- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
17.—(1) Rhaid i unrhyw dalu lwfansau i aelod o dan y Rheoliadau hyn gael ei wneud gan yr awdurdod tân y mae'r aelod yn aelod ohono.
(2) Rhaid i hawliad am dâl ar ffurf lwfans gofal, lwfans teithio neu lwfans cynhaliaeth gynnwys datganiad wedi'i lofnodi gan yr aelod neu rhaid i'r datganiad hwnnw fynd gyda'r hawliad. Datganiad yw hwn nad yw'r aelod wedi gwneud ac na fydd yn gwneud unrhyw hawliad arall ynglyn â'r mater y mae'r hawliad yn ymwneud ag ef gan yr awdurdod tân na chan unrhyw berson arall.
18.—(1) Rhaid i bob awdurdod tân gadw cofnod o daliadau sy'n cael eu gwneud ganddo yn unol â'r Rheoliadau hyn neu'n unol ag unrhyw gynllun a wneir yn unol â hwy.
(2) Rhaid i gofnod o'r fath bennu enw'r derbynnydd a swm a natur pob taliad, a rhaid trefnu iddo fod ar gael ar bob adeg resymol i'w archwilio (yn ddi-dâl) gan unrhyw etholwr llywodraeth leol (o fewn ystyr adran 270(1) o Ddeddf 1972) ar gyfer awdurdod cyfansoddol.
(3) Caiff person sydd â hawl i archwilio'r cofnod o dan baragraff (2) gymryd copi o unrhyw ran ohono, drwy dalu unrhyw ffi resymol y mae'r awdurdod tân yn ei gwneud yn ofynnol ei dalu.
19.—(1) Rhaid i bob awdurdod tân, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud neu ddiwygio unrhyw gynllun a wneir yn unol â'r Rheoliadau hyn, wneud trefniadau i'w gyhoeddi yn ardal yr awdurdod tân.
(2) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn y mae cynllun yn ymwneud â hi, rhaid i bob awdurdod tân wneud trefniadau i gyhoeddi o fewn ardal yr awdurdod tân y cyfanswm a dalwyd ganddo yn y flwyddyn honno o dan y cynllun i bob aelod ar gyfer pob un o'r canlynol, sef, lwfans awdurdod tân, lwfans cadeirydd awdurdod tân, a lwfans is-gadeirydd awdurdod tân.
(3) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn, rhaid i bob awdurdod tân wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi'r cyfanswm a dalwyd ganddo o ran lwfans gofal i bob aelod, a hynny o fewn ardal yr awdurdod tân.
20. Datgymhwysir adrannau 174 ac 175 o Ddeddf 1972 mewn perthynas ag awdurdodau tân.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys: