Chwilio Deddfwriaeth

Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

Newidiadau dros amser i: RHAN 2

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, RHAN 2. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 2LL+CPROTOCOLAU

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. Rhn. 2 mewn grym ar 16.5.2011, gweler a. 11

PROTOCOL DEWISOL I'R CONFENSIWN AR HAWLIAU'R PLENTYN YNGHYLCH TYNNU PLANT I MEWN I WRTHDARO ARFOGLL+C

Erthygl 1LL+C

Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur dichonadwy i sicrhau na fydd aelodau o'u lluoedd arfog sydd heb gyrraedd 18 mlwydd oed yn cymryd rhan uniongyrchol mewn ymladdiadau.

Erthygl 2LL+C

Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau sicrhau na chaiff personau nad ydynt wedi cyrraedd 18 mlwydd oed eu recriwtio dan orfodaeth i'w lluoedd arfog.

Erthygl 3LL+C

1LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau godi'r oedran isaf ar gyfer recriwtio personau o'u gwirfodd i'w lluoedd arfog cenedlaethol o'r hyn a nodwyd yn erthygl 38, paragraff 3, o'r Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn, gan ystyried yr egwyddorion sydd wedi eu cynnwys yn yr erthygl honno a chydnabod bod gan bersonau sydd o dan 18 mlwydd oed hawlogaeth o dan y Confensiwn i gael amddiffyniad arbennig.

2LL+CRhaid i bob Parti Gwladwriaeth adneuo datganiad rhwymol pan gadarnheir neu pan gytunir y Protocol hwn sy'n nodi'r oedran isaf y bydd yn caniatáu recriwtio gwirfoddol i'w luoedd arfog cenedlaethol a disgrifiad o'r trefniadau diogelu y mae wedi eu mabwysiadu i sicrhau na chaiff y recriwtio hwnnw ei fforsio na'i dirio.

3LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau sy'n caniatáu recriwtio gwirfoddol i'w lluoedd arfog cenedlaethol gadw trefniadau diogelu i sicrhau, o leiaf:

(a)bod y recriwtio hwnnw'n wirioneddol wirfoddol;

(b)bod y recriwtio hwnnw'n cael ei wneud gyda chydsyniad deallus rhieni'r person neu ei warcheidwaid cyfreithiol;

(c)bod gan y personau hynny wybodaeth lawn am y dyletswyddau sydd ynghlwm wrth wasanaeth milwrol o'r fath;

(d)bod y personau hynny'n darparu prawf dibynadwy o'u hoedran cyn iddynt gael eu derbyn i wasanaeth milwrol cenedlaethol.

4LL+CCaiff pob Parti Gwladwriaeth atgyfnerthu ei ddatganiad ar unrhyw bryd drwy hysbysiad i'r perwyl hwnnw sydd wedi ei gyfeirio at Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, a bydd yn rhaid iddo yntau hysbysu pob Parti Gwladwriaeth. Daw'r hysbysiad hwnnw'n weithredol ar y dyddiad y daw i law'r Ysgrifennydd Cyffredinol.

5LL+CNid yw'r gofyniad i godi'r oedran ym mharagraff 1 o'r erthygl bresennol yn gymwys i ysgolion sy'n cael eu rhedeg gan luoedd arfog y Partïon Gwladwriaethau neu sydd o dan eu rheolaeth, a hynny'n unol ag erthyglau 28 a 29 y Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn.

Erthygl 4LL+C

1LL+CNi ddylai grwpiau arfog sydd ar wahân i luoedd arfog Gwladwriaeth, o dan unrhyw amgylchiadau, recriwtio na defnyddio mewn ymladdiadau bersonau sydd o dan 18 mlwydd oed.

2LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur dichonadwy i atal y cyfryw recriwtio a defnyddio, gan gynnwys mabwysiadu mesurau cyfreithiol sy'n angenrheidiol i wahardd a throseddoli arferion o'r fath.

3LL+CNi fydd cymhwyso'r erthygl bresennol o dan y Protocol hwn yn effeithio ar statws cyfreithiol unrhyw barti mewn gwrthdrawiad arfog.

Erthygl 5LL+C

Rhaid peidio â dehongli unrhyw beth yn y Protocol presennol fel petai'n rhagwahardd darpariaethau yng nghyfraith Parti Gwladwriaeth neu mewn offerynnau rhyngwladol a chyfraith ddyngarol ryngwladol sy'n fwy ffafriol i wireddu hawliau'r plentyn.

Erthygl 6LL+C

1LL+CRhaid i bob Parti Gwladwriaeth gymryd pob mesur cyfreithiol, pob mesur gweinyddol a phob mesur arall sy'n angenrheidiol i sicrhau bod darpariaethau'r Protocol hwn yn cael eu gweithredu a'u gorfodi'n effeithiol o fewn ei awdurdodaeth.

2LL+C

3LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur dichonadwy i sicrhau y bydd personau o fewn eu hawdurdodaeth sydd wedi eu recriwtio neu wedi eu defnyddio mewn ymladdiadau yn groes i'r Protocol presennol yn cael eu dadfyddino neu eu gollwng o'u gwasanaeth mewn modd arall. Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau roi, pan fo'n angenrheidiol, bob cymorth priodol i'r personau hyn er mwyn iddynt ymadfer yn gorfforol ac yn seicolegol ac ailintegreiddio â'r gymdeithas.

Erthygl 7LL+C

1LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau gydweithredu i weithredu'r Protocol presennol, gan gynnwys cydweithredu ym maes atal unrhyw weithgaredd sy'n groes i'r Protocol ac adsefydlu ac ailintegreiddio â'r gymdeithas bersonau sy'n ddioddefwyr gweithredoedd sy'n groes i'r Protocol hwn, gan gynnwys drwy gydweithrediad technegol a chymorth ariannol. Ymgymerir â'r gwaith cynorthwyo a chydweithredu hwnnw gan ymgynghori â'r Partïon Gwladwriaethau o dan sylw a chyrff rhyngwladol perthnasol.

2LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau sydd mewn sefyllfa i wneud hynny roi'r cymorth hwnnw drwy raglenni amlochrog, rhaglenni dwyochrog neu raglenni eraill neu, ymhlith eraill, drwy gronfa wirfoddol a sefydlir yn unol â rheolau'r Cynulliad Cyffredinol.

PROTOCOL DEWISOL I'R CONFENSIWN AR HAWLIAU'R PLENTYN AR WERTHU PLANT, PUTEINDRA PLANT A PHORNOGRAFFI PLANTLL+C

Erthygl 1LL+C

Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau wahardd gwerthu plant, puteindra plant a phornograffi plant fel y darperir ar eu cyfer gan y Protocol presennol.

Erthygl 2LL+C

At ddibenion y Protocol presennol:

(a)mae gwerthu plant yn golygu unrhyw weithred neu drafodiad a ddefnyddir gan unrhyw unigolyn neu grŵp o bersonau i drosglwyddo plentyn i un arall am dâl neu unrhyw gydnabyddiaeth arall;

(b)mae puteindra plant yn golygu defnyddio plentyn mewn gweithgareddau rhywiol am dâl neu unrhyw ffurf arall ar gydnabyddiaeth;

(c)mae pornograffi plant yn golygu unrhyw bortread, drwy ba fodd bynnag, o blentyn sy'n ymgymryd â gweithgareddau rhywiol diamwys real neu ddynwaredol neu unrhyw bortread o rannau rhywiol plentyn at ddibenion rhywiol yn bennaf.

Erthygl 3LL+C

1LL+CRhaid i bob Parti Gwladwriaeth sicrhau, o leiaf, fod y gweithredoedd a'r gweithgareddau canlynol wedi eu cwmpasu'n llawn o dan ei gyfraith trosedd, p'un a yw'r tramgwyddau hynny wedi eu cyflawni yn fewnwladol neu'n drawswladol neu ar sail unigol neu gyfundrefnol:

(a)yng nghyd-destun gwerthu plant fel y diffiniwyd y term hwnnw yn erthygl 2:

(i)cynnig, traddodi neu dderbyn plentyn, drwy ba ddull bynnag, at ddibenion:

a.camfanteisio'n rhywiol ar y plentyn;

b.trosglwyddo organau'r plentyn am elw;

c.cymryd y plentyn ymlaen i wneud llafur gorfod;

(ii)cymell cydsynio yn amhriodol, fel canolwr, i fabwysiadu plentyn gan dorri offerynnau cyfreithiol rhyngwladol cymwysadwy am fabwysiadu;

(b)cynnig, sicrhau, caffael neu ddarparu plentyn ar gyfer puteindra plant, fel y'i diffiniwyd yn erthygl 2;

(c)cynhyrchu, dosbarthu, lledaenu, mewnforio, allforio, cynnig, gwerthu neu feddiannu at y dibenion uchod bornograffi plant fel y'i diffiniwyd yn erthygl 2.

2LL+CYn ddarostyngedig i ddarpariaethau cyfraith genedlaethol Parti Gwladwriaeth, bydd yr un peth yn gymwys i ymgais i gyflawni unrhyw un o'r gweithredoedd hyn ac i gydgynllwynio i gyflawni unrhyw un o'r gweithredoedd hyn neu i gymryd rhan ynddynt.

3LL+CRhaid i bob Parti Gwladwriaeth wneud y tramgwyddau hyn yn rhai y gellir eu cosbi â chosbau priodol sy'n cymryd i ystyriaeth eu natur ddifrifol.

4LL+CYn ddarostyngedig i ddarpariaethau ei gyfraith genedlaethol, rhaid i bob Parti Gwladwriaeth gymryd mesurau, pan fo'n briodol, i sefydlu atebolrwydd personau cyfreithiol am dramgwyddau a sefydlwyd ym mharagraff 1 o'r erthygl bresennol. Yn ddarostyngedig i egwyddorion cyfreithiol y Parti Gwladwriaeth, gall yr atebolrwydd hwn sydd ar bersonau cyfreithiol fod yn droseddol, yn sifil neu'n weinyddol.

5LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur cyfreithiol a gweinyddol sy'n briodol i sicrhau bod pob person sy'n ymwneud â mabwysiadu plentyn yn gweithredu'n unol â'r offerynnau cyfreithiol rhyngwladol sy'n gymwysadwy.

Erthygl 4LL+C

1LL+CRhaid i bob Parti Gwladwriaeth gymryd unrhyw fesurau sy'n angenrheidiol i sefydlu ei awdurdodaeth dros y tramgwyddau y cyfeiriwyd atynt yn erthygl 3, paragraff 1, pan fo'r tramgwyddau'n cael eu cyflawni yn ei diriogaeth neu ar fwrdd llong neu awyren sydd wedi ei chofrestru yn y Wladwriaeth honno.

2LL+CCaiff pob Parti Gwladwriaeth gymryd unrhyw fesurau sy'n angenrheidiol i sefydlu ei awdurdodaeth dros y tramgwyddau y cyfeiriwyd atynt yn erthygl 3, paragraff 1, yn yr achosion canlynol:

(a)pan fo'r tramgwyddwr honedig yn wladolyn y Wladwriaeth honno neu'n berson y mae ganddo ei breswylfan arferol yn ei thiriogaeth;

(b)pan fo'r dioddefwr yn wladolyn y Wladwriaeth honno.

3LL+CRhaid i bob Parti Gwladwriaeth gymryd hefyd unrhyw fesurau sy'n angenrheidiol i sefydlu ei awdurdodaeth dros y tramgwyddau uchod pan fo'r tramgwyddwr honedig yn bresennol yn ei diriogaeth ac nad yw'n ei estraddodi i Barti Gwladwriaeth arall ar y sail nad yw'r tramgwydd wedi ei gyflawni gan un o'i wladolion.

4LL+CNid yw'r Protocol hwnnw yn eithrio unrhyw awdurdodaeth droseddol sy'n cael ei harfer yn unol â chyfraith fewnol.

Erthygl 5LL+C

1LL+CRhaid barnu bod y tramgwyddau y cyfeiriwyd atynt yn erthygl 3, paragraff 1, wedi eu cynnwys fel tramgwyddau estradoddadwy mewn unrhyw gytuniad estraddodi sy'n bodoli rhwng Partïon Gwladwriaethau a rhaid eu cynnwys fel tramgwyddau estradoddadwy ym mhob cytuniad estraddodi a gwblheir rhyngddynt wedi hynny, yn unol â'r amodau a nodir yn y cytuniadau hynny.

2LL+COs yw Parti Gwladwriaeth sy'n gwneud estraddodi'n amodol ar fodolaeth cytuniad yn cael cais am estraddodiad oddi wrth Barti Gwladwriaeth arall nad oes ganddo unrhyw gytuniad estraddodi ag ef, caiff ystyried y Protocol hwn yn sail gyfreithiol dros estraddodi mewn perthynas â'r tramgwyddau hynny. Bydd estraddodi'n ddarostyngedig i'r amodau a ddarperir o dan gyfraith y Wladwriaeth y gwneir y cais iddo.

3LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau nad ydynt yn gwneud estraddodi'n amodol ar fodolaeth cytuniad gydnabod rhyngddynt fod y tramgwyddau hynny'n dramgwyddau estradoddadwy yn ddarostyngedig i'r amodau y darperir ar eu cyfer o dan gyfraith y Wladwriaeth y gwneir y cais iddo.

4LL+CRhaid ymdrin â'r tramgwyddau hynny, at ddibenion estraddodi rhwng Partïon Gwladwriaethau, fel petaent wedi eu cyflawni nid yn unig yn y man lle y digwyddasant ond hefyd yn nhiriogaethau'r Gwladwriaethau y mae'n ofynnol iddynt sefydlu eu hawdurdodaeth yn unol ag erthygl 4.

5LL+COs yw cais am estraddodi'n cael ei wneud mewn cysylltiad â thramgwydd a ddisgrifiwyd yn erthygl 3, paragraff 1, ac os nad yw'r Parti Gwladwriaeth y gwnaed y cais iddo yn estraddodi ar sail cenedligrwydd y tramgwyddwr neu os nad ewyllysia wneud hynny, rhaid i'r Wladwriaeth honno gymryd mesurau addas i gyflwyno'r achos i'w awdurdodau cymwys at ddibenion erlyn.

Erthygl 6LL+C

1LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau roi i'w gilydd y cymorth mwyaf mewn cysylltiad ag ymchwiliadau neu achosion troseddol neu achosion estraddodi a ddygir mewn perthynas â'r tramgwyddau a nodwyd yn erthygl 3, paragraff 1, gan gynnwys cymorth i gael dystiolaeth at eu gwasanaeth a fyddai'n angenrheidiol ar gyfer yr achosion.

2LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau gyflawni eu rhwymedigaethau o dan baragraff 1 o'r erthygl bresennol yn unol ag unrhyw gytuniadau neu drefniadau eraill ynghylch cymorth cyfreithiol i'w gilydd a all fodoli rhyngddynt. Yn absenoldeb cytuniadau neu drefniadau o'r fath, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau roi cymorth i'w gilydd yn unol â'u cyfraith ddomestig.

Erthygl 7LL+C

Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eu cyfraith genedlaethol:

(a)cymryd mesurau i ddarparu ar gyfer ymafael yn y canlynol a'u hatafaelu, fel y bo'n briodol:

(i)nwyddau, megis deunyddiau, asedau a chyfryngiadau eraill a ddefnyddiwyd i gyflawni neu hwyluso tramgwyddau o dan y Protocol presennol;

(ii)yr enillion sy'n tarddu o'r tramgwyddau hynny;

(b)cyflawni ceisiadau gan Barti Gwladwriaeth arall am ymafael yn y nwyddau neu'r enillion y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (a)(i) neu am eu hatafaelu;

(c)cymryd mesurau sydd wedi eu hanelu at gau, dros dro neu yn derfynol, fangreoedd a ddefnyddiwyd i gyflawni'r tramgwyddau hynny.

Erthygl 8LL+C

1LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau fabwysiadu mesurau priodol i amddiffyn hawliau a buddiannau plant sydd wedi bod yn ddioddefwyr yr arferion a waherddir o dan y Protocol presennol ym mhob cam yn y broses cyfiawnder troseddol, a hynny'n benodol drwy wneud y canlynol:

(a)cydnabod hyglwyfedd plant sy'n ddioddefwyr ac addasu gweithdrefnau i gydnabod eu hanghenion arbennig, gan gynnwys eu hanghenion arbennig fel tystion;

(b)hysbysu plant sy'n ddioddefwyr o'u hawliau, eu rôl a chwmpas, amseriad a chynnydd y rheithdrefn ac o'r penderfyniad ar eu hachosion;

(c)caniatáu i sylwadau, anghenion a phryderon plant sy'n ddioddefwyr gael eu cyflwyno a'u hystyried mewn rheithdrefnau lle'r effeithir ar eu buddiannau personol, mewn modd sy'n gyson â rheolau gweithdrefnol y gyfraith genedlaethol;

(d)darparu gwasanaethau cymorth priodol i blant sy'n ddioddefwyr drwy gydol y broses gyfreithiol;

(e)diogelu, fel y bo'n briodol, breifatrwydd a hunaniaeth plant sy'n ddioddefwyr a chymryd mesurau'n unol â'r gyfraith genedlaethol i osgoi lledaenu'n amhriodol wybodaeth a allai arwain at ganfod pwy yw'r plant sy'n ddioddefwyr;

(f)darparu, mewn achosion priodol, ar gyfer diogelu plant sy'n ddioddefwyr, yn ogystal â'u teuluoedd a'r rhai sy'n tystiolaethu ar eu rhan, rhag bygylu a dial;

(g)osgoi oedi diangen cyn penderfynu achosion ac ufuddhau i orchmynion neu archddyfarniadau sy'n rhoi iawndal i blant sy'n ddioddefwyr.

2LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau sicrhau na fydd ansicrwydd ynghylch oedran gwirioneddol y dioddefwr yn atal camau i gychwyn ymchwiliadau troseddol, gan gynnwys ymchwiliadau sydd wedi eu hanelu at gadarnhau oedran y dioddefwr.

3LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau sicrhau, yn y modd y mae plant sy'n ddioddefwyr y tramgwyddau a ddisgrifir yn y Protocol presennol yn cael eu trin gan y system cyfiawnder troseddol, mai lles pennaf y plentyn fydd y prif ystyriaeth.

4LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd mesurau i sicrhau hyfforddiant priodol, yn enwedig hyfforddiant cyfreithiol a seicolegol, ar gyfer y personau sy'n gweithio gyda dioddefwyr y tramgwyddau a waherddir o dan y Protocol presennol.

5LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau fabwysiadu mesurau, mewn achosion priodol, er mwyn amddiffyn diogelwch ac uniondeb y personau a'r/neu'r cyrff sy'n ymwneud ag atal a/neu amddiffyn ac adsefydlu ddioddefwyr y tramgwyddau hynny.

6LL+CRhaid peidio â dehongli unrhyw beth yn yr erthygl bresennol fel petai'n niweidiol i hawliau'r cyhuddedig i gael prawf teg a diduedd neu'n anghyson â'r hawliau hynny.

Erthygl 9LL+C

1LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau fabwysiadu neu gryfhau, gweithredu a lledaenu cyfreithiau, mesurau gweinyddol, polisïau a rhaglenni cymdeithasol i atal y tramgwyddau y cyfeirir atynt yn y Protocol presennol. Rhaid rhoi sylw penodol i amddiffyn plant sy'n arbennig o hyglwyf gan yr arferion hyn.

2LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau hybu ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol, gan gynnwys plant, drwy wybodaeth drwy bob modd priodol, addysg briodol a hyfforddiant priodol, ymwybyddiaeth o'r mesurau i atal y tramgwyddau y cyfeirir atynt yn y Protocol presennol ac o'u heffeithiau andwyol. Wrth gyflawni eu rhwymedigaethau o dan yr erthygl hon, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau hyrwyddo'r broses o gael y gymuned ac yn benodol, plant a phlant sy'n ddioddefwyr, i fod yn rhan o'r rhaglenni gwybodaeth, addysgu a hyfforddi hynny, gan gynnwys ar lefel ryngwladol.

3LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur dichonadwy gan anelu at sicrhau pob cymorth priodol i ddioddefwyr y tramgwyddau hynny, gan gynnwys eu hailintegreiddiad cymdeithasol llawn a'u hadferiad corfforol a seicolegol llawn.

4LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau sicrhau bod gan bob plentyn sy'n ddioddefwr gan y tramgwyddau a ddisgrifir yn y Protocol presennol fynediad at weithdrefnau digonol i geisio, heb unrhyw gamwahaniaethu, iawndal oddi wrth y rhai a fu'n gyfrifol yn ôl y gyfraith.

5LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd mesurau priodol sydd wedi eu hanelu at wahardd yn effeithiol y broses o gynhyrchu a lledaenu deunydd sy'n hysbysebu'r tramgwyddau a ddisgrifir yn y Protocol presennol.

Erthygl 10LL+C

1LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd yr holl gamau sy'n angenrheidiol i gryfhau cydweithrediad rhyngwladol drwy drefniadau amlochrog, rhanbarthol a dwyochrog ar gyfer atal y rhai sy'n gyfrifol am weithredoedd sy'n cynnwys gwerthu plant, puteindra plant, pornograffi plant a thwristiaeth rhyw plant ac ar gyfer eu datgelu, ymchwilio iddynt, eu herlyn a'u cosbi. Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau hybu cydweithrediad a chydlyniad rhyngwladol hefyd rhwng eu hawdurdodau, cyrff anllywodraethol cenedlaethol a rhyngwladol a chyrff rhyngwladol.

2LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau hybu cydweithrediad rhyngwladol i gynorthwyo plant sy'n ddioddefwyr i ymadfer yn gorfforol ac yn seicolegol, i ailintegreiddio â'r gymdeithas ac i ddychwelyd i'w mamwlad.

3LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau hybu gwaith i gryfhau cydweithrediad rhyngwladol er mwyn mynd i'r afael â'r achosion sylfaenol, megis tlodi a thanddatblygu, sy'n cyfrannu at hyglwyfedd plant gan weithgareddau gwerthu plant, puteindra plant, pornograffi plant a thwristiaeth rhyw plant.

4LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau sydd mewn sefyllfa i wneud hynny roi cymorth ariannol, cymorth technegol neu gymorth arall drwy raglenni amlochrog, rhanbarthol, dwyochrog neu raglenni eraill sy'n bodoli eisoes.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cynulliad Cymru oedd yn gyfrifol am destun y Mesur i esbonio beth mae’r Mesur yn ceisio ei wneud ac i wneud y Mesur yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill