Chwilio Deddfwriaeth

Cynllun Cychod Pysgota (Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 2010

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2369 (Cy.203)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Y DIWYDIANT PYSGOD MÔR

Cynllun Cychod Pysgota (Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 2010

Gwnaed

28 Medi 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

28 Medi 2010

Yn dod i rym

20 Hydref 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 15(1) a (2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981(1), ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2), yn gwneud y Cynllun a ganlyn gyda chymeradwyaeth y Trysorlys.

RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Cynllun hwn yw Cynllun Cychod Pysgota (Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 2010 a daw i rym ar 20 Hydref 2010.

(2Mae'r Cynllun hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Cynllun hwn—

  • ystyr “cais” (“application”) yw cais am grant o dan y Cynllun hwn ac mae “ceisydd” (“applicant”) i'w ddehongli'n unol â hynny;

  • ystyr “cwch pysgota Cymreig cymwys” (“eligible Welsh fishing boat”) yw cwch pysgota—

    (a)

    sydd wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran 2 o Ddeddf Llongau Masnach 1995(3);

    (b)

    sydd â'i borthladd gweinyddu yng Nghymru ar ddyddiad gwneud y cais am grant; ac

    (c)

    sy'n mesur 15 o fetrau neu fwy o hyd yn gyfan gwbl;

  • ystyr “cyflenwr a gymeradwywyd” (“approved supplier”) yw cyflenwr a bennir mewn rhestr a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 3(1) mewn cysylltiad â'r feddalwedd a gymeradwywyd;

  • mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(4);

  • ystyr “data gweithgareddau pysgota” (“fishing activities data”) yw data'r llyfr log, data'r datganiad trawslwytho a data'r datganiad glanio y mae'n ofynnol o dan y Rheoliad UE ei gofnodi a'i ddarlledu drwy ddull electronig;

  • ystyr “y dyddiad cau” (“the closing date”) yw'r dyddiad hwnnw y dichon Gweinidogion Cymru ei bennu a'i gyhoeddi o bryd i'w gilydd fel y dyddiad y mae'n rhaid cyflwyno cais am grant arno neu o'i flaen;

  • ystyr “grant” (“grant”) yw grant o dan y Cynllun hwn;

  • ystyr “meddalwedd a gymeradwywyd” (“approved software”) yw meddalwedd a bennir mewn rhestr a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 3(1);

  • ystyr “porthladd gweinyddu” (“port of administration”) yw'r porthladd y dyroddir ohono'r drwydded a roddir mewn cysylltiad â chwch pysgota o dan adran 4 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967(5); ac

  • ystyr “y Rheoliad UE” (“the EU Regulation”) yw—

    (a)

    tan 31 Rhagfyr 2010, y darpariaethau sy'n ymwneud â chofnodi a darlledu data gweithgareddau pysgota a osodir yn—

    (i)

    Erthyglau 1 i 3 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1966/2006 ar 21 Rhagfyr 2006 ar gofnodi ac adrodd yn electronig am weithgareddau pysgota ac ar ddulliau synhwyro o bel(6)); a

    (ii)

    Pennod 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1077/2008 ar 3 Tachwedd 2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1966/2006 ar gofnodi ac adrodd yn electronig am weithgareddau pysgota ac ar ddulliau synhwyro o bell ac sy'n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1566/2007(7);

    (b)

    ar 1 Ionawr 2011 ac wedi hynny, y darpariaethau sy'n ymwneud â chofnodi a darlledu data gweithgareddau pysgota a osodir yn Adran 1 o Bennod 1 o Deitl 4 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 ar 20 Tachwedd 2009 sy'n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau'r polisi pysgodfeydd cyffredin, ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 847/96, (EC) Rhif 2371/2002, (EC) Rhif 811/2004, (EC) Rhif 768/2005, (EC) Rhif 2115/2005, (EC) Rhif 2166/2005, (EC) Rhif 388/2006, (EC) Rhif 509/2007, (EC) Rhif 676/2007, (EC) Rhif 1098/2007, (EC) Rhif 1300/2008, (EC) Rhif 1342/2008 ac yn diddymu Rheoliadau (EEC) Rhif 2847/93, (EC) Rhif 1627/94 ac (EC) Rhif 1966/2006(8).

(2Ystyr unrhyw rwymedigaeth ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi deunydd o dan y Cynllun hwn yw rhwymedigaeth i beri bod y deunydd hwnnw ar gael mewn modd a fydd yn sicrhau ei bod yn weddol debygol y bydd y rheini sy'n gymwys am grant yn ei weld.

RHAN 2Grant ar gyfer meddalwedd a gymeradwywyd

Meddalwedd a gymeradwywyd a chyflenwyr a gymeradwywyd

3.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi rhestr sy'n pennu—

(a)meddalwedd sy'n gallu—

(i)cofnodi data gweithgareddau pysgota'n electronig; a

(ii)darlledu data gweithgareddau pysgota'n electronig yn y ffurf ofynnol; a

(b)cyflenwyr y feddalwedd honno.

(2Yn y paragraff hwn, ystyr “y ffurf ofynnol” (“required format”) yw ffurf a bennir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliad UE.

Cymhwystra am grant

4.—(1Caiff person wneud cais, yn unol â darpariaethau'r Cynllun hwn, i Weinidogion Cymru am grant, os yw'r person hwnnw—

(a)yn feistr, yn berchennog neu'n siartrwr cwch pysgota Cymreig cymwys; a

(b)wedi prynu meddalwedd a gymeradwywyd gan gyflenwr a gymeradwywyd, neu wedi comisiynu cyflenwr a gymeradwywyd i gyflenwi meddalwedd a gymeradwywyd, i'w defnyddio ar y cwch hwnnw.

(2Yn y paragraff hwn, mae “meistr” (“master”) yn cynnwys y person y mae'r cwch pysgota dan ei ofal am y tro.

Talu grant

5.—(1Caiff Gweinidogion Cymru dalu unrhyw grant, neu unrhyw ran ohono, wedi i'r cais gael ei gymeradwyo o dan baragraff 9(1) a bod Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni—

(a)bod y cyflenwr a gymeradwywyd wedi cyflenwi'r feddalwedd a gymeradwywyd i'r ceisydd a bod y feddalwedd wedi'i gosod yn y cwch pysgota Cymreig cymwys;

(b)bod y ceisydd wedi defnyddio'r feddalwedd a gymeradwywyd i gofnodi ac i ddarlledu'n electronig ddata gweithgareddau pysgota yn unol â'r Rheoliad UE; ac

(c)bod cydymffurfio wedi bod ag unrhyw amod ar gyfer talu'r grant neu unrhyw ran ohono.

(2Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)talu'r grant i'r ceisydd neu'n uniongyrchol i'r cyflenwr a gymeradwywyd ar ran y ceisydd;

(b)talu'r grant ar y fath adeg, neu drwy'r fath randaliadau ar y fath ysbeidiau neu adegau, ag y dichon Gweinidogion Cymru bennu; ac

(c)rhoi un grant yn unig mewn cysylltiad ag unrhyw gwch pysgota Cymreig cymwys.

Swm y grant

6.  O ran swm y grant—

(a)rhaid iddo beidio â bod yn fwy na chost prynu neu gyflenwi'r feddalwedd a gymeradwywyd; a

(b)caiff fod yn swm llai o faint bynnag a bennir gan Weinidogion Cymru.

RHAN 3Ceisiadau am grant

Gwahoddiad i geisio am grant

7.—(1Caiff Gweinidogion Cymru o bryd i'w gilydd gyhoeddi gwahoddiad i wneud ceisiadau am grant.

(2Rhaid i wahoddiad gynnwys—

(a)manylion meddalwedd a gymeradwywyd a chyflenwyr a gymeradwywyd;

(b)manylion yr amodau cymhwystra am grant;

(c)gofynion ffurf y cais a'r dull o'i wneud;

(ch)unrhyw ofynion ar gyfer darparu dogfennau, gwybodaeth ac ymgymeriadau i gefnogi'r cais; a

(d)y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais.

Ceisiadau

8.—(1Rhaid i gais am grant gael ei wneud yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn unol â gofynion y gwahoddiad a wnaed o dan baragraff 7(1).

(2Ac eithrio fel y darperir yn is-baragraff (3), rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi cael cais ar y dyddiad cau neu cyn hynny.

(3Caiff Gweinidogion Cymru dderbyn cais ar ôl y dyddiad cau os ydynt wedi'u bodloni—

(a)bod amodau penodol y ceisydd yn peri ei bod yn afresymol disgwyl i'r cais gael ei wneud erbyn y dyddiad cau; a

(b)bod y dyddiad erbyn pryd y gwneir y cais mor fuan ag y gellir yn rhesymol ei ddisgwyl.

(4Caiff Gweinidogion Cymru, cyn dyfarnu ar unrhyw gais, ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd ddarparu gwybodaeth ychwanegol.

Dyfarnu ar gais

9.—(1Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad cau, neu ar ôl cael unrhyw wybodaeth bellach y gofynnwyd amdani yn unol â pharagraff 8(4), rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)nodi a chymeradwyo, yn ddarostyngedig i'r fath amodau ag a ystyrir yn briodol ganddynt, y ceisiadau hynny a wnaed yn unol â gwahoddiad a wnaed o dan baragraff 7(1) sy'n bodloni darpariaethau'r Cynllun hwn; a

(b)gwrthod unrhyw geisiadau eraill.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru wrthod cais os ydynt o'r farn bod porthladd gweinyddu'r cwch pysgota wedi cael ei newid i borthladd yng Nghymru gyda'r prif bwrpas o sicrhau bod y cwch pysgota yn gwch pysgota Cymreig cymwys at ddibenion y Cynllun hwn.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo cais o dan is-baragraff (1)(a), rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig o'r gymeradwyaeth honno ac o unrhyw amodau y mae'n ddarostyngedig iddynt.

(4Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais o dan is-baragraffau (1)(b) neu (2), neu'n cymeradwyo cais yn ddarostyngedig i unrhyw amod o dan is-baragraff (1)(a), rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig—

(a)o'r rhesymau dros y gwrthodiad hwnnw neu dros osod yr amod; a

(b)o'r hawl i wneud cais am adolygiad o dan baragraff 10.

Adolygu dyfarniad

10.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais o dan baragraffau 9(1)(b) neu 9(2), neu'n cymeradwyo cais yn ddarostyngedig i unrhyw amod o dan is-baragraff 9(1)(a), caiff y person a ymgeisiodd am y grant wneud cais i Weinidogion Cymru, yn unol â darpariaethau'r paragraff hwn, am adolygiad o'r dyfarniad hwnnw.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi cael cais am adolygiad o dan y paragraff hwn ar ddyddiad heb fod yn ddiweddarach na 6 mis o ddyddiad y dyfarniad perthnasol o dan baragraffau 9(1) neu 9(2).

(3Rhaid i gais am adolygiad o dan y paragraff hwn fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo nodi—

(a)enw a chyfeiriad y person sy'n gwneud y cais am yr adolygiad, ac os nad y person hwnnw yw'r person a enwir yn y dyfarniad, enw a chyfeiriad y person a enwir yn y dyfarniad ac ar ba sail y mae'r person yn ceisio adolygiad;

(b)pa ddyfarniad o eiddo Gweinidogion Cymru sydd i'w adolygu a dyddiad y dyfarniad hwnnw;

(c)manylion y sail y ceisir yr adolygiad arno; ac

(ch)y newid a geisir i'r dyfarniad.

(4Caniateir gwneud cais o dan y paragraff hwn drwy'r post neu drwy ffacs neu ddull arall o gyfathrebiad electronig y mae modd ei atgynhyrchu.

(5Pan wneir cais o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r dyfarniad a nodir ynddo a dod i benderfyniad terfynol arno a hysbysu'n ysgrifenedig y person sy'n gwneud y cais am yr adolygiad o'r penderfyniad hwnnw a'r rhesymau drosto.

(6Wrth adolygu dyfarniad caiff Gweinidogion Cymru—

(a)ystyried unrhyw ddogfen neu dystiolaeth arall a gyflwynwyd gan y ceisydd (p'un ai a oedd y ddogfen neu'r dystiolaeth honno ar gael ar yr adeg y gwnaed y dyfarniad ai peidio);

(b)gwahodd y ceisydd i ddarparu'r fath wybodaeth bellach sy'n berthnasol i'r adolygiad a ystyrir ganddynt ei fod yn briodol; ac

(c)rhoi cyfle i'r ceisydd roi tystiolaeth a gwneud sylwadau yn bersonol neu drwy gynrychiolydd.

RHAN 4Dirymu, dal yn ôl ac adennill grant

Dirymu, dal yn ôl ac adennill grant

11.—(1Os ymddengys i Weinidogion Cymru, ar unrhyw adeg wedi iddynt gymeradwyo cais o dan baragraff 9(1)(a)—

(a)bod unrhyw amod a osodwyd o dan y paragraff hwnnw wedi cael ei dorri neu bod diffyg cydymffurfiad ag ef; neu

(b)bod y ceisydd wedi cyflawni tramgwydd o dan adran 17 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 neu y dichon ei fod wedi gwneud hynny(9),

cânt ddirymu'r gymeradwyaeth i'r cais hwnnw, neu ddal y grant yn ôl, neu ddal unrhyw ran ohono'n ôl, mewn perthynas â'r cais ac os gwnaed unrhyw daliad grant, cânt adennill oddi wrth y ceisydd ar hawliad, swm sy'n cyfateb i'r cyfan neu unrhyw ran o'r taliad a wnaed felly, heb ystyried a wnaed y taliad grant yn uniongyrchol i'r ceisydd neu i'r cyflenwr a gymeradwywyd ar ran y ceisydd yn rhinwedd paragraff 5(2)(a).

(2Cyn dirymu cymeradwyaeth neu ddal yn ôl unrhyw grant neu wneud hawliad yn rhinwedd is-baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)roi eglurhad ysgrifenedig i'r ceisydd o'r rhesymau dros y cam y bwriedir ei gymryd;

(b)rhoi cyfle i'r ceisydd wneud sylwadau ysgrifenedig o fewn unrhyw amser y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried yn rhesymol; ac

(c)ystyried unrhyw sylwadau o'r fath.

Llog

12.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu adennill swm ar gais yn unol â pharagraff 11(1), cânt, yn ychwanegol, adennill llog ar y swm hwnnw ar gyfradd o 1% uwchben LIBOR wedi'i gyfrifo yn ddyddiol am y cyfnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod ar ôl hwnnw y talwyd y swm arno ac sy'n gorffen ar y diwrnod yr adenillir y swm arno.

(2Yn y paragraff hwn, ystyr “LIBOR” (“LIBOR”), mewn cysylltiad ag unrhyw ddiwrnod, yw cyfradd sterling dri-misol Llundain a gynigir rhwng banciau sydd mewn grym ar y diwrnod hwnnw wedi'i dalgrynnu os oes angen at ddau bwynt degol.

(3Mewn unrhyw achos ar gyfer adennill o dan y Cynllun hwn, bydd tystysgrif a ddyroddir gan Weinidogion Cymru yn datgan beth yw'r LIBOR sy'n gymwys ar gyfer unrhyw ddiwrnod yn dystiolaeth ddiwrthbrawf o'r LIBOR o dan sylw os yw'r dystysgrif hefyd yn datgan bod Banc Lloegr wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o'r LIBOR o dan sylw.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

28 Medi 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Cynllun)

Mae'r Cynllun hwn, a wnaed gyda chymeradwyaeth y Trysorlys, yn darparu ar gyfer talu grantiau fel cyfraniad tuag at gost prynu neu gyflenwi meddalwedd sy'n angenrheidiol i gofnodi ac i ddarlledu'n electronig ddata gweithgareddau pysgota yn unol ag—

(a)Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1966/2006 ar 21 Rhagfyr 2006 ar gofnodi ac adrodd yn electronig am weithgareddau pysgota ac ar ddulliau synhwyro o bell;

(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1077/2008 ar 3 Tachwedd 2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1966/2006 ar gofnodi ac adrodd yn electronig am weithgareddau pysgota ac ar ddulliau synhwyro o bell ac sy'n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1566/2007; ac

(c)Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 ar 20 Tachwedd 2009 sy'n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau'r polisi pysgodfeydd cyffredin, ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 847/96, (EC) Rhif 2371/2002, (EC) Rhif 811/2004, (EC) Rhif 768/2005, (EC) Rhif 2115/2005, (EC) Rhif 2166/2005, (EC) Rhif 388/2006, (EC) Rhif 509/2007, (EC) Rhif 676/2007, (EC) Rhif 1098/2007, (EC) Rhif 1300/2008, (EC) Rhif 1342/2008 ac yn diddymu Rheoliadau (EEC) Rhif 2847/93, (EC) Rhif 1627/94 ac (EC) Rhif 1966/2006.

Yn Rhan 2, mae paragraff 3 yn darparu ar gyfer rhestrau cyhoeddedig o feddalwedd a gymeradwywyd ac o gyflenwyr a gymeradwywyd, paragraff 4 yn pennu'r meini prawf cymhwystra ar gyfer grant, paragraff 5 yn ymwneud â thalu grant, a pharagraff 6 yn ymwneud â swm y grant.

Yn Rhan 3, mae paragraff 7 yn darparu ar gyfer rhoi gwahoddiadau i ymgeisio am grant, paragraff 8 yn ymwneud â gwneud cais am grant, a pharagraff 9 yn ymwneud â dyfarnu ar geisiadau am grant, gan gynnwys y pŵer i osod amodau ynghlwm wrth unrhyw gais a gymeradwyir a gofynion parthed rhoi hysbysiad. Mae paragraff 10 yn darparu ar gyfer adolygu dyfarniad i wrthod cais neu ddyfarniad i osod amodau ynghlwm wrth unrhyw gais a gymeradwyir.

Yn Rhan 4, mae paragraff 11 yn darparu ar gyfer dirymu, dal yn ôl ac adennill grant mewn amgylchiadau penodol ac mae paragraff 12 yn galluogi talu llog ar symiau a adenillir.

Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â'r offeryn hwn gan na ragwelir y bydd yn cael unrhyw effaith ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.

(1)

1981 p.29. Gweler adran 18(1) am y diffiniad o “the Ministers”. Diwygiwyd adrannau 15(2) ac 18(1) gan O.S. 1999/1820, Atodlen 2, paragraff 68(1), (2) a (3).

(2)

Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672) trosglwyddwyd y swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adran 15 o Ddeddf 1981 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y'i cyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny o Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (p.32). Mae gofynion cymeradwyaeth y Trysorlys o dan adran 15 o Ddeddf 1981 yn parhau'n effeithlon.

(6)

OJ Rhif L409, 30.12.2006, t. 1.

(7)

OJ Rhif L295, 4.11.2008, t. 3.

(8)

OJ Rhif L343, 22.12.2009, t. 1.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill