- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliad 8
1.—(1) Yn unol ag Erthygl 7(1), yr indent cyntaf ac Erthygl 7(4) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 (cadw cofrestr cyfredol) mae unrhyw berson sy'n methu â llenwi cofrestr yn unol â'r paragraff hwn, yn euog o dramgwydd.
(2) Rhaid iddo lenwi'r gofrestr ar yr adegau canlynol—
(a)yn achos symud anifail i ddaliad neu oddi arno, o fewn 36 o oriau ar ôl y symud;
(b)yn achos genedigaeth anifail mewn buches odro, o fewn saith niwrnod ar ôl yr enedigaeth;
(c)yn achos genedigaeth anifail nad yw mewn buches odro, o fewn 30 o ddiwrnodau ar ôl yr enedigaeth;
(ch)yn achos marwolaeth anifail, o fewn 7 niwrnod ar ôl y farwolaeth;
(d)yn achos ailosod tag clust o'r newydd pan fo newid yn Rhif y tag clust, o fewn 36 o oriau ar ôl ei ailosod.
(3) Rhaid i'r gofrestr gynnwys yr wybodaeth yn Erthygl 8 o 911/2004 ac, yn ychwanegol at hynny, manylion pwy yw'r fam (yn achos trosglwyddo embryo, manylion pwy yw'r fam fenthyg ac, os yw'n hysbys, y fam enetig)(1) (yn achos anifail a anwyd cyn 1 Ebrill 1995 nad oes ganddo dag clust, rhaid cofnodi'r marc adnabod yn hytrach na'r Rhif tag clust).
2. Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 7(3) (darparu gwybodaeth) yn euog o dramgwydd.
3.—(1) At ddibenion Erthygl 7(4) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000, rhaid cadw'r gofrestr am 10 mlynedd yn achos fferm a 3 blynedd mewn unrhyw achos arall, ac yn y ddau achos o ddiwedd y flwyddyn galendr y gwnaed y cofnod diwethaf ynddi; a rhaid cadw unrhyw gofnod a wnaed o dan Orchymyn Anifeiliaid Buchol (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995 am yr un cyfnod.
(2) Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
Mae'r wybodaeth sy'n ofynnol a fformat addas ar gael yn http//defraweb/animalh/tracing/cattle/passport/records/records-index.htm
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys