- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
COMISIYNYDD PLANT, CYMRU
Wedi'u gwneud
6 Chwefror 2007
Yn dod i rym
9 Chwefror 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 74(2) (d) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 9 Chwefror 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
“y Comisiynydd” (“the Commissioner”) yw Comisiynydd Plant Cymru.
“y cyfnod cychwynnol” (“the initial period”) yw y cyfnod cychwynnol fel y'i diffinir yn adran 161(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
“y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000.
3.—(1) Diwygir Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001(2) yn unol â'r darpariaethau a ganlyn o'r rheoliad hwn.
(2) Yn dilyn dod i ben y cyfnod cychwynnol, ar gyfer y dehongliad o “y Prif Weinidog” (“the First Minister”) rhodder y diffiniad canlynol:—
ystyr “y Prif Weinidog” (“the First Minister”) yw'r person a benodir o dro i dro fel Prif Weinidog Cymru o dan adran 46(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
(3) Diwygier rheoliad 13 fel a ganlyn —
(a) Ar ôl rheoliad 13(2), ychwaneger—
“(2A) Os bydd y Comisiynydd a'r Comisiynydd ar gyfer Pobl Hyn yng Nghymru yn cyflawni eu priod swyddogaethau o dan y Ddeddf ac o dan Ddeddf Comisiynydd ar gyfer Pobl Hyn (Cymru) 2006(3) ynghylch yr un mater caiff y Comisiynydd lunio adroddiad ar y cyd â'r Comisiynydd ar gyfer Pobl Hyn yng Nghymru.”
(b)Yn rheoliad 13(3), yn lle “(1) neu (2)” rhodder “(1), (2) neu (2A).”
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Chwefror 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan VI o Reoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001 sy'n gwneud darpariaeth parthed swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru (“y Comisiynydd”).
Mae Rhan VI o Reoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001 yn darparu ar gyfer gwneud adroddiadau penodol gan y Comisiynydd.
Diwygir Rhan VI er mwyn caniatáu, pan fo'r Comisiynydd a'r Comisiynydd ar gyfer Pobl Hyn yng Nghymru yn cyflawni swyddogaethau mewn perthynas â'r un mater, i'r Comisiynydd a'r Comisiynydd ar gyfer Pobl Hyn yng Nghymru lunio adroddiad ar y cyd. Ceir darpariaeth debyg yn Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hyn Cymru 2007.
Yn ogystal mae'r rheoliadau hyn yn diwygio y diffiniad o'r Prif Weinidog yn y Rheoliadau yn union ar ôl terfyn y Cyfnod Cychwynnol a nodir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, fel y diffinir y Prif Weinidog fel y Prif Weinidog a apwyntir o dan adran 46(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Mae Arfarniad Rheoliadol ar effaith posibl y rheoliadau hyn ar gost busnes wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys