- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GYFRAITH GYFANSODDIADOL DATGANOLI, CYMRU
CYNRYCHIOLAETH Y BOBL
Wedi'i wneud
15 Awst 2001
Yn dod i rym
16 Awst 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Gweinidog priodol gan adran 26(2) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Etholiadau: Papurau Enwebu) (Ffurflen Gymraeg) 2001 a daw i rym ar 16 Awst 2001.
2.—(1) Rhagnodir drwy hyn mai “Annibynnol” yw'r ffurfeiriad Cymraeg ar gyfer y gair “Independent” a bennir yn adran 22(3)(a)(i) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000(2).
(2) Gall y ffurfeiriad Cymraeg a ragnodir gan baragraff (1) gael ei ddefnyddio yn ychwanegol at y gair Saesneg cyfatebol neu yn ei le mewn etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
Jenny Randerson
Ysgrifennydd y Cynulliad dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg
15 Awst 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n dod i rym ar 16 Awst 2001, yn gymwys i etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae adran 22 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p.41) yn gwneud darpariaeth ar gyfer cofrestru pleidiau er mwyn iddynt gynnig ymgeiswyr mewn etholiadau perthnasol (“relevant elections”) (sydd yn rhinwedd adran 22(5)(d) yn cynnwys etholiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol). Gwneir hynny drwy ddarparu na chaiff person sefyll yn ymgeisydd mewn etholiad o'r fath oni bai bod yna dystysgrif, i'w awdurdodi fel ymgeisydd, ac wedi'i rhoi gan neu ar ran swyddog enwebu plaid gofrestredig gymwys yn cyd-fynd â'i bapur enwebu, neu os yw ei bapur enwebu naill ai'n rhoi'r disgrifiad “Independent” neu os nad yw'n rhoi dim disgrifiad o gwbl.
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi mai “Annibynnol” yw'r ffurfeiriad Cymraeg ar gyfer y gair “Independent” sydd i'w ddefnyddio i ddisgrifio'r ymgeisydd yn y papur enwebu mewn perthynas ag etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
1993 p. 38. I gael ystyr “the appropriate Minister” gweler adran 27(4) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. O dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) (y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn), i'r graddau yr oedd y swyddogaeth a enwyd i “the appropriate Minister” yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, fe'i gwnaed yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu gan unrhyw un o Weinidogion y Goron yr oedd y pŵer hwnnw yn arferadwy ganddo.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys