Chwilio Deddfwriaeth

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 4

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ATODLEN 4. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

(a gyflwynwyd gan adran 23)

ATODLEN 4LL+CAELODAU'R PANEL CYNGHORI

This Atodlen has no associated Nodiadau Esboniadol

RHAN 1LL+CPENODI

PenodiLL+C

1(1)Pan fydd Gweinidogion Cymru'n penodi aelod o'r Panel Cynghori rhaid iddynt gydymffurfio â rheoliadau penodi (gweler paragraff 5).

(2)Ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person yn aelod o'r Panel Cynghori os yw'r person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Panel Cynghori ar sail cyflogaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 1 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 10.1.2012 gan O.S. 2012/46, ergl. 2(b)

Tâl cydnabyddiaeth, lwfansau a phensiynauLL+C

2(1)Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i aelodau'r Panel Cynghori.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i aelodau'r Panel Cynghori.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru dalu—

(a)pensiynau i bersonau a fu'n aelodau o'r Panel Cynghori, neu mewn cysylltiad â hwy, a

(b)symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau a fu'n aelodau o'r Panel Cynghori, neu mewn cysylltiad â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 4 para. 2 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinoll, gweler a. 156(2)

I4Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

Telerau penodiLL+C

3(1)Mae aelod o'r Panel Cynghori yn dal ei swydd yn ddarostyngedig i delerau ei benodiad.

(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yr Atodlen hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 4 para. 3 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I6Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

Cyfnod y penodiadLL+C

4(1)Mae person a benodir yn aelod o'r Panel Cynghori yn dal ei swydd (yn rhinwedd y penodiad hwnnw) am 3 blynedd.

(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i Ran 2 o'r Atodlen hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 4 para. 4 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I8Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

Rheoliadau PenodiLL+C

5(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch penodi aelodau o'r Panel Cynghori (“rheoliadau penodi”).

(2)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn rheoliadau penodi yn cynnwys darpariaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-baragraffau (3) i (6), ond nid yw'n gyfyngedig iddi.

(3)Caiff rheoliadau penodi wneud darpariaeth ynghylch yr egwyddorion sydd i'w dilyn wrth benodi aelod o'r Panel Cynghori.

(4)Caiff rheoliadau penodi wneud darpariaeth ynghylch—

(a)gwybodaeth o'r Gymraeg, a hyfedredd ynddi, a

(b)gwybodaeth a phrofiad—

(i)o'r materion y mae gan y Comisiynydd swyddogaethau yn eu cylch, a

(ii)o unrhyw fater arall sy'n berthnasol i unrhyw beth sy'n dod i ran y Comisiynydd i'w wneud,

sef gwybodaeth, hyfedredd a phrofiad o'r math y mae'n rhaid i aelod o'r Panel Cynghori feddu arno.

(5)Caiff rheoliadau penodi—

(a)cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw god ymarfer sy'n ymwneud â phenodiadau i gyrff cyhoeddus, neu

(b)gwneud darpariaeth arall sy'n ymwneud ag unrhyw god o'r fath.

(6)Caiff rheoliadau penodi roi swyddogaethau i Weinidogion Cymru (yn ogystal ag i unrhyw berson arall), gan gynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud ag arfer disgresiwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 4 para. 5 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I10Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 10.1.2012 gan O.S. 2012/46, ergl. 2(b)

RHAN 2LL+CTERFYNU PENODIAD

YmddiswyddoLL+C

6Caiff aelod o'r Panel Cynghori ymddiswyddo os yw'n rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i wneud hynny i Weinidogion Cymru heb fod yn llai na 2 fis cyn ymddiswyddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 4 para. 6 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I12Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

Anghymhwyso rhag bod yn aelodLL+C

7Mae person yn peidio â bod yn aelod o'r Panel Cynghori os yw'r person yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Panel Cynghori ar sail cyflogaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 4 para. 7 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I14Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

DiswyddoLL+C

8(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo aelod o'r Panel Cynghori os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)nad yw'r person yn ffit i barhau yn aelod o'r Panel Cynghori, neu

(b)nad yw'r person yn gallu neu'n fodlon gweithredu fel aelod o'r Panel Cynghori.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Comisiynydd cyn diswyddo aelod o'r Panel Cynghori.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 4 para. 8 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I16Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

Taliadau pan fo rhywun yn peidio â dal swyddLL+C

9Caiff Gweinidogion Cymru dalu person sy'n peidio â bod yn aelod o'r Panel Cynghori os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru bod amgylchiadau arbennig yn ei gwneud hi'n iawn i'r person gael taliad yn iawndal.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 4 para. 9 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I18Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

RHAN 3LL+CANGHYMHWYSO

Anghymhwyso ar sail cyflogaethLL+C

10Mae person yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Panel Cynghori ar sail cyflogaeth os yw'r person—

(a)yn Aelod Seneddol;

(b)yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(c)yn aelod o Dribiwnlys y Gymraeg;

(d)yn aelod o staff y Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 4 para. 10 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I20Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 10.1.2012 gan O.S. 2012/46, ergl. 2(b)

RHAN 4LL+CCYFFREDINOL

DehongliLL+C

11Yn yr Atodlen hon ystyr “rheoliadau penodi” yw rheoliadau a wneir o dan baragraff 5.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 4 para. 11 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I22Atod. 4 para. 11 mewn grym ar 10.1.2012 gan O.S. 2012/46, ergl. 2(b)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Measure

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure as a PDF

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Mesur Cyfan

Y Mesur Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cynulliad Cymru oedd yn gyfrifol am destun y Mesur i esbonio beth mae’r Mesur yn ceisio ei wneud ac i wneud y Mesur yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill