Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 3

ATODLENSAFONAU YSGOL ANNIBYNNOL

Ansawdd yr addysg a ddarperir

1.—(1Mae ansawdd yr addysg a ddarperir gan yr ysgol yn bodloni'r safon os bodlonir y gofynion yn is-baragraffau (2) i (5).

(2Rhaid i'r ysgol lunio polisi ysgrifenedig ar y cwricwlwm, ei ategu â chynlluniau a chynlluniau gwaith priodol, a'i weithredu'n effeithiol; bydd y polisi'n darparu ar gyfer y canlynol —

(a)addysg llawnamser dan oruchwyliaeth i bob disgybl o oedran ysgol gorfodol, ac sy'n rhoi profiad i'r disgyblion yn y meysydd a ganlyn: addysg ieithyddol, fathemetegol, wyddonol, dechnolegol, ddynol a chymdeithasol, addysg gorfforol, ac addysg esthetaidd a chreadigol;

(b)deunydd addysgol sy'n briodol i oedran a gallu'r disgyblion, gan gynnwys y disgyblion sydd â datganiad;

(c)bod disgyblion yn datblygu medrau llefaru a gwrando, a medrau llythrennedd a Rhif edd;

(ch)os iaith heblaw'r Gymraeg neu'r Saesneg yw prif iaith yr addysgu, gwersi Cymraeg ysgrifenedig a llafar, neu Saesneg ysgrifenedig a llafar, ond na fydd y gofyniad hwn yn gymwys i ysgol sy'n darparu addysg i ddisgyblion sy'n preswylio yng Nghymru dros dro ac sy'n dilyn cwricwlwm gwlad arall;

(d)os bydd gan ddisgybl ddatganiad, addysg sy'n bodloni gofynion y datganiad hwnnw;

(dd)addysg bersonol a chymdeithasol ac addysg iechyd sy'n gweddu i amcanion ac anian yr ysgol;

(e)cyfarwyddyd gyrfaoedd priodol i ddisgyblion sy'n cael addysg uwchradd;

(f)os oes yn yr ysgol ddisgyblion sy'n iau neu'n hyn na'r oedran ysgol gorfodol, rhaglen o weithgareddau sy'n briodol i'w hanghenion;

(ff)cyfle i bob disgybl ddysgu a datblygu; a

(g)paratoi disgyblion yn briodol ar gyfer cyfleoedd, cyfrifoldebau a phrofiadau bywyd pan fyddant yn oedolion.

(3Rhaid i'r addysg yn yr ysgol —

(a)galluogi disgyblion i ychwanegu at eu gwybodaeth, a datblygu yn ôl eu gallu er mwyn iddynt wella eu dealltwriaeth a datblygu eu medrau yn y pynciau sy'n cael eu haddysgu;

(b)meithrin yn y disgyblion ymdrech ddeallusol, gorfforol neu greadigol, diddordeb yn eu gwaith, a'r gallu i feddwl a dysgu drostynt hwy eu hunain;

(c)cynnwys gwersi wedi eu cynllunio'n dda, dulliau addysgu effeithiol, gweithgareddau priodol a rheolaeth ddoeth ar amser yn y dosbarth;

(ch)dangos dealltwriaeth dda o allu, anghenion a chyraeddiadau blaenorol y disgyblion a sicrhau bod y rhain yn cael eu hystyried wrth gynllunio gwersi;

(d)dangos gwybodaeth briodol am y pwnc sy'n cael ei addysgu a dealltwriaeth briodol ohono;

(dd)defnyddio adnoddau yn y dosbarth yn effeithiol, a sicrhau bod digon ohonynt a'u bod yn foddhaol o ran eu hansawdd a'u hystod;

(e)dangos bod fframwaith i asesu gwaith y disgyblion yn rheolaidd ac yn drylwyr a defnyddio'r wybodaeth a geir o'r asesiadau hynny i gynllunio'r addysgu fel y gall y disgyblion ddatblygu; a

(f)annog disgyblion i ymddwyn yn gyfrifol.

(4Rhaid bod gan yr ysgol fframwaith i werthuso perfformiad y disgyblion, naill ai yn ôl amcanion yr ysgol ei hun fel y'u disgrifiwyd i'r rhieni, neu yn ôl y safonau cenedlaethol arferol, neu yn ôl y ddau.

(5Rhaid i'r ysgol ddarparu addysg effeithiol i bob disgybl mewn dosbarth er mwyn iddynt ddatblygu, gan gynnwys disgyblion â datganiadau a'r rhai y mae'r Gymraeg neu'r Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt.

Datblygu disgyblion yn ysbrydol, moesegol, cymdeithasol a diwylliannol

2.  Mae datblygiad ysbrydol, moesegol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion yn yr ysgol yn bodloni'r safon os bydd yr ysgol yn hyrwyddo egwyddorion sy'n:—

(a)galluogi disgyblion i ddod i adnabod eu hunain yn well, ac i ddatblygu eu hunan-barch a'u hunan-hyder;

(b)galluogi'r disgyblion i wahaniaethu rhwng da a drwg ac i barchu'r gyfraith;

(c)annog y disgyblion i fod yn gyfrifol am eu hymddygiad eu hunain, i fod yn fentrus, ac i ddeall sut y gallant gyfrannu at fywyd y gymuned;

(ch)rhoi i'r disgyblion wybodaeth gyffredinol ac eang am sefydliadau a gwasanaethau cyhoeddus; a

(d)helpu'r disgyblion i werthfawrogi a pharchu eu diwylliant eu hunain a diwylliannau pobl eraill, mewn ffordd sy'n hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth ac harmoni rhwng traddodiadau diwylliannol gwahanol.

Llesiant, iechyd a diogelwch disgyblion

3.—(1Mae llesiant, iechyd a diogelwch disgyblion yn yr ysgol yn bodloni'r safon os bodlonir y gofynion yn is-baragraffau (2) i (9).

(2Rhaid i'r ysgol lunio polisi ysgrifenedig, a'i weithredu'n effeithiol, er mwyn —

(a)atal bwlio, drwy ystyried canllawiau cylchlythyr 23/03 y Cynulliad Cenedlaethol “Parchu eraill, canllawiau gwrth-fwlio”;

(b)diogelu a hybu llesiant y plant sy'n ddisgyblion yn yr ysgol, gan gydymffurfio â chylchlythyr 52/95 y Swyddfa Gymreig “Protecting Children from Abuse: the Role of the Education Service”;

(c)diogelu a hybu iechyd a diogelwch disgyblion sy'n ymgymryd â gweithgareddau y tu allan i'r ysgol, drwy ystyried cylchlythyr y Cynulliad Cenedlaethol “Iechyd 2/99 a diogelwch disgyblion ar ymweliadau ysgol: Arweiniad ac Arferion Da”; a

(ch)hybu ymddygiad da ymhlith y disgyblion a disgrifio'r camau sydd i'w cymryd os bydd disgybl yn camymddwyn.

(3Os bydd ysgol yn darparu llety byrddio, wrth ddarparu'r llety hwnnw rhaid ystyried y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Byrddio 2003(1) neu, os yw'n briodol, y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Arbennig Preswyl 2003(2).

(4Rhaid i'r ysgol ystyried unrhyw ganllawiau gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfrifoldebau a phwerau ysgolion ym maes iechyd a diogelwch.

(5Rhaid i'r ysgol fod yn foddhaol o ran diogelwch rhag tân, a bod hyn wedi'i gydnabod yn —

(a)asesiad risgiau'r ysgol o dan reoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 (3) i'r graddau y mae'n berthnasol i rwymedigaethau o dan Ran II o Reoliadau Rhagofalon Tân (y Gweithle) 1997(4)); a

(b)unrhyw adroddiad a roddwyd gan yr Awdurdod Tân.

(6Rhaid bod gan yr ysgol bolisi Cymorth Cyntaf boddhaol a rhaid iddi ei roi ar waith yn effeithiol.

(7Rhaid trefnu bod staff yr ysgol yn sicrhau bod y disgyblion yn cael eu goruchwylio yn briodol ac yn effeithiol.

(8Rhaid i'r ysgol gadw cofnodion ysgrifenedig o'r cosbau a roddwyd i ddisgyblion am dramgwyddau disgyblaeth difrifol.

(9Rhaid i'r ysgol gadw cofrestr derbyn a chofrestr presenoldeb yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995 (5).

Addasrwydd perchnogion a'r staff

4.  Mae'r perchnogion a'r staff yn addas ac yn bodloni'r safon —

(a)os yw gwiriad yn ôl cofnodion y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn cadarnhau bod y perchennog yn addas i weithio gyda phlant; a dylai'r gwiriad hwnnw fod yn wiriad lefel uwch os yw'r perchennog, wrth gyflawni ei ddyletswyddau rheolaidd, yn darparu gofal am blant dan 18 oed, neu yn eu hyfforddi, neu eu goruchwylio, neu os yw'n gofalu amdanynt ar ei ben ei hun;

(b)os, cyn cadarnhau eu bod wedi eu penodi, bydd aelodau o staff yr ysgol yn cael eu gwirio gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol i gadarnhau eu bod yn addas i weithio gyda phlant; a dylai'r gwiriadau hynny fod ar lefel uwch os yw'r staff, fel rhan o'u dyletswyddau rheolaidd, yn darparu gofal am blant dan 18 oed, neu yn eu hyfforddi, neu eu goruchwylio, neu os yw aelod o'r staff yn gofalu amdanynt ar ei ben ei hun;

(c)os bydd aelodau o'r staff, cyn cadarnhau eu bod wedi eu penodi, yn cael eu gwirio i gadarnhau pwy ydynt ac a ydynt yn ffit o ran iechyd, eu gwirio i gadarnhau hanes eu cyflogaeth flaenorol, eu tystlythyrau cymeriad, ac, os yw'n briodol, eu cymwysterau a'u tystlythyrau proffesiynol; a rhaid i'r wybodaeth honno gael ei hystyried wrth benderfynu a fydd penodiad yn cael ei gadarnhau ai peidio. Mae cylchlythyr 34/02 y Cynulliad Cenedlaethol “Amddiffyn Plant: Atal Pobl Anaddas rhag Gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc” yn rhoi cyngor ar yr arferion gorau o ran gwiriadau cyn penodi;

(ch)os bydd aelodau o'r staff, pan fyddant yn darparu gofal am blant, yn eu hyfforddi neu'n gofalu amdanynt mewn llety byrddio, yn cydymffurfio â Safon 38 o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Byrddio 2003 neu, os yw'n briodol, Safon 27 o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Arbennig Preswyl 2003; a

(d)os nad yw'r perchennog na'r un aelod o'r staff yn gwneud gwaith, neu'n bwriadu gwneud gwaith, sy'n torri cyfarwyddyd o dan adran 142(1) o Ddeddf 2002.

Tir, adeiladau a llety byrddio ysgolion

5.  Mae tir, adeiladau a llety byrddio yn bodloni'r safon —

(a)os yw'r cyflenwad dŵ r yn bodloni gofynion Rheoliadau 1999;

(b)os oes system draenio ddigonol at ddibenion hylendid ac i gael gwared ar ddŵ r gwastraff a dŵ r wyneb;

(c)os yw pob strwythur sy'n dal pwysau yn bodloni Rheoliadau 1999;

(ch)os oes gan yr ysgol drefniadau digonol o ran diogelwch ar ei thir ac yn ei hadeiladau;

(d)os yw unrhyw dir neu adeiladau a ddefnyddir at ddibenion heblaw gwaith yr ysgol, wedi eu trefnu i sicrhau bod iechyd, diogelwch a llesiant y disgyblion wedi eu diogelu ac i sicrhau na thorrir ar draws eu haddysg gan bobl eraill yn defnyddio'r tir hwnnw neu'r adeiladau hynny;

(dd)os yw adeiladau'r ysgol yn darparu lloches resymol rhag y glaw, yr eira, y gwynt, a lleithder o'r ddaear;

(e)os oes modd i bob disgybl, yn enwedig y rhai sydd ag anghenion arbennig, ymadael â'r tir a'r adeiladau yn ddiogel mewn argyfwng;

(f)os oes modd i bob disgybl, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion arbennig, fynd i mewn i'r ysgol ac ymadael â hi'n ddiogel ac yn gyfforddus(6);

(ff)os nad yw'r tir a'r adeiladau wedi eu condemnio gan yr Awdurdod Iechyd Amgylcheddol;

(g)os yw'r ystafelloedd dosbarth yn briodol o ran maint ar gyfer nifer, oedran ac anghenion (gan gynnwys unrhyw anghenion arbennig) y disgyblion i ganiatáu addysgu effeithiol ac nad ydynt yn berygl o ran iechyd neu ddiogelwch.

(ng)os oes digon o ystafelloedd ymolchi i'r staff a'r disgyblion, gan gynnwys cyfleusterau i ddisgyblion sydd ag anghenion arbennig gan roi ysytyriaeth i Reoliadau 1999;

(h)os oes cyfleusterau priodol yn unol â Rheoliadau 1999 i ddisgyblion sy'n sâl;

(i)os oes cyfleusterau digonol ar gyfer paratoi, gweini, bwyta ac yfed bwyd a diod yn hylan yn y mannau lle gweinir bwyd a diod;

(j)os yw ystafelloedd dosbarth a rhannau eraill o'r ysgol yn cael eu cadw'n daclus, yn lân ac yn hylan;

(l)os yw'r ynysu rhag sŵ n a'r acwsteg yn galluogi addysgu a chyfathrebu effeithiol;

(ll)os yw'r trefniadau goleuo, gwresogi ac awyru yn yr ystafelloedd dosbarth ac yn rhannau eraill yr ysgol yn foddhaol yn unol â Rheoliadau 1999;

(m)os yw'r gwaith peintio ac addurno o safon foddhaol ac wedi ei gadw a'i gynnal yn ddigon da;

(n)os yw'r dodrefn a'r ffitiadau wedi eu dylunio i fod yn addas ar gyfer oedran ac anghenion pob disgybl (gan gynnwys unrhyw anghenion arbennig) a gofrestrir yn yr ysgol;

(o)os oes lloriau priodol a hwythau mewn cyflwr da;

(p)os oes trefniadau priodol ar gyfer darparu lle yn yr awyr agored i'r plant chwarae yn ddiogel;

(ph)lle y darperir llety byrddio, os yw'r llety wedi ei ddarparu drwy ystyried Safonau 40-52 o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Byrddio 2003 neu os yw'n briodol, Safonau 23-26 o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Arbennig Preswyl; ac

(r)Os yw'r tir a'r adeiladau yn cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Cyfnodau Rhagnodedig ar gyfer Hygyrchedd, Strategaethau a Chynlluniau Ysgolion) (Cymru) 2003(7).

Darparu gwybodaeth

6.—(1Mae'r ysgol yn bodloni'r safon o ran darparu gwybodaeth os yw'r gofynion ym mharagraffau (2) i (9) wedi eu bodloni.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (10), rhaid i'r ysgol roi i'r rhieni, ac os gwneir cais, i'r Prif Arolygydd, i'r Cynulliad Cenedlaethol, neu i gorff sydd wedi ei gymeradwyo o dan adran 163(1)(b) o Ddeddf 2002 —

(a)cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a Rhif ffôn yr ysgol, ac enw'r pennaeth;

(b)naill ai—

(i)pan fydd y perchennog yn unigolyn, ei enw llawn, ei gyfeiriad preswyl arferol a chyfeiriad e-bost perthnasol a Rhif ffôn, neu

(ii)pan fydd y perchennog yn gorfforaeth, yn ffyrm neu'n gorff o bersonau Albanaidd, cyfeiriad a Rhif ffôn ei brif swyddfa neu'i brif swyddfa;

(c)os oes gan yr ysgol fwrdd llywodraethwyr, manylion cysylltu Cadeirydd y corff hwnnw;

(ch)datganiad o anian ac amcanion yr ysgol (gan gynnwys unrhyw anian crefyddol);

(d)manylion polisi a threfniadau'r ysgol o ran derbyn disgyblion, disgyblaeth a gwahardd disgyblion;

(dd)manylion y ddarpariaeth o ran addysg a llesiant disgyblion sydd â datganiadau a disgyblion y mae'r Gymraeg neu'r Saesneg yn ieithoedd ychwanegol iddynt;

(e)manylion y polisïau a baratowyd o dan baragraff 1(2) o'r Atodlen hon;

(f)manylion y polisïau a baratowyd o dan baragraff 3(2) o'r Atodlen hon;

(ff)manylion perfformiad academaidd yr ysgol, gan gynnwys canlyniadau unrhyw arholiadau cyhoeddus;

(g)manylion y drefn gwyno wedi eu nodi yn unol â pharagraff 7 o'r Atodlen hon, nifer y cwynion a gofrestrwyd o dan y drefn ffurfiol yn ystod y flwyddyn ysgol flaenorol; ac

(ng)nifer y staff sy'n cael eu cyflogi yn yr ysgol, gan gynnwys staff dros dro, a chrynodeb o'u cymwysterau.

(3Yn sgil arolygiad a wnaed o dan adran 163(1) o Ddeddf 2002, mae'n rhaid i'r ysgol anfon y canlynol at rieni pob disgybl a gofrestrwyd, erbyn dyddiad a bennir gan y corff a gyflawnodd yr arolygiad —

(a)crynodeb o'r adroddiad; neu

(b)os nad oes crynodeb o'r adroddiad wedi'i baratoi, addroddiad llawn.

(4Os anfonwyd crynodeb o'r adroddiad yn unol â pharagraff 3(a), rhaid i'r ysgol wneud trefniadau i rieni gael gweld yr adroddiad llawn os byddant yn gofyn amdano.

(5Rhaid i'r ysgol roi adroddiad ysgrifenedig i rieni pob plentyn a gofrestrir am ei ddatblygiad a'i gyraeddiadau ym mhob prif bwnc a ddysgir.

(6Rhaid i'r ysgol roi i unrhyw gorff sy'n gwneud arolygiad o dan adran 163 o Ddeddf 2002—

(a)unrhyw wybodaeth y gofynnir amdani yn rhesymol mewn cysylltiad ag arolygiad ac sydd ei hangen at ddibenion yr arolygiad hwnnw; a

(b)caniatâd i weld y gofrestr dderbyn, ac unrhyw gofrestr bresenoldeb, a gynhelir yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995(8).

(7 Os yw disgybl sy'n cael ei ariannu yn gyfan gwbl neu'n rhannol gan yr awdurdod lleol wedi ei gofrestru yn yr ysgol, rhaid rhoi cyfrif blynyddol wedi ei archwilio o'r incwm a gafwyd a'r gwariant a wnaed gan yr ysgol i'r Awdurdod Addysg Lleol ac i'r Cynulliad Cenedlaethol os gofynnir amdano.

(8Os oes disgybl sydd â datganiad wedi ei gofrestru yn yr ysgol, rhaid i'r ysgol roi i'r awdurdod addysg lleol yr wybodaeth y gellid yn rhesymol ofyn amdani at ddibenion adolygiad blynyddol o'r datganiad.

(9Rhaid darparu copi o'r asesiad risgiau y cyfeirir ato ym mharagraff 3(5)(a) o'r Atodlen hon os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano.

(10Mewn perthynas â pharagraffau (e) i (ng) o is-baragraff (2), ar yr amod bod yr ysgol yn sicrhau bod rhieni disgyblion a darpar ddisygblon yn ymwybodol bod yr wybodaeth honno ar gael, nid oes rhaid iddi ei darparu iddynt ond os ydynt yn gofyn amdani.

Sut i ymdrin â chwynion

7.  Mae'r ffordd y mae'r ysgol yn ymdrin â chwynion yn bodloni'r safon os oes ganddi drefn gwyno sy'n —

(a)ysgrifenedig;

(b)ar gael mewn dull priodol os bydd y disgyblion, rhieni'r disgyblion a darpar ddisgyblion yn yr ysgol yn gofyn amdani;

(c)gosod amserlenni clir o ran rheoli cwynion;

(ch)rhoi cyfle i gwynion gael eu gwneud a'u hystyried yn anffurfiol;

(d)os na fydd y rhieni'n fodlon â'r ymateb a wnaed yn unol â pharagraff (ch) neu os ydynt yn dymuno gwneud cwyn ffurfiol, sefydlu trefn i'r gŵ yn gael ei gwneud yn ysgrifenedig;

(dd)os nad yw'r rhieni'n fodlon â'r ymateb i'r gŵ yn a wnaed yn unol â pharagraff (d), darparu ar gyfer cynnal gwrandawiad o flaen panel a benodwyd gan y perchennog, neu ar ei ran, wedi'i lunio o dri o bobl o leiaf nad oedd a wnelont yn uniongyrchol â'r materion sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r gŵ yn;

(e)mynnu pan fo panel yn gwrando ar gwyn, y bydd un person ar y panel sy'n annibynnol ar y sawl sy'n rheoli a rhedeg yr ysgol;

(f)darparu bod y rhieni yn cael bod yn bresennol yn y gwrandawiad gan y panel os dyna eu dymuniad a'u bod yn cael mynd â rhywun gyda hwy;

(ff)darparu bod y panel yn penderfynu ar ei gasgliadau a'i argymhellion ac y bydd yn pennu bod y sawl sy'n cwyno, y perchennog, y pennaeth ac, os yw'n berthnasol, y sawl y cwynwyd amdano, yn cael copi yr un o unrhyw gasgliadau ac argymhellion;

(g)darparu bod cofnodion ysgrifenedig yn cael eu cadw am bob cwyn, boed yn gŵ yn a gafodd ei datrys yn y cam cychwynnol, neu'n gŵ yn yr aethpwyd â hi i wrandawiad gan banel;

(ng)darparu, yn ddarostyngedig i baragraff 6(2)(g) o'r Atodlen hon, bod gohebiaeth, datganiadau a chofnodion ynghylch cwynion yn cael eu cadw'n gyfrinachol a heblaw bod y Cynulliad Cenedlaethol neu gorff sy'n gwneud arolygiad o dan adran 163 o Ddeddf 2002, yn gofyn am gael gweld unrhyw ddogfennau sy'n ymwneud â'r gŵ yn; a

(h)os bydd yr ysgol yn darparu llety byrddio, cydymffurfio â Safon 5 o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Byrddio 2003 neu, os yw'n gymwys, Safon 4 o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Arbennig Preswyl 2003.

(4)

O.S. 1997/1840, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/1877.

(5)

O.S. 1995/2089, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/2624.

(6)

Mae'r gofyniad hwn yn cael ei ragnodi gan adran 28D o Ddeddf Discrimineiddio Anabledd 1995 p.50, a oedd ei hun wedi ei fewnosod gan adran 14(1) o Ddeddf Anghenion Addysgol ac Anabledd 2001 a pharagraff 26 o Atodlen 1 o Ddeddf Addysg 2002, p.32.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill