Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Galluedd Meddyliol (Amddifadu o Ryddid: Asesiadau, Awdurdodiadau Safonol ac Anghydfodau ynghylch Preswyliaeth) (Cymru) 2009

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 783 (Cy.69)

GALLUEDD MEDDYLIOL, CYMRU

Rheoliadau Galluedd Meddyliol (Amddifadu o Ryddid: Asesiadau, Awdurdodiadau Safonol ac Anghydfodau ynghylch Preswyliaeth) (Cymru) 2009

Gwnaed

24 Mawrth 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

11 Chwefror 2009

Yn dod i rym

1 Ebrill 2009

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 65(1) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 a pharagraffau 31, 33(4), 47(1), 70, 129(3), 130(2), (3) a (5) a 183(6) a (7) o Atodlen A1 iddi(1).

Mae drafft o'r offeryn hwn wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 50(11) o Ddeddf Iechyd Meddwl 2007(2), a'i gymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Galluedd Meddyliol (Amddifadu o Ryddid: Asesiadau, Awdurdodiadau Safonol ac Anghydfodau ynghylch Preswyliaeth) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2009.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “asesydd cymhwystra” (“eligibility assessor”) yw person a ddetholwyd i wneud yr asesiad cymhwystra o dan baragraff 46 o Atodlen A1 i'r Ddeddf.

  • ystyr “asesydd lles pennaf” (“best interests assessor”) yw person a detholwyd i wneud asesiad lles pennaf o dan baragraff 38 o Atodlen A1 i'r Ddeddf;

  • mae i “Cyngor Gofal Cymru” yr ystyr a roddir i “Care Council for Wales” gan adran 54(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Galluedd Meddyliol 2005;

  • ystyr “gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl a gymeradwywyd” (“approved mental health professional”) yw person a gymeradwywyd o dan adran 114(1) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(3).

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn mae “corff goruchwylio” (“supervisory body”) yn cynnwys Bwrdd Iechyd Lleol sy'n arfer swyddogaethau goruchwylio yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Galluedd Meddyliol (Amddifadu o Ryddid: Penodi Cynrychiolydd Perthnasol) (Cymru) 2009(4).

RHAN 2Cymhwystra i gynnal asesiadau

Cymhwystra — cyffredinol

3.—(1Yn ddarostyngedig i ofynion ychwanegol yn rheoliadau 4 i 8 nid yw person yn gymwys i wneud asesiad, ac eithrio asesiad oedran, ond pan fo'r corff goruchwylio wedi'i fodloni fod y person hwnnw—

(a)wedi'i yswirio mewn perthynas ag unrhyw atebolrwydd a ddichon godi mewn cysylltiad â gwneud yr asesiad; a

(b)yn meddu ar y sgiliau a'r profiad perthnasol ar gyfer yr asesiad y mae i'w wneud, sy'n gorfod cynnwys y sgiliau canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt—

(i)y gallu i gyfathrebu'n effeithiol gyda golwg ar ganfod nodweddion a phriodweddau person sy'n berthnasol i anghenion y person hwnnw, a

(ii)y gallu i weithredu'n annibynnol ar unrhyw berson sy'n ei benodi i wneud asesiad ac ar unrhyw berson sy'n darparu gofal neu driniaeth i'r person y mae i'w asesu.

(2Rhaid i'r corff goruchwylio fod wedi'i fodloni bod yna mewn perthynas â'r person—

(a)tystysgrif cofnod troseddol fanwl wedi'i dyroddi o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(5); neu

(b)os nad yw'r diben y mae'r dystysgrif yn ofynnol amdano yn un a ragnodir o dan adran (2) o'r adran honno, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd yn unol ag adran 113A o'r Ddeddf honno(6).

Cymhwystra i gynnal asesiad iechyd meddwl

4.  Mae person yn gymwys i gynnal asesiad iechyd meddwl(7) os yw'r person hwnnw—

(a)wedi'i gymeradwyo o dan adran 12 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(8); neu

(b)yn ymarferydd meddygol cofrestredig y mae'r corff goruchwylio yn fodlon fod ganddo brofiad perthnasol mewn diagnosio neu drin anhwylder meddyliol.

Cymhwystra i gynnal asesiadau lles pennaf

5.—(1Mae person yn gymwys i gynnal asesiad lles pennaf(9) os yw'r person hwnnw—

(a)yn weithiwr proffesiynol iechyd meddwl a gymeradwywyd;

(b)yn weithiwr cymdeithasol a gofrestrwyd gyda Chyngor Gofal Cymru;

(c)yn nyrs lefel gyntaf, a gofrestrwyd yn Is-Ran 1 o Ran y Nyrsys yn y Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o'r Gorchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001;

(ch)yn therapydd galwedigaethol a gofrestrwyd yn Rhan 6 o'r gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001; neu

(d)yn seicolegydd siartredig a restrir yng Nghofrestr Seicolegwyr Siartredig Cymdeithas Seicolegol Prydain ac sy'n dal tystysgrif ymarfer a ddyroddwyd gan y Gymdeithas honno.

(2Rhaid i'r corff goruchwylio fod wedi'i fodloni hefyd fod gan y person y gallu i gymryd i ystyriaeth sylwadau unrhyw berson sydd â buddiant yn lles y person sydd i'w asesu a'r gallu i asesu perthnasedd a phwysigrwydd y sylwadau hynny wrth wneud asesiad.

Cymhwystra i gynnal asesiad galluedd meddyliol neu asesiad cymhwystra

6.  Mae person yn gymwys i wneud asesiad galluedd meddyliol(10) neu asesiad cymhwystra(11) os yw'n gymwys i gynnal—

(a)asesiad iechyd meddwl; neu

(b)asesiad lles pennaf.

RHAN 3Dethol Aseswyr

Dethol aseswyr — cyffredinol

7.—(1Dim ond os yw'r canlynol yn wir y caiff corff goruchwylio ddethol person i gynnal asesiad mewn unrhyw achos unigol—

(a)nad oes gan y person fuddiant ariannol yn y gwaith o ofalu am y person perthnasol;

(b)nad yw'r person yn berthynas i'r person perthnasol; ac

(c)nad yw'r person yn berthynas i berson sydd â buddiant ariannol yn y gwaith o ofalu am y person perthnasol.

(2At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “perthynas” (“relative”) yw:

(a)tad, mam, llystad, llysfam, mab, merch, nain (mam-gu), taid (tad-cu), ŵyr neu wyres y person hwnnw, neu o briod, cyn briod, partner sifil neu gyn bartner sifil y person hwnnw; neu

(b)brawd, chwaer, ewythr, modryb, nith, nai, neu gefnder cyfan (p'un ai o waed cyfan neu hanner gwaed neu drwy briodas neu bartneriaeth sifil) y person hwnnw neu briod, cyn briod, partner sifil neu gyn bartner sifil y person hwnnw.

(3At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mae “priod” (“spouse”) neu “partner sifil” (“civil partner”) yn cynnwys person nad yw'n briod â neu mewn partneriaeth sifil â'r person hwnnw ond sy'n byw gyda'r person hwnnw fel petai felly;

(b)mae gan berson fuddiant ariannol mewn cartref gofal neu ysbyty annibynnol os yw'r person hwnnw yn bartner, yn gyfarwyddwr, yn ddeiliaid swydd arall neu'n gyfranddaliwr sylweddol yn y cartref gofal neu'r ysbyty annibynnol sydd wedi gwneud y cais am awdurdodiad safonol;

(c)ystyr “cyfranddaliwr sylweddol” (“major shareholder”) yw—

(i)unrhyw berson sy'n dal y ddegfed ran neu fwy o'r cyfrannau a ddyroddwyd yn y cartref gofal neu'r ysbyty annibynnol, os yw'r cartref gofal neu'r ysbyty annibynnol yn gwmni cyfyngedig trwy gyfrannau, a

(ii)ym mhob achos arall, unrhyw berchen neu berchnogion ar y cartref gofal neu'r ysbyty annibynnol.

Dethol aseswyr lles pennaf

8.  Dim ond person nad yw'n ymwneud â gofal neu driniaeth, nac yn ymwneud â phenderfyniadau ynghylch gofal neu driniaeth, y person perthnasol y caiff corff goruchwylio ei ddethol i gynnal asesiad lles pennaf.

RHAN 4Asesu

Yr amserlen ar gyfer asesiadau

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i reoliad 11, rhaid i asesydd gwblhau'r asesiad o fewn 21 niwrnod o'r dyddiad y caiff ei gyfarwyddo gan y corff goruchwylio.

(2Pan fo'r awdurdod rheoli wedi rhoi awdurdodiad brys o dan baragraff 76 o Atodlen A1 i'r Ddeddf ac yn gwneud cais am awdurdodiad safonol, rhaid i'r asesydd gwblhau'r asesiad o fewn 5 niwrnod i'r dyddiad y mae'n cael ei gyfarwyddo gan y corff goruchwylio.

Y terfyn amser ar gyfer cynnal asesiad i benderfynu a fu amddifadiad o ryddid heb ei awdurdodi

10.  Yn ddarostyngedig i baragraff 69(4) a (5) o Atodlen A1 i'r Ddeddf, rhaid i asesiad sy'n ofynnol o dan baragraff 69 o Atodlen A1 i'r Ddeddf gael ei gwblhau o fewn 5 niwrnod i'r dyddiad y mae'r asesydd yn cael ei gyfarwyddo gan y corff goruchwylio.

Darpariaethau Trosiannol ar gyfer Awdurdodiadau Safonol

11.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan gaiff asesydd gyfarwyddyd gan y corff goruchwylio ar 30 Ebrill 2009 neu cyn hynny.

(2Rhaid cwblhau'r asesiad o fewn 42 o ddiwrnodau o'r dyddiad y rhoddir y cyfarwyddyd.

Gwybodaeth berthnasol am gymhwystra

12.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo unigolyn yn cael ei asesu ac nad yr un person yw'r asesydd cymhwystra a'r asesydd lles pennaf.

(2Rhaid i'r asesydd cymhwystra ofyn i'r asesydd lles pennaf ddarparu iddo unrhyw wybodaeth berthnasol am gymhwystra a all fod ym meddiant yr asesydd lles pennaf.

(3Rhaid i'r asesydd lles pennaf gydymffurfio ag unrhyw gais a wneir o dan y rheoliad hwn.

RHAN 5Cais am awdurdodiad safonol

Yr wybodaeth sydd i'w darparu mewn cais am awdurdodiad safonol

13.—(1Rhaid i gais am awdurdodiad safonol gynnwys yr wybodaeth ganlynol—

(a)enw'r person perthnasol a'r cyfeiriad lle mae'r person hwnnw'n preswylio ar y pryd;

(b)enw, cyfeiriad a Rhif ffôn yr awdurdod rheoli;

(c)y rhesymau pam mae'r awdurdod rheoli o'r farn bod y person perthnasol yn cael, neu yn mynd i gael, ei gadw'n gaeth dan amodau sy'n cyfateb i amddifadiad o ryddid.

(ch)y rhesymau pam mae'r awdurdod rheoli o'r farn bod y person perthnasol yn bodloni'r gofynion cymhwyso o dan baragraff 12 o Atodlen A1 i'r Ddeddf;

(d)manylion unrhyw awdurdodiad brys a roddwyd yn unol â pharagraff 76 o Atodlen A1 i'r Ddeddf;

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i gais am awdurdodiad safonol gynnwys yr wybodaeth ganlynol os yw ar gael neu os oes modd rhesymol ei sicrhau—

(a)unrhyw wybodaeth neu ddogfennau sy'n ategu'r rhesymau a roddwyd ym mharagraff (1) (ch);

(b)enw, cyfeiriad a Rhif ffôn unrhyw berson sydd â buddiant yn lles y person perthnasol;

(c)manylion unrhyw benderfyniad dilys a chymwys sy'n berthnasol ac a wnaed ymlaen llaw gan y person perthnasol.

(3Pan fo—

(a)awdurdodiad safonol presennol mewn grym mewn perthynas â chadw'r person perthnasol yn gaeth, a

(b)yr awdurdod rheoli yn gwneud cais yn unol â pharagraff 29 o Atodlen A1 i'r Ddeddf am awdurdodiad safonol pellach mewn perthynas â'r un person perthnasol,

nid oes rhaid i'r cais gynnwys unrhyw un o'r eitemau gwybodaeth a grybwyllwyd ym mharagraff (2) os yw'r wybodaeth honno'n aros yr un fath â'r hyn a nodwyd yn y cais am yr awdurdodiad safonol presennol.

(4Yn y rheoliad hwn mae i “awdurdodiad safonol presennol” yr un ystyr ag sydd i “existing standard authorisation” ym mharagraff 29 o Atodlen A1 i'r Ddeddf.

RHAN 6Cyrff goruchwylio: cartrefi gofal

Anghydfod ynghylch y Man Preswyliaeth Arferol

Cymhwyso Rhan 6

14.  Mae'r Rhan hon yn gymwys pan fo—

(a)awdurdod lleol (“awdurdod lleol A”) (12) yn cael cais —

(i)gan gartref gofal am awdurdodiad safonol o dan baragraffau 24, 25 neu 30 o Atodlen A1 i'r Ddeddf;

(ii)o dan baragraff 68 o Atodlen A1 i'r Ddeddf gan berson cymwys i benderfynu a oes amddifadiad o ryddid heb ei awdurdodi mewn cartref gofal ai peidio.

(b)awdurdod lleol A yn dymuno herio honiad mai ef yw'r corff goruchwylio priodol; ac

(c)cwestiwn ynghylch preswyliaeth arferol y person perthnasol i'w benderfynu gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 183(3) o Atodlen A1 i'r Ddeddf.

Y trefniadau pan fo cwestiwn ynghylch preswyliaeth arferol

15.—(1Rhaid i awdurdod lleol A weithredu fel corff goruchwylio mewn perthynas ag unrhyw gais am awdurdodiad safonol hyd nes y penderfynir unrhyw gwestiwn ynghylch preswyliaeth arferol y person perthnasol.

(2Ond os yw awdurdod lleol arall yn cytuno i weithredu fel corff goruchwylio yn lle awdurdod lleol A, yr awdurdod lleol hwnnw fydd y corff goruchwylio hyd nes y penderfynir unrhyw gwestiwn ynghylch preswyliaeth arferol y person perthnasol.

(3Pan fydd y cwestiwn ynghylch preswyliaeth arferol y person perthnasol wedi'i benderfynu, yr awdurdod lleol (“awdurdod lleol B”) a ddynodwyd fel y corff goruchwylio fydd y corff goruchwylio.

Effaith newid o ran corff goruchwylio ar ôl penderfynu unrhyw gwestiwn ynghylch preswyliaeth arferol

16.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os yw awdurdod lleol B wedi cael ei ddynodi yn unol â rheoliad 14, ac mai'r awdurdod lleol hwnnw yw'r corff goruchwylio yn unol â rheoliad 15(3).

(2Mae unrhyw beth a wnaed gan neu mewn perthynas ag awdurdod lleol A mewn cysylltiad â'r awdurdodiad neu'r cais, yn ôl y digwydd, yn cael effaith, cyn belled ag y bo'n angenrheidiol parhau ei effaith ar ôl y newid, fel petai wedi'i wneud gan neu mewn perthynas ag awdurdod lleol B.

(3Caniateir i unrhyw beth sy'n ymwneud â'r awdurdodiad neu'r cais ac sydd wrthi'n cael ei wneud gan neu mewn perthynas ag awdurdod lleol A adeg y newid gael ei barhau gan neu mewn perthynas ag awdurdod lleol B.

(4Ond—

(a)nid yw awdurdod lleol A, yn rhinwedd y rheoliad hwn, yn peidio â bod yn atebol am unrhyw beth a wnaed ganddo mewn cysylltiad â'r awdurdodiad neu'r cais cyn y newid; a

(a)nid yw awdurdod lleol B, yn rhinwedd y rheoliad hwn, yn dod yn atebol am unrhyw beth o'r fath.

(5Caiff awdurdod lleol A adennill gwariant a dynnwyd mewn cysylltiad â'r awdurdodiad neu'r cais oddi wrth awdurdod lleol B.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

24 Mawrth 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

1.  Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (“y Ddeddf”) yn darparu ar gyfer amddifadu o'u rhyddid bobl sydd heb y galluedd i gydsynio i'r trefniadau a wnaed ar gyfer eu gofal neu eu triniaeth, sy'n derbyn gofal neu driniaeth mewn cartrefi gofal ac ysbytai, pan fo awdurdodiad o dan adran 4A o'r Ddeddf ac Atodlen A1 (“Atodlen A1”) iddi yn bodoli.

2.  Pan ymddengys fod person sydd heb alluedd yn cael ei gadw'n gaeth, neu ei fod yn debygol o gael ei gadw'n gaeth, mewn cartref gofal neu ysbyty, rhaid i awdurdod rheoli'r cartref gofal neu'r ysbyty geisio awdurdodiad gan y corff goruchwylio. Mae awdurdod rheoli (“managing authority”) wedi'i ddiffinio ym mharagraffau 128, 180 a 182 o Atodlen A1. Yn achos cartref gofal, y corff goruchwylio fel rheol fydd yr awdurdod lleol lle mae'r person yn preswylio fel arfer ac yn achos ysbyty, y corff goruchwylio fel rheol fydd y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol ar gyfer yr ardal lle mae'r ysbyty wedi'i leoli neu'r Bwrdd Iechyd Lleol sy'n comisiynu'r gofal neu'r driniaeth.

3.  Pan gaiff gais am awdurdodiad safonol mae'n ofynnol i gorff goruchwylio drefnu i amrywiol asesiadau gael eu gwneud mewn perthynas â'r unigolyn o dan sylw er mwyn penderfynu a yw'n briodol rhoi'r awdurdodiad. Rhaid i'r corff goruchwylio ddethol pobl i wneud yr asesiadau hynny yn unol â pharagraff 129 o Atodlen A1 ac ni chaiff ddethol neb ond pobl sy'n gymwys yn unol â'r Rheoliadau hyn.

4.  Mae Rheoliadau 3 i 8, ynghyd â'r Ddeddf, yn darparu'r gofynion cymhwysedd ar gyfer pobl sy'n gwneud yr asesiadau. Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol—

(a)bod y corff goruchwylio wedi'i fodloni fod pob asesydd wedi'i yswirio, bod ganddo'r sgiliau priodol a'i fod wedi'i wirio gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (rheoliad 3);

(b)mai dim ond person a gymeradwywyd o dan adran 12 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (“y Ddeddf Iechyd Meddwl”) neu ymarferyddion meddygol cofrestredig sydd â phrofiad perthnasol o ddiagnosio neu drin anhwylder meddyliol a gaiff wneud asesiadau iechyd meddwl (rheoliad 4);

(c)mai dim ond gweithiwr cymdeithasol, nyrs, therapydd galwedigaethol neu seicolegydd a gaiff wneud asesiadau lles pennaf a rhaid i'r corff goruchwylio fod wedi'i fodloni fod ganddynt y sgiliau sy'n ofynnol i wneud asesiadau o'r fath;

(ch)mai dim ond pobl sy'n gymwys i wneud asesiad iechyd meddwl neu asesiad lles pennaf a gaiff wneud asesiadau galluedd meddyliol ac asesiadau cymhwystra (rheoliad 6);

(d)nad oes gan yr asesydd fuddiant ariannol yng ngofal y person y mae'n ei asesu neu nad yw'r asesydd yn berthynas y person hwnnw (rheoliad 7);

(dd)nad yw'r asesydd lles pennaf yn ymwneud â gofal a thriniaeth, nac yn gwneud penderfyniadau ynghylch gofal a thriniaeth, y person y mae'n ei asesu (rheoliad 8).

5.  Mae Rheoliadau 9, 10 ac 11 yn cynnwys darpariaethau ynghylch y terfynau amser y mae'n rhaid cwblhau asesiadau o'u mewn. Pan geir cais am awdurdodiad safonol—

(a)ac eithrio mewn achos pan fo asesydd wedi'i gyfarwyddo cyn 30 Ebrill 2009, rhaid i asesydd gwblhau'r asesiad o fewn 21 niwrnod o gael ei gyfarwyddo, ac eithrio pan fo awdurdodiad brys rhaid iddo gael ei gwblhau o fewn 5 niwrnod (rheoliad 9);

(b)yn achos asesiad i benderfynu a fu amddifadiad o ryddid heb ei awdurdodi rhaid cwblhau'r asesiad o fewn 5 niwrnod (rheoliad 10);

(c)pan fo'r asesiad yn cael ei wneud cyn 30 Ebrill 2009 rhaid cwblhau'r asesiad o fewn 42 o ddiwrnodau (rheoliad 11).

6.  Pan nad yr un person yw'r asesydd cymhwystra a'r asesydd lles pennaf, mae Rheoliad 12 yn darparu bod rhaid i'r asesydd cymhwystra geisio gwybodaeth berthnasol oddi wrth yr asesydd lles pennaf.

7.  Mae Rheoliad 13 yn pennu'r wybodaeth y mae'n rhaid i'r awdurdod rheoli ei darparu pan fo'n gwneud cais am awdurdodiad safonol.

8.  Mae Rheoliadau 14, 15 ac 16 yn gwneud darpariaethau sy'n awdurdodi awdurdodau lleol i weithredu fel corff goruchwylio mewn achosion pan fo anghydfod ynghylch preswyliaeth y person sy'n wrthrych y cais am awdurdodiad safonol. Mae paragraff 183(3) o Atodlen A1 i'r Ddeddf yn darparu mai Gweinidogion Cymru sydd i benderfynu ar unrhyw gwestiwn ynghylch preswyliaeth arferol mewn achosion o'r fath.

9.  Pan fo awdurdod lleol yn herio honiad mai ef yw'r corff goruchwylio priodol, mae Rheoliad 15 yn darparu bod rhaid i'r awdurdod lleol sy'n cael y cais am awdurdodiad safonol weithredu fel y corff goruchwylio hyd nes y bydd y cwestiwn ynghylch preswyliaeth arferol wedi cael ei benderfynu. Fodd bynnag, os bydd awdurdod lleol arall yn cytuno i weithredu fel corff goruchwylio yna'r awdurdod lleol hwnnw fydd y corff goruchwylio hyd nes y penderfynir ar y cwestiwn. Pan fydd y cwestiwn wedi cael ei benderfynu, yr awdurdod a ddynodwyd fel y corff goruchwylio fydd y corff goruchwylio.

10.  Mae rheoliad 16 yn gosod y trefniadau ac yn gosod pwy sy'n atebol pan gaiff y cais am awdurdodiad safonol ei drosglwyddo o un awdurdod lleol i un arall.

(1)

2005 p.9. Mewnosodwyd Atodlen 1A gan adran 50(5) o Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 (p.12).

(3)

1983 p.20. Amnewidiwyd adran 114 gan adran 18 o Ddeddf Iechyd Meddwl 2007.

(5)

1997 p.50. Mewnosodwyd adran 113B gan adran 163(2) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 (p.15).

(6)

Mewnosodwyd adran 113A gan adran 163(2) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005.

(7)

Mae asesiad iechyd meddwl yn asesiad a gynhelir o dan baragraff 35 o Atodlen A1 i'r Ddeddf.

(8)

1983 p.20. Diwygiwyd adran 12 gan adran 16 o Ddeddf Iechyd Meddwl 2007.

(9)

Mae asesiad lles pennaf yn asesiad a gynhelir o dan baragraff 38 o Atodlen A1 i'r Ddeddf.

(10)

Mae asesiad galluedd meddyliol yn asesiad a gynhelir o dan baragraff 37 o Atodlen A1 i'r Ddeddf.

(11)

Mae asesiad cymhwystra yn asesiad a gynhelir o dan Atodlen A1 i'r Ddeddf.

(12)

Diffinnir “local authority” ym mharagraff 182(5) (o ran Cymru) a pharagraff 182(4) (o ran Lloegr) o Atodlen A1 i'r Ddeddf.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill