Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Rheoli Brechu) (Cymru) 2006

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 180 (Cy. 31)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Rheoli Brechu) (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

31 Ionawr 2006

Yn dod i rym

1 Chwefror 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd(2), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud drwy hyn y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Rheoli Brechu) (Cymru) 2006:

(2Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Chwefror 2006.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae “anifail buchol” (“bovine animal”) yn cynnwys byfflo a bison;

ystyr “anifail sy'n dueddol i gael y clwy” (“susceptible animal”) yw tarw, buwch, dafad, gafr, carw, camel, lama, alpaco, gwanaco, ficwnia, unrhyw anifail arall sy'n cnoi cil, unrhyw fochyn (hynny yw, aelod o is-urdd Suina o urdd Artiodactyla), eleffant neu gnofil (heblaw cnofil anwes);

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw arolygydd a benodwyd,

ystyr “arolygydd milfeddygol” (“veterinary inspector”) yw arolygydd a benodwyd o dan y Ddeddf;

mae i “awdurdod lleol” yr ystyr a bennwyd ar gyfer “local authority” gan adran 50(1) o'r Ddeddf;

ystyr “brechu” (“vaccinate”) yw trin anifail sy'n dueddol i gael y clwy â serwm tra-imiwn neu frechlyn rhag y clwy;

ystyr “brechu amddiffynnol” (“protective vaccination”) yw brechu a gyflawnir er mwyn amddiffyn anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy rhag ymlediad firws y clwy drwy'r awyr neu drwy fagwrfeydd lle nad oes bwriad i gigydda'r anifeiliaid sydd wedi'u brechu er mwyn atal y clwy rhag ymledu;

ystyr “brechu ataliol” (“suppressive vaccination”) yw brechu a gyflawnir mewn mangre neu mewn ardal lle y mae taer angen atal y clwy rhag ymledu i'r tu allan i'r daliad neu'r ardal drwy leihau'r niferoedd o firysau'r clwy sy'n cylchredeg yno lle y mae bwriad i gigydda'r anifeiliaid sydd wedi'u brechu er mwyn atal y clwy rhag ymledu;

ystyr “briwgig” (“minced meat”) yw cig y tynnwyd yr esgyrn ohono a'i falu'n ddarnau mân ac sy'n cynnwys llai nag 1% o fraster;

ystyr “carcas” (“carcase”) yw carcas anifail ac mae'n cynnwys rhan o garcas, a'r cig, yr esgyrn, y croen, y pilennau, y carnau, offal neu unrhyw ran o anifail, ar wahân neu fel arall, neu unrhyw gyfran ohono;

ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sy'n gyfrifol am anifeiliaid, boed hynny'n barhaol neu dros dro, ond nid yw'n cynnwys unrhyw berson sy'n gyfrifol am anifeiliaid dim ond am ei fod yn eu cludo;

mae “cerbyd” (“vehicle”) yn cynnwys—

(a)

trelar, lled-drelar, neu beth arall a gynlluniwyd neu a addaswyd ar gyfer ei dynnu gan gerbyd arall;

(b)

rhan o gerbyd y gellir ei datgysylltu;

(c)

cynhwysydd neu strwythur arall a gynlluniwyd ar gyfer ei gario gan neu ar gerbyd.

ystyr “cig ffres” (“fresh meat”) (gan gynnwys offal ac unrhyw baratoad cig) yw cig nad yw wedi mynd drwy unrhyw broses breserfio ac eithrio oeri, rhewi neu frysrewi, gan gynnwys cig a lapiwyd dan wactod neu a lapiwyd mewn awyrgylch a reolir;

ystyr “cig wedi'i wahanu'n fecanyddol” (“mechanically separated meat”) yw'r cynnyrch a geir wrth grafu cig oddi ar esgyrn sy'n cynnal cnawd ar ôl tynnu'r esgyrn, gan ddefnyddio dulliau mecanyddol sy'n arwain at golli neu addasu strwythur ffibr y cyhyrau;

ystyr “cigydda” (“slaughter”) yw unrhyw broses sy'n peri marwolaeth anifail;

ystyr “y clwy” (“disease”) yw clwy'r traed a'r genau;

ystyr “cyfnod 1” (“phase 1”), mewn cysylltiad â pharth brechu, yw'r cyfnod amser sy'n dechrau wrth ddatgan y parth brechu hwnnw ac yn gorffen wrth wneud datganiad o dan reoliad 16(2);

ystyr “cyfnod 2” (“phase 2”), mewn cysylltiad â pharth brechu, yw'r cyfnod amser sy'n dechrau wrth i gyfnod 1 ddod i ben ac yn gorffen wrth wneud datganiad o dan reoliad 16(3);

ystyr “cyfnod 3” (“phase 3”), mewn cysylltiad â pharth brechu, yw'r cyfnod amser sy'n dechrau wrth i gyfnod 2 ddod i ben ac yn gorffen wrth wneud datganiad o dan reoliad 16(4);

ystyr “cynnyrch anifeiliaid” (“animal product”) yw unrhyw beth sy'n deillio neu sydd wedi'i wneud (boed yn gyfan gwbl neu'n rhannol) o anifail neu o garcas;

mae “cynnyrch llaeth” (“milk product”) yn cynnwys menyn, caws, maidd, iogwrt ac unrhyw gynnyrch arall sydd wedi'i wneud yn bennaf o laeth;

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “yn dwyn marc iechyd” (“health marked”) yw dwyn y marc iechyd sy'n ofynnol gan erthygl 5(2) o Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid a fwriedir eu bwyta gan bobl(3);

ystyr “yn dwyn marc dynodi” (“identification marked”) yw dwyn y marc dynodi sy'n ofynnol gan erthygl 5(1) o Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(4);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981(5);

ystyr “y Gorchymyn” (“the Order”) yw Gorchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Cymru) 2006(6);

ystyr “gwerthu” (“sell”) yw gwerthu i'r defnyddiwr olaf;

mae i “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yr ystyr a roddir i'r ymadrodd hwnnw yn rheoliad 5(6) o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006(7);

mae “llaeth” (“milk”) yn cynnwys hufen, llaeth wedi'i hidlo, llaeth sgim a llaeth enwyn;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys tir, gydag adeiladau neu hebddynt;

ystyr “mangre adweithydd” (“reactor premises”) yw mangre y datganwyd ei bod yn fangre adweithydd o dan reoliad 25(1)(b)(ii);

ystyr “mangre sydd wedi'i heintio” (“infected premises”) yw unrhyw fangre y datganwyd ei bod wedi'i heintio o dan y Gorchymyn;

ystyr “man archwilio ar y ffin” (“border inspection post”), yw lle a bennwyd yn fan archwilio ar y ffin yn Atodlen 2 i Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2005(8);

ystyr “meddiannydd” (“occupier”) o ran unrhyw fangre, yw'r person sydd â gofal y fangre honno;

ystyr “paratoadau cig” (“meat preparation”) yw cig ffres, gan gynnwys cig a falwyd yn ddarnau mân, yr ychwanegwyd bwydydd, sesno neu ychwanegion ato neu a fu drwy brosesau nad ydynt yn ddigonol i addasu strwythur ffibr cyhyrau mewnol y cig a chan hynny'n diddymu nodweddion cig ffres;

ystyr “parth brechu” (“vaccination zone”) yw parth brechu a ddatganwyd o dan reoliad 13;

ystyr “parth gwyliadwraeth” (“surveillance zone”)

ystyr “parth gwyliadwriaeth brechu” (vaccination surveillance zone”) yw parth gwyliadwriaeth a ddatganwyd o dan reoliad 13;

ystyr “parth gwarchod” (“protection zone”) yw parth gwarchod a ddatganwyd o dan y Gorchymyn;

ystyr “parth rheolaeth dros dro” (“temporary control zone”) yw parth rheolaeth dros dro a ddatganwyd o dan y Gorchymyn;

ystyr “priffordd gyhoeddus” (“public highway”) yw priffordd a gynhelir ar draul y cyhoedd; ac

ystyr “wedi'i stampio ar ben” (“overstamped”), o ran eitem sy'n dwyn marc iechyd neu farc dynodi sy'n dwyn croes groeslin ychwanegol sy'n ddwy linell syth ac sy'n croesdorri ar ganol y marc iechyd neu'r marc dynodi ac sy'n caniatáu i'r wybodaeth a geir yn y fan honno barhau'n ddarllenadwy (ar wahân i'r ffaith a osodwyd y groes ychwanegol gan yr un stamp â'r marc).

(2Yn y Rheoliadau hyn ystyr “wedi'i bennu ar gyfer ei frechu” (“specified for vaccination”) yw anifail sydd i'w frechu mewn penderfyniad i gyflawni rhaglen frechu a wneir yn unol â rheoliad 9(2).

(3Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at “anifeiliaid sy'n tarddu o” (“animals originating in”) barth brechu yn golygu—

(a)anifeiliaid a gedwir yn y parth brechu, a

(b)anifeiliaid a gafodd eu cadw o fewn ffiniau'r parth brechu ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod—

(i)sy'n dechrau 21 o ddiwrnodau cyn datgan y parth yn barth brechu, a

(ii)sy'n dod i ben gyda'r datganiad hwnnw.

Mangre sy'n dir comin neu dir heb ei gau

3.  Yn y Rheoliadau hyn—

(a)mae tir comin neu dir sydd heb ei gau yn ffurfio mangre ar wahân i dir arall oni bai—

(i)bod parseli o dir yn cyffinio, a

(ii)bod yr holl anifeiliaid a gedwir ar y naill barsel o dir dan ofal yr un ceidwad;

(b)mae hysbysiad a gyflwynir i feddiannydd mangre sy'n gyfan gwbl neu'n rhannol yn cynnwys unrhyw dir comin neu dir heb ei gau yn cael ei gyflwyno'n ddilys os cyflwynir ef i bob ceidwad anifeiliaid a gedwir yno (i'r graddau y gellir yn rhesymol wybod pwy yw'r personau hynny);

(c)mae gofyniad neu gyfyngiad a osodir ar feddiannydd mangre sy'n gyfan gwbl neu'n rhannol yn cynnwys unrhyw dir comin neu dir heb ei gau yn gymwys i bob ceidwad anifeiliaid a gedwir yno.

Trwyddedau a datganiadau

4.—(1Pan roddir trwyddedau o dan y Rheoliadau hyn—

(a)rhaid eu rhoi mewn ysgrifen,

(b)ceir peri iddynt fod yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu eu bod yn angenrheidiol i atal y clwy rhag ymledu, yn ogystal ag unrhyw amodau sy'n ofynnol gan y Rheoliadau hyn, ac

(c)ceir eu diwygio, eu hatal neu eu dirymu mewn ysgrifen ar unrhyw adeg.

(2Ac eithrio pan gyfarwyddir fel arall gan y Cynulliad Cenedlaethol, bydd trwydded a roddir yn Lloegr neu'r Alban at yr un diben â thrwydded y caniateir ei rhoi o dan y Rheoliadau hyn yn ddilys at y diben hwnnw yng Nghymru a bydd ei hamodau'n gymwys yng Nghymru fel pe bai'n drwydded a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn.

(3Rhaid i ddatganiadau a wneir o dan y Rheoliadau hyn fod mewn ysgrifen a rhaid i unrhyw ddiwygiad neu ddirymiad o ddatganiad gael eu gwneud drwy ddatganiad pellach.

Hysbysiadau

5.—(1Pan roddir hysbysiadau o dan y Rheoliadau hyn—

(a)rhaid iddynt fod yn ysgrifenedig; a

(b)ceir eu diwygio neu eu dirymu mewn ysgrifen ar unrhyw adeg.

(2Rhaid i hysbysiadau a gyflwynir i feddiannydd unrhyw fangre sy'n golygu y bydd yna unrhyw ofyniad neu gyfyngiad ynglŷn â'r fangre honno gynnwys disgrifiad o'r fangre honno sy'n ddigonol i ganfod eu hyd a'u lled.

(3Caniateir diwygio'r disgrifiad hwnnw gan arolygydd milfeddygol os yw wedi'i fodloni nad yw'n disgrifio uned epidemiolegol unigol ynglŷn â'r clwy.

Dosbarthu gwybodaeth ynghylch cyfyngiadau a gofynion

6.  Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd y cyfryw gamau y mae'n eu hystyried yn angenrheidiol i sicrhau bod trwyddedau, datganiadau a hysbysiadau'n cael eu dwyn i sylw'r rhai y gallent effeithio arnynt ac yn benodol rhaid iddo sicrhau cyhoeddusrwydd i roi gwybod am hyd a lled unrhyw barth a ddatgenir o dan y Rheoliadau hyn, natur y cyfyngiadau a'r gofynion sy'n gymwys iddo a dyddiad ei ddatgan a'i ddileu.

Diheintio

7.  Rhaid cyflawni gwaith diheintio o dan y Rheoliadau hyn gan ddiheintydd—

(a)a gymeradwywyd at ddibenion Gorchmynion Clwy'r Traed a'r Genau gan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion Cymeradwy) 1978(9),

(b)a ddefnyddir yn ôl y crynodiad a bennir yn y Gorchymyn hwnnw, ac

(c)a ddefnyddir yn unol â chyfarwyddiadau neu argymhellion y gweithgynhyrchydd (os oes rhai) ac yn benodol, os argymhellir ei ddefnyddio cyn unrhyw ddyddiad, ei fod yn cael ei ddefnyddio cyn y dyddiad hwnnw.

RHAN 2Y rhaglen frechu

Gwahardd brechu ac eithrio o dan drwydded

8.—(1Ni chaniateir i unrhyw berson frechu anifail ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol sy'n caniatáu brechu ataliol neu amddiffynnol.

(2Nid yw'r gwaharddiad yn y rheoliad hwn yn gymwys i—

(a)unrhyw beth a wneir o dan awdurdod trwydded a roddwyd o dan erthygl 4 o Orchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodol 1998(10); neu

(b)y gwaith o roddi brechlyn yn unol â thystysgrif profion ar anifeiliaid a roddwyd o dan reoliad 8 o Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2005(11).

Ffactorau sy'n cyfrannu at benderfyniad i ganiatáu brechu ataliol neu amddiffynnol

9.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ystyried y ffactorau canlynol wrth benderfynu a fydd yn caniatáu brechu ataliol neu amddiffynnol—

(a)y risg y bydd y clwy'n brigo—

(i)yn y Deyrnas Unedig ac yn mynd ar led i unrhyw ran o'r wlad,

(ii)yn ymledu i Gymru gydag anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy, carcasau neu bethau eraill sy'n debyg o ledu'r clwy drwy eu mewnforio, neu

(iii)yn ymledu o Gymru gydag anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy, carcasau neu bethau eraill sy'n debyg o ledu'r clwy drwy eu hallforio, neu

(iv)yn ymledu i Gymru neu ohoni oherwydd cyflwr y tywydd ar y pryd;

(b)unrhyw fygythiad oddi wrth y clwy i anifeiliaid—

(i)mewn labordy, sŵ, parc bywyd gwyllt neu fangre arall lle cedwir anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy yn bennaf at ddibenion eu harddangos ac addysgu'r cyhoedd, neu ardal gaeëdig a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer saethu;

(ii)mangre nad yw'n dod o fewn (i) o gorff, sefydliad neu ganolfan—

(aa)sy'n cadw anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy yn unig at ddibenion cadwraeth, arddangos ac addysgu'r cyhoedd, neu ymchwil gwyddonol neu fridio'r anifeiliaid hynny ar gyfer ymchwil, a

(bb)a gymeradwywyd ynglŷn â'r anifeiliaid hynny o dan reoliad 9 o Reoliadau Anifeiliaid a Cynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2005;

(iii)mewn mangre arall lle cedwir anifeiliaid sy'n dueddol o gael y clwy at ddibenion gwyddonol neu at ddibenion sy'n ymwneud â chadwraeth neu rywogaeth neu adnoddau genetig anifeiliaid fferm;

(c)y meini prawf yn Atodiad X i Gyfarwyddeb y Cyngor 2003/85/EC ar fesurau'r Gymuned i reoli clwy'r traed a'r genau sy'n diddymu Cyfarwyddeb 85/511/EEC a Phenderfyniadau 89/531/EEC a 91/665/EEC ac sy'n diwygio Cyfarwyddeb 92/46/EEC(12);

(ch)dulliau eraill o atal y clwy rhag ymledu sydd ar gael iddo;

(d)yn achos brechu ataliol, a oes angen brechu o'r fath fel mater o frys, i atal y clwy rhag ymledu i fangre neu ardal ddaearyddol drwy leihau'r niferoedd o firysau'r clwy sy'n cylchredeg yno; a

(dd)yn achos brechu amddiffynnol—

(i)a fydd brechu o'r fath yn amddiffyn anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy yn y parth brechu arfaethedig rhag ymlediad firysau'r clwy drwy'r awyr neu drwy fagwrfeydd, a

(ii)effaith y mesurau a fyddai'n cael eu cymhwyso yn y parth brechu amddiffynnol a'r parth gwyliadwriaeth brechu ar bersonau ac anifeiliaid sydd yno.

(2Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl ystyried y ffactorau hynny, yn credu mai caniatáu brechu ataliol neu amddiffynnol yw'r modd mwyaf priodol i atal y clwy rhag ymledu, rhaid iddo benderfynu ymgymryd â rhaglen frechu.

(3Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu ymgymryd â rhaglen frechu bydd yn rhoi un neu fwy o drwyddedau sy'n caniatáu brechu ataliol neu amddiffynnol.

Ffurf y penderfyniad i ymgymryd â rhaglen frechu

10.—(1Rhaid datgan y penderfyniad i ymgymryd â rhaglen frechu yn ysgrifenedig.

(2Rhaid i'r penderfyniad gynnwys yr wybodaeth ganlynol am y rhaglen frechu—

(a)ai rhaglen yw am frechu ataliol neu frechu amddiffynnol;

(b)y lle neu'r ardal ddaearyddol yr ymgymerir â hi;

(c)manylion yr anifeiliaid sydd i'w brechu (gan gynnwys eu rhywogaeth a'u hoed),

(ch)am ba hyd y bwriedir i'r rhaglen frechu barhau;

(d)hysbysiad o'r gwaharddiad ar symud anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid yn rheoliad 12(2);

(dd)ffurf y tagiau clust sydd i'w gosod a'r cofnodion sydd i'w gwneud o dan reoliad 19.

(e)unrhyw wybodaeth arall (os oes gwybodaeth o'r fath) y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei hystyried yn angenrheidiol at ddibenion hysbysu'r rhai y gall y rhaglen frechu effeithio arnynt.

(3Rhaid i unrhyw benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol sy'n golygu newid yn yr wybodaeth yn is-baragraff (2) hefyd gael ei datgan yn ysgrifenedig.

(4Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd y camau hynny y mae o'r farn eu bod yn angenrheidiol i ddwyn unrhyw benderfyniad y mae'n ofynnol ei bod yn ysgrifenedig gan y rheoliad hwn i sylw'r rheini y gall effeithio arnynt.

Trwyddedau sy'n caniatáu brechu ataliol neu frechu amddiffynnol

11.—(1Ni chaiff unrhyw drwydded sy'n caniatáu brechu ataliol awdurdodi brechu y tu allan i'r parth gwarchod.

(2Ni chaiff unrhyw drwydded sy'n caniatáu brechu amddiffynnol awdurdodi brechu mewn parth gwyliadwriaeth brechu.

(3Ni cheir dehongli trwydded sy'n caniatáu brechu ataliol neu amddiffynnol fel bod iddi'r effaith o'i gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn brechu unrhyw anifail.

Hwyluso brechu

12.—(1Rhaid i geidwad unrhyw anifail a bennir mewn penderfyniad i ymgymryd â rhaglen frechu, os gwneir hynny'n ofynnol gan arolygydd neu berson sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd—

(a)datgan (mewn ysgrifen os oes gofyn), rywogaethau, oed a niferoedd yr anifeiliaid y mae'n gyfrifol amdanynt; a

(b)cyflwyno unrhyw anifail o'r fath i'w frechu ar yr adeg honno ac yn y lle hwnnw a fo'n ofynnol.

(2Ni chaiff unrhyw berson ganiatáu symud y canlynol o unrhyw fangre lle cedwir unrhyw anifail a bennir mewn penderfyniad i ymgymryd â rhaglen frechu cyn bod yr holl anifeiliaid hynny wedi cael eu brechu ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol—

(a)unrhyw anifail, neu

(b)unrhyw gynnyrch anifeiliaid a gynhyrchwyd yn y fangre o anifail sy'n dueddol i gael y clwy.

Datgan parth brechu a datgan parth gwyliadwriaeth brechu

13.—(1Os yw'n penderfynu ymgymryd â rhaglen frechu amddiffynnol, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ar yr un pryd ddatgan unrhyw ran o Gymru lle'r ymgymerir â'r rhaglen yn barth brechu a rhaid iddo hefyd ddatgan parth gwyliadwriaeth brechu cysylltiedig.

(2Rhaid i ddatganiad o dan baragraff (1) ddynodi—

(a)rhychwant y parth brechu, a

(b)rhychwant y parth gwyliadwriaeth brechu cysylltiedig, y mae'n rhaid iddo ymestyn o leiaf deg cilomedr o'r parth brechu ac fel arall fod o'r cyfryw faint y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu sy'n angenrheidiol er mwyn rhwystro'r clwy rhag ymledu.

(3Os yw'n penderfynu amrywio'r lle neu'r ardal ddaearyddol lle y mae'r rhaglen frechu amddiffynnol i ddigwydd, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddiwygio'r datganiad o dan baragraff (1) fel bod y parth brechu yn cynnwys y lle neu'r ardal ddaearyddol a amrywiwyd.

Datgan parth gwyliadwriaeth brechu ar frechu amddiffynnol yn Lloegr

14.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan yw rhaglen frechu amddiffynnol i ddigwydd yn Lloegr.

(2Pan fydd y rheoliad hwn yn gymwys a bod unrhyw ran o'r rhaglen brechu amddiffynnol i ddigwydd o fewn deg cilomedr i ffin Cymru, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddatgan parth gwyliadwriaeth brechu yng Nghymru.

(3Pan fydd y rheoliad hwn yn gymwys a bod parth sy'n hafal ei effaith i barth gwyliadwriaeth brechu wedi cael ei ddatgan yn Lloegr sy'n ffinio â ffin Cymru, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddatgan parth gwyliadwriaeth brechu yng Nghymru.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i barth gwyliadwriaeth brechu a ddatgenir o dan y rheoliad hwn fod o'r cyfryw faint y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried ei fod angenrheidiol i rwystro ymlediad y clwy.

(5Rhaid i ddatganiad o dan y rheoliad hwn bennu rhychwant y parth gwyliadwriaeth brechu, a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod unrhyw barth o'r fath—

(a)yn ffinio â'r ffin â Lloegr, a

(b)yn ymestyn o'r ffin honno fel bod ei derfyn o leiaf ddeg cilomedr oddi wrth perimedr unrhyw barth sydd ag effaith hafal i barth brechu yn Lloegr.

Parthau brechu a pharthau gwyliadwriaeth brechu: darpariaethau cyffredinol

15.—(1Os yw rhan o unrhyw fangre y tu mewn neu y tu allan i barth brechu, bernir bod y cyfan ohoni y tu mewn i'r parth hwnnw.

(2Os yw unrhyw fangre yn rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth gwyliadwriaeth brechu, bernir bod y cyfan ohoni y tu mewn i'r parth hwnnw (heblaw am fangre y mae rhan ohoni y tu mewn i barth brechu hefyd).

(3Bydd ardal yn parhau'n barth brechu neu'n barth gwyliadwriaeth brechu (neu'n rhan o un) hyd nes y bydd y Cynulliad Cenedlaethol—

(a)yn diwygio'r datganiad a'i creodd fel yr eithrir yr ardal honno neu,

(b)yn dirymu'r datganiad hwnnw.

(4Rhaid i unrhyw ddiwygiad i ddatganiad neu ddirymiad datganiad sy'n creu parth brechu neu barth gwyliadwriaeth brechu gyfeirio at y datganiad hwnnw a dweud y dyddiad a'r amser y mae i gymryd effaith.

Cyfnodau amser a mesurau sy'n gymwys o ran parth brechu

16.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 25(2), mae darpariaethau'r Atodlen yn gymwys o ran parth brechu heb ragfarnu unrhyw ofynion neu gyfyngiadau sy'n gymwys yn unrhyw ran ohono oherwydd fod y rhan hwnnw yn disgyn o fewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth.

(2Ar ôl i 30 o ddiwrnodau fynd heibio ers brechu'r holl anifeiliaid mewn parth brechu a bennwyd ar gyfer eu brechu mewn penderfyniad i ymgymryd â rhaglen brechu amddiffynnol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddatgan diwedd cyfnod 1 a dechrau cyfnod 2 a rhaid i ddatganiad o'r fath bennu'r dyddiad a'r amser y mae i fod yn effeithiol.

(3Ar ôl cwblhau'r mesurau yn is-baragraffau (a) i (ch) yn rheoliad 25(2) ym mhob mangre adweithydd mewn parth brechu, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddatgan diwedd cyfnod 2 a dechrau cyfnod 3 a rhaid i ddatganiad o'r fath bennu'r dyddiad a'r amser y mae i fod yn effeithiol.

(4Er gwaethaf paragraff (3), caiff y Cynulliad Cenedlaethol, cyn cwblhau'r mesurau hynny ym mhob mangre adweithydd, gyflwyno hysbysiad i feddiannydd unrhyw fangre a ddosbarthwyd ei bod yn rhydd o'r clwy o dan reoliad 25(1)(b) yn datgan bod rhaid i'r fangre honno ddechrau ar gyfnod 3 a bod rhaid barnu bod cyfnod 3 wedi dechrau mewn cysylltiad â'r fangre honno pan gyflwynir yr hysbysiad hwnnw.

(5Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddatgan bod cyfnod 3 wedi dod i ben os yw'n sicr bod y clwy wedi'i ddileu yng Nghymru.

Mesurau sy'n gymwys i barth gwyliadwriaeth brechu

17.—(1Ni chaniateir i unrhyw berson symud unrhyw anifail sy'n dueddol i gael y clwy o fewn neu allan o barth gwyliadwriaeth brechu ac eithrio—

(a)oddi mewn i'r fangre lle y'i cedwir, neu

(b)o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(2Mae'r rheoliad hwn yn gymwys heb ragfarnu unrhyw ofynion neu gyfyngiadau sy'n gymwys i unrhyw ran o barth gwyliadwriaeth brechu am fod y rhan hwnnw yn disgyn o fewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth.

Estyn y pŵer i beri brechu

18.  Er gwaethaf adran 16(1) o'r Ddeddf, caiff y Cynulliad Cenedlaethol beri bod anifeiliaid nad ydynt yn dod o dan yr is-adran honno yn cael eu brechu os ydynt mewn parth brechu ac mae darpariaethau canlynol y Ddeddf i'w cymhwyso fel pe bai'r cyfryw frechu'n cael ei gyflawni wrth arfer y pŵer yn adran 16(1)—

(a)gweddill adran 16 (triniaeth ar ôl bod yn agored i haint),

(b)adran 16A (cigydda anifeiliaid sydd wedi'u brechu), a

(c)adran 62A (cigydda: pŵer mynediad).

Dynodi anifeiliaid sydd wedi'u brechu

19.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu i bob person y dyroddir trwydded iddo sy'n caniatáu brechu ataliol neu amddiffynnol ddigon o dagiau clust i'w gosod ar bob anifail a all gael ei frechu o dan y drwydded honno.

(2Rhaid i bob tag clust ddwyn yr wybodaeth honno y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei bod yn angenrheidiol i adnabod yr anifail y gosodwyd y tag arno fel anifail sydd wedi'i frechu.

(3Rhaid i unrhyw berson sy'n brechu anifail—

(a)ei ddynodi ar unwaith ar ôl ei frechu drwy osod tag arno;

(b)gwneud cofnod brechu ysgrifenedig sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol—

(i)y dyddiad,

(ii)y lle, a

(iii)disgrifiad o'r anifail;

(c)sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol a cheidwad yr anifail yn derbyn copi o'r cofnod brechu hwnnw; ac

(ch)cadw'r cofnod hwnnw am gyfnod o chwe mlynedd.

(4Rhaid i gofnodion fod yn y ffurf a gymeradwyir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(5Rhaid i bob person a ddarperir â thagiau clust o dan y rheoliad hwn ddychwelyd tagiau clust nas defnyddiwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ddi-oed pan hawlir hwy.

Marcio pasbortau gwartheg

20.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw anifail a bennwyd ar gyfer ei frechu a ddyroddwyd â—

(a)pasbort gwartheg o dan Orchymyn Pasbortau Gwartheg 1996(13);

(b)pasbort gwartheg o dan Reoliadau Adnabod Gwartheg 1998(14);

(c)tystysgrif gofrestru o dan Reoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hŷn) (Cymru) 2000(15).

(2Os bydd gan geidwad unrhyw anifail y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo ei basbort gwartheg neu dystysgrif gofrestru yn ei feddiant ar adeg y brechu rhaid iddo ei roi i'r person sy'n cyflawni'r brechu ar yr adeg honno.

(3Rhaid i'r person sy'n cyflawni'r brechu sicrhau bod y pasbort gwartheg neu dystysgrif gofrestru a roddir iddo ar adeg y brechu yn cael ei farcio neu ei marcio ar yr adeg honno i ddangos bod yr anifail wedi'i frechu ac yna dychwelyd y cyfryw basbort neu dystysgrif i'r ceidwad.

(4Os nad yw pasbort gwartheg neu dystysgrif gofrestru unrhyw anifail y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo ym meddiant ei geidwad ar adeg y brechu, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno hysbysiad i'r ceidwad hwnnw yn ei gwneud yn ofynnol iddo yntau gyflwyno'r cyfryw basbort neu dystysgrif i'r Cynulliad Cenedlaethol i'w farcio i ddangos bod yr anifail wedi cael ei frechu.

(5Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (4) bennu'r trefniadau gweinyddol y mae'n rhaid eu dilyn wrth gyflwyno'r pasbort gwartheg neu'r dystysgrif gofrestru ar gyfer ei farcio neu ei marcio.

(6Rhaid i unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad o dan baragraff (4) iddo gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y dychwelir y pasbort gwartheg neu'r dystysgrif gofrestru i'w feddiant yn ddi-oed a rhaid iddo gydymffurfio â gofynion yr hysbysiad yn ddi-oed pan ddychwelir y pasbort neu'r dystysgrif.

Tynnu tagiau clust a thagiau a gollwyd

21.—(1Ni chaiff unrhyw berson yn fwriadol dynnu tag clust a osodwyd o dan reoliad 19(3) oni thynnir ef er mwyn rhwystro poen a dioddefaint diangen.

(2Os bydd ceidwad anifail wedi'i frechu yn tynnu ei dag clust yn unol â pharagraff (1) neu'n darganfod bod ei dag clust ar goll rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig yn ddi-oed.

(3Pan ddaw hysbysiad i law o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

(a)trefnu bod tag clust newydd yn cael ei osod ar yr anifail sydd wedi'i frechu, neu

(b)pe byddai gosod tag clust yn peri poen a dioddefaint diangen, trefnu bod yr anifail yn cael ei ddynodi yn anifail sydd wedi'i frechu drwy osod marc parhaol annileadwy arno.

(4Rhaid i unrhyw berson sy'n gwybod neu sy'n amau bod anifail wedi'i frechu ond nad yw'n cario tag clust hysbysu ceidwad yr anifail hwnnw a'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith.

Gwerthu a chigydda anifeiliaid sydd wedi'u brechu

22.  Ni chaniateir i unrhyw berson werthu anifail sydd wedi'i frechu na'i anfon i'w gigydda onid oes ganddo dag clust a osodwyd o dan y Rheoliadau hyn.

Methu â brechu anifeiliaid a bennwyd ar gyfer eu brechu

23.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n gwybod neu'n amau bod anifail a bennwyd ar gyfer ei frechu ond nas brechwyd ar yr adeg pan ddylid bod wedi gwneud hynny hysbysu ceidwad yr anifail hwnnw a'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol o Wasanaeth Milfeddygol y Llywodraeth ar unwaith.

(2Os yw arolygydd yn amau bod anifail wedi'i bennu ar gyfer ei frechu ond nas brechwyd ar yr adeg pan ddylid bod wedi gwneud hynny rhaid iddo drefnu bod yr anifail hwnnw'n cael ei frechu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (ond nid cyn 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad pan ddylai fod wedi cael ei frechu).

Carcasau anifeiliaid a bennwyd ar gyfer eu brechu

24.—(1Os yw arolygydd yn gwybod neu'n amau bod carcas yn garcas anifail sydd wedi'i frechu ac y bwriedir ei werthu (p'un ai cyn neu ar ôl ei brosesu), ond nad ymdrinnir ag ef felly, caiff gyflwyno hysbysiad i'r person sydd â gofal amdano yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael gwared ag ef.

(2Os yw arolygydd yn gwybod neu'n amau bod carcas yn garcas anifail sydd wedi'i bennu ar gyfer ei frechu ond nas brechwyd ac y bwriedir ei werthu (p'un ai cyn neu ar ôl ei brosesu), rhaid iddo gyflwyno hysbysiad i'r person sydd â gofal amdano yn ei gwneud yn ofynnol iddo ymdrin ag ef bob amser fel pe bai'n garcas anifail sydd wedi'i frechu .

Arolygu a dosbarthu mangreoedd yn ystod cyfnod 2

25.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau yn ystod cyfnod 2—

(a)bod arolwg clinigol a serolegol yn cael ei gynnal o'r holl fangre yn y parth brechu lle cedwir anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy yn unol â'r dull canlynol—

(i)gwneud archwiliad clinigol o'r holl anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy yn y parth brechu, a

(ii)naill ai—

(aa)gwneud prawf i ddarganfod heintiad oherwydd firws y clwy drwy ganfod a yw gwrthgyrff proteinau anadeileddol firws y clwy yn bresennol mewn detholiad o anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy, neu

(bb)gwneud prawf i ddarganfod a yw gwrthgyrff proteinau anadeileddol firws y clwy yn bresennol ar samplau o'r holl anifeiliaid sydd wedi'u brechu a'u hepil sydd heb eu brechu; a

(b)bod pob mangre yn y parth brechu lle cedwir anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy yn cael ei dosbarthu yn ôl canlyniad yr arolwg a'r meini prawf yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn—

(i)os oedd o leiaf un anifail sy'n dueddol i gael y clwy yn y fangre ac os cadarnhawyd bod firws y clwy yn bresennol ynddo, yn fangre sydd wedi'i heintio;

(ii)os oedd o leiaf un anifail sy'n dueddol i gael y clwy yr amheuir ei fod wedi'i heintio ond bod profion pellach ar yr holl anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy yn y fangre wedi cadarnhau nad yw firws y clwy yn cylchredeg yno, yn fangre adweithydd (a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno hysbysiad i'r meddiannydd yn datgan bod y fangre yn fangre adweithydd); neu

(iii)fel arall, yn rhydd o'r clwy (a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r meddiannydd am y dosbarthiad hwnnw drwy gyflwyno hysbysiad iddo).

(2Bydd y mesurau canlynol yn gymwys i fangre adweithydd—

(a)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy y cafwyd canlyniad cadarnhaol ar eu cyfer mewn o leiaf un o'r profion yn is-baragraff 1(a)(ii) yn cael eu cigydda ar y daliad;

(b)caiff y Cynulliad Cenedlaethol drwy hysbysiad a gyflwynir i'r meddiannydd gyfarwyddo bod anifeiliaid eraill sy'n dueddol i gael y clwy yn y fangre yn cael eu cigydda;

(c)rhaid i'r meddiannydd gael gwared ar garcasau unrhyw anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy sydd wedi'u cigydda yn y fangre yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd;

(ch)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod y fangre'n cael ei glanhau a'i diheintio yn unol ag Atodlen 1 i'r Gorchymyn;

(d)ni chaniateir i unrhyw berson ailstocio'r fangre ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag Atodlen 8 i'r Gorchymyn.

Dyletswydd awdurdod lleol i godi arwyddion

26.  Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod ffiniau pob parth brechu a pharth gwyliadwriaeth brechu yn cael eu dangos gan arwyddion a godir mewn lle amlwg ar yr holl ffyrdd sy'n mynd i mewn i'r parthau y mae o'r farn ei bod yn debygol y bydd anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy yn cael eu symud arnynt.

Masnach anifeiliaid sydd wedi'u brechu o fewn y Gymuned

27.  Ni chaniateir i unrhyw berson anfon unrhyw anifail sydd wedi'i frechu ar gyfer masnach o fewn y Gymuned.

RHAN 3Darpariaethau cyffredinol ac atodol

Glanhau a diheintio cerbydau: darparu cyfleusterau, cyfarpar a deunyddiau

28.  Pan fo'n ofynnol glanhau a diheintio cerbydau yn unrhyw fangre gan neu o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i feddiannydd y fangre honno ddarparu cyfleusterau, cyfarpar a deunyddiau priodol ar gyfer y glanhau a'r diheintio hwnnw.

Marciau a osodir o dan y Rheoliadau hyn

29.  Ni chaniateir i unrhyw berson guddio neu ddileu marc a osodir ar unrhyw anifail, carcas, cynnyrch anifeiliaid, cerbyd nac unrhyw beth arall o dan y Rheoliadau hyn oni bai—

(a)bod y marc yn stamp ar ben marc iechyd neu farc dynodi ac yn yr achos hwnnw caniateir tynnu'r stamp ar ben yn yr un modd â'r marc hwnnw, neu

(b)bod arolygydd wedi rhoi awdurdod ysgrifenedig.

Newid meddiannaeth mangre o dan gyfyngiad

30.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os nad ydyw ceidwad unrhyw anifail neu ddofednyn yn gallu ei symud o'r fangre ar derfyn ei hawl i feddiannu oherwydd cyfyngiad a osodwyd gan, neu o dan, y Rheolidau hyn.

(2Pan fydd y rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i'r person sydd â hawl i feddiannu'r fangre ar y terfyniad hwnnw—

(a)darparu'r cyfleusterau hynny i fwydo, gofalu am yr anifail neu'r dofednyn neu ddefnyddio'r anifail neu'r dofednyn fel arall (gan gynnwys ei werthu) y gall y ceidwad yn rhesymol eu gwneud yn ofynnol, a

(b)caniatáu mynediad i'r fangre i'r ceidwad hwnnw ac i unrhyw berson arall a awdurdodir ganddo ar adegau rhesymol i fwydo, gofalu am yr anifail neu'r dofednyn neu ddefnyddio'r anifail neu'r dofednyn fel arall.

(3Os nad ydyw'r ceidwad yn gallu neu'n fodlon bwydo neu ofalu am yr anifail neu'r dofednyn, rhaid i'r person sydd â hawl i feddiannu'r fangre gymryd y camau hynny sy'n angenrheidiol i sicrhau ei fod yn cael ei fwydo'n briodol ac yn cael gofal priodol.

(4Mae ceidwad anifail neu ddofednyn yn atebol i dalu'r costau rhesymol a dynnir o dan y rheoliad hwn gan unrhyw berson sy'n ei fwydo neu'n gofalu amdano, neu'n darparu cyfleusterau ar gyfer ei fwydo, gofalu amdano neu'n ei ddefnyddio fel arall.

Cymorth rhesymol

31.  Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo roi cymorth rhesymol neu wybodaeth resymol i berson sy'n cymryd camau wrth weithredu'r Rheoliadau hyn er mwyn cyflawni ei swyddogaethau oddi tano, wneud hynny'n ddi-oed onid oes ganddo achos rhesymol dros beidio.

Gwybodaeth anwir

32.  Ni chaiff neb roi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol i berson sy'n cymryd camau i weithredu'r Rheoliadau hyn.

Dangos cofnodion

33.—(1Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo ddangos cofnod gan berson sy'n cymryd camau i weithredu'r Rheoliadau wneud hynny'n ddi-oed.

(2Pan ddangosir y cofnod, caiff person sy'n cymryd camau i weithredu'r Rheoliadau hyn—

(a)gwneud copi o unrhyw gofnodion, ar ba ffurf bynnag y cedwir hwy, neu

(b)symud unrhyw gofnodion er mwyn galluogi iddynt gael eu copïo, neu pan gedwir hwy yn electronig, ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu llunio mewn ffurf y gellir ei chludo ymaith.

(3Rhaid i berson sy'n symud cofnodion o dan y rheoliad hwn roi derbynneb ysgrifenedig amdanynt.

Cydymffurfio â hysbysiadau a chyfarwyddiadau

34.—(1Rhaid cydymffurfio ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn ar gost y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, ac eithrio pan ddarperir fel arall yn yr hysbysiad hwnnw.

(2Rhaid cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd llafar a roddir o dan y Rheoliadau hyn ar gost y person y rhoddir y cyfarwyddyd iddo, ac eithrio pan ddarperir fel arall mewn cyfarwyddyd ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Pwerau arolygwyr

35.—(1Mae adran 63 o'r Ddeddf yn gymwys fel pe bai'r Rheoliadau hyn wedi'u cynnwys yn y Ddeddf ac fel pe bai'r diffiniad o anifail yn adran 87 o'r Ddeddf wedi'i estyn i gynnwys pob anifail sy'n dueddol i gael y clwy.

(2Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf i'w cymhwyso fel pe bai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf ac fel pe bai'r diffiniad o anifail yn adran 87 o'r Ddeddf wedi'i estyn i gynnwys pob anifail sy'n dueddol i gael y clwy—

(a)adran 64A (pwerau arolygwyr mewn cysylltiad â rhwymedigaethau Cymunedol), a

(b)adran 65(1) i (3) (pŵer i ddal llongau ac awyrennau).

(3Mae adran 65A o'r Ddeddf (archwilio cerbydau) yn gymwys fel pe bai—

(a)y Rheoliadau hyn yn Orchymyn o dan y Ddeddf;

(b)y diffiniad o anifail yn adran 87 o'r Ddeddf wedi'i estyn i gynnwys pob anifail sy'n dueddol i gael y clwy; ac

(c)pob parth brechu a pharth gwyliadwriaeth brechu wedi'i ddynodi cyhyd ag y bydd yn para mewn bodolaeth at ddibenion yr adran honno.

Gorfodi, troseddau ac achosion

36.—(1Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel pe bai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf—

(a)adran 60 (dyletswyddau ac awdurdodiadau cwnstabliaid),

(b)adran 66 (gwrthod a rhwystro),

(c)adran 67 (dyroddi trwyddedau anwir etc.),

(ch)adran 68 (dyroddi trwyddedau sy'n wag etc.),

(d)adran 71 (tramgwyddau eraill o ran trwyddedau);

(dd)adran 71A, (erlyniadau: terfyn amser)

(e)adran 73 (tramgwyddau cyffredinol);

(f)adran 77 (arian y gellir ei adennill yn ddiannod), ac

(ff)adran 79(1) i (4) (tystiolaeth a gweithdrefn)

ac fel pe bai'r diffiniad o anifail yn adran 87 o'r Ddeddf wedi'i estyn i gynnwys pob anifail sy'n dueddol i gael y clwy.

(2Mae adran 69 o'r Ddeddf (cael trwyddedau drwy dwyll etc.) yn gymwys fel pe bai trwyddedau, tystysgrifau neu offerynnau a ganiatawyd neu a ddyroddwyd o dan y Rheoliadau hyn wedi'u caniatáu neu eu dyroddi o dan Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf.

(3Mae adran 75 o'r Ddeddf (cosbau am dramgwyddau diannod) yn gymwys fel pe bai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf ac eithrio nad yw unrhyw gyfnod o garchar ar gollfarn ddiannod i fod yn fwy na thri mis.

Dangos trwyddedau a dadlwytho ar ôl symudiadau trwyddedig

37.  Rhaid i bob person y dyroddwyd trwydded iddo o dan y Rheoliadau hyn, pan fydd yn cyflawni'r gwaith a drwyddedwyd, o dan y Rheoliadau hyn gadw'r drwydded gydag ef a'i dangos i arolygydd pan hawlir hi yn ddi-oed.

Pwerau cyffredinol i arolygwyr milfeddygol gymryd camau i rwystro'r clwy rhag ymledu

38.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys ym mhob parth brechu a phob parth gwyliadwriaeth brechu.

(2Pan fydd y rheoliad hwn yn gymwys, caiff arolygydd milfeddygol, os yw o'r farn ei bod yn angenrheidiol i rwystro'r clwy rhag ymledu, ei gwneud yn ofynnol—

(a)dal ac ynysu unrhyw gerbyd, cyfarpar neu unrhyw beth arall, ac yna eu glanhau a'u diheintio drwy gyflwyno hysbysiad sy'n gwneud y camau hynny'n ofynnol i feddiannydd y fangre lle y mae'r cerbyd, y cyfarpar neu unrhyw beth arall yn bresennol neu i'r person sydd â gofal amdanynt;

(b)glanhau a diheintio unrhyw fangre neu le arall yn unol ag Atodlen 1 i'r Gorchymyn drwy gyflwyno hysbysiad yn gwneud hynny'n ofynnol i feddiannydd y fangre honno neu'r lle hwnnw;

(c)gwaredu, golchi, glanhau a diheintio dillad neu esgidiau unrhyw berson drwy gyflwyno hysbysiad iddo sy'n gwneud hynny yn ofynnol;

(ch)bod unrhyw berson yn ei lanhau ei hunan drwy gyflwyno hysbysiad iddo sy'n gwneud hynny'n ofynnol;

(d)dal neu ynysu mewn lle penodedig unrhyw anifail neu ddofednyn drwy gyflwyno hysbysiad yn gwneud hynny'n ofynnol i feddiannydd y fangre lle y mae'r anifail neu'r dofednyn yn bresennol, neu i'w geidwad;

(dd)gwahanu unrhyw anifail neu ddofednyn oddi wrth unrhyw anifeiliaid neu ddofednod eraill drwy gyflwyno hysbysiad yn gwneud hynny'n ofynnol i feddiannydd y fangre lle y mae'r anifail neu'r dofednyn yn bresennol, neu i'w geidwad.

(3Gall hysbysiad o dan y rheoliad hwn gynnwys y cyfarwyddiadau a'r amodau hynny y mae'r person sy'n ei gyflwyno o'r farn ei fod yn angenrheidiol er mwyn rhwystro ymlediad y clwy.

(4Nid yw'r pwerau a roddir i arolygydd milfeddygol gan y rheoliad hwn yn rhagfanrnu'r pwerau a roddir gan unrhyw ddapariaeth arall o'r Rheoliadau hyn.

Pwerau arolygwyr os ceir methiant

39.—(1Os bydd person yn methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan neu o dan y Rheoliadau hyn, caiff arolygydd gymryd unrhyw gamau a farno'n angenrheidiol i sicrhau y bydd y gofyniad yn cael ei fodloni.

(2Os bydd person yn gweithredu'n groes i ofyniad a osodir gan neu o dan y Rheoliadau hyn, caiff arolygydd gymryd unrhyw gamau a farno'n angenrheidiol i adfer y sefyllfa er mwyn atal y clwy rhag ymledu.

(3Wrth gymryd camau o dan baragraff (1) neu (2), caiff arolygydd atafaelu a dal unrhyw anifail, a symudwyd, a gadwyd neu a drafodwyd fel arall yn groes i gyfyngiad neu ofyniad a osodir gan neu o dan y Rheoliadau hyn.

(4Wrth gymryd camau o dan baragraff (2), caiff arolygydd drwy hysbysiad a gyflwynir i unrhyw berson gyfarwyddo'r person hwnnw i gymryd neu i ymatal rhag cymryd camau penodol mewn cysylltiad ag unrhyw le, anifail, dofednyn, cerbyd, cynnyrch anifail neu unrhyw beth arall.

(5Ni fydd unrhyw gamau a gymerir o dan y rheoliad hwn yn rhagfarnu achos am dramgwydd sy'n deillio o'r methiant.

(6Rhaid i'r person a fethodd, ad-dalu unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r awdurdod lleol wrth gymryd camau o'r fath a gellir adennill unrhyw ad-daliad yn ddiannod.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

40.—(1Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,

bernir bod y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Tramgwyddau: dim gwybodaeth am y cyfyngiad neu'r gofyniad

41.  Ni fydd unrhyw berson yn euog o fethu â chydymffurfio â chyfyngiad neu ofyniad sy'n gymwys oherwydd datgan bod parth—

(a)yn barth brechu, neu

(b)yn barth gwyliadwriaeth brechu

os yw'r person yn gallu dangos er boddhad y llys nad oedd yn gwybod am y cyfyngiad neu'r gofyniad hwnnw ac na allai gyda diwydrwydd rhesymol fod wedi cael gwybod amdano.

Gorfodi

42.—(1Yn ddarostyngedig i bargraffau (2) a (3), yr awdurdod lleol sydd i orfodi'r Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol orfodi'r Rheoliadau hyn o ran lladd-dai.

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, o ran achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, bod dyletswydd orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan y Rheoliadau hyn i'w chyflawni gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nid gan yr awdurdod lleol.

Dirymiadau

43.  Dirymir yr offerynnau canlynol—

(a)Gorchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Ardaloedd Heintiedig) (Brechu) 1972(16) (i'r graddau y mae'r Gorchymyn yn gymwys o ran Cymru); a

(b)Rheoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Gwahardd Brechu) (Cymru) 2001(17) .

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(18).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Ionawr 2006

Rheoliad 16(1)

YR ATODLENMesurau sy'n gymwys o ran parth brechu

RHAN 1Symud anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy

Symud anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy yn ystod cyfnod 1

1.—(1Yn ystod cyfnod 1 ni chaniateir unrhyw berson symud unrhyw anifail sy'n dueddol i gael y clwy oddi mewn i barth brechu neu allan ohono oni wneir hynny oddi mewn i fangre neu o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(2Ni cheir rhoi unrhyw drwydded o dan is-baragraff (1) ac eithrio

(a)i gludo anifeiliaid yn uniongyrchol o fangre i ladd-dy i'w cigydda ar unwaith—

(i)yn yr un parth brechu, neu

(ii)os nad oes lladd-dy yn y parth brechu hwnnw, y tu allan i'r parth brechu; neu

(b)symud o un rhan o'r fangre i ran arall o'r un fangre gan ddefnyddio priffordd gyhoeddus rhyngddynt.

(3Ni cheir rhoi trwydded ar gyfer cludo o dan is-baragraff (2)(a) oni bai bod y person sy'n ei rhoi wedi'i fodloni—

(a)bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud archwiliad clinigol o fewn y 24 awr flaenorol o bob anifail sy'n dueddol i gael y clwy yn y fangre, a

(b)nad oes unrhyw amheuaeth o heintiad neu halogiad yn y fangre.

Symud anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy yn ystod cyfnod 2

2.—(1Yn ystod cyfnod 2, ni chaniateir i unrhyw berson symud unrhyw anifail sy'n dueddol i gael y clwy o unrhyw fangre neu i unrhyw fangre mewn parth brechu ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(2Ni cheir rhoi trwydded o dan is-baragraff (1) ar gyfer symud anifail o unrhyw fangre adweithydd onid yw—

(a)ar gyfer ei gludo'n uniongyrchol i ladd-dy, er mwyn ei gigydda ar unwaith, a

(b)bod pob anifail y gwnaed prawf diagnostig arno gan arolygydd milfeddygol naill ai i ganfod presenoldeb haint neu wrthgyrff yn erbyn proteinau anadeileddol firws y clwy heb gael adwaith cadarnhaol i unrhyw brawf o'r fath.

(3Ni cheir rhoi trwydded o dan is-baragraff (1) ar gyfer unrhyw symud arall ac eithrio—

(a)i gludo anifeiliaid i ladd-dy er mwyn eu cigydda ar unwaith o fangre a ddosbarthwyd o dan reoliad 25(1)(b) yn un sy'n rhydd o'r clwy, neu

(b)symud o un rhan o'r fangre i ran arall o'r un fangre gan ddefnyddio priffordd gyhoeddus rhyngddynt.

(4Rhaid i drwydded a roddir o dan y paragraff hwn heblaw am drwydded ar gyfer symud anifeiliaid o dan baragraff (3)(b) ei gwneud yn ofynnol—

(a)na fydd yr anifeiliaid yn dod i gyffyrddiad ag unrhyw anifeiliaid eraill sy'n dueddol i gael y clwy wrth eu cludo neu pan fyddant yn y lladd-dy; a

(b)y rhoddir copi o'r hysbysiad yn dynodi dosbarth daliad yr anifeiliaid o dan reoliad 25(1)(b), a hwnnw wedi'i ardystio'n gopi gwir gan y Cynulliad Cenedlaethol, gyda'r anifeiliaid wrth eu cludo.

Symud anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy yn ystod cyfnod 3

3.—(1Yn ystod cyfnod 3, ni chaniateir i unrhyw berson symud unrhyw anifail sy'n dueddol i gael y clwy oddi mewn i barth brechu neu allan ohono oni wneir hynny oddi mewn i fangre neu o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(2Ni cheir rhoi trwydded ar gyfer symud anifeiliaid allan o'r parth brechu o dan is-baragraff (1) ac eithrio ei bod ar gyfer eu cludo'n uniongyrchol o fangre a ddosbarthwyd o dan reoliad 25(1)(b) yn un sy'n rhydd o'r clwy i ladd-dy er mwyn eu cigydda ar unwaith a'i bod yn cynnwys cydymffurfedd â'r amodau yn is-baragraff (3).

(3Amodau'r is-baragraff hwn yw—

(a)na fydd yr anifeiliaid yn dod i gysylltiad ag unrhyw anifeiliaid eraill sy'n dueddol i gael y clwy wrth eu cludo; a

(b)y rhoddir copi o'r hysbysiad yn dosbarthu mangre darddu'r anifeiliaid o dan reoliad 25(1)(b), a hwnnw wedi'i ardystio'n gopi gwir gan arolygydd, gyda'r anifeiliaid wrth eu cludo.

(4Ni cheir rhoi trwydded ar gyfer symud anifeiliaid oddi mewn i'r parth brechu o dan y paragraff hwn oni bai

(a)ei bod yn pennu llwybr y daith sydd i'w ddilyn, sydd ym marn y person sy'n rhoi'r drwydded, yn sicrhau na fydd yr anifeiliaid yn agored i haint yn ystod y daith, ac naill ai—

(i)bod yr anifeiliaid o dan sylw heb gael eu brechu, ac y cydymffurfiwyd â'r amodau yn is-baragraff (5), neu

(ii)bod y symud o un rhan o fangre i ran arall o'r un fangre drwy ddefnyddio priffordd gyhoeddus rhyngddynt.

(5Amodau'r is-baragraff hwn yw—

(a)bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud archwiliad clinigol o fewn y 24 awr flaenorol o bob anifail sy'n dueddol i gael y clwy yn y fangre darddu a heb ganfod arwyddion o'r clwy;

(b)bod pob anifail sy'n dueddol i gael y clwy yn y fangre darddu wedi'i gadw yno am o leiaf 30 o ddiwrnodau;

(c)nad yw'r fangre darddu mewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth; a

(ch)naill ai—

(i)bod prawf wedi'i wneud ar bob anifail y bwriedir ei gludo gan arolygydd milfeddygol i ganfod a yw gwrthgyrff y clwy yn bresennol ar ôl iddo fod yn y fangre darddu am gyfnod sydd o leiaf cyhyd â chyfnod magu'r clwy a bod y canlyniadau'n negyddol, neu

(ii)bod arolwg serolegol yn unol â phrotocol samplu sy'n addas i ganfod 5% o fynychter gydag o leiaf 95% o lefel hyder wedi'i gwblhau ar y fangre darddu gyda chanlyniad negyddol gan arolygydd milfeddygol.

(6Ni cheir rhoi trwydded o dan y paragraff hwn ar gyfer symud anifeiliaid sydd heb eu brechu sy'n epil i fam sydd wedi'i brechu oni bai—

(a)bod prawf serolegol wedi'i wneud gan arolygydd milfeddygol ar bob anifail i ganfod a yw gwrthgyrff y clwy yn bresennol a bod y canlyniadau'n negyddol; neu

(b)bod y drwydded yn un ar gyfer symud anifeiliaid—

(i)i fangre yn y parth brechu sydd â'r un dosbarthiad o dan reoliad 25(1)(b); neu

(ii)i ladd-dy er mwyn eu cigydda ar unwaith; neu

(iii)i fangre benodedig arall ac, os felly, bydd is-baragraff (7) yn gymwys; neu

(c)bod y drwydded ar gyfer symud o fewn is-baragraff (4)(a)(ii).

(7Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, yn ystod cyfnod 3 ni chaniateir i unrhyw berson wedyn symud unrhyw anifail a symudwyd o'r fangre benodedig honno ac eithrio—

(a)ei symud i ladd-dy i'w gigydda ar unwaith, neu

(b)ei symud o un rhan o'r fangre i ran arall o'r un fangre gan ddefnyddio priffordd gyhoeddus rhyngddynt.

(8Rhaid i feddiannydd unrhyw ladd-dy y caiff anifeiliaid sy'n dueddol o gael y clwy eu cludo iddo o dan awdurdod twydded a roddir o dan y paragraff hwn o unrhyw fangre a ddosbarthwyd yn un sy'n rhydd o'r clwy o dan reoliad 25(1)(b) sicrhau—

(a)y gwneir archwiliad iechyd ante-mortem o bob anifail yn y lladd-dy cyn ei gigydda, a

(b)yn y lladd-dy, nad yw'r anifeiliaid a gludir yn dod i gyffyrddiad ag anifeiliaid eraill.

Glanhau a diheintio cebydau sy'n cludo anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy

4.—(1Rhaid i'r person sydd â gofal unrhyw gerbyd a ddefnyddir i symud anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy o dan awdurdod trwydded a roddir o dan baragraff 1, 2 neu 3—

(a)sicrhau ei fod wedi'i lanhau a'i ddiheintio yn unol ag Atodlen 2 i Orchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003(19) ac unrhyw ofynion ychwanegol y caiff arolygydd drwy gyfarwyddiadau ysgrifenedig eu gosod,

(b)cofnodi amser a dyddiad pob glanhau a diheintio yr ymgymerir ag ef yn ystod cyfnod 2 neu gyfnod 3,

(c)cadw'r cofnod gyda'r cerbyd bob amser;

(ch)cadw'r cofnod am chwe mis ar ôl y glanhau a'r diheintio diwethaf.

(2Rhaid ymgymryd â'r glanhau a'r diheintio hwnnw—

(a)cyn llwytho;

(b)ar ôl llwytho a chyn ymadael â'r fangre darddu (olwynion a bwâu olwynion y cerbyd yn unig fel eu bod yn lân wrth adael y fangre), ac

(c)ar ôl dadlwytho a chyn ymadael â'r fangre gyrchu.

Dangos trwyddedau a dadlwytho ar ôl symudiadau trwyddedig

5.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan roddir unrhyw drwydded i symud anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy rhwng mangreoedd o dan y Rhan hon, onid yw'r drwydded honno'n darparu fel arall.

(2Pan fydd y paragraff hwn yn gymwys, ni chaniateir i unrhyw berson ddadlwytho anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy mewn mangre y symudir hwy iddi onid yw'r person hwnnw yn gyntaf yn rhoi'r drwydded symud i feddiannydd y fangre honno.

(3Pan fydd y paragraff hwn yn gymwys, rhaid i feddiannydd unrhyw fangre y symudir anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy iddi—

(a)anfon y drwydded symud yn ddi-oed at yr awdurdod lleol ac, yn achos lladd-dy, rhoi copi i unrhyw lawfeddyg milfeddygol swyddogol a benodwyd ar gyfer y fangre honno;

(b)cadw copi o'r drwydded am gyfnod o 6 mis a'i dangos pan ofynnir am ei gweld gan arolygydd;

(c)yn achos canolfan gasglu, sicrhau bod defaid wedi'u marcio neu eu tagio yn unol â chyfarwyddiadau'r Cynulliad Cenedlaethol, fel y gellir gwybod lle mae'r ganolfan gasglu a'r fangre y symudwyd hwy ohoni, a phan symudir hwy wedyn i ladd-dy.

RHAN 2Cig ffres, briwgig a chig wedi'i wahanu'n fecanyddol

Cig ffres etc. sy'n dod o anifeiliaid wedi'u brechu a gigyddwyd yn ystod cyfnod 1

6.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gig ffres, briwgig a chig wedi'i wahanu'n fecanyddol sy'n dod o anifeiliaid wedi'u brechu a gigyddwyd yn ystod cyfnod 1.

(2Ni chaniateir i unrhyw berson werthu na thraddodi ar gyfer gwerthu cig y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo onid yw'n bodloni'r gofynion canlynol—

(a)ei fod wedi'i farcio â marc iechyd neu farc dynodi a bod stamp wedi'i osod ar ben y marc hwnnw;

(b)ar ôl marcio, ei fod bob amser wedi'i storio a'i gludo ar wahân i gig nad oedd wedi'i farcio yn y modd hwnnw;

(c)ei fod wedi'i gludo mewn cynwysyddion a seliwyd ar gyfer ei drin mewn sefydliad a ddynodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol;

(ch)ei fod wedi cael ei drin yn y sefydliad hwnnw fel ei fod yn dod o fewn paragraff 1 o Atodlen 5 i'r Gorchymyn.

Cig ffres etc. sy'n dod o anifeiliaid wedi'u brechu sy'n cnoi cil a gigyddwyd yn ystod cyfnod 2

7.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gig ffres, briwgig a chig wedi'i wahanu'n fecanyddol sy'n dod o anifeiliaid wedi'u brechu sy'n cnoi cil a gigyddwyd yn ystod cyfnod 2.

(2Ni chaniateir i unrhyw berson werthu na thraddodi ar gyfer gwerthu offal y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo.

(3Ni chaniateir i unrhyw berson werthu na thraddodi ar gyfer gwerthu cig heblaw offal y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo oni chafodd ei gynhyrchu mewn sefydliad—

(a)a awdurdodwyd gan drwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol sy'n gosod yr amodau hynny y mae o'r farn eu bod yn angenrheidiol i osod rheolaeth filfeddygol gaeth ar y sefydliad;

(b)sydd ond yn prosesu cig sy'n dod o fewn is-baragraff (4) yn unig; ac

(c)sydd bob amser yn ystod y broses gynhyrchu yn storio, dynodi a chludo cynhyrchion anifeiliaid sy'n gymwys i'w gwerthu ar wahân i'r rhai nad ydynt, yn unol â chyfarwyddiadau'r Cynulliad Cenedlaethol.

(4Mae cig yn dod o fewn yr is-baragraff hwn—

(a)os—

(i)tynnwyd yr esgyrn ohono a'i adael i aeddfedu fel ei fod yn dod o fewn paragraffau 11 a 12 o Atodlen 5 i'r Gorchymyn, neu

(ii)cafwyd ef o anifeiliaid a fagwyd ac a gigyddwyd y tu allan i barth brechu; a

(b)os marciwyd ef â marc iechyd neu farc dynodi.

Cig ffres etc. o foch wedi'u brechu a gigyddwyd yn ystod cyfnod 2

8.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gig ffres, briwgig a chig wedi'i wahanu'n fecanyddol sy'n dod o foch wedi'u brechu a gigyddwyd yn ystod cyfnod 2.

(2Ni chaniateir i unrhyw berson werthu na thraddodi ar gyfer gwerthu cig y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo onid yw'n bodloni'r gofynion canlynol—

(a)ei fod wedi'i farcio â marc iechyd neu farc dynodi a bod stamp wedi'i osod ar ben y marc hwnnw;

(b)ar ôl marcio, ei fod bob amser wedi'i storio a'i gludo ar wahân i gig nad oedd wedi'i farcio yn y modd hwnnw;

(c)ei fod wedi'i gludo mewn cynwysyddion a seliwyd ar gyfer ei drin mewn sefydliad a ddynodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol;

(ch)ei fod wedi cael ei drin yn y sefydliad hwnnw fel ei fod yn dod o fewn paragraff 1 o Atodlen 5 i'r Gorchymyn.

Cig ffres etc. sy'n dod o anifeiliaid heb eu brechu sy'n dueddol i gael y clwy ac a gigyddwyd mewn parth brechu yn ystod cyfnod 3

9.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gig ffres, briwgig a chig wedi'i wahanu'n fecanyddol sy'n dod o anifeiliaid heb eu brechu sy'n dueddol i gael y clwy ac a gigyddwyd mewn parth brechu yn ystod cyfnod 3.

(2Ni chaniateir i unrhyw berson werthu na thraddodi ar gyfer gwerthu cig y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo oni bai—

(a)naill ai—

(i)bod pob anifail sy'n dueddol i gael y clwy mewn mangre adweithydd yn y parth brechu wedi cael ei gigydda, neu

(ii)bod yr anifeiliaid y daeth y cig ohonynt wedi cael eu cludo i'r lladd-dy gan gydymffurfio ag is-baragraff (3) neu (4);

(b)ei fod wedi'i gynhyrchu mewn sefydliad sy'n cydymffurfio ag is-baragraff (5).

(3Mae'r cludo'n cydymffurfio â'r is-baragraff hwn os yw'n bodloni'r gofynion canlynol—

(a)nad yw'r anifeiliaid yn dod i gyffyrddiad ag unrhyw anifeiliaid eraill sy'n dueddol i gael y clwy yn ystod y cludo neu yn y lladd-dy; a

(b)bod copi o hysbysiad sy'n dosbarthu eu mangre darddu o dan reoliad 25(1)(b) gyda'r anifeiliaid yn ystod y cludo, wedi'i ardystio'n gopi gwir gan arolygydd.

(4Mae'r cludo'n cydymffurfio â'r is-baragraff hwn os yw'r anifeiliaid a gludir naill ai—

(a)i gyd wedi cael eu profi gan y Cynulliad Cenedlaethol am wrthgyrff yn erbyn y clwy ar ddiwedd cyfnod magu'r clwy gyda chanlyniadau negyddol, neu

(b)wedi bod yn destun arolwg serolegol gan y Cynulliad Cenedlaethol ar yr adeg honno gyda chanlyniadau negyddol.

(5Mae sefydliad yn cydymffurfio â'r paragraff hwn—

(a)os awdurdodwyd ef gan drwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol sy'n gosod yr amodau hynny y mae o'r farn eu bod yn angenrheidiol i osod rheolaeth filfeddygol gaeth ar y sefydliad;

(b)os yw'n prosesu cig sy'n dod o fewn is-baragraff (6) yn unig; ac

(c)os yw bob amser yn ystod y broses gynhyrchu yn storio, dynodi a chludo cynhyrchion anifeiliaid sy'n gymwys i'w gwerthu ar wahân i'r rhai nad ydynt, yn unol â chyfarwyddiadau'r Cynulliad Cenedlaethol.

(6Mae cig yn dod o fewn yr is-baragraff hwn—

(a)os—

(i)tynnwyd yr esgyrn ohono a'i adael i aeddfedu fel ei fod yn dod o fewn paragraffau 11 a 12 o Atodlen 5 i'r Gorchymyn,

(ii)cafodd ei gludo i'r sefydliad o dan awdurdod trwydded a roddwyd o dan baragraff 3 , neu

(iii)cafwyd ef o anifeiliaid a fagwyd ac a gigyddwyd y tu allan i barth brechu; a

(b)os marciwyd ef â marc iechyd neu farc dynodi.

Cig ffres etc. sy'n dod o anifeiliaid wedi'u brechu sy'n cnoi cil ac epil seropositif heb ei frechu i famau wedi'u brechu sy'n cnoi cil a gigyddwyd yn ystod cyfnod 3

10.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gig ffres, briwgig a chig wedi'i wahanu'n fecanyddol sy'n dod o'r anifeiliaid canlynol a gigyddwyd yn ystod cyfnod 3—

(a)anifeiliaid wedi'u brechu sy'n cnoi cil; a

(b)epil seropositif heb ei frechu i famau wedi'u brechu sy'n cnoi cil.

(2Ni chaniateir i unrhyw berson werthu na thraddodi ar gyfer gwerthu offal y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo.

(3Ni chaniateir i unrhyw berson werthu na thraddodi ar gyfer gwerthu cig y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo onid yw'n cydymffurfio ag is-baragraff (4) neu gig a gynhyrchwyd mewn sefydliad sy'n cydymffurfio ag is-baragraff (5).

(4Mae cig yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn os yw'n bodloni'r gofynion canlynol—

(a)ei fod wedi'i farcio â marc iechyd neu farc dynodi a bod stamp wedi'i osod ar ben y marc hwnnw;

(b)ar ôl marcio, ei fod bob amser wedi'i storio a'i gludo ar wahân i gig nad oedd wedi'i farcio yn y modd hwnnw;

(c)ei fod wedi'i gludo mewn cynwysyddion a seliwyd ar gyfer ei drin i sefydliad a ddynodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol;

(ch)ei fod wedi cael ei drin yn y sefydliad hwnnw fel ei fod yn dod o fewn paragraff 1 o Atodlen 5 i'r Gorchymyn.

(5Mae sefydliad yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn—

(a)os awdurdodwyd ef gan drwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol sy'n gosod yr amodau hynny y mae o'r farn eu bod yn angenrheidiol i osod rheolaeth filfeddygol gaeth ar y sefydliad;

(b)os yw'n prosesu cig sy'n dod o fewn is-baragraff (6) yn unig; ac

(c)os yw bob amser yn ystod y broses gynhyrchu yn storio, dynodi a chludo cynhyrchion anifeiliaid sy'n gymwys i'w werthu ar wahân i'r rhai nad ydynt, yn unol â chyfarwyddiadau'r Cynulliad Cenedlaethol.

(6Mae cig yn dod o fewn yr is-baragraff hwn—

(a)os—

(i)tynnwyd yr esgyrn ohono a'i adael i aeddfedu fel ei fod yn dod o fewn paragraffau 11 a 12 o Atodlen 5 i'r Gorchymyn,

(ii)cafodd ei gludo i sefydliad o dan awdurdod trwydded a roddwyd o dan baragraff 3, neu

(iii)cafwyd ef o anifeiliaid a fagwyd ac a gigyddwyd y tu allan i barth brechu; a

(b)os marciwyd ef â marc iechyd neu farc dynodi.

Cig ffres etc. sy'n dod o foch wedi'u brechu ac epil seropositif heb ei frechu i foch wedi'u brechu a gigyddwyd yn ystod cyfnod 3

11.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gig ffres, briwgig a chig wedi'i wahanu'n fecanyddol sy'n dod o'r anifeiliaid canlynol a gigyddwyd yn ystod cyfnod 3—

(a)moch wedi'u brechu; a

(b)epil seropositif heb ei frechu i foch wedi'u brechu.

(2Ni chaniateir i unrhyw berson werthu na thraddodi ar gyfer gwerthu cig y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo onid yw'n cydymffurfio ag is-baragraff (3) neu gig a gynhyrchwyd mewn sefydliad sy'n cydymffurfio ag is-baragraff (4).

(3Mae cig yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn os yw'n bodloni'r gofynion canlynol—

(a)ei fod wedi'i farcio â marc iechyd neu farc dynodi a bod stamp wedi'i osod ar ben y marc hwnnw;

(b)ar ôl marcio, ei fod bob amser wedi'i storio a'i gludo ar wahân i gig nad oedd wedi'i farcio yn y modd hwnnw;

(c)ei fod wedi'i gludo mewn cynwysyddion a seliwyd ar gyfer ei drin i sefydliad a ddynodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol;

(ch)ei fod wedi cael ei drin yn y sefydliad hwnnw fel ei fod yn dod o fewn paragraff 1 o Atodlen 5 i'r Gorchymyn.

(4Mae sefydliad yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn—

(a)os awdurdodwyd ef gan drwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol sy'n gosod yr amodau hynny y mae o'r farn eu bod yn angenrheidiol i osod rheolaeth filfeddygol gaeth ar y sefydliad;

(b)os yw'n prosesu cig sy'n dod o fewn is-baragraff (5) yn unig; ac

(c)os yw bob amser yn ystod y broses gynhyrchu yn storio, dynodi a chludo cynhyrchion anifeiliaid y bwriedir iddynt fod yn gymwys i'w marchnata ar wahân i'r rhai nas bwriedir yn y modd hwnnw, yn unol â chyfarwyddiadau'r Cynulliad Cenedlaethol.

(5Mae cig yn dod o fewn yr is-baragraff hwn os yw'n dod o anifeiliaid—

(a)sy'n tarddu o fangre y datganwyd ei bod yn rhydd o'r clwy o dan reoliad 25(1)(b), neu

(b)a gafodd eu magu a'u cigydda y tu allan i barth brechu.

RHAN 3Cynhyrchion heblaw cig ffres etc.

Llaeth a chynhyrchion llaeth a gynhyrchwyd o anifeiliaid wedi'u brechu

12.—(1Ni chaniateir i unrhyw berson werthu neu draddodi ar gyfer gwerthu llaeth anifail wedi'i frechu neu unrhyw gynhyrchion llaeth a gynhyrchwyd o'r cyfryw laeth onid yw'n cydymffurfio ag is-baragraff (2).

(2Mae llaeth a chynhyrchion llaeth yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn—

(a)os ydynt wedi cael eu trin fel eu bod yn dod o fewn paragraff 13 neu 14 o Atodlen 5 i'r Gorchymyn, a

(b)os cyflawnwyd y driniaeth honno naill ai—

(i)y tu mewn i'r parth brechu mewn mangre sy'n cydymffurfio ag is-baragraff (3), neu

(ii)y tu allan i'r parth brechu yn y cyfryw fangre fel ag y byddo'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarwyddo.

(3Mae mangre'n cydymffurfio â'r is-baragraff hwn os yw'n bodloni'r gofynion canlynol—

(a)os awdurdodwyd hi gan drwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol sy'n gosod yr amodau hynny y mae o'r farn eu bod yn angenrheidiol i sicrhau rheolaeth filfeddygol gaeth;

(b)bod yr holl laeth sy'n dod i'r fangre—

(i)wedi'i drin fel ei fod yn dod o fewn paragraff 13 neu 14 o Atodlen 5 i'r Gorchymyn, neu

(ii)er mwyn cael y driniaeth honno, neu

(iii)yn llaeth amrwd a gafwyd y tu allan i barth brechu;

(c)bod llaeth sydd yn y fangre a'r llaeth sy'n gadael y fangre wedi'i ddynodi'n glir yn un sy'n gymwys i'w werthu y tu allan i'r parth brechu ac y mae bob amser yn cael ei storio a'i gludo ar wahân i laeth amrwd a chynhyrchion llaeth amrwd nad ydynt yn gymwys yn y modd hwnnw.

Casglu, cludo a phrosesu llaeth a gynhyrchwyd mewn parth brechu

13.—(1Ni chaniateir i unrhyw berson gasglu a chludo llaeth a gynhyrchwyd mewn parth brechu onid yw'r cludo hwnnw'n cydymffurfio ag is-baragraff (2) a bod y cludo'n digwydd mewn cerbyd sy'n cydymffurfio ag is-baragraff (3).

(2Mae'r cludo'n cydymffurfio â'r is-baragraff hwn—

(a)os yw'n cludo samplau o laeth amrwd—

(i)i labordy awdurdodedig o ran y clwy o dan erthygl 4 o Orchymyn Pathogenau Anifieiliaid Penodedig 1998(20), neu

(ii)i labordy arall o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd; neu

(b)os yw'r cludo i fangre heblaw labordy o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd.

(3Mae cerbyd yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn—

(a)os cafodd ei awdurdodi i weithredu yn y rhan o Gymru lle y mae'r daith i ddigwydd o dan drwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, a

(b)os cafodd ei farcio fel ei fod yn dynodi'r ardal ddaearyddol y cafodd ei awdurdodi i weithredu ynddi yn unol â chyfarwyddiadau'r Cynulliad Cenedlaethol.

(4Rhaid i drwydded a roddir o dan is-baragraff (2)(b) bennu llwybr y daith sydd i'w gymryd a rhaid i'r drwydded gynnwys amod yn gwahardd y cerbyd a gaiff ei ddefnyddio rhag mynd i unrhyw fangre yn y parth sy'n cadw anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy at ddibenion heblaw llwytho llaeth.

(5Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo llaeth o dan awdurdod trwydded a roddwyd o dan is-baragraff (2)(b) sicrhau—

(a)bod y cerbyd wedi'i adeiladu a'i gynnal fel nad oes llaeth yn gollwng yn ystod y cludo a bod ganddo'r adnoddau i osgoi gwasgaru aerosol wrth lwytho a dadlwytho,

(b)cyn pob llwytho, bod y cerbyd yn cael ei lanhau a'i ddiheintio yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd, a

(c)ar ôl pob llwytho a chyn ymadael â'r fangre, bod y pibellau cysylltu, y teiars, o amgylch yr olwynion a rhannau isaf y cerbyd, ac unrhyw laeth a fu'n gollwng, yn cael eu glanhau a'u diheintio yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd.

(6Ni chaiff unrhyw berson brosesu llaeth a gludwyd o dan is-baragraff (2) ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd.

Ffrwythloni artiffisial a chasglu ofa ac embryonau

14.—(1Ni chaniateir i unrhyw berson gasglu semen ar gyfer ffrwythloni artiffisial oddi wrth anifail sy'n dueddol i gael y clwy a gedwir mewn canolfan gasglu semen mewn parth brechu onid yw'r casglu hwnnw'n cydymffurfio ag is-baragraff (3).

(2Ni chaniateir i unrhyw berson gasglu ofa neu embryonau oddi wrth anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy a gedwir mewn parth brechu.

(3Mae casglu semen ar gyfer ffrwythloni artiffisial yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn—

(a)os yw'n dod o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)os yw'r semen a gesglir wedi'i farcio'n glir yn unol â chyfarwyddiadau'r Cynulliad Cenedlaethol;

(c)os yw'r anifail sy'n rhoi'r sampl heb ei frechu—

(i)bod yr holl anifeiliaid a gedwir yn y ganolfan gasglu semen wedi cael archwiliad clinigol a bod samplau wedi bod yn destun prawf serolegol sy'n cadarnhau absenoldeb haint yn y ganolfan honno er bodlonrwydd y Cynulliad Cenedlaethol, a

(ii)y bu'n destun prawf serolegol a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol gyda chanlyniad negyddol ar gyfer canfod gwrthgyrff yn erbyn y clwy ar sampl a gymerwyd dim cynharach na 28 o ddiwrnodau ar ôl casglu'r semen.

(ch)os yw'r anifail sy'n rhoi'r sampl wedi'i frechu—

(i)bod y brechu wedi digwydd ar ôl prawf a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol am wrthgyrff yn erbyn firws y clwy gyda chanlyniad negyddol,

(ii)y cafwyd canlyniad negyddol i brawf a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol i ddarganfod un ai firws y clwy neu genom y firws neu i ddarganfod gwrthgyrff proteinau anadeileddol, a gyflawnwyd ar ddiwedd cyfnod cwarantin y semen ar samplau a gymerwyd o'r holl anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy yn bresennol yn y ganolfan casglu semen ar yr adeg honno, a

(iii)bod prawf a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol i ynysu firws y clwy wedi'i wneud ar 5% o'r semen o bob casgliad (ac ynddo bum gwelltyn o leiaf) a bod y canlyniadau'n negyddol.

(4Ni chaniateir i unrhyw berson ddefnyddio semen a gasglwyd gan gydymffurfio ag is-baragraff (3) ar gyfer ffrwythloni artiffisial oni chafodd ei storio ar wahân i semen arall am o leiaf 30 o ddiwrnodau ar ôl ei gasglu.

Crwyn

15.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i grwyn anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy sy'n tarddu o barth brechu.

(2Ni chaniateir i unrhyw berson werthu neu draddodi ar gyfer gwerthu unrhyw gynnyrch anifeiliaid y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo onid yw—

(a)naill ai—

(i)wedi'i gynhyrchu cyn y dyddiad 21 o ddiwrnodau cyn i'r parth brechu gael ei ddatgan, a

(ii)ei fod bob amser wedi'i storio ar wahân i grwyn nad oedd wedi'u cynhyrchu yn y modd hwnnw; neu

(b)ei fod wedi cael ei drin fel ei fod yn dod o fewn paragraff 2 o Atodlen 5 i'r Gorchymyn.

Gwlân, blew anifeiliaid sy'n cnoi cil a gwrych moch

16.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i wlân, blew anifeiliaid sy'n cnoi cil a gwrych moch o anifeiliaid sy'n tarddu o barth brechu.

(2Ni chaniateir i unrhyw berson werthu neu draddodi ar gyfer gwerthu unrhyw gynnyrch anifeiliaid y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo onid yw—

(a)naill ai—

(i)wedi'i gynhyrchu cyn y dyddiad 21 o ddiwrnodau cyn i'r parth brechu gael ei ddatgan, a

(ii)ei fod bob amser wedi'i storio ar wahân i wlân, blew anifeiliaid sy'n cnoi cil a gwrych moch nad oedd wedi'u cynhyrchu yn y modd hwnnw; neu

(b)ei fod wedi cael ei drin fel ei fod yn dod o fewn paragraff 3 o Atodlen 5 i'r Gorchymyn.

Cynhyrchion eraill o anifeiliaid

17.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gynhyrchion anifeiliaid nad yw paragraffau eraill yn yr Atodlen hon yn gymwys iddynt pan gynhyrchir hwy o anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy sy'n tarddu o barth brechu.

(2Ni chaniateir i unrhyw berson werthu neu draddodi ar gyfer gwerthu cynnyrch anifeiliaid y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo onid yw'n bodloni un o'r gofynion canlynol—

(a)ei fod—

(i)wedi'i gynhyrchu cyn y dyddiad 21 o ddiwrnodau cyn i'r parth brechu gael ei ddatgan, a

(ii)ei fod bob amser wedi'i storio a'i gludo ar wahân i gynhyrchion anifeiliaid nad oedd wedi'u cynhyrchu yn y modd hwnnw;

(b)ei fod wedi cael ei drin fel ei fod yn dod o fewn paragraff 4 o Atodlen 5 i'r Gorchymyn;

(c)os cyfeirir ato yn un o baragraff 5 i 9 o Atodlen 5 i'r Gorchymyn, ei fod wedi cael ei drin mewn modd y mae'n dod o fewn y paragraff hwnnw;

(ch)ei fod yn gynnyrch cyfansawdd (hynny yw, cynnyrch sydd wedi'i weithgynhyrchu neu ei brosesu ac ynddo fwy nag un cynhwysyn y mae o leiaf un ohonynt yn gynnyrch anifail) ac o ran pob cynhwysyn sydd yn gynnyrch anifail—

(i)bod cyfeiriad ato mewn paragraff o Atodlen 5 i'r Gorchymyn a'i fod wedi cael ei drin fel ei fod yn dod o fewn y paragraff hwnnw (naill ai cyn ei weithgynhyrchu neu ei brosesu, neu fel rhan o'r cynnyrch cyfansawdd), neu

(ii)ei fod wedi'i gynhyrchu o anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy nad oeddent yn tarddu o fangre sydd wedi'i heintio, mangre a amheuir neu fangre a ddaeth i gyffyrddiad â'r clwy neu mewn parth rheolaeth dros dro, parth gwarchod, parth gwyliadwriaeth neu barth brechu;

(d)mae'n gynnyrch a becynwyd yn barod i'w ddefnyddio—

(i)fel adweithydd, cynnyrch adweithiant, calibradwr, cit neu unrhyw system arall, (p'un a ddefnyddir ef ar ei ben ei hun neu ar y cyd),

(ii)in vitro i archwilio samplau sy'n dod o bobl neu anifeiliaid, (ac eithrio organau neu waed a roddwyd), a

(iii)yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn canfod cyflwr ffisiolegol, cyflwr iechyd, clefyd neu annormaledd genetig neu er mwyn gwirio diogelwch a chydweddoldeb ag adweithyddion.

(3Yn y paragraff hwn, mae i'r ymadroddion “anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy sy'n tarddu o” (o ran mangre sydd wedi'i heintio, mangre a amheuir neu fangre a ddaeth i gyffyrddiad â'r clwy) ac “anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy sy'n tarddu o” (o ran parth rheolaethau dros dro, parth gwarchod neu barth goruchwylio) yr ystyr a roddir iddynt yn erthygl 3 o'r Gorchymyn.

Cludo, trin a dosbarthu tail a gwrtaith

18.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i dail neu wrtaith sy'n dod o fangre mewn parth brechu lle cedwir anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy.

(2Ni chaniateir i unrhyw berson gludo tail neu wrtaith y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo onid yw'r cludo hwnnw'n cydymffurfio ag is-baragraff (3), (5) neu (7) a chydag is-baragraff (10).

(3Mae cludo tail neu wrtaith yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn os cludir ef i sefydliad ar gyfer triniaeth i ddinistrio feirws y clwy o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(4Rhaid i feddiannydd unrhyw fangre y cludir tail neu wrtaith iddi gan awdurdod trwydded a roddwyd o dan is-baragraff (3) sicrhau ei fod yn cael ei drin yn unol â phwynt 5 o Adran II yn Rhan A o Atodiad VIII i Reoliad (EC) Rhif 1774/2002(21).

(5Mae cludo tail neu wrtaith yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn—

(a)os yw'r tail neu wrtaith ar gyfer ei wasgaru,

(b)os yw'r cludiant yn dod o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd, a

(c)cyn rhoi'r drwydded, os oes arolygydd milfeddygol wedi archwilio'r holl anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy yn y fangre lle y cafodd ei gynhyrchu ac y mae wedi'i fodloni nad amheuir eu bod wedi'u heintio.

(6Ni chaniateir i unrhyw berson wasgaru tail neu wrtaith a gludir drwy awdurdod trwydded a roddir o dan is-baragraff (5) onid yw'r gwasgaru hwnnw wedi'i awdurdodi gan arolygydd a bod y tail neu'r gwrtaith—

(a)yn cael ei wasgaru o uchder nad yw'n fwy nag 1 metr uwchben y ddaear,

(b)os yw'n hylif, na chaiff ei ollwng o gyfarpar sy'n creu chwistrelliad neu daenelliad oni bai fod y pwynt gollwng wedi'i gyfeirio tuag at i lawr ar ongl nad yw'n llai na 45° o'r llorwedd, ac

(c)ei fod yn cael ei sugno ar unwaith i'r ddaear.

(7Mae cludo tail neu wrtaith yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn—

(a)os yw'r tail neu'r gwrtaith ar gyfer ei wasgaru,

(b)os yw'r cludiant yn dod o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd, a

(c)cyn rhoi'r drwydded, os oes arolygydd milfeddygol wedi archwilio'r holl anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy yn y fangre lle y cafodd ei gynhyrchu ac y mae wedi'i fodloni nad amheuir eu bod wedi'u heintio.

(8Ni chaniateir i unrhyw berson wasgaru tail neu wrtaith a gludir drwy awdurdod trwydded a roddir o dan is-baragraff (7) onid awdurdodir gwasgaru o'r fath gan drwydded a roddir gan arolygydd a bod y tail neu'r gwrtaith yn cael ei chwistrellu i mewn i'r ddaear.

(9Rhaid i unrhyw drwydded a roddir o dan is-baragraff (5), (6) neu (8) gynnnwys o leiaf y telerau canlynol—

(a)dynodi'r mannau y mae'n rhaid gwasgaru'r tail a'r gwrtaith oddi mewn i'w ffiniau;

(b)dynodi'r pellter o fangreoedd eraill sy'n cadw anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy y mae'n rhaid peidio â gwasgaru'r tail neu'r gwrtaith ynddo.

(10Mae cludo tail neu wrtaith yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn os cludir ef mewn cerbyd—

(a)sydd wedi'i adeiladu a'i gynnal fel nad yw'r llwyth yn gollwng yn ystod y cludo, a

(b)sy'n cael ei lanhau a'i ddiheintio ar ôl llwytho a chyn ymadael â'r fangre darddu.

(11Ar ôl cludo tail neu wrtaith o dan y paragraff hwn, rhaid i'r person sydd â gofal y cerbyd sicrhau ei fod yn cael ei lanhau a'i ddiheintio ar ôl dadlwytho neu wasgaru a chyn ymadael â'r fangre gyrchu.

(12Rhaid i'r person sydd â gofal cerbyd sydd i'w lanhau a'i ddiheintio o dan is-baragraff (10) neu (11) sicrhau bod y glanhau a'r diheintio hwnnw'n cael ei wneud yn y fath fodd—

(a)nad yw'r tu allan (gan gynnwys yr olwynion a bwâu'r olwynion) wedi'i farcio â mwd, tail, gwrtaith neu fater tebyg wrth i'r cerbyd ymadael â'r naill fangre neu'r llall,

(b)nad yw'r tu mewn (ac eithrio unrhyw le ar gyfer y gyrrwr neu deithiwr) wedi'i farcio felly wrth i'r cerbyd ymadael â'r fangre gyrchu, ac

(c)y cydymffurfir ag unrhyw ofynion ychwanegol a gyfarwyddir gan arolygydd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn trosi'r agweddau hynny ar Gyfarwyddeb y Cyngor 2003/85/EC ar fesurau'r Gymuned i reoli clwy'r traed a'r genau (“y Gyfarwyddeb”) sy'n ymwneud â brechu yn erbyn clwy'r traed a'r genau (“y clwy”).

Mae Gorchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Cymru) 2006, sy'n dod i rym ar yr un pryd â'r Rheoliadau hyn, a Rheoliadau Deddf Iechyd Anifeiliaid (Diwygio) 2005, yn rhoi effaith i weddill darpariaethau'r Gyfarwyddeb.

Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau cyflwyno a dehongli.

Mae Rhannau 2 yn darparu ar gyfer rhaglen frechu yn erbyn y clwy ac mae Rhan 3 yn rhagnodi darpariaeth gyffredinol ac atodol. Yn benodol mae rhannau 2 a 3 yn darparu ar gyfer y canlynol:

(a)gorchymyn gwahardd brechu onid yw o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 8);

(b)fffactorau sydd i'w hystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol wrth benderfynu a ddylid rhoi trwydded sy'n caniatáu brechu ataliol neu frechu amddiffynnol (rheoliad 9);

(c)ffurf y penderfyniad i ymgymryd â rhaglen frechu (rheoliad 10);

(ch)effaith trwyddedau sy'n caniatáu brechu (rheoliad 11);

(d)hwyluso gweithdrefnau brechu gan geidwaid (rheoliad 12);

(dd)datgan, a mesurau sy'n gymwys o fewn, parthau brechu a pharthau gwyliadwriaeth brechu (rheoliadau 13 i 17);

(e)estyn y pŵer i frechu yn adran 16 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (rheoliad 18);

(f)gofynion o ran dynodi anifeiliaid sydd wedi'u brechu gan gynnwys darpariaethau ynghylch pasbortau gwartheg, tagiau clust a dynodi ar gyfer gwerthu a chigydda (rheoliadau 19 i 22);

(ff)darpariaeth ar gyfer achosion lle na chafodd anifeiliaid (a'u carcasau) a gafodd eu cynnwys mewn rhaglenni brechu eu brechu (rheoliadau 23 & 24);

(g)Arolygu a dosbarthu mangre (rheoliad 25);

(ng)Dyletswydd awdurdod lleol i godi arwyddion (rheoliad 26);

(h)Gwahardd masnach o fewn y Gymuned o anifeiliaid sydd wedi'u brechu (rheoliad 27);

(i)Glanhau a diheintio cebydau a ddefnyddir yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau hyn (rheoliad 28);

(j)Marciau a osodir ar anifeiliaid, cynhyrchion anifeiliaid, carcasau a cherbydau o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 29);

(l)Mynediad a chyfleusterau sydd i'w darparu gan bersonau sydd â hawl i feddiannaeth pan rwystrir anifeiliaid neu ddofednod rhag symud o'u mangre o dan gyfyngiadau symud (rheoliad 30);

(ll)Darparu cymorth, cofnodion a gwybodaeth, i arolygwyr, tramgwyddau, pwerau archwilwyr a phwerau gorfodi cyffredinol gan gynnwys cymhwyso darpariaethau penodol (gan gynnwys darpariaethau gorfodi) Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 i'r Rheoliadau hyn (rheoliadau 31 i 42).

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Gorchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Ardaloedd Heintiedig) 1972 (O.S. 1972/1509) (i'r graddau y mae'n gymwys o ran Cymru), a Rheoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Gwahardd Brechu) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2374). (rheoliad 43)

Paratowyd Arfarniad Rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(3)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.206. Ceir testun diwygiedig y Rheoliad mewn corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83).

(4)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Ceir testun diwygiedig y Rheoliad mewn corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22).

(5)

1981, p.22, a ddiwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, c. 42.

(9)

O.S. 1978/32, a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/583(Cy.49); mae offerynnau diwygio eraill ond nid ydynt yn berthnasol.

(12)

OJ Rhif L306, 22.11.2003,t.l.

(14)

O.S. 1998/871, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(15)

O.S. 2000/2976, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(18)

1998 p.38.

(21)

O.J. Rhif L273, 10.10.2002 t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 416/2005 (O.J. Rhif 12.3.05 t.10)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill