant” (“day care for children”) yr un ystyr ag a roddir iddo yn adran 19(3) o Fesur 2010;

  • mae i “gwarchod plant” (“child minding”) yr un ystyr ag a roddir iddo yn adran 19(2) o Fesur 2010;

  • ystyr “Mesur 2010” (“the 2010 Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;

  • ystyr “person cofrestredig” (“registered person”) yw person sydd wedi ei gofrestru'n warchodwr plant neu'n ddarparwr gofal dydd i blant o dan Ran 2 o Fesur 2010;

  • mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys unrhyw berson sy'n gofalu am blentyn.

Arolygu

2.—(1Caiff Gweinidogion Cymru a Phrif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (“Prif Arolygydd Ei Mawrhydi”) drefnu arolygiadau o—

(a)gwarchod plant, a ddarperir gan bersonau cofrestredig; a

(b)gofal dydd i blant, a ddarperir gan bersonau cofrestredig.

(2Pan fo Gweinidogion Cymru neu Brif Arolygydd Ei Mawrhydi yn arolygu unrhyw fangre a ddefnyddir ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd i blant, rhaid iddynt—

(a)adrodd mewn ysgrifen ar y materion a arolygir;

(b)anfon copi o'r adroddiad at y person cofrestredig; ac

(c)yn achos adroddiad gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi, anfon copi o'r adroddiad at Weinidogion Cymru os gofynnir amdano gan Weinidogion Cymru.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru a Phrif Arolygydd Ei Mawrhydi gyhoeddi adroddiad ar arolygiad o fangre a ddefnyddir i ddarparu gofal dydd i blant.

(4Caiff Gweinidogion Cymru a Phrif Arolygydd Ei Mawrhydi ddarparu copi o adroddiad, neu rannau o adroddiad, ar arolygiad o fangre a ddefnyddir i warchod plant i'r canlynol—

(a)rhiant plentyn y gofelir neu y gofalwyd amdano gan y gwarchodwr plant hwnnw;

(b)rhiant plentyn pan fo'r rhiant hwnnw'n ystyried a fydd yn trefnu i'r plentyn gael ei warchod gan y gwarchodwr plant hwnnw ai peidio; neu

(c)awdurdod lleol perthnasol.

(5At ddibenion y gyfraith ar ddifenwi, mae unrhyw adroddiad a gyhoeddir yn freintiedig oni phrofir bod y cyhoeddi wedi ei wneud yn faleisus.

Cyflenwi gwybodaeth i awdurdodau lleol

Caniatáu cofrestriad

3.  Pan fo Gweinidogion Cymru, mewn perthynas â pherson sy'n gwneud cais i gofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd i blant, yn caniatáu cais person am gofrestriad, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu'r wybodaeth sydd yn Atodlen 1 i'r awdurdod lleol perthnasol.

Terfynu cofrestriad neu ei atal dros dro

4.  Rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu'r wybodaeth sydd yn Atodlen 2 i'r awdurdod lleol perthnasol—

(a)wrth roi hysbysiad o'u bwriad i ddiddymu cofrestriad person;

(b)wrth ddiddymu cofrestriad person;

(c)wrth atal cofrestriad person dros dro (gan gynnwys achosion pan wnânt hynny ar gais y person cofrestredig);

(ch)wrth dynnu enw person allan o'r gofrestr ar gais person hwnnw; neu

(d)pan fo ynad heddwch, o ganlyniad i gais gan Weinidogion Cymru, yn gwneud gorchymyn o dan adran 34(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Amddiffyn plant mewn argyfwng: diddymu cofrestriad).

Huw Lewis

Y Dirprwy Weinidog dros Blant o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, ar ran Gweinidogion Cymru

20 Hydref 2010

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill