Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 3070 (Cy.264)

ANIFEILIAID, CYMRU

LLES ANIFEILIAID

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007

Gwnaed

23 Hydref 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

27 Medi 2007

Yn dod i rym

24 Hydref 2007

Gweinidogion Cymru, o ran Cymru, yw'r awdurdod cenedlaethol priodol at ddibenion arfer y pwerau a roddwyd gan adran 12(1), (2) a (3) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006(1), ac maent yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau hynny.

Yn unol ag adran 12(6) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori fel yr ystyrient yn briodol â'r personau hynny yr ymddangosai iddynt oedd yn cynrychioli buddiannau y mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwy.

Yn unol ag adran 61(2) o'r Ddeddf honno, mae drafft o'r Rheoliadau hyn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo trwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cymhwyso a chychwynLL+C

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007. Maent yn gymwys o ran Cymru; ac maent yn dod i rym ar 24 Hydref 2007.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Diffiniadau a dehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sy'n gyfrifol am anifeiliaid neu â gofal ohonynt, p'un ai ar sail barhaol neu dros dro;

ystyr “iâr ddodwy” (“laying hen”) yw iâr o'r rhywogaeth Gallus gallus sydd wedi cyrraedd aeddfedrwydd dodwy ac a gedwir ar gyfer cynhyrchu wyau na fwriedir iddynt ddeor;

ystyr “llaesodr” (“litter”), mewn perthynas â ieir dodwy, yw unrhyw ddefnydd hyfriw sy'n galluogi'r ieir i ddiwallu eu hanghenion etholegol;

ystyr “lle y gellir ei ddefnyddio” (“usable area”) yw lle a ddefnyddir gan ieir dodwy, nad yw'n cynnwys y lle a gymerir gan nyth, sydd â'i led yn 30 cm o leiaf a goleddf ei lawr heb fod yn fwy na 14% ac sy'n 45 cm o uchder o leiaf;

ystyr “llo” (“calf”) yw anifail buchol hyd at chwe mis oed;

ystyr “mochyn” (“pig”) yw anifail o'r rywogaeth y mochyn o unrhyw oedran a gedwir ar gyfer bridio neu besgi;

ystyr “nyth” (“nest”) yw lle ar wahân ar gyfer dodwy wyau, sef lle na chaiff cydrannau ei lawr gynnwys rhwyllau gwifrog a all ddod i gysylltiad â'r adar, ar gyfer iâr unigol neu grwp o ieir;

mae i'r ymadrodd “person sy'n gyfrifol” am anifail yr ystyr a roddir i “person responsible” yn adran 3 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.

(2Mae i ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, nas diffinnir yn y Rheoliadau hyn ac a ddefnyddir yn y Cyfarwyddebau canlynol, yr ystyr sydd iddo yn y Cyfarwyddebau hynny—

(a)mewn perthynas â moch, Cyfarwyddebau 91/630/EEC(2), 2001/88/EC(3) a 2001/93/EC(4);

(b)mewn perthynas â ieir dodwy, Cyfarwyddeb 99/74/EC(5); ac

(c)mewn perthynas â lloi, Cyfarwyddebau 91/629/EEC(6), 97/2/EC(7) a 97/182/EC(8).

(3Mae i ymadrodd a ddefnyddir yn rheoliad 4 neu Atodlen 1, nas diffinnir yn y Rheoliadau hyn ac sy'n ymddangos yng Nghyfarwyddeb 98/58/EC(9), yr un ystyr sydd iddo at ddibenion y Gyfarwyddeb honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Anifeiliaid y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddyntLL+C

3.—(1Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i anifeiliaid a ffermir yn unig.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “anifail a ffermir” (“farmed animal”) yw anifail a fridiwyd neu a gedwir ar gyfer cynhyrchu bwyd, gwlân neu grwyn neu at ddibenion ffermio eraill, ond heb gynnwys—

(a)pysgod, ymlusgiaid neu amffibiaid;

(b)unrhyw anifail tra bo mewn cystadleuaeth, sioe neu ddigwyddiad neu weithgaredd diwylliannol neu chwaraeol, neu anifail a fwriedir yn unig i'w ddefnyddio ar gyfer hynny;

(c)anifail arbrofol neu anifail labordy; neu

(ch)anifail sy'n byw yn y gwyllt.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Dyletswyddau ar bersonau sy'n gyfrifol am anifeiliaid a ffermirLL+C

4.—(1Rhaid i berson sy'n gyfrifol am anifail a ffermir gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod yr amodau y mae'r anifail yn cael ei fridio neu ei gadw odanynt yn cydymffurfio ag Atodlen 1.

(2Wrth gydymffurfio â'r ddyletswydd ym mharagraff (1), rhaid i berson sy'n gyfrifol am anifail a ffermir roi sylw i'w—

(a)rhywogaeth;

(b)gradd ei datblygiad;

(c)ei addasiad a'i ddofiad; ac

(ch)ei anghenion seicolegol ac etholegol yn unol ag arferion da a gwybodaeth wyddonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Dyletswyddau ychwanegol ar bersonau sy'n gyfrifol am ddofednod, ieir dodwy, lloi, gwartheg, moch neu gwningodLL+C

5.—(1Rhaid i berson sy'n gyfrifol am—

(a)dofednod (ac eithrio'r rheini a gedwir yn y systemau cyfeirir atynt yn Atodlenni 2 i 4) a gedwir mewn adeilad sicrhau y cânt eu cadw ar laesodr, neu y gallant bob amser fynd at laesodr sydd wedi ei gynnal yn dda, neu fan sydd wedi ei ddraenio'n dda ar gyfer gorffwys;

(b)ieir dodwy a gedwir mewn sefydliadau a chanddynt 350 neu fwy o ieir gydymffurfio ag Atodlenni 2, 3, 4 a 5, fel y bo'n gymwys;

(c)lloi a gaethiwir ar gyfer eu magu a'u pesgi gydymffurfio ag Atodlen 6;

(ch)gwartheg gydymffurfio ag Atodlen 7;

(d)moch, yn ddarostyngedig i baragraff (2), gydymffurfio â Rhan 2 o Atodlen 8 a phan fo'n gymwys, â gofynion Rhannau 3, 4, 5 a 6 o Atodlen 8; neu

(dd)cwningod gydymffurfio ag Atodlen 9.

(2Mae paragraffau 12, 28, 29 a 30 o Atodlen 8 yn gymwys i bob daliad yr adeiledir o'r newydd, yr ailadeiledir neu y dechreuir ei ddefnyddio am y tro cyntaf ar neu ar ôl 1 Ionawr 2003, ond yn achos pob daliad arall nid yw'r paragraffau hynny yn gymwys tan 1 Ionawr 2013.

(3Mae Rhan 1 o Atodlen 8 yn effeithiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Codau YmarferLL+C

6.—(1Rhaid i berson sy'n gyfrifol am anifail a ffermir —

(a)peidio â gofalu am yr anifail onid yw'n gyfarwydd â'r cod ymarfer perthnasol a bod y cod ar gael iddo tra'n gofalu am yr anifail; a

(b)cymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw person a gyflogir ganddo, neu a gymerir i weithio ganddo, yn gofalu am yr anifail oni bai bod y person arall hwnnw—

(i)yn gyfarwydd ag unrhyw god ymarfer perthnasol;

(ii)bod y cod ar gael iddo tra'n gofalu am yr anifail; a

(iii)ei fod wedi cael hyfforddiant ac arweiniad ar y cod hwnnw.

(2Yn yr adran hon, ystyr “cod ymarfer perthnasol” (“relevant code of practice”) yw cod ymarfer a gyhoeddwyd o dan adran 14 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 neu god ymarfer statudol a gyhoeddwyd o dan adran 3 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968(10) mewn perthynas â'r rhywogaeth benodol o anifeiliaid a ffermir y mae'r person yn gofalu amdanynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

TramgwyddauLL+C

7.  Mae person yn cyflawni tramgwydd os yw, heb awdurdod neu esgus cyfreithlon —

(a)yn torri neu'n peidio â chydymffurfio â dyletswydd yn rheoliad 4, 5 neu 6;

(b)yn rhoi unrhyw eitem mewn cofnod neu'n rhoi unrhyw wybodaeth at ddibenion y Rheoliadau hyn y mae'n gwybod ei bod yn anwir mewn unrhyw fanylyn o bwys neu, at y dibenion hynny, yn gwneud datganiad neu'n rhoi gwybodaeth yn ddi-hid a'r datganiad hwnnw neu'r wybodaeth honno'n anwir mewn unrhyw fanylyn o bwys; neu

(c)yn achosi neu'n caniatáu unrhyw un o'r uchod.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

ErlyniadauLL+C

8.—(1Caiff awdurdod lleol ddwyn achos i erlyn am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.

(2Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd mai hwy, ac nid yr awdurdod lleol, fydd yn dwyn achos i erlyn am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

CosbauLL+C

9.—(1Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 7 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod—

(a)i garchar am gyfnod heb fod yn hwy na 51 wythnos;

(b)i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol; neu

(c)i'r cyfnod o garchar y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn ogystal â'r ddirwy y cyfeirir ati yn is-baragraff (b).

(2Mewn perthynas â thramgwydd a gyflawnwyd cyn cychwyn adran 281(5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003(11), rhaid deall y cyfeiriad ym mharagraff (1)(a) at 51 wythnos fel cyfeiriad at 6 mis.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

23 Hydref 2007

Rheoliad 4

ATODLEN 1LL+CAmodau cyffredinol y mae'n rhaid cadw anifeiliaid a ffermir odanynt

StaffioLL+C

1.  Rhaid i anifeiliaid gael gofal gan nifer digonol o staff sy'n meddu ar y gallu, yr wybodaeth a'r hyfedredd proffesiynol priodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

ArolyguLL+C

2.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn systemau hwsmonaeth lle mae eu lles yn dibynnu ar sylw dynol mynych gael eu harchwilio unwaith y dydd o leiaf, i wirio eu bod mewn cyflwr o lesiant.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn systemau hwsmonaeth lle nad yw eu lles yn dibynnu ar sylw dynol mynych gael eu harchwilio ar ysbeidiau digonol i osgoi unrhyw ddioddefaint.

(3Yn yr achosion canlynol, at ddibenion y paragraff hwn bydd yn ddigonol cydymffurfio â'r darpariaethau a ganlyn—

(a)yn achos ieir dodwy, paragraff 1 o Atodlen 5;

(b)yn achos lloi, paragraff 2 neu 3 o Atodlen 6; ac

(c)yn achos moch, paragraff 2 o Atodlen 8.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

3.  Pan gedwir anifeiliaid mewn adeilad rhaid bod digon o oleuadau (naill ai sefydlog neu symudol) i'w galluogi i gael eu harchwilio'n drwyadl ar unrhyw adeg.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

4.  Pan gedwir unrhyw anifeiliaid (heblaw dofednod) mewn adeilad, rhaid iddynt gael eu cadw ar fan gorwedd, neu rhaid iddynt bob amser allu mynd i fan gorwedd, sydd naill ai â gwasarn sych wedi'i gynnal yn dda neu sydd wedi'i draenio'n dda.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

5.  Rhaid gofalu yn briodol ac yn ddi-oed am unrhyw anifeiliaid sy'n ymddangos yn sâl neu wedi eu hanafu; pan nad ydynt yn ymateb i'r cyfryw ofal, rhaid cael cyngor milfeddygol cyn gynted ag y bo modd.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

6.  Pan fo'n angenrheidiol, rhaid ynysu anifeiliaid sâl neu anafus mewn llety addas, gyda gwasarn cysurus a sych pan fo'n briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Cadw cofnodionLL+C

7.  Rhaid cadw cofnod —

(a)o unrhyw driniaeth feddyginiaethol a roddir i anifeiliaid; a

(b)o'r nifer o farwolaethau a ganfyddir ymhob archwiliad o'r anifeiliaid a gyflawnir yn unol ag unrhyw un o'r darpariaethau canlynol —

(i)yn achos ieir dodwy, paragraff 1 o Atodlen 5;

(ii)yn achos lloi, paragraff 2 neu 3 o Atodlen 6; neu

(iii)yn achos moch, paragraff 2 o Atodlen 8; neu

(iv)mewn unrhyw achos arall, paragraff 2(1) neu (2) o'r Atodlen hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

8.  Rhaid cadw'r cofnod y cyfeirir ato ym mharagraff 7 am gyfnod o dair blynedd o leiaf o'r dyddiad pan roddwyd y driniaeth feddyginiaethol, neu ddyddiad yr archwiliad, a rhaid ei roi ar gael i arolygydd os gofynnir amdano.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Rhyddid i symudLL+C

9.  Gan roi sylw i'w rhywogaeth ac yn unol ag arferion da a gwybodaeth wyddonol, rhaid peidio â chyfyngu ar ryddid anifeiliaid i symud mewn unrhyw ffordd a fydd yn peri dioddefaint neu anaf diangen iddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

10.  Pan fo anifeiliaid yn cael eu clymu neu eu caethiwo yn ddi-dor neu'n rheolaidd, rhaid caniatáu lle priodol iddynt ar gyfer eu hanghenion ffisiolegol ac etholegol yn unol ag arferion da a gwybodaeth wyddonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Adeiladau a lletyLL+C

11.  Rhaid i'r defnyddiau a ddefnyddir ar gyfer adeiladu llety, ac, yn benodol ar gyfer adeiladu corlannau, cewyll, corau ac offer y gall yr anifeiliaid ddod i gyffyrddiad ag ef, beidio â bod yn niweidiol i'r anifeiliaid a rhaid bod modd eu glanhau a'u diheintio'n drylwyr.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

12.  Rhaid i'r llety a'r ffitiadau a ddefnyddir i ddiogelu'r anifeiliaid fod wedi eu hadeiladu a'u cynnal fel nad oes unrhyw ymylon nac allwthiadau miniog sy'n debygol o achosi anaf i anifail.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

13.  Rhaid cadw cylchrediad yr aer, lefelau llwch, tymheredd, lleithder cymharol yr aer a chrynodiadau nwy o fewn terfynau nad ydynt yn niweidiol i'r anifeiliaid.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

14.  Rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn adeiladau beidio â chael eu cadw mewn tywyllwch parhaol.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

15.  Pan nad yw'r golau naturiol sydd ar gael mewn adeilad yn ddigonol i ddiwallu anghenion ffisiolegol ac etholegol unrhyw anifeiliaid a gedwir ynddo, rhaid darparu golau artiffisial priodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

16.  Rhaid peidio â chadw anifeiliaid a gedwir mewn adeiladau heb gyfnod priodol o orffwys rhag olau artiffisial.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Anifeiliaid na chedwir mohonynt mewn adeiladauLL+C

17.  Pan na chedwir anifeiliaid mewn adeiladau, rhaid eu hamddiffyn pan fo angen a phan fo'n bosibl rhag tywydd gwael, ysglyfaethwyr a risgiau i'w hiechyd, a rhaid iddynt gael cyfle bob amser i fynd i fan gorwedd sydd wedi'i draenio'n dda.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Offer awtomatig neu fecanyddolLL+C

18.  Rhaid i bob offer awtomataidd neu fecanyddol sy'n angenrheidiol ar gyfer iechyd a llesiant yr anifeiliaid gael eu harchwilio o leiaf unwaith y dydd i sicrhau nad oes unrhyw ddiffyg arno.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

19.  Pan ganfyddir diffygion mewn offer awtomataidd neu fecanyddol o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 18, rhaid eu cywiro ar unwaith, neu os nad yw hyn yn bosibl, rhaid cymryd camau priodol i ddiogelu iechyd a llesiant yr anifeiliaid tra disgwylir i'r diffygion hynny gael eu cywiro, gan gynnwys defnyddio dulliau amgen o fwydo a dyfrio a dulliau amgen o ddarparu a chynnal amgylchedd boddhaol.

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

20.  Pan fo iechyd a llesiant yr anifeiliaid yn ddibynnol ar system awyru artiffisial —

(a)rhaid darparu system briodol wrth gefn i warantu y gellir adnewyddu'r aer yn ddigonol i ddiogelu iechyd a llesiant yr anifeiliaid pe digwyddai i'r system fethu; a

(b)rhaid darparu system larwm (a fydd yn gweithredu hyd yn oed os bydd y prif gyflenwad trydan yn methu) i rybuddio am unrhyw fethiant yn y system.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

21.  Rhaid i'r system wrth gefn y cyfeirir ati ym mharagraff 20(a) gael ei harchwilio'n drwyadl a rhaid i'r system larwm y cyfeirir ati ym mharagraff 20(b) gael ei phrofi o leiaf unwaith bob saith diwrnod er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddiffyg ar y system, ac os canfyddir unrhyw ddiffyg ar unrhyw adeg, rhaid ei gywiro ar unwaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Bwyd anifeiliaid, dwr a sylweddau eraillLL+C

22.  Rhaid i anifeiliaid gael eu bwydo â deiet iachusol sy'n briodol i'w hoedran a'u rhywogaeth ac a fwydir iddynt mewn cyflenwad digonol i'w cynnal mewn iechyd da, i ddiwallu eu hanghenion maethol a hybu cyflwr cadarnhaol o lesiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

23.  Rhaid peidio â darparu i anifeiliaid fwyd neu hylif sy'n cynnwys unrhyw sylwedd a allai beri dioddefaint neu anaf diangen iddynt, a rhaid darparu bwyd a hylif ar eu cyfer mewn modd nad yw'n peri dioddefaint neu anaf diangen iddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

24.  Rhaid i bob anifail gael y cyfle i fynd at fwyd ar adegau sy'n briodol i'w anghenion ffisiolegol, (ac o leiaf unwaith y dydd beth bynnag), ac eithrio pan fo milfeddyg wrth arfer ei broffesiwn yn cyfarwyddo fel arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

25.  Rhaid i bob anifail gael cyfle naill ai i fynd at gyflenwad addas o ddwr a chael cyflenwad digonol o ddwr yfed ffres bob dydd, neu allu diwallu ei angen i yfed digon o hylifau trwy ddulliau eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

26.  Rhaid i offer bwydo a dyfrio gael ei ddylunio, ei adeiladu, ei osod a'i gynnal fel bod difwyno bwyd a dwr ac effeithiau niweidiol cystadlu rhwng anifeiliaid yn cael eu cadw i'r lleiaf posibl.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

27.—(1Ni chaniateir rhoi i anifeiliaid unrhyw sylwedd arall, ac eithrio rhai a roddir at ddibenion therapiwtig neu broffylactig neu at ddibenion triniaeth söotechnegol, oni ddangoswyd mewn astudiaethau gwyddonol ar les anifeiliaid neu trwy ymarfer sefydledig nad yw effaith y sylwedd hwnnw yn niweidiol i iechyd neu les yr anifeiliaid.

(2Yn is-baragraff (1), mae i'r ymadrodd “triniaeth söotechnegol” yr ystyr a roddir i “zootechnical treatment” yn Erthygl 1(2)(c) o Gyfarwyddeb 96/22/EEC(12) ar wahardd defnyddio sylweddau penodol sy'n cael effaith hormonaidd neu thyrostatig a beta-agonistiaid mewn ffermio da byw.

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Gweithdrefnau bridioLL+C

28.—(1Rhaid peidio â defnyddio bridio neu weithdrefnau bridio naturiol neu artiffisial sy'n peri neu sy'n debygol o beri dioddefaint neu anaf i unrhyw un o'r anifeiliaid o dan sylw.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn atal defnyddio gweithdrefnau bridio naturiol neu artiffisial sy'n debygol o beri'r dioddefaint minimal neu fyrhoedlog, neu rai a allai beri bod angen ymyriadau na fyddent yn achosi anaf parhaol.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

29.  Ni chaniateir cadw unrhyw anifeiliaid at ddibenion ffermio oni ellir disgwyl yn rhesymol, ar sail eu genoteip neu eu ffenoteip, y gellir eu cadw heb effaith niweidiol i'w hiechyd neu eu lles.

Gwybodaeth Cychwyn

I38Atod. 1 para. 29 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Llonyddu â thrydanLL+C

30.  Rhaid peidio â defnyddio cerrynt trydan ar unrhyw anifail er mwyn ei lonyddu.

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Rheoliad 5

ATODLEN 2LL+CAmodau ychwanegol sy'n gymwys i gadw ieir dodwy mewn systemau di-gawell

1.  Rhaid i bob system ddi-gawell ar gyfer cadw ieir dodwy gydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

2.  Rhaid i bob system gael ei chyfarparu mewn ffordd sy'n golygu bod gan bob iâr ddodwy—LL+C

(a)naill ai bwydwr llinol sy'n rhoi o leiaf 10cm i bob aderyn neu fwydwr crwn sy'n rhoi o leiaf 4cm i bob aderyn;

(b)naill ai cafn yfed di-dor sy'n rhoi o leiaf 2.5cm i bob iâr neu gafn yfed crwn sy'n rhoi o leiaf 1cm i bob iâr;

(c)o leiaf un nyth i bob saith iâr ac, os defnyddir nythod grwp, rhaid cael o leiaf 1 m2 o le nythu ar gyfer uchafswm o 120 o ieir;

(ch)clwydi, heb ymylon miniog ac sy'n darparu o leiaf 15cm i bob iâr. Rhaid peidio â gosod clwydi uwchben y llaesodr a rhaid i'r pellter llorweddol rhwng y clwydi fod yn 30cm o leiaf a rhaid i'r pellter llorweddol rhwng y glwyd a'r wal fod yn 20cm o leiaf; a

(d)o leiaf 250 cm2 o arwynebedd o dan laesodr i bob iâr, a'r llaesodr dros un traean o leiaf o arwynebedd y llawr.

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

3.  Pan fo'r system yn defnyddio pigynnau dwr neu gwpanau, rhaid cael o leiaf un pigyn dwr neu gwpan i bob 10 iâr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I42Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

4.  Pan fo gan y system fannau yfed sydd wedi eu plymio, rhaid cael o leiaf ddau gwpan neu ddau bigyn dwr o fewn cyrraedd i bob iâr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

5.  Rhaid i loriau'r gosodiadau fod wedi eu hadeiladu fel y gallant gynnal pob un o'r crafangau iâr sy'n wynebu ymlaen, ar bob troed i bob iâr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I44Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

6.  Os defnyddir systemau lle y gall yr ieir dodwy symud yn rhydd rhwng gwahanol lefelau —LL+C

(a)rhaid peidio â chael mwy na phedair lefel;

(b)rhaid i'r uchder rhwng y lefelau fod yn 45 cm o leiaf;

(c)rhaid i'r cyfleusterau yfed a bwydo gael eu dosbarthu mewn ffordd sy'n golygu bod cyfle cyfartal i bob iâr fynd atynt; ac

(ch)rhaid i'r lefelau gael eu trefnu i atal ysgarthion rhag cwympo ar y lefelau islaw.

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

7.  Os gall ieir dodwy fynd i libart agored —LL+C

(a)rhaid cael nifer o dyllau, o leiaf 35 cm o uchder a 40 cm o led, yn arwain yn uniongyrchol i'r man allanol ac yn ymestyn am y cyfan o hyd yr adeilad; a rhaid sicrhau beth bynnag bod cyfanswm o 2 m o agoriad ar gael ar gyfer pob grwp o 1,000 o ieir; a

(b)rhaid i libartau agored —

(i)fod ag arwynebedd sy'n briodol ar gyfer y dwysedd stocio a natur y tir, er mwyn atal unrhyw halogi; a

(ii)wedi'u cyfarparu â chysgod rhag tywydd drwg ac ysglyfaethwyr ac, os oes eu hangen, â chafnau yfed priodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I46Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

8.  Yn ddarostyngedig i baragraff (9), rhaid i'r dwysedd stocio beidio â bod yn uwch na naw iâr ddodwy i bob m2 o le y gellir ei ddefnyddio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

9.  Os oedd y sefydliad ar 3 Awst 1999 yn gweithredu system lle'r oedd y lle y gellid ei ddefnyddio yn cyfateb i'r arwynebedd tir a oedd ar gael, a'r sefydliad yn dal i weithredu'r system honno ar 25 Mehefin 2002, awdurdodir dwysedd stocio o ddim mwy na 12 iâr am bob m2 tan 31 Rhagfyr 2011.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I48Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Rheoliad 5

ATODLEN 3LL+CAmodau ychwanegol sy'n gymwys i gadw ieir dodwy mewn cewyll confensiynol

1.  Rhaid i bob system cewyll confensiynol (heb eu gwella) gydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

2.  Rhaid i systemau cewyll gael o leiaf 550 cm2 i bob iâr, o arwynebedd cawell a fesurir mewn plân llorweddol ac y gellir ei ddefnyddio heb gyfyngiad, sef yn benodol, heb gynnwys platiau ar gyfer dargyfeirio deunydd nad yw'n wastraff, sy'n tueddu i gyfyngu ar yr arwynebedd sydd ar gael, oni osodir hwy heb gyfyngu ar yr arwynebedd y gall yr ieir ei ddefnyddio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I50Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

3.  Rhaid darparu cafn bwydo y gellir ei ddefnyddio heb gyfyngiad a rhaid i'w hyd fod o leiaf yn lluoswm 10 cm a nifer yr ieir sydd yn y cawell.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

4.—(1Oni ddarperir pigynnau yfed neu gwpanau yfed rhaid i bob cawell gael sianel yfed ddi-dor o'r un hyd â'r cafn bwydo y cyfeirir ato ym mharagraff 3.LL+C

(2Os yw'r mannau yfed wedi'u plymio, rhaid cael o leiaf ddau bigyn dwr neu ddau gwpan o fewn cyrraedd i bob cawell.

Gwybodaeth Cychwyn

I52Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

5.  Rhaid i'r cewyll fod yn 40 cm o leiaf o uchder dros o leiaf 65% o arwynebedd y cawell ac nid llai na 35 cm ar unrhyw bwynt; cyfrifir yr arwynebedd trwy luosi 550 cm2 â nifer yr adar a gedwir yn y cawell.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I53Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

6.—(1Rhaid i loriau'r cewyll fod wedi ei hadeiladu fel eu bod yn cynnal pob un o'r crafangau sy'n wynebu ymlaen ar bob troed i bob iâr.LL+C

(2Rhaid i oleddf y llawr beidio â bod yn fwy na 14% neu 8 gradd os yw wedi'i wneud o rwyllau gwifrog petryal a rhaid iddo beidio â bod yn fwy na 21.3% neu 12 gradd ar gyfer mathau eraill o lawr.

Gwybodaeth Cychwyn

I54Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

7.  Rhaid gosod dyfeisiau addas ar gyfer cwtogi crafangau yn y cewyll.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I55Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

8.  Ni chaniateir i unrhyw berson adeiladu neu ddechrau defnyddio am y tro cyntaf unrhyw system cewyll y cyfeirir ati yn yr Atodlen hon ar gyfer cadw ieir dodwy.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I56Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

9.  Ar ac ar ôl 1 Ionawr 2012, ni chaniateir i unrhyw berson gadw ieir dodwy mewn unrhyw system cewyll y cyfeirir ati yn yr Atodlen hon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Rheoliad 5

ATODLEN 4LL+CAmodau ychwanegol sy'n gymwys i gadw ieir dodwy mewn cewyll gwell

1.  Rhaid i'r holl ieir dodwy nas cedwir mewn system ddi-gawell y cyfeirir ati yn Atodlen 2 neu mewn system cewyll y cyfeirir ati yn Atodlen 3 gael eu cadw mewn system cewyll gwell sy'n cydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I58Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

2.  Rhaid i ieir dodwy gael—LL+C

(a)o leiaf 750 cm2 o arwynebedd cawell i bob iâr, y mae'n rhaid i 600 cm2 ohono fod yn arwynebedd y gellir ei ddefnyddio; rhaid i uchder y cawell heblaw'r uchder uwchben yr arwynebedd y gellir ei ddefnyddio, fod yn 20 cm o leiaf ym mhob pwynt, a rhaid i'r cyfanswm arwynebedd lleiaf mewn unrhyw gawell fod yn 2000 cm2;

(b)mynediad i nyth;

(c)llaesodr fel bod modd pigo a chrafu;

(ch)clwydi priodol sy'n caniatáu o leiaf 15 cm i bob iâr.

Gwybodaeth Cychwyn

I59Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

3.  Rhaid darparu cafn bwydo y gellir ei ddefnyddio heb gyfyngiad ac sydd â'i hyd o leiaf yn lluoswm 12 cm a nifer yr ieir yn y cawell.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I60Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

4.  Rhaid i bob cawell gael system yfed sy'n briodol ar gyfer maint y grwp; os darperir pigynnau dwr, rhaid cael o leiaf ddau bigyn dwr neu ddau gwpan o fewn cyrraedd i bob iâr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I61Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

5.  Er mwyn hwyluso archwilio, gosod a diboblogi'r ieir rhaid cael ale o 90 cm o led o leiaf rhwng haenau o gewyll a rhaid caniatáu gofod o 35 cm o leiaf rhwng llawr yr adeilad a'r haen isaf o gewyll.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I62Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

6.  Rhaid gosod dyfeisiau addas ar gyfer cwtogi crafangau yn y cewyll.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I63Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Rheoliad 5

ATODLEN 5LL+CAmodau ychwanegol sy'n gymwys i bob system y cedwir ieir dodwy ynddi

1.  Rhaid i bob iâr gael ei harchwilio gan y perchennog neu'r person sy'n gyfrifol amdanynt o leiaf unwaith y dydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I64Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

2.  Ym mhob system y cedwir ieir dodwy ynddi—LL+C

(a)rhaid cadw lefel y swn mor isel ag y bo modd;

(b)rhaid osgoi swn cyson neu sydyn; ac

(c)rhaid i wyntyllau awyru, peiriannau bwydo ac offer arall gael eu hadeiladu, eu lleoli, eu gweithredu a'u cynnal mewn ffordd sy'n peri iddynt wneud cyn lleied o swn ag y bo modd.

Gwybodaeth Cychwyn

I65Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

3.—(1Rhaid cael lefelau golau ym mhob adeilad sy'n ddigonol i ganiatáu i'r ieir weld ei gilydd a chael eu gweld yn eglur, ymchwilio i'w hamgylchoedd yn weledol a dangos lefelau normal o weithgarwch.LL+C

(2Os oes goleuni naturiol, rhaid trefnu'r agoriadau goleuni fel bod y goleuni'n cael ei wasgaru'n gyfartal yn y llety.

(3Ar ôl y dyddiau cyntaf o ymgyfarwyddo, rhaid i'r gyfundrefn oleuo fod yn gyfryw ag i atal problemau iechyd ac ymddygiad, ac felly rhaid iddi ddilyn rhythm 24-awr a chynnwys cyfnod digonol o dywyllwch di-dor sy'n parhau, yn ddynodol, am oddeutu traean o'r diwrnod.

(4Os oes modd, dylid darparu cyfnod digonol o lwydoleuo, pan fo'r golau yn cael ei bylu er mwyn i'r ieir setlo heb aflonyddwch nac anaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I66Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

4.—(1Rhaid i'r rhannau hynny o'r adeiladau, offer neu lestri sy'n dod i gysylltiad â'r ieir gael eu glanhau a'u diheintio'n drylwyr ac yn rheolaidd a phob tro y diboblogir beth bynnag a chyn dod â llwyth newydd o ieir i mewn.LL+C

(2Tra bo ieir yn y cewyll—

(a)rhaid i'r arwynebau a'r holl offer gael eu cadw'n foddhaol o lân;

(b)rhaid symud ysgarthion ymaith; ac

(c)rhaid symud ieir marw oddi yno bob dydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I67Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

5.  Rhaid cael cyfarpar addas yn y cewyll i atal yr ieir rhag dianc.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I68Atod. 5 para. 5 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

6.  Mewn unrhyw lety sy'n cynnwys dwy neu ragor o haenau o gewyll rhaid cael dyfeisiau, neu gymryd mesurau priodol, i ganiatáu archwilio pob haen yn ddidrafferth ac i hwyluso symud ieir oddi yno.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I69Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

7.  Rhaid i ddyluniad a dimensiynau drws y cawell fod yn gyfryw ag i ganiatáu symud iâr lawndwf oddi yno heb iddi ddioddef yn ddiangen na chael ei niweidio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I70Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Rheoliad 5

ATODLEN 6LL+CAmodau ychwanegol sy'n gymwys i gadw lloi sy'n cael eu caethiwo ar gyfer eu magu a'u pesgi

LletyLL+C

1.—(1Rhaid peidio â chaethiwo unrhyw lo mewn côr neu gorlan unigol ar ôl wyth wythnos oed oni fydd milfeddyg yn ardystio bod ei iechyd neu ei ymddygiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei ynysu er mwyn iddo gael triniaeth.

(2Rhaid i led unrhyw gôr neu gorlan unigol ar gyfer llo fod o leiaf yn hafal i uchder y llo wrth ei war, a fesurir ar ei sefyll, a rhaid i'r hyd fod o leiaf yn hafal i hyd corff y llo, a fesurir o flaen y trwyn hyd at ben cynffonog y tuber ischii (asgwrn y llosgwrn), wedi'u lluosi â 1.1.

(3Rhaid i gorau neu gorlannau unigol ar gyfer lloi (ac eithrio y rhai sy'n ynysu anifeiliaid sâl) gael waliau trydyllog sy'n caniatáu i'r lloi gael cysylltiad uniongyrchol, yn weledol a thrwy gyffwrdd.

(4Ar gyfer lloi a gedwir mewn grwpiau, y lwfans gofod dirwystr y mae'n rhaid iddo fod ar gael ar gyfer pob llo yw —

(a)o leiaf 1.5 m2 ar gyfer pob llo gyda phwysau byw llai na 150 kg;

(b)o leiaf 2 m2 ar gyfer pob llo gyda phwysau byw o 150 kg neu fwy ond llai na 200 kg; ac

(c)o leiaf 3 m2 ar gyfer pob llo gyda phwysau byw o 200kg neu fwy.

(5Rhaid i bob llo allu sefyll, troi o amgylch, gorwedd, gorffwyso a thacluso'i hun heb rwystr.

(6Rhaid i bob llo a gedwir ar ddaliad y cedwir dau neu fwy o loi arno allu gweld o leiaf un llo arall.

(7Nid yw is-baragraff (6) yn gymwys i unrhyw lo a gedwir wedi ei ynysu ar ddaliad ar gyngor milfeddygol, neu yn unol ag is-baragraff (1).

(8At ddibenion cyfrifo nifer y lloi a gedwir ar ddaliad er mwyn penderfynu a yw is-baragraff (6) yn gymwys, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw lo a gedwir wedi'i ynysu ar y daliad hwnnw ar gyngor milfeddygol neu yn unol ag is-baragraff (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I71Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

ArchwilioLL+C

2.  Rhaid i bob llo a gedwir mewn adeilad gael ei archwilio gan berchennog neu gan berson arall sy'n gyfrifol am y lloi o leiaf ddwywaith y dydd i sicrhau eu bod mewn cyflwr o lesiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I72Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

3.  Rhaid i loi a gedwir y tu allan gael eu harchwilio gan berchennog neu gan berson arall sy'n gyfrifol am y lloi o leiaf unwaith y dydd i sicrhau eu bod mewn cyflwr o lesiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I73Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

TenynnauLL+C

4.—(1Ni chaiff unrhyw berson sy'n gyfrifol am lo roi tennyn na pheri rhoi tennyn arno, ac eithrio lloi a gedwir mewn adeilad mewn grwp y caniateir rhoi tennyn arnynt am gyfnod nad yw'n hwy nag awr tra'n eu bwydo â llaeth neu amnewidyn llaeth.

(2Pan ddefnyddir tenynnau yn unol ag is-baragraff (1), rhaid iddynt beidio â pheri poen nac anaf i'r lloi a rhaid eu harchwilio'n rheolaidd a'u haddasu yn ôl yr angen i sicrhau eu bod yn ffitio'n gysurus.

(3Rhaid i bob tennyn fod wedi ei ddylunio i osgoi'r risg o dagu neu achosi poen neu anaf ac i ganiatáu i'r llo orwedd, gorffwys, sefyll a thacluso'i hun heb rwystr.

Gwybodaeth Cychwyn

I74Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Adeiladau â golau artiffisialLL+C

5.  Pan gedwir lloi mewn adeilad â golau artiffisial, yna, yn ddarostyngedig i baragraff 16 o Atodlen 1, rhaid darparu golau artiffisial am gyfnod sydd o leiaf yn hafal i'r cyfnod o olau naturiol a geir fel arfer rhwng 9.00 am a 5.00 pm.

Gwybodaeth Cychwyn

I75Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Glanhau a diheintioLL+C

6.—(1Rhaid i adeiladau, corau, corlannau, offer a theclynnau a ddefnyddir ar gyfer lloi gael eu glanhau a'u diheintio'n gywir mor aml ag y bo angen i atal traws-heintio ac i atal organeddau sy'n cario clefydau rhag crynhoi.

(2Rhaid i ysgarthion, wrin a bwyd sydd heb ei fwyta neu wedi'i golli gael eu symud mor aml ag y bo angen i leihau'r aroglau ac i osgoi denu pryfed neu gnofilod.

Gwybodaeth Cychwyn

I76Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

LloriauLL+C

7.  Pan gedwir lloi mewn adeilad, rhaid i'r lloriau fod —

(a)yn llyfn heb fod yn llithrig;

(b)wedi'u dylunio, eu hadeiladu a'u cynnal fel na fyddant yn peri anaf na dioddefaint i'r lloi wrth iddynt sefyll neu orwedd arnynt;

(c)yn addas ar gyfer maint a phwysau'r lloi; ac

(ch)yn ffurfio arwyneb caled, gwastad a sefydlog.

Gwybodaeth Cychwyn

I77Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Gwasarn a man gorweddLL+C

8.—(1Rhaid darparu gwasarn priodol ar gyfer pob llo.

(2Rhaid i bob llo gael ei gadw ar fan gorwedd, neu rhaid iddo bob amser allu mynd i fan gorwedd, sydd yn lân, yn gysurus ac wedi'i draenio'n ddigonol ac nad yw'n effeithio'n andwyol ar y lloi.

(3Rhaid i bob llo a gedwir mewn adeilad a lloi a gedwir mewn cytiau neu adeileddau dros dro gael eu cadw ar fan gorwedd, neu rhaid iddo bob amser allu mynd i fan gorwedd, sy'n cael ei gynnal yn dda â gwasarn sych.

Gwybodaeth Cychwyn

I78Atod. 6 para. 8 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Cynlaeth bucholLL+C

9.  Rhaid i bob llo gael cynlaeth buchol cyn gynted â phosibl ar ôl ei eni a beth bynnag o fewn y chwe awr gyntaf o'i fywyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I79Atod. 6 para. 9 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Gofynion dietegol ychwanegolLL+C

10.—(1Rhaid darparu bwyd sy'n cynnwys digon o haearn i sicrhau lefel hemoglobin gwaed o 4.5 mmol/litr o leiaf ar gyfer pob llo.

(2Rhaid darparu lleiafswm o ddogn dyddiol o fwyd ffibraidd ar gyfer pob llo dros 2 wythnos oed, gan gynyddu'r swmp yn unol â thyfiant y llo o leiafswm o 100g pan yw'n 2 wythnos oed hyd at leiafswm o 250g pan yw'n 20 wythnos oed.

Gwybodaeth Cychwyn

I80Atod. 6 para. 10 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

SafnrwymoLL+C

11.  Rhaid peidio â safnrwymo lloi.

Gwybodaeth Cychwyn

I81Atod. 6 para. 11 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

BwydoLL+C

12.—(1Rhaid bwydo pob llo o leiaf ddwywaith y dydd.

(2Pan letyir lloi mewn grwp heb gyfle di-dor i gael bwyd, neu pan na fwydir hwy gan system fwydo awtomatig, rhaid i bob llo gael mynd at fwyd ar yr un adeg â'r lleill sydd yn y grwp bwydo.

Gwybodaeth Cychwyn

I82Atod. 6 para. 12 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Dwr yfedLL+C

13.—(1Rhaid darparu cyflenwad digonol o ddwr yfed ffres ar gyfer pob llo bob dydd.

(2Rhaid darparu dwr ffres ar gyfer lloi bob amser—

(a)mewn tywydd poeth; neu

(b)pan fyddant yn sâl.

Gwybodaeth Cychwyn

I83Atod. 6 para. 13 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Rheoliad 5

ATODLEN 7LL+CAmodau ychwanegol sy'n gymwys i gadw gwartheg

1.  Pan gedwir gwartheg godro sy'n llaetha neu'n bwrw lloi mewn adeilad, rhaid iddynt allu mynd bob amser i fan gorwedd sydd wedi'i ddraenio'n dda ac sy'n cynnwys gwasarn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I84Atod. 7 para. 1 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

2.  Rhaid i gorlan neu fuarth mewn adeilad a ddefnyddir ar gyfer gwartheg sy'n bwrw lloi fod o faint sy'n caniatáu i berson ofalu am y gwarthegLL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I85Atod. 7 para. 2 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

3.  Rhaid i wartheg sy'n bwrw lloi ac a gedwir mewn adeilad gael eu cadw ar wahân i dda byw eraill, ac eithrio gwartheg sy'n bwrw lloi.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I86Atod. 7 para. 3 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Rheoliad 5

ATODLEN 8LL+CAmodau ychwanegol sy'n gymwys i gadw moch

RHAN 1LL+CDehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—LL+C

ystyr “baedd” (“boar”) yw mochyn gwryw ar ôl ei flaenaeddfedrwydd, a fwriedir ar gyfer bridio;

ystyr “banwes” (“gilt”) yw mochyn benyw a fwriedir ar gyfer bridio ar ôl ei blaenaeddfedrwydd a chyn porchella;

ystyr “hwch” (“sow”) yw mochyn benyw ar ôl iddi borchella y tro cyntaf;

ystyr “mochyn magu” (“rearing pig”) yw mochyn o ddeg wythnos hyd at ladd neu serfio;

ystyr “porchell” (“piglet”) yw mochyn o'i enedigaeth hyd at ei ddiddyfnu; ac

ystyr “porchell diddwyn” (“weaner”) yw mochyn o'i ddiddyfnu hyd at ddeng wythnos oed.

Gwybodaeth Cychwyn

I87Atod. 8 para. 1 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

RHAN 2LL+CAmodau ychwanegol cyffredinol

ArchwilioLL+C

2.  Rhaid i bob mochyn gael ei archwilio gan y perchennog neu berson arall sy'n gyfrifol am y moch o leiaf unwaith y dydd i sicrhau eu bod mewn cyflwr o lesiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I88Atod. 8 para. 2 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

TenynnauLL+C

3.  Ni chaiff unrhyw berson sy'n gyfrifol am fochyn roi tennyn na pheri rhoi tennyn arno ac eithrio pan fo o dan archwiliad, prawf, triniaeth neu lawdriniaeth a wneir at unrhyw ddiben milfeddygol.

Gwybodaeth Cychwyn

I89Atod. 8 para. 3 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

4.—(1Pan ganiateir defnyddio tenynnau yn unol â pharagraff 3, rhaid iddynt beidio â pheri anaf i'r moch a rhaid eu harchwilio'n rheolaidd a'i haddasu yn ôl yr angen i sicrhau eu bod yn ffitio'n gysurus.

(2Rhaid i bob tennyn fod yn ddigon hir i ganiatáu i'r moch symud fel y nodir ym mharagraff 5(2)(a) a (d) a rhaid i'r dyluniad fod yn gyfryw fel y bydd yn osgoi, cyn belled â phosibl, unrhyw risg o dagu, poen neu anaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I90Atod. 8 para. 4 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

LletyLL+C

5.—(1Rhaid i bob mochyn fod yn rhydd i droi o amgylch heb anhawster bob amser.

(2Rhaid i'r llety a ddefnyddir ar gyfer moch gael ei adeiladu yn y fath fodd ag i ganiatáu i bob mochyn —

(a)sefyll, gorwedd a gorffwyso heb anhawster;

(b)cael lle y gall orffwyso ynddo sy'n lân, yn gysurus ac wedi ei ddraenio'n ddigonol;

(c)gweld moch eraill, ac eithrio—

(i)pan fo'r mochyn wedi'i ynysu am resymau milfeddygol; neu

(ii)yn ystod yr wythnos cyn yr amser porchella disgwyliedig ac yn ystod porchella, pan ganiateir cadw hychod a banwesod o olwg moch eraill;

(ch)cynnal tymheredd cysurus; a

(d)cael digon o le fel y gall yr holl anifeiliaid orwedd ar yr un pryd.

Gwybodaeth Cychwyn

I91Atod. 8 para. 5 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

6.—(1Rhaid i ddimensiynau unrhyw gôr neu gorlan fod yn gyfryw fel nad yw'r arwynebedd mewnol yn llai na hyd y mochyn wedi ei sgwario, ac nad yw unrhyw ochr fewnol yn llai na 75% o hyd y mochyn, ac ymhob achos mesurir hyd y mochyn o flaen ei drwyn hyd at fôn ei gynffon tra bo'n sefyll â'i gefn yn syth.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i fochyn benyw am y cyfnod sy'n cychwyn saith diwrnod cyn y diwrnod y disgwylir iddi borchella ac yn diweddu pan fydd diddyfnu ei pherchyll (gan gynnwys unrhyw berchyll a faethir ganddi), wedi'i gwblhau.

(3Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i fochyn a gedwir mewn côr neu gorlan—

(a)tra bo o dan unrhyw archwiliad, prawf, triniaeth neu lawdriniaeth a wneir at ddibenion milfeddygol;

(b)at ddibenion serfio, ffrwythloni artiffisial neu gasglu semen;

(c)tra bo'n cael ei fwydo ar unrhyw achlysur arbennig;

(ch)at ddibenion ei farcio, ei olchi neu ei bwyso;

(d)tra bo'i lety yn cael ei lanhau; neu

(dd)tra bo'n aros i'w lwytho ar gyfer ei gludo,

ar yr amod nad yw'r cyfnod y cedwir y mochyn felly yn hwy nag y bo'i angen at y diben hwnnw.

(4Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i fochyn a gedwir mewn côr neu gorlan y gall y mochyn fynd i mewn iddo neu ei adael fel y myn, ar yr amod yr eir i mewn i'r cyfryw gôr neu gorlan o gôr neu gorlan y cedwir y mochyn ynddo heb fynd yn groes i'r paragraff hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I92Atod. 8 para. 6 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Adeiladau â golau artiffisialLL+C

7.  Pan gedwir moch mewn adeilad â golau artiffisial, yna, rhaid darparu golau o ddwyster 40 lux o leiaf am gyfnod o 8 awr y dydd o leiaf, yn ddarostyngedig i baragraff 16 o Atodlen 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I93Atod. 8 para. 7 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Atal ymladdLL+C

8.—(1Os cedwir moch gyda'i gilydd, rhaid cymryd mesurau i atal ymladd sy'n mynd y tu hwnt i ymddygiad normal.

(2Rhaid i foch sy'n dangos eu bod yn gyson ymosodol tuag at eraill neu'n dioddef ymosodiadau o'r fath gael eu gwahanu oddi wrth y grwp.

Gwybodaeth Cychwyn

I94Atod. 8 para. 8 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Glanhau a diheintioLL+C

9.—(1Rhaid i adeiladau, corlannau, cyfarpar a theclynnau a ddefnyddir ar gyfer moch gael eu glanhau a'u diheintio'n gywir mor aml ag y bo angen i atal traws-heintio ac i atal organeddau sy'n cario clefydau rhag crynhoi.

(2Rhaid i ysgarthion, wrin a bwyd sydd heb ei fwyta neu wedi'i golli gael ei symud mor aml ag y bo angen i leihau'r aroglau ac i osgoi denu pryfed neu gnofilod.

Gwybodaeth Cychwyn

I95Atod. 8 para. 9 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

GwasarnLL+C

10.  Pan ddarperir gwasarn, rhaid iddo fod yn lân, yn sych a heb fod yn niweidiol i'r moch.

Gwybodaeth Cychwyn

I96Atod. 8 para. 10 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

LloriauLL+C

11.  Pan gedwir moch mewn adeilad, rhaid i'r lloriau—

(a)fod yn llyfn heb fod yn llithrig;

(b)gael eu dylunio, eu hadeiladu a'u cynnal fel na fyddant yn peri anaf na dioddefaint i'r moch wrth iddynt sefyll neu orwedd arnynt;

(c)fod yn addas ar gyfer maint a phwysau'r moch; ac

(ch)os na ddarperir llaesodr, ffurfio arwyneb caled, gwastad a sefydlog.

Gwybodaeth Cychwyn

I97Atod. 8 para. 11 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

12.—(1Pan ddefnyddir lloriau estyll concrit ar gyfer moch a gedwir mewn grwpiau, rhaid i led uchaf yr agoriadau fod yn —

(a)11 mm ar gyfer perchyll;

(b)14 mm ar gyfer perchyll diddwyn;

(c)18 mm ar gyfer moch magu; ac

(ch)20 mm ar gyfer banwesod ar ôl eu serfio a hychod.

(2Rhaid i led isaf yr estyll fod yn—

(a)50 mm ar gyfer perchyll a pherchyll diddwyn; a

(b)80 mm ar gyfer moch magu, banwesod ar ôl serfio a hychod.

Gwybodaeth Cychwyn

I98Atod. 8 para. 12 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

BwydoLL+C

13.—(1Rhaid bwydo pob mochyn o leiaf unwaith y dydd.

(2Pan letyir grwp o foch heb gyfle di-dor i gael bwyd, neu pan na fwydir hwy trwy system fwydo awtomatig sy'n bwydo'r anifeiliaid yn unigol, rhaid bod modd i bob mochyn fynd at y bwyd yr un pryd â'r lleill sydd yn y grwp bwydo.

Gwybodaeth Cychwyn

I99Atod. 8 para. 13 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Dwr yfedLL+C

14.  Rhaid bod modd parhaol i bob mochyn dros ddwy wythnos oed gael cyflenwad digonol o ddwr yfed ffres.

Gwybodaeth Cychwyn

I100Atod. 8 para. 14 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Gwella'r amgylcheddLL+C

15.  Er mwyn galluogi gweithgarwch chwilota a thrin pethau yn briodol, rhaid bod modd parhaol i bob mochyn fynd at gyflenwad digonol o ddeunyddiau megis gwellt, gwair, pren, blawd llif, compost madarch, mawn neu gymysgedd o ddeunyddiau o'r fath nad ydynt yn andwyol i iechyd yr anifeiliaid.

Gwybodaeth Cychwyn

I101Atod. 8 para. 15 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Gwahardd defnyddio'r system blwch-chwysuLL+C

16.  Rhaid peidio â chadw moch mewn amgylchedd lle y cynhelir tymereddau a lleithder uchel (a adwaenir fel y “system blwch-chwysu”).

Gwybodaeth Cychwyn

I102Atod. 8 para. 16 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Lefelau swnLL+C

17.  Rhaid peidio â rhoi moch mewn sefyllfa lle y maent yn agored i swn cyson neu sydyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I103Atod. 8 para. 17 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

18.  Rhaid osgoi lefelau swn uwchlaw 85 dBA yn y rhan o unrhyw adeilad lle y cedwir moch.

Gwybodaeth Cychwyn

I104Atod. 8 para. 18 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

RHAN 3LL+CBaeddod

19.  Rhaid lleoli ac adeiladu corlannau baeddod fel y gall y baedd droi o amgylch a chlywed, gweld ac arogli moch eraill, a rhaid iddynt gynnwys mannau gorffwys glân.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I105Atod. 8 para. 19 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

20.  Rhaid i'r man gorffwys fod yn sych ac yn gysurus.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I106Atod. 8 para. 20 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

21.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i arwynebedd dirwystr lleiaf y llawr ar gyfer baedd fod yn 6 m2.LL+C

(2Pan ddefnyddir corlannau baeddod hefyd ar gyfer serfio naturiol, rhaid i arwynebedd y llawr fod yn 10m2 o leiaf a rhaid iddo fod yn rhydd rhag unrhyw rwystrau.

Gwybodaeth Cychwyn

I107Atod. 8 para. 21 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

RHAN 4LL+CHychod a Banwesod

22.  Rhaid rhoi triniaeth i hychod torrog a banwesod, os bydd angen, rhag parasitiaid allanol a mewnol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I108Atod. 8 para. 22 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

PorchellaLL+C

23.  Rhaid glanhau hychod torrog a banwesod yn drylwyr cyn eu rhoi mewn cratiau porchella.

Gwybodaeth Cychwyn

I109Atod. 8 para. 23 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

24.  Yn yr wythnos cyn yr adeg y disgwylir iddynt borchella rhaid rhoi digon o ddeunydd nythu addas i hychod a banwesod onid yw hynny'n annichonadwy yn dechnegol oherwydd y system slyri a ddefnyddir.

Gwybodaeth Cychwyn

I110Atod. 8 para. 24 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

25.  Yn ystod y porchella, rhaid cael lle dirwystr y tu ôl i'r hwch neu'r fanwes i hwyluso porchella yn naturiol neu gyda chymorth.

Gwybodaeth Cychwyn

I111Atod. 8 para. 25 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

26.  Mewn corlannau porchella lle cedwir hychod neu fanwesod yn rhydd, rhaid cael rhyw fodd i amddiffyn y perchyll, megis rheiliau porchella.

Gwybodaeth Cychwyn

I112Atod. 8 para. 26 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Lletya mewn grwpiauLL+C

27.  Rhaid cadw hychod a banwesod mewn grwpiau ac eithrio yn ystod y cyfnod rhwng saith diwrnod cyn y diwrnod porchella disgwyliedig a'r diwrnod y cwblheir diddyfnu'r perchyll (gan gynnwys unrhyw berchyll sy'n cael eu maethu).

Gwybodaeth Cychwyn

I113Atod. 8 para. 27 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

28.  Rhaid i hyd ochrau'r gorlan lle y cedwir y grwp fod yn fwy na 2.8 m, ac eithrio pan fo'r grwp yn cynnwys chwe unigolyn neu lai, ac os felly rhaid i hyd ochrau'r gorlan beidio â bod yn llai na 2.4 m.

Gwybodaeth Cychwyn

I114Atod. 8 para. 28 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

29.  Pan gedwir banwesod a/neu hychod mewn grwpiau, rhaid i'r arwynebedd llawr dirwystr sydd ar gael i bob banwes ar ôl serfio ac i bob hwch, yn eu trefn, fod yn 1.64 m2 o leiaf a 2.25 m2 o leiaf. Pan gedwir yr anifeiliaid hyn mewn grwpiau o chwe unigolyn neu lai, rhaid cynyddu yr arwynebedd llawr dirwystr 10%. Pan gedwir yr anifeiliaid hyn mewn grwpiau o 40 neu ragor o unigolion, caniateir lleihau yr arwynebedd llawr dirwystr 10%.

Gwybodaeth Cychwyn

I115Atod. 8 para. 29 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

30.  Ar gyfer banwesod ar ôl serfio a hychod torrog, rhaid i ran o'r arwynebedd sy'n ofynnol o dan baragraff 29, ac yn hafal i 0.95 m2 o leiaf am bob banwes ac 1.3 m2 o leiaf am bob hwch, fod yn llawr solet di-dor sydd ag uchafswm o 15% ohono wedi ei neilltuo ar gyfer agoriadau draenio.

Gwybodaeth Cychwyn

I116Atod. 8 para. 30 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

31.  Ar ddaliadau o 10 hwch neu lai, caniateir cadw hychod a banwesod yn unigol, ar yr amod bod eu llety yn cydymffurfio â gofynion paragraffau 5 a 6 o'r Atodlen hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I117Atod. 8 para. 31 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

32.  Yn ychwanegol at ofynion paragraff 13 o'r Atodlen hon, rhaid i hychod a banwesod gael eu bwydo trwy ddefnyddio system sy'n sicrhau y gall pob unigolyn gael digon o fwyd hyd yn oed pan fo cystadleuwyr am y bwyd yn bresennol.

Gwybodaeth Cychwyn

I118Atod. 8 para. 32 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

33.  Rhaid rhoi cyflenwad digonol o swmpfwyd neu fwyd ffibr uchel yn ogystal â bwyd ynni uchel i bob hwch dorrog hesb a banwes, i fodloni eu chwant bwyd a'u hangen i gnoi.

Gwybodaeth Cychwyn

I119Atod. 8 para. 33 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

RHAN 5LL+CPerchyll

34.  Pan ddefnyddir system crât porchella, rhaid darparu ffynhonnell gwres a man gorwedd solet, sych a chysurus i'r perchyll, i ffwrdd oddi wrth yr hwch lle gall pob un ohonynt orffwys ar yr un pryd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I120Atod. 8 para. 34 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

35.  Rhaid i ran o arwynebedd y llawr lle cedwir y perchyll, ac sy'n ddigon mawr i ganiatáu i'r anifeiliaid orffwys gyda'i gilydd ar yr un pryd, fod yn solet neu wedi ei gorchuddio â mat neu o dan laesodr gwellt neu ddeunydd addas arall.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I121Atod. 8 para. 35 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

36.  Pan ddefnyddir crât porchella, rhaid i'r perchyll gael digon o le i'w galluogi i sugno yn ddidrafferth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I122Atod. 8 para. 36 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

37.  Yn ddarostyngedig i baragraff 38, rhaid peidio â diddyfnu perchyll oddi wrth yr hwch pan fyddant yn iau nag 28 diwrnod oed oni fyddai peidio â gwneud hynny yn andwyol i les neu iechyd yr hwch neu'r perchyll.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I123Atod. 8 para. 37 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

38.  Caniateir diddyfnu perchyll hyd at saith diwrnod ynghynt na'r cyfnod a bennir ym mharagraff 37 os symudir hwy i lety arbenigol—LL+C

(a)sy'n cael ei wagio, ei lanhau a'i ddiheintio'n drylwyr cyn cymryd grwp newydd i mewn; a

(b)sydd ar wahân i adeiladau lle y cedwir hychod eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I124Atod. 8 para. 38 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

RHAN 6LL+CPerchyll diddwyn a moch magu

39.  Cyn gynted ag y bo modd ar ôl diddyfnu, rhaid cadw perchyll diddwyn a moch magu mewn grwpiau sefydlog, gyda chyn lleied ag y bo modd o gymysgu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I125Atod. 8 para. 39 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

40.  Os oes rhaid cymysgu moch sy'n anghyfarwydd â'i gilydd —LL+C

(a)dylid gwneud hynny os yn bosibl cyn diddyfnu neu cyn pen un wythnos ar ôl diddyfnu neu, fel arall, pan fo'r moch mor ifanc ag y bo modd; a

(b)rhaid rhoi digon o gyfleoedd iddynt ddianc a chuddio rhag moch eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I126Atod. 8 para. 40 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

41.  Rhaid i'r arfer o ddefnyddio meddyginiaeth tawelu i hwyluso cymysgu gael ei gyfyngu i amodau eithriadol, a hynny yn unig ar ôl ymgynghori â milfeddyg.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I127Atod. 8 para. 41 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

42.  Os oes arwyddion o ymladd difrifol, rhaid ymchwilio i'r achosion ar unwaith a chymryd camau priodol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I128Atod. 8 para. 42 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

43.  Rhaid i'r arwynebedd llawr dirwystr sydd ar gael i bob porchell diddwyn neu fochyn magu a gedwir mewn grwp fod o leiaf yn—LL+C

(a)0.15 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn 10 kg neu lai;

(b)0.20 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 10 kg, ond yn llai na neu'n hafal i 20 kg;

(c)0.30 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 20 kg ond yn llai na neu'n hafal i 30 kg;

(ch)0.40 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 30 kg ond yn llai na neu'n hafal i 50 kg;

(d)0.55 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 50 kg ond yn llai na neu'n hafal i 85 kg;

(dd)0.65 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 85 kg ond yn llai na neu'n hafal i 110 kg; ac

(e)1.00 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 110 kg.

Gwybodaeth Cychwyn

I129Atod. 8 para. 43 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Rheoliad 5

ATODLEN 9LL+CAmodau ychwanegol sy'n gymwys i gadw cwningod

1.  Rhaid i unrhyw gytiau neu gewyll y cedwir cwningod ynddynt—LL+C

(a)bod o faint digonol i ganiatáu i'r cwningod symud o gwmpas ac i fwyta ac yfed yn ddidrafferth, ac i ganiatáu iddynt i gyd orwedd ar eu hochrau yr un pryd; a

(b)o uchder digonol i ganiatáu i'r cwningod eistedd yn gefnsyth ar eu pedwar troed heb i'w clustiau gyffwrdd â nenfwd y cwt neu'r cawell.

Gwybodaeth Cychwyn

I130Atod. 9 para. 1 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

2.  Pan gedwir cwningod mewn llety sy'n agored i'r tywydd, rhaid cymryd camau priodol i sicrhau bod lle iddynt gysgodi rhag y tywydd, gan gynnwys cysgod rhag golau uniongyrchol yr haul.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I131Atod. 9 para. 2 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn disodli yn bennaf (gyda diwygiadau):

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir 2001 (OS 2001/2682 (Cy.223));

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2002 (OS 2002/1898 (Cy. 199));

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2003 (OS 2003/1726 (Cy.189)); ac

Adran 7 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968(13).

Diddymir y ddeddfwriaeth uchod yr un pryd ag y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu deddfwriaeth Gymunedol a weithredwyd yn flaenorol gan y tair set o Reoliadau y cyfeirir atynt uchod (OS 2001/2682 (Cy.223); 2002/1898 (Cy.199) a 2003/1726 (Cy.189)). Y rhannau o ddeddfwriaeth Gymunedol y mae'r Rheoliadau hyn yn parhau i'w gweithredu yw—

Cyfarwyddeb y Cyngor 98/58/EC ynghylch amddiffyn anifeiliaid a gedwir at ddibenion ffermio(14);

Cyfarwyddeb y Cyngor 99/74/EC sy'n pennu safonau gofynnol ar gyfer diogelu ieir dodwy(15);

Cyfarwyddeb y Cyngor 91/629/EEC sy'n pennu safonau gofynnol ar gyfer diogelu lloi(16), fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/2/EC(17) a Phenderfyniad y Comisiwn 97/182/EC(18); a

Chyfarwyddeb y Cyngor 91/630/EEC sy'n pennu safonau gofynnol ar gyfer diogelu moch(19), fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/88/EC(20) a Chyfarwyddeb y Cyngor 2001/93/EC(21).

Mae'r Rheoliadau hyn (a'r ddeddfwriaeth Gymunedol a weithredir ganddynt) yn adlewyrchu'r rhwymedigaethau a gynhwysir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar gyfer Diogelu Anifeiliaid a gedwir at Ddibenion Ffermio dyddiedig 10 Mawrth 1976 (Cyfres Cytuniad Ewrop Rhif 98), o'i ddarllen ynghyd â'r Protocol Diwygio i'r Confensiwn Ewropeaidd ar gyfer Diogelu Anifeiliaid a gedwir at Ddibenion Ffermio dyddiedig 6 Chwefror 1992 (Cyfres Cytuniad Ewrop Rhif 145).

Gwneir y Rheoliadau o dan adran 12(1), (2) a (3) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006(22) ac maent yn gymwys i bob anifail a gedwir at ddibenion ffermio, yn ddarostyngedig i eithriadau cyfyngedig penodol a nodir yn rheoliad 3(2).

Mae rheoliad 4(1) yn pennu'r egwyddor gyffredinol bod rhaid i bersonau sy'n gyfrifol am anifeiliaid a ffermir gymryd camau rhesymol i sicrhau y cedwir yr anifeiliaid mewn amodau sy'n cydymffurfio ag Atodlen 1. Mae'r egwyddor hon yn gymwys i'r holl anifeiliaid asgwrn cefn (ac eithrio dyn) sy'n cael eu bridio neu eu cadw ar gyfer cynhyrchu bwyd, gwlân neu grwyn neu at ddibenion ffermio eraill, ond nid yw hyn yn cynnwys pysgod, ymlusgiaid nac amffibiaid.

Mae i'r ymadrodd “person sy'n gyfrifol” am anifail yr ystyr a roddir i “person responsible” yn adran 3 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, sy'n cynnwys person sy'n gyfrifol am anifail ar sail barhaol neu dros dro, person sydd ag anifail o dan ei ofal, perchennog anifail a pherson sy'n gyfrifol am blentyn o dan 16 mlwydd oed sy'n ymgymryd â gofal gwirioneddol neu reolaeth wirioneddol dros yr anifail.

Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer yr amodau y mae'n rhaid cadw pob anifail a ffermir ynddynt (rheoliad 4(1) ac Atodlen 1), ac ar gyfer amodau ychwanegol penodol sy'n gymwys i'r anifeiliaid canlynol a ffermir—

  • ieir dodwy mewn sefydliadau a chanddynt 350 neu fwy o ieir dodwy, a gedwir mewn—

    • systemau di-gawell (rheoliad 5(1)(b) ac Atodlen 2);

    • cewyll confensiynol (batri) (rheoliad 5(1)(b) ac Atodlen 3);

    • cewyll gwell (rheoliad 5(1)(b) ac Atodlen 4);

    • pob system cewyll a di-gawell (rheoliad 5(1)(b) ac Atodlen 5);

  • ieir dodwy, p'un ai mewn sefydliadau a chanddynt 350 neu fwy o ieir ai peidio (rheoliad 5(1)(a));

  • lloi (rheoliad 5(1)(c) ac Atodlen 6);

  • gwartheg (rheoliad 5(1)(ch) ac Atodlen 7);

  • moch (rheoliad 5(1)(d) ac Atodlen 8); a

  • chwningod (rheoliad 5(1)(dd) ac Atodlen 9).

Ni chaniateir adeiladu systemau cewyll confensiynol newydd na chewyll batri newydd na'u defnyddio am y tro cyntaf (paragraff 8 o Atodlen 3), a gwaherddir hwy ar ac ar ôl 1 Ionawr 2012 (paragraff 9 o Atodlen 3).

Mae rheoliad 6 yn gosod rhwymedigaethau ar bersonau sy'n gyfrifol am anifeiliaid a ffermir, i fod yn gyfarwydd â chodau ymarfer ac i sicrhau bod y codau ar gael iddynt tra'n gofalu am anifeiliaid, ac i sicrhau bod gan gyflogeion hefyd yr un wybodaeth a modd i gyrchu'r wybodaeth honno.

Mae rheoliad 7(a) yn ei gwneud yn dramgwydd i berson sy'n gyfrifol am anifail a ffermir, heb awdurdod neu esgus cyfreithlon, beidio â chydymffurfio â naill ai'r ddyletswydd gyffredinol i gydymffurfio ag Atodlen 1 neu ag unrhyw un o'r dyletswyddau ychwanegol i gydymffurfio ag Atodlenni 2 i 9 fel y bo'n gymwys. Mae'r rheoliad hefyd yn creu tramgwydd pan na chyflawnir unrhyw un o'r dyletswyddau yn rheoliad 6 mewn perthynas â chodau ymarfer.

Cyflawnir tramgwydd o dan reoliad 7(b) os gwneir cofnod ffug neu os rhoddir gwybodaeth ffug.

Y gosb uchaf am dramgwydd o dan reoliad 7(a) neu (b) carchariad am 6 mis a/neu ddirwy ar lefel 4 o'r raddfa safonol (sef £2,500 ar hyn o bryd). Pan ddaw adran 281(5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003(23) i rym, bydd y cyfnod hwyaf yn y carchar yn cynyddu i 51 wythnos.

Mae arfarniad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi. Gellir cael copïau ohono o Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

2006 p.45. Mae'r swyddogaethau a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(2)

OJ Rhif L340, 11.12.91, t 33

(3)

OJ Rhif L316, 1.12.2001, t 1

(4)

OJ Rhif L316, 1.12.2001, t 36

(5)

OJ Rhif L203, 3.8.99, t 53

(6)

OJ Rhif L340, 11.12.91, t 28

(7)

OJ Rhif L25, 28.1.97, t 24

(8)

OJ Rhif L76, 18.3.97, t 30

(9)

OJ Rhif L221, 8.8.98, t 23

(12)

OJ Rhif L125, 23.5.96, t.3.

(14)

OJ Rhif L221, 8.8.98, t.23

(15)

OJ Rhif L203, 3.8.99, t 53

(16)

OJ Rhif L340. 11.12.91, t 28

(17)

OJ Rhif L25, 28.1.97, t 24

(18)

OJ Rhif L76, 24.2.97, t 30

(19)

OJ Rhif L340, 11.12.91, t 33

(20)

OJ Rhif L316, 1.12.2001

(21)

OJ Rhif L316, 1.12.2001, t 36

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill