Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 4Gwybodaeth Bellach, Tystiolaeth a Gwybodaeth Arall etc.

PENNOD 4Gwybodaeth Bellach a Thystiolaeth

Gwybodaeth bellach

26.—(1Os yw awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru o'r farn, yn rhesymol, bod gwybodaeth bellach yn ofynnol er mwyn ystyried cais AEA yn briodol neu, yn achos Gweinidogion Cymru, er mwyn ystyried apêl mewn perthynas â chais AEA yn briodol, a naill ai—

(a)y ceisydd neu'r apelydd yn alluog (neu dylai fod yn alluog) i ddarparu'r cyfryw wybodaeth, neu

(b)gweithredwr yn alluog (neu dylai fod yn alluog) i ddarparu'r cyfryw wybodaeth,

rhaid i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd, yr apelydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr, mewn ysgrifen, o'r wybodaeth bellach sy'n ofynnol.

(2Rhaid i hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (1) ddatgan yn eglur a manwl pa wybodaeth sy'n ofynnol.

(3Rhaid cyflwyno'r hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (1) ynghyd â hysbysiad ysgrifenedig o'r materion a nodir ym mharagraff 15 o Atodlen 3.

(4Rhaid darparu gwybodaeth bellach sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad o dan baragraff (1) o fewn chwe wythnos o ddyddiad yr hysbysiad, neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir gyda'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) (“y cyfnod perthnasol”).

(5Os na ddarperir gwybodaeth bellach o fewn y cyfnod perthnasol, bydd y caniatâd cynllunio y mae'r cais AEA neu'r apêl yn ymwneud ag ef yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd y cyfnod perthnasol ymlaen.

(6Nid yw hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (1) yn rhwystro awdurdod cynllunio mwynau perthnasol na Gweinidogion Cymru rhag rhoi hysbysiad ysgrifenedig pellach o dan y paragraff hwnnw neu o dan reoliad 27 (tystiolaeth).

(7Caiff awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru dynnu'n ôl hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (1) ar unrhyw bryd cyn y daw'r cyfnod perthnasol i ben.

Tystiolaeth

27.—(1Caiff awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru, drwy hysbysiad ysgrifenedig, wneud yn ofynnol bod ceisydd neu apelydd yn dangos pa bynnag dystiolaeth y galwant yn rhesymol amdani er mwyn gwirio—

(a)unrhyw wybodaeth sgrinio;

(b)unrhyw wybodaeth gwmpasu;

(c)unrhyw wybodaeth mewn datganiad amgylcheddol;

(ch)unrhyw wybodaeth bellach;

(d)unrhyw wybodaeth arall,

a gyflwynwyd gan y ceisydd neu, yn ôl y digwydd, yr apelydd.

(2Caiff awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i weithredwr ddangos pa bynnag dystiolaeth y galwant yn rhesymol amdani er mwyn gwirio unrhyw wybodaeth sgrinio, gwybodaeth gwmpasu, gwybodaeth benodedig neu unrhyw wybodaeth bellach a gyflwynwyd gan y gweithredwr yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn.

(3Rhaid cyflwyno'r hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (1) neu (2) ynghyd â hysbysiad ysgrifenedig o'r materion a nodir ym mharagraff 16 o Atodlen 3.

(4Rhaid darparu tystiolaeth sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (1) neu (2) o fewn cyfnod o chwe wythnos sy'n cychwyn ar ddyddiad yr hysbysiad, neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda'r awdurdod neu Weinidogion Cymru (“y cyfnod perthnasol”).

(5Os na ddarperir tystiolaeth sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (1) neu (2) o fewn y cyfnod perthnasol, bydd y caniatâd cynllunio y mae'r cais AEA yn ymwneud ag ef yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd y cyfnod perthnasol ymlaen.

(6Nid yw hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (1) neu (2) yn rhwystro awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru rhag rhoi hysbysiad ysgrifenedig pellach o dan y paragraffau hynny neu o dan reoliad 26 (gwybodaeth bellach).

(7Caiff awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru dynnu'n ôl hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (1) neu (2) ar unrhyw bryd cyn y daw'r cyfnod perthnasol i ben.

Gwybodaeth bellach a thystiolaeth: gwirio cyn ymgynghori

28.—(1Pan fo awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru (“y derbynnydd”) yn cael gwybodaeth bellach neu dystiolaeth, rhaid i'r derbynnydd gydymffurfio â pharagraff (4) a hysbysu'r ceisydd, yr apelydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr mewn ysgrifen yn unol â naill ai—

(a)paragraff (5); neu

(b)paragraff (8).

(2Pan fo'r derbynnydd yn awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, rhaid i'r derbynnydd gydymffurfio â pharagraff (1) o fewn tair wythnos ar ôl cael yr wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth dan sylw.

  • Ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (10).

(3Os y derbynnydd yw Gweinidogion Cymru, rhaid i'r derbynnydd gydymffurfio â pharagraff (1) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael yr wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth.

  • Ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (12).

(4Rhaid i'r derbynnydd ystyried a yw'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth wedi ei chyflwyno mewn ffurf amhriodol.

(5Os yw derbynnydd o'r farn, yn rhesymol, bod yr wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth wedi ei chyflwyno mewn ffurf amhriodol, rhaid i'r derbynnydd hysbysu'r ceisydd, yr apelydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr mewn ysgrifen, o'r canlynol—

(a)y newidiadau y mae'n ofynnol eu gwneud yn y ffurf y cyflwynir yr wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth; a

(b)y materion a nodir ym mharagraff 17 o Atodlen 3.

(6Pan yw'n ofynnol gwneud newidiadau yn y ffurf y cyflwynir gwybodaeth bellach neu dystiolaeth yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (5), rhaid ailgyflwyno'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth mewn ffurf sy'n cynnwys y newidiadau a bennir yn yr hysbysiad, o fewn tair wythnos o ddyddiad yr hysbysiad a roddwyd o dan y paragraff hwnnw neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru (“y cyfnod perthnasol”).

(7Os nad ailgyflwynir yr wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth mewn ffurf sy'n cynnwys y newidiadau a bennwyd yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddwyd o dan baragraff (5), o fewn y cyfnod perthnasol, bydd y caniatâd y mae'r cais AEA yn ymwneud ag ef yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd y cyfnod perthnasol ymlaen.

(8Os bodlonir y derbynnydd nad yw'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth wedi ei chyflwyno mewn ffurf amhriodol, rhaid i'r derbynnydd, mewn ysgrifen—

(a)cyfarwyddo'r ceisydd, yr apelydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr i gydymffurfio â rheoliad 30;

(b)pennu'r nifer o gopïau o'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth sy'n ofynnol at ddibenion dyletswyddau'r derbynnydd o dan reoliad 32;

(c)pan fo'r derbynnydd yn ymwybodol bod y cais yn effeithio, neu'n debygol o effeithio, ar unrhyw berson penodol, neu fod gan y person fuddiant yn y cais a'i fod yn annhebygol o ddod i wybod am y cais drwy gyfrwng hysbysiad ar y safle neu hysbyseb leol, enwi unrhyw berson o'r fath;

(ch)hysbysu'r ceisydd, yr apelydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr, o'r materion a nodir ym mharagraff 18 o Atodlen 3.

(9Pan fo'r derbynnydd yn awdurdod cynllunio mwynau perthnasol a'r derbynnydd wedi ei fodloni, fel a grybwyllir ym mharagraff (8) o ganlyniad i wybodaeth bellach neu dystiolaeth a ailgyflwynwyd yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddwyd o dan baragraff (5), rhaid i'r derbynnydd gydymffurfio â pharagraff (8) o fewn tair wythnos ar ôl cael yr wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth dan sylw a ailgyflwynwyd.

  • Ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (10).

(10Pan fo'r derbynnydd yn awdurdod cynllunio mwynau perthnasol a'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth a gafwyd ganddo yn ymwneud â chais nad oes hysbysiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 18(21) eto wedi ei roi ynglŷn ag ef, nid oes raid i'r derbynnydd gydymffurfio â pharagraff (8) o fewn tair wythnos ar ôl derbyn yr wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth dan sylw neu, yn ôl y digwydd, o fewn tair wythnos ar ôl derbyn yr wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth ail-gyflwynedig dan sylw, ond rhaid i'r derbynnydd gydymffurfio â'r paragraff hwnnw o fewn 14 diwrnod o'r dyddiad y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 18(21).

(11Os y derbynnydd yw Gweinidogion Cymru a'r derbynnydd wedi ei fodloni, fel a grybwyllir ym mharagraff (8) o ganlyniad i wybodaeth bellach neu dystiolaeth a ailgyflwynwyd yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddwyd o dan baragraff (5), rhaid i'r derbynnydd gydymffurfio â pharagraff (8) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael yr wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth dan sylw.

  • Ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (12).

(12Os y derbynnydd yw Gweinidogion Cymru a'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth a gafwyd ganddynt yn ymwneud â chais neu apêl nad oes hysbysiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 18(21) eto wedi ei roi ynglŷn ag ef, nid oes raid i'r derbynnydd gydymffurfio â pharagraff (8) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl derbyn yr wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth dan sylw neu, yn ôl y digwydd, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl derbyn yr wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth ail-gyflwynedig dan sylw, ond rhaid i'r derbynnydd gydymffurfio â'r paragraff hwnnw cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 18(21).

(13Nid yw hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan y rheoliad hwn yn rhwystro awdurdod cynllunio mwynau perthnasol na Gweinidogion Cymru rhag rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 26 (gwybodaeth bellach) neu 27 (tystiolaeth).

(14Caiff awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru dynnu'n ôl hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (5) ar unrhyw bryd cyn y daw'r cyfnod perthnasol i ben.

Gwybodaeth bellach a thystiolaeth: gofyniad i gyflwyno tystiolaeth ddogfennol o gyhoeddi

29.—(1Rhaid i geisydd, apelydd neu weithredwr a hysbysir o dan reoliad 28(8) gydymffurfio â rheoliad 30 o fewn chwe wythnos i ddyddiad yr hysbysiad hwnnw, neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda'r awdurdod neu, yn ôl y digwydd, gyda Gweinidogion Cymru (“y cyfnod perthnasol”).

(2Os nad yw ceisydd, apelydd neu weithredwr a hysbyswyd o dan reoliad 28(8) yn cydymffurfio â rheoliad 30 o fewn y cyfnod perthnasol, bydd y caniatâd y mae'r cais AEA yn ymwneud ag ef yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd y cyfnod perthnasol ymlaen.

PENNOD 5Gwybodaeth Bellach a Thystiolaeth: Ymgynghori a Chyfranogiad y Cyhoedd

Gwybodaeth bellach neu dystiolaeth: y gofynion cyhoeddusrwydd

30.—(1Rhaid i'r ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr gyhoeddi mewn papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi, hysbysiad sy'n datgan—

(a)enw'r person a wnaeth gais am benderfynu, neu a apeliodd mewn perthynas â phenderfynu yr amodau y bydd y caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddynt, y darpariaethau perthnasol o Ddeddf 1991 neu 1995 y gwneir y cais yn unol â hwy ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol;

(b)y dyddiad y gwnaed y cais, a'r dyddiad, os digwyddodd hynny, y'i hatgyfeiriwyd at Weinidogion Cymru i'w benderfynu neu y daeth yn destun apêl iddynt;

(c)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad arfaethedig;

(ch)bod copi o'r cais a chopïau o unrhyw gynllun a dogfennau eraill a gyflwynwyd ynghyd ag ef, ar gael i'w harchwilio gan aelodau'r cyhoedd yn ystod unrhyw oriau rhesymol;

(d)os bu datganiad amgylcheddol yn destun hysbysiad ysgrifenedig a roddwyd o dan reoliad 18(21), y caiff aelodau'r cyhoedd archwilio copi o'r datganiad amgylcheddol yn ystod unrhyw oriau rhesymol;

(dd)os bu gwybodaeth bellach neu dystiolaeth, yn gynharach, yn destun hysbysiad ysgrifenedig a roddwyd o dan reoliad 28(8), y caiff aelodau'r cyhoedd archwilio copi o'r wybodaeth neu'r dystiolaeth honno yn ystod unrhyw oriau rhesymol;

(e)os cyhoeddwyd gwybodaeth berthnasol arall yn gynharach yn unol â rheoliad 37, y caiff aelodau'r cyhoedd archwilio copi o'r wybodaeth berthnasol arall honno yn ystod unrhyw oriau rhesymol;

(f)bod gwybodaeth bellach neu dystiolaeth ar gael mewn cysylltiad â chais AEA;

(ff)y caiff aelodau'r cyhoedd archwilio copi o'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth honno yn ystod unrhyw oriau rhesymol;

(g)cyfeiriad o fewn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi, lle y gellir archwilio'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth honno a'r dyddiad olaf pan fydd ar gael i'w harchwilio (sef dyddiad na fydd yn gynharach nag 21 diwrnod ar ôl y dyddiad pan gyhoeddir yr hysbysiad);

(ng)cyfeiriad o fewn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi, lle y gellir archwilio copïau o'r cais, unrhyw ddatganiad amgylcheddol, unrhyw wybodaeth bellach neu dystiolaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (dd), neu unrhyw wybodaeth berthnasol arall o'r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (e);

(h)cyfeiriad o fewn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi (pa un ai'r un cyfeiriad ai peidio â hwnnw a roddir yn unol ag is-baragraff (g)), lle y gellir cael copïau o'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth honno;

(i)y gellir cael copïau yno cyhyd â bo'r stoc yn parhau;

(j)os oes bwriad i godi tâl am gopi, y swm a godir;

(l)y dylai unrhyw berson sy'n dymuno gwneud sylwadau ynglŷn â'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth eu cyflwyno mewn ysgrifen i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu, yn ôl y digwydd, i Weinidogion Cymru cyn diwedd 21 o ddiwrnodau o ddyddiad yr hysbysiad; ac

(ll)y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.

(2Pan fo'r ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr wedi ei hysbysu ynghylch unrhyw berson penodol yr effeithir arno, neu y mae'n debygol yr effeithir arno, neu sydd â buddiant yn y cais AEA, rhaid i'r ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr gyflwyno hysbysiad i bob person o'r fath; a rhaid i'r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (1), ac eithrio rhaid i'r dyddiad a bennir fel y dyddiad olaf y bydd y dogfennau ar gael i'w harchwilio beidio â bod yn gynharach nag 21 diwrnod ar ôl y dyddiad pan gyflwynir yr hysbysiad gyntaf.

(3Rhaid i'r ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr, ac eithrio pan nad oes ganddo'r cyfryw hawliau a fyddai'n ei alluogi i wneud hynny ac nad oedd modd iddo, yn rhesymol, gaffael yr hawliau hynny, arddangos hysbysiad ar y tir, a fydd yn cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (1), ac eithrio rhaid i'r dyddiad a bennir fel y dyddiad olaf y bydd dogfennau ar gael i'w harchwilio beidio â bod yn gynharach nag 21 diwrnod ar ôl y dyddiad pan arddangosir yr hysbysiad gyntaf.

(4Rhaid i'r hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (3)—

(a)cael ei adael yn ei le am ddim llai na saith niwrnod yn ystod y 28 diwrnod yn union cyn y dyddiad y cyflwynir y dystysgrif sy'n ofynnol yn unol â rheoliad 31(2)(b); a

(b)cael ei gysylltu'n gadarn wrth ryw wrthrych ar y tir a'i leoli a'i arddangos mewn modd sy'n galluogi aelodau'r cyhoedd i'w weld yn rhwydd a'i ddarllen heb fynd ar y tir.

Tystiolaeth ddogfennol sydd i'w chyflwyno i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu i Weinidogion Cymru yn dilyn cyhoeddusrwydd ynghylch gwybodaeth bellach neu dystiolaeth

31.—(1Rhaid i geisydd neu weithredwr a hysbysir yn unol â rheoliad 28(8) gyflwyno—

(a)os rhoddwyd yr hysbysiad gan awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, i'r awdurdod hwnnw;

(b)os rhoddwyd yr hysbysiad gan awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, a chyn cyflwyno'r dogfennau sy'n ofynnol o dan y rheoliad hwn, atgyfeiriwyd y cais AEA at Weinidogion Cymru i'w benderfynu, i Weinidogion Cymru; neu

(c)os rhoddwyd yr hysbysiad gan Weinidogion Cymru, i Weinidogion Cymru,

y dogfennau a bennir ym mharagraff (2).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r hysbysiad a grybwyllir yn rheoliad 30(1) wedi ei ardystio gan neu ar ran y ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr fel hysbysiad a gyhoeddwyd mewn papur newydd a enwyd ar ddyddiad a bennir yn y dystysgrif;

(b)tystysgrif gan neu ar ran y ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr sy'n datgan naill ai—

(i)bod y ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr wedi arddangos hysbysiad ar y tir er mwyn cydymffurfio â'r rheoliad hwn, a'r dyddiad yr arddangoswyd yr hysbysiad felly, ac naill ai bod yr hysbysiad wedi ei adael yn ei le am ddim llai na saith niwrnod yn ystod y 28 diwrnod yn union cyn y dyddiad y cyflwynwyd y dystysgrif neu, heb fai na bwriad ar ran y ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr, y symudwyd, cuddiwyd neu difwynwyd yr hysbysiad cyn i'r saith niwrnod ddod i ben a bod y ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr wedi cymryd camau rhesymol i'w ddiogelu neu ei amnewid, gan nodi'r camau a gymerwyd; neu

(ii)nad oedd modd i'r ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr gydymffurfio â rheoliad 30(3) a (4) oherwydd nad oedd gan y ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr yr hawliau angenrheidiol i wneud hynny; bod y ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr wedi cymryd pa bynnag gamau rhesymol oedd yn agored i'r ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr er mwyn caffael yr hawliau hynny; ac na lwyddodd i wneud hynny, gan nodi'r camau a gymerwyd; ac

(c)pan fo'r ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr wedi ei hysbysu ynghylch unrhyw berson penodol y mae'n debygol yr effeithir arno gan y cais, neu sydd â buddiant yn y cais, copi o'r hysbysiad a grybwyllir yn rheoliad 30(2), wedi ei ardystio gan neu ar ran y ceisydd, apelydd neu weithredwr fel hysbysiad a roddwyd ar ddyddiad a bennir yn y dystysgrif.

(3Os yw unrhyw berson yn dyroddi tystysgrif sy'n honni cydymffurfio â gofynion paragraff (2)(b) ac yn cynnwys datganiad y gŵyr y person hwnnw ei fod yn ffug neu gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn perthnasol, neu'n dyroddi yn ddi-hid dystysgrif sy'n honni cydymffurfio â'r gofynion hynny ac yn cynnwys datganiad sy'n ffug neu gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn perthnasol, mae'r person hwnnw yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Gweithdrefn yn dilyn hysbysiad a roddir o dan reoliad 28(8)

32.—(1Rhaid i geisydd, apelydd neu weithredwr a hysbysir o dan reoliad 28(8), o fewn saith niwrnod o ddyddiad yr hysbysiad hwnnw, ddarparu i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu i Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd), pa bynnag nifer o gopïau o'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth a bennir yn yr hysbysiad a roddir o dan y rheoliad hwnnw.

(2Rhaid i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, o fewn 14 diwrnod o ddyddiad hysbysiad a roddir ganddo o dan reoliad 28(8)—

(a)anfon at Weinidogion Cymru ddau gopi o'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi;

(b)anfon copi at bob un o'r cyrff ymgynghori o'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi; ac

(c)rhoi i bob corff ymgynghori hysbysiad ysgrifenedig sy'n datgan y dylai unrhyw sylwadau y bydd y corff yn dymuno'u gwneud wrth ymateb i'r ymgynghoriad gael eu gwneud mewn ysgrifen i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol o fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad (neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir rhwng yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol a'r corff ymgynghori).

(3Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl dyddiad hysbysiad a roddir ganddynt o dan reoliad 28(8)—

(a)anfon copi at bob un o'r cyrff ymgynghori o'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi;

(b)rhoi i bob corff ymgynghori hysbysiad ysgrifenedig sy'n datgan y dylai unrhyw sylwadau y dymuna'r corff wneud wrth ymateb i'r ymgynghoriad gael eu gwneud mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru o fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad (neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir rhwng Gweinidogion Cymru a'r corff ymgynghori); ac

(c)anfon copi o'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol.

(4Pan fo awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 28(8), rhaid i'r awdurdod neu, yn ôl y digwydd, Gweinidogion Cymru, ymatal rhag ystyried y cais neu'r apêl o dan sylw hyd nes y daw'r cyfnod perthnasol sy'n gymwys yn unol â rheoliad 29(1) i ben; a rhaid iddo neu rhaid iddynt beidio â phenderfynu'r cais neu'r apêl hyd nes y daw yr 21 diwrnod sy'n dilyn y dyddiad y bydd y cyfnod perthnasol hwnnw'n gorffen, i ben.

Argaeledd copïau o wybodaeth bellach a thystiolaeth

33.  Rhaid i geisydd, apelydd neu weithredwr y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig iddo o dan reoliad 28(8) sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth ar gael yn y cyfeiriad a enwir yn yr hysbysiadau a gyhoeddir neu a arddangosir yn unol â rheoliad 30 fel y cyfeiriad lle y gellir cael copïau o'r fath.

Darparu copïau o wybodaeth bellach a thystiolaeth i Weinidogion Cymru yn dilyn atgyfeirio neu apêl

34.  Pan fo cais AEA wedi ei atgyfeirio at, neu'n destun apêl i Weinidogion Cymru ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, caiff Gweinidogion Cymru, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd, yr apelydd neu weithredwr ddarparu pa bynnag nifer o gopïau o unrhyw wybodaeth bellach neu dystiolaeth y tybiant sydd eu hangen, o fewn pa bynnag gyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

Codi tâl am gopïau o wybodaeth bellach a thystiolaeth

35.  Ceir codi tâl rhesymol, sy'n adlewyrchu'r costau argraffu a dosbarthu, ar aelod o'r cyhoedd am gopi a roddir ar gael yn unol â rheoliad 33 o wybodaeth bellach neu dystiolaeth.

PENNOD 6Gwybodaeth Arall etc.

Adroddiadau, cyngor ac unrhyw wybodaeth arall

36.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i wybodaeth o'r math canlynol—

(a)unrhyw wybodaeth arall;

(b)unrhyw adroddiad mewn cysylltiad â chais neu apêl AEA, a ddyroddir i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu i Weinidogion Cymru ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym; ac

(c)unrhyw gyngor mewn cysylltiad â chais neu apêl AEA, a ddarperir i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu i Weinidogion Cymru ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys i wybodaeth o'r math canlynol—

(a)unrhyw adroddiad mewn cysylltiad â chais neu apêl AEA, a ddyroddir i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym; a

(b)unrhyw gyngor mewn cysylltiad â chais neu apêl AEA, a ddarperir i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw wybodaeth o'r math a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) neu (c)—

(a)y mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn gymwys iddi, pe bai hawl gan y person sy'n dal yr wybodaeth i wrthod ei datgelu wrth ymateb i gais a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hynny; neu

(b)a fyddai, mewn unrhyw achos arall, yn wybodaeth esempt pe gwneid cais am ei datgelu yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

(4Nid yw paragraff (2) yn gymwys i unrhyw wybodaeth o'r math a grybwyllir ynddo—

(a)y mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn gymwys iddi, pe bai hawl gan y person sy'n dal yr wybodaeth i wrthod ei datgelu wrth ymateb i gais a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hynny; neu

(b)a fyddai, mewn unrhyw achos arall, yn wybodaeth esempt pe gwneid cais am ei datgelu yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

(5Pan fo awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru (“y derbynnydd”) yn cael neu'n dal unrhyw wybodaeth y mae paragraff (1) neu (2) yn gymwys iddi, a'r derbynnydd o'r farn bod yr wybodaeth yn ymwneud â phrif effeithiau'r datblygiad AEA dan sylw, neu'n berthnasol o ran penderfynu'r amodau y bydd y caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddynt (“gwybodaeth berthnasol arall”), rhaid i'r derbynnydd—

(a)cyhoeddi'r wybodaeth berthnasol arall honno yn unol â rheoliad 37; a

(b)os yw'r wybodaeth berthnasol arall yn wybodaeth o'r math a grybwyllir ym mharagraff (1)(a), hysbysu'r ceisydd neu'r apelydd mewn ysgrifen o'r canlynol—

(i)y nifer o gopïau o'r wybodaeth berthnasol arall sy'n ofynnol ar ddibenion y ddyletswydd a osodir ar yr awdurdod neu, yn ôl y digwydd, Weinidogion Cymru, gan reoliad 38;

(ii)y ddyletswydd a osodir gan reoliad 39(1); a

(iii)yr hawl a roddir gan reoliad 41.

(6Pan fo'r derbynnydd yn awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, a'r wybodaeth berthnasol arall yn wybodaeth y mae paragraff (1) yn gymwys iddi, rhaid i'r derbynnydd gydymffurfio â pharagraff (5) o fewn 14 diwrnod ar ôl cael yr wybodaeth berthnasol arall.

  • Ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (10).

(7Pan fo'r derbynnydd yn awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, a'r wybodaeth berthnasol arall yn wybodaeth y mae paragraff (2) yn gymwys iddi, rhaid i'r derbynnydd gydymffurfio â pharagraff (5) o fewn tair wythnos o'r dyddiad y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig gan yr awdurdod yn unol â rheoliad 18(21).

(8Os y derbynnydd yw Gweinidogion Cymru a'r wybodaeth berthnasol arall yn wybodaeth y mae paragraff (1) yn gymwys iddi, rhaid i'r derbynnydd gydymffurfio â pharagraff (5) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael yr wybodaeth berthnasol arall.

  • Ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (11).

(9Os y derbynnydd yw Gweinidogion Cymru a'r wybodaeth berthnasol arall yn wybodaeth y mae paragraff (2) yn gymwys iddi, rhaid i'r derbynnydd gydymffurfio â pharagraff (5) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 18(21).

(10Pan fo'r derbynnydd yn awdurdod cynllunio mwynau perthnasol ac yn cael yr wybodaeth berthnasol arall mewn perthynas â chais AEA nad oes hysbysiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 18(21) eto wedi ei roi ynglŷn ag ef, nid oes raid i'r derbynnydd gydymffurfio â pharagraff (5) o fewn 14 diwrnod ar ôl cael yr wybodaeth berthnasol arall dan sylw, ond rhaid iddo gydymffurfio â'r paragraff hwnnw o fewn 14 diwrnod o'r dyddiad y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 18(21).

(11Os y derbynnydd yw Gweinidogion Cymru ac os yw'r wybodaeth berthnasol arall a gânt yn ymwneud â chais AEA nad oes hysbysiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 18(21) eto wedi ei roi ynglŷn ag ef, nid oes raid i'r derbynnydd gydymffurfio â pharagraff (8) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael yr wybodaeth berthnasol arall dan sylw, ond rhaid iddo gydymffurfio â'r paragraff hwnnw cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad y bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 18(21).

(12Pan fo awdurdod cynllunio mwynau perthnasol yn dal gwybodaeth y mae paragraff (2) yn gymwys iddi mewn cysylltiad â chais AEA—

(a)a atgyfeirir at Weinidogion Cymru ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym; a

(b)nad oes hysbysiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 18(21) eto wedi ei roi mewn perthynas ag ef,

rhaid i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol ddarparu'r wybodaeth honno i Weinidogion Cymru o fewn 14 diwrnod o'r dyddiad yr atgyfeirir y cais felly.

(13Nid yw'r ffaith bod gwybodaeth wedi dod i law Gweinidogion Cymru yn unol â pharagraff (12) yn ei gwneud yn ofynnol i'r wybodaeth honno gael ei thrin fel gwybodaeth y mae paragraff (1) yn gymwys iddi.

PENNOD 7Gwybodaeth Berthnasol Arall: Ymgynghori a Chyfranogiad y Cyhoedd

Gwybodaeth berthnasol arall: y gofynion cyhoeddusrwydd

37.—(1Rhaid i'r derbynnydd gyhoeddi mewn papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi, hysbysiad sy'n datgan—

(a)enw'r person a wnaeth gais am benderfynu, neu a apeliodd mewn perthynas â phenderfynu yr amodau y bydd y caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddynt, y darpariaethau perthnasol o Ddeddf 1991 neu 1995 y gwneir y cais yn unol â hwy ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol;

(b)y dyddiad y gwnaed y cais, a'r dyddiad, os digwyddodd hynny, y'i hatgyfeiriwyd at Weinidogion Cymru i'w benderfynu neu y daeth yn destun apêl iddynt;

(c)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad arfaethedig;

(ch)bod copi o'r cais a chopïau o unrhyw gynllun a dogfennau eraill a gyflwynwyd ynghyd ag ef, ar gael i'w harchwilio gan aelodau'r cyhoedd yn ystod unrhyw oriau rhesymol;

(d)os bu datganiad amgylcheddol yn destun hysbysiad ysgrifenedig a roddwyd o dan reoliad 18(21), y caiff aelodau'r cyhoedd archwilio copi o'r datganiad amgylcheddol yn ystod unrhyw oriau rhesymol;

(dd)os bu gwybodaeth bellach neu dystiolaeth yn destun hysbysiad ysgrifenedig a roddwyd o dan reoliad 28(8), y caiff aelodau'r cyhoedd archwilio copi o'r wybodaeth neu'r dystiolaeth honno yn ystod unrhyw oriau rhesymol;

(e)os cyhoeddwyd gwybodaeth berthnasol arall yn gynharach yn unol â rheoliad 37, y caiff aelodau'r cyhoedd archwilio copi o'r wybodaeth berthnasol arall honno yn ystod unrhyw oriau rhesymol;

(f)bod gwybodaeth berthnasol arall ar gael mewn cysylltiad â chais AEA;

(ff)y caiff aelodau'r cyhoedd archwilio copi o'r wybodaeth berthnasol arall honno yn ystod unrhyw oriau rhesymol;

(g)cyfeiriad o fewn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi, lle y gellir archwilio'r wybodaeth berthnasol arall honno a'r dyddiad olaf pan fydd ar gael i'w harchwilio (sef dyddiad na fydd yn gynharach nag 21 diwrnod ar ôl y dyddiad pan gyhoeddir yr hysbysiad);

(ng)cyfeiriad o fewn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi, lle y gellir archwilio copïau o'r cais, unrhyw ddatganiad amgylcheddol, unrhyw wybodaeth bellach neu dystiolaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (dd), neu unrhyw wybodaeth berthnasol arall o'r math a grybwyllwyd yn is-baragraff (e);

(h)cyfeiriad o fewn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi (pa un ai'r un cyfeiriad ai peidio â hwnnw a roddir yn unol ag is-baragraff (g)), lle y gellir cael copïau o'r wybodaeth berthnasol arall honno;

(i)y gellir cael copïau yno cyhyd â bo'r stoc yn parhau;

(j)os oes bwriad i godi tâl am gopi, y swm a godir;

(l)y dylai unrhyw berson sy'n dymuno gwneud sylwadau ynglŷn â'r wybodaeth berthnasol arall eu cyflwyno mewn ysgrifen i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) cyn diwedd 21 o ddiwrnodau o ddyddiad yr hysbysiad; ac

(ll)y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.

(2Pan fo'r derbynnydd yn ymwybodol o unrhyw berson penodol yr effeithir arno, neu y mae'n debygol yr effeithir arno, neu sydd â buddiant yn y cais, rhaid i'r derbynnydd gyflwyno hysbysiad i bob person o'r fath; a rhaid i'r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (1), ac eithrio rhaid i'r dyddiad a bennir fel y dyddiad olaf y bydd y dogfennau ar gael i'w harchwilio beidio â bod yn gynharach nag 21 diwrnod ar ôl y dyddiad pan gyflwynir yr hysbysiad gyntaf.

(3Rhaid i'r derbynnydd, ac eithrio pan nad oes ganddo'r cyfryw hawliau a fyddai'n ei alluogi i wneud hynny ac nad oedd modd iddo, yn rhesymol, gaffael yr hawliau hynny, arddangos neu drefnu arddangos hysbysiad ar y tir, a fydd yn cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (1), ac eithrio rhaid i'r dyddiad a bennir fel y dyddiad olaf y bydd dogfennau ar gael i'w harchwilio beidio â bod yn gynharach nag 21 diwrnod ar ôl y dyddiad pan arddangosir yr hysbysiad gyntaf.

(4Rhaid i'r hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (3)—

(a)gael ei adael yn ei le am ddim llai na 14 diwrnod; a

(b)cael ei gysylltu'n gadarn wrth ryw wrthrych ar y tir a'i leoli a'i arddangos mewn modd sy'n galluogi aelodau'r cyhoedd i'w weld yn rhwydd a'i ddarllen heb fynd ar y tir.

Gweithdrefn yn dilyn cyhoeddi o dan reoliad 37

38.—(1Rhaid i geisydd neu apelydd a hysbysir o dan reoliad 36(5)(b), o fewn saith niwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwnnw, ddarparu i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu i Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd), pa bynnag nifer o gopïau o'r wybodaeth bellach arall a bennir yn yr hysbysiad a roddir o dan y rheoliad hwnnw.

(2Rhaid i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, o fewn 14 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi hysbysiad o dan reoliad 37—

(a)anfon at Weinidogion Cymru ddau gopi o'r wybodaeth berthnasol arall y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi;

(b)anfon copi o'r wybodaeth berthnasol arall at bob un o'r cyrff ymgynghori; ac

(c)rhoi i bob corff ymgynghori hysbysiad ysgrifenedig sy'n datgan y dylai unrhyw sylwadau y bydd y corff yn dymuno'u gwneud wrth ymateb i'r ymgynghoriad ynglŷn â'r wybodaeth berthnasol arall gael eu gwneud mewn ysgrifen i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol o fewn 21 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad (neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir rhwng yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol a'r corff ymgynghori).

(3Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl dyddiad cyhoeddi hysbysiad o dan reoliad 37—

(a)anfon copi o'r wybodaeth berthnasol arall at bob un o'r cyrff ymgynghori;

(b)rhoi i bob corff ymgynghori hysbysiad ysgrifenedig sy'n datgan y dylai unrhyw sylwadau y dymuna'r corff eu gwneud wrth ymateb i'r ymgynghoriad ynglŷn â'r wybodaeth berthnasol arall gael eu gwneud mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru o fewn 21 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad (neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir rhwng Gweinidogion Cymru a'r corff ymgynghori); ac

(c)anfon copi o'r wybodaeth berthnasol arall at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol.

(4Pan gyhoeddir gwybodaeth berthnasol arall yn unol â rheoliad 37, rhaid i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu (yn ôl y digwydd), Gweinidogion Cymru, beidio â phenderfynu'r cais neu'r apêl tan ddiwedd cyfnod o 21 diwrnod ar ôl y diweddaraf o'r dyddiadau canlynol—

(a)y dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad o'r wybodaeth berthnasol arall mewn papur newydd lleol yn unol â rheoliad 37(1);

(b)y dyddiad (os oedd un) y cyflwynwyd hysbysiad o'r wybodaeth berthnasol arall yn unol â rheoliad 37(2);

(c)y dyddiad yr arddangoswyd hysbysiad o'r wybodaeth berthnasol arall ar y tir yn unol â rheoliad 37(3);

(ch)y dyddiad yr anfonwyd yr wybodaeth berthnasol arall at y cyrff ymgynghori yn unol â'r rheoliad hwn.

Argaeledd copïau o wybodaeth berthnasol arall

39.—(1Rhaid i geisydd, neu apelydd sy'n cael hysbysiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 36(5)(b) sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o'r wybodaeth berthnasol arall sy'n destun yr hysbysiad ar gael yn y cyfeiriad a enwir yn yr hysbysiad a gyhoeddir yn unol â rheoliad 37(1) fel y cyfeiriad lle y gellir cael copïau o'r fath.

(2Pan fo awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth berthnasol arall o'r math a grybwyllir yn rheoliad 36(1)(b) neu (c), neu wybodaeth berthnasol arall y mae rheoliad 36(2) yn gymwys iddi, rhaid i'r awdurdod neu, yn ôl y digwydd, Gweinidogion Cymru, sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o'r wybodaeth berthnasol arall honno ar gael yn y cyfeiriad a enwir yn yr hysbysiad a gyhoeddir yn unol â rheoliad 37(1) fel y cyfeiriad lle y gellir cael copïau o'r fath.

Darparu copïau o wybodaeth berthnasol arall i Weinidogion Cymru yn dilyn atgyfeirio neu apêl

40.  Pan atgyfeirir cais AEA at Weinidogion Cymru neu pan fo'n destun apêl i Weinidogion Cymru ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, caiff Gweinidogion Cymru, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd ddarparu pa bynnag nifer o gopïau o unrhyw wybodaeth berthnasol arall, o'r math y cyfeirir ato yn rheoliad 36(1)(a), ag y tybiant sydd eu hangen, o fewn pa bynnag gyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

Codi tâl am gopïau o wybodaeth berthnasol arall

41.  Ceir codi tâl rhesymol, sy'n adlewyrchu'r costau argraffu a dosbarthu, ar aelod o'r cyhoedd am gopi o wybodaeth berthnasol arall a roddir ar gael yn unol â rheoliad 39(1).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill