Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Gwahardd Pysgota â Threillrwydi Lluosog (Cymru) 2003

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 1855 (Cy.205)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

CADWRAETH PYSGOD MÔR

Gorchymyn Gwahardd Pysgota â Threillrwydi Lluosog (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

16 Gorffennaf 2003

Yn dod i rym

1 Awst 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 5(1) a 15(3) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967(1), ac a freinir ynddo bellach(2),a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwahardd Pysgota â Threillrwydi Lluosog (Cymru) 2003.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru ac yn dod i rym ar 1 Awst 2003.

(3Yn y Gorchymyn hwn mae i “Gymru” yr un ystyr â “Wales” yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2002(3) ac mae “dyfroedd Cymru” i'w ddehongli yn unol â hynny.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn —

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967;

ystyr “Gorchymyn cyfatebol” (“equivalent Order”) yw Gorchymyn sy'n gymwys i Loegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban ac sydd wedi'i wneud o dan adran 5 o'r Ddeddf, yn unol ag Erthygl 46 o Reoliad y Cyngor, ac sy'n gwahardd pysgota ag unrhyw dreillrwyd ac eithrio treillrwyd unigol;

ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 dyddiedig 30 Mawrth 1998 ar gyfer cadw adnoddau pysgodfeydd drwy gyfrwng mesurau technegol i amddiffyn organeddau morol ifanc(4) fel y'i cywirwyd gan y Corigendwm i Atodiad XII i Reoliad y Cyngor(5) ac fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 308/1999(6)), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1459/1999(7), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2723/1999(8)), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 812/2000(9) a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1298/2000(10);

ystyr “rhwyd” (“net”) yw treillrwyd, Rhwyd Sân Danaidd neu rwyd lusg tebyg;

ystyr “treill-long drawst” (“beam trawler”) yw cwch pysgota sydd, i'r graddau y mae'n cario neu'n defnyddio rhwydi, ond yn cario neu'n defnyddio rhwydi sydd wedi'u dylunio i gael eu llusgo ar hyd gwely'r môr ac y mae eu genau wedi'u hestyn â thrawst, bar neu ddyfais anhyblyg arall;

ystyr “treillrwyd unigol” (“single trawl”) yw rhwyd unigol sy'n cael ei lusgo â rig dau ystof lle mae gan y rhwyd rhaff waelod un-gofl (a'r gofl yw'r rhan ganolog o'r dreillrwyd rhwng yr esgyll isaf), a lle mae'r rhaff waelod wedi'i chysylltu â'r rig llusgo ym mhen pob asgell a lle nad oes unrhyw gysylltiad arall, gan gynnwys ffrwynau, gwifrau neu raffau, yn ei chysylltu â'r rig llusgo a enwyd;

ac mae i unrhyw ymadrodd cyfatebol arall a ddefnyddir yn Rheoliad y Cyngor yr un ystyr yn y Gorchymyn hwn ag yn y Rheoliad hwnnw.

Gwahardd dull pysgota

3.—(1 Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, gwaherddir pysgota gan unrhyw gwch pysgota Prydeinig yn nyfroedd Cymru ag unrhyw dreillrwyd ac eithrio treillrwyd unigol.

(2Nid yw paragraff (1) uchod yn gymwys —

(a)i unrhyw dreill-long drawst;

(b)i bysgota â threillrwyd nad yw maint ei fasgl yn llai nag 80 milimetr.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas â chychod pysgota

4.—(1 Er mwyn gorfodi'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw Orchymyn cyfatebol, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan baragraffau (2) i (4) o'r erthygl hon mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota Prydeinig yn nyfroedd Cymru.

(2Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda phersonau a neilltuwyd i gynorthwyo gyda'i ddyletswyddau neu hebddynt, a chaiff ei gwneud yn ofynnol bod y cwch yn cael ei stopio a gwneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso naill ai mynd ar fwrdd y cwch neu fynd oddi arno.

(3Caiff y swyddog ei gwneud yn ofynnol bod y meistr a phersonau eraill sydd ar fwrdd y cwch yn bresennol a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiadau sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol at y diben a grybwyllir ym mharagraff (1) o'r erthygl hon ac, yn benodol —

(a)caiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch ac offer y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a'i gwneud yn ofynnol bod personau sydd ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwiliad;

(b)caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn cyflwyno unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r cwch, ag unrhyw weithrediadau pysgota neu weithrediadau ategol iddynt neu â'r personau sydd ar fwrdd y cwch sydd yng nghadwraeth neu feddiant y person hwnnw;

(c)er mwyn canfod a yw meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni tramgwydd o dan adran 5(1) neu (6) o'r Ddeddf(11) o'i darllen gyda'r Gorchymyn hwn neu unrhyw Orchymyn cyfatebol, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a gall ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r chwilio; ac

(ch)os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd perthnasol wedi'i chyflawni mewn perthynas â'r cwch, caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir neu y deuir o hyd iddi ar fwrdd y cwch er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos ynglŷn â'r tramgwydd;

ond nid oes dim yn is-baragraff (ch) uchod yn caniatáu i unrhyw ddogfen y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch gael ei chipio a'i chadw ac eithrio tra bydd y cwch yn cael ei gadw mewn porthladd.

(4Os yw'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod y Gorchymyn hwn wedi'i dorri ar unrhyw adeg, caiff y swyddog —

(a)ei gwneud yn ofynnol bod meistr y cwch y credir y torrwyd y gorchymyn mewn perthynas ag ef yn mynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd sy'n ymddangos i'r swyddog fel y porthladd cyfleus agosaf, neu caiff y swyddog wneud hynny ei hun; a

(b)cadw'r cwch yn y porthladd neu ei gwneud yn ofynnol bod y meistr yn ei gadw yn y porthladd;

a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw cwch neu'n ei gwneud yn ofynnol cadw cwch rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y caiff y cwch ei gadw neu ei bod yn ofynnol ei gadw hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.

Diddymu

5.  Diddymir drwy hyn Orchymyn Cimychiaid Norwy (Gwahardd Dull Pysgota) 1993(12), i'r graddau y mae'n effeithiol mewn perthynas â Chymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Gorffennaf 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu ac yn ailddeddfu gyda diwygiadau Orchymyn Cimychiaid Norwy (Gwahardd Dull Pysgota) 1993 (O.S. 1993/1887) mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Gorchymyn yn gwahardd pysgota ag unrhyw dreillrwyd heblaw treillrwyd unigol, ac eithrio o dan amgylchiadau penodedig. Yr oedd y gwaharddiad yng Ngorchymyn 1993 yn ymwneud â physgota am gimychiaid Norwy yn unig. Nid yw'r gwaharddiad yn y Gorchymyn hwn wedi'i gyfyngu felly. Mae'r gwaharddiad yn gymwys i gwch pysgota Prydeinig yn nyfroedd Cymru (erthygl 3(1)). Mae'r Gorchymyn yn cyflwyno diffiniad o “dreillrwyd unigol” (erthygl 2(1)). Nid yw'r gwaharddiad yn gymwys i dreill-longau trawst nac i bysgota â threillrwyd nad yw maint penodedig eu masgl yn llai nag 80 milimetr (erthygl 3(2)).

Rhoddir pwerau penodol i swyddogion pysgodfeydd môr Prydain er mwyn gorfodi'r Gorchymyn (erthygl 4).

Rhagnodir tramgwyddau gan adrannau 5(1) a (6) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 (p.84) a chosbau gan adran 11 o'r Ddeddf honno, fel y'i diwygiwyd gan adran 24(1) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29).

Mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud drwy ddibynnu ar Erthygl 46 o Reoliad y Cyngor (EC) 850/98 ar gyfer cadw adnoddau pysgodfeydd drwy gyfrwng mesurau technegol i amddiffyn organeddau morol ifanc (OJ Rhif L125, 27.4.98, t.1), sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaeth i gymryd mesurau cenedlaethol penodol i gadw a rheoli stociau, ar yr amod bod mesurau o'r fath yn gymwys i bysgotwyr o'r Aelod-wladwriaeth honno yn unig.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ac wedi'i adneuo yn llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol. Gellir cael copïau oddi wrth y Gangen Bysgodfeydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1967 p.84. Amnewidiwyd adran 5(1) gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29), adran 22(1). Amnewidiwyd adran 15(3) gan Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p.77) adran 22(1), Atodlen 1, paragraff 38(3) a'i diwygio gan Ddeddf Ffiniau Pysgota 1976 (p.86) adran 9(1), Atodlen 2, paragraff 16(1) ac O.S. 1999/1820, Erthygl 4, Atodlen 2, paragraff 43(2)(b). Gweler adran 22(2)(a) i gael y diffiniadau o “the Ministers” (“y Gweinidogion”) at ddibenion adrannau 5 a 15(3); diwygiwyd adran 22(2) gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981, adrannau 19(2)(d) a 45(b) ac (c) a chan O.S. 1999/1820, Erthygl 4, paragraff 43(12) o Atodlen 2.

(2)

Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd yn arferadwy o dan Ddeddf 1967 i'r Cynulliad Cenedlaethol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru (a ddiffinnir yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) i gynnwys “the sea adjacent to Wales out as far as the seaward boundary of the territorial sea”); mewn perthynas â dyfroedd y tu hwnt i Gymru mae'r swyddogaethau hyn yn parhau i fod yn arferadwy gan y Gweinidogion. Mae Erthygl 3(1) ac Atodlen 1 o Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Swyddogaethau Cydamserol) 1999 (O.S. 1999/1592) yn darparu i'r swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adrannau 5 a 15(3) o Ddeddf 1967 gael eu harfer gan y Gweinidogion yn gydamserol â Gweinidogion yr Alban, mewn perthynas â'r canlynol: cychod pysgota Prydeinig perthnasol o fewn y parth Albanaidd; a chychod pysgota'r Alban o fewn ffiniau pysgodfeydd Prydain ond y tu allan i'r parth Albanaidd. Yn rhinwedd erthygl 2(1) o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Physgodfeydd) 2000 (O.S. 2000/1812) trosglwyddwyd unrhyw swyddogaethau a oedd yn weddill gan Ysgrifenyddion Gwladol Cymru a'r Alban o dan adrannau 5 a 15(3) o Ddeddf 1967 i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, ac yn eu tro (ynghyd â swyddogaethau eraill) i'r Ysgrifennydd Gwladol gan O.S.2002/794.

(3)

1998 p.38. Diffinnir Cymru yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) i gynnwys “the sea adjacent to Wales out as far as the seaward boundary of the territorial sea”. Mae erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwnnw yn delio â chymhwyso'r ddarpariaeth honno i Aberoedd yr Hafren a'r Ddyfrdwy.

(4)

OJ Rhif L125, 27.4.98, t.1.

(5)

OJ Rhif L318, 27.11.98, t.63.

(6)

OJ Rhif L038, 12.2.99, t.6.

(7)

OJ Rhif L168, 3.7.99, t.1.

(8)

OJ Rhif L328, 22.12..99, t.9.

(9)

OJ Rhif L1000, 20.4.2000, t.3.

(10)

OJ Rhif L148, 22.6.2000, t.1.

(11)

Diwygiwyd is-adran (6) gan adran 22(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981. Yn rhinwedd is-adran (7), os na chydymffurfir ag is-adran (6) yn achos unrhyw gwch pysgota, bydd y meistr, y perchennog a'r siartrwr (os oes un) yn euog o dramgwydd o dan yr is-adran honno.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill