- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, RHAN 4.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
13(1)Mae person yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail cyflogaeth—
(a)os yw'r person yn Aelod Seneddol;
(b)os yw'r person yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(c)os yw'r person yn aelod o staff Llywodraeth Cynulliad Cymru;
(d)os yw'r person yn aelod o staff Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
(e)os ef yw'r Comisiynydd;
(f)os ef yw'r Dirprwy Gomisiynydd;
(g)os yw'r person yn unrhyw aelod arall o staff y Comisiynydd; neu
(h)os yw'r person yn briod â pherson, neu'n bartner sifil i berson, sy'n dod o fewn paragraff (e), (f) neu (g).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 11 para. 13 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2Atod. 11 para. 13 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(k)
14(1)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail anaddasrwydd os yw'r person—
(a)wedi ei ddyfarnu'n fethdalwr ac yn parhau i fod yn fethdalwr;
(b)wedi cael gorchymyn rhyddhad o ddyled (o fewn ystyr Rhan VIIA o Ddeddf Ansolfedd 1986), a bod y cyfnod moratoriwm o dan y gorchymyn hwnnw'n parhau;
(c)wedi gwneud trefniant gyda'i gredydwyr a bod y trefniant yn parhau i fod mewn grym;
(d)wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu ar Ynys Manaw o unrhyw dramgwydd a'i fod wedi cael dedfryd o garchar (boed yn ataliedig neu beidio) am gyfnod heb fod yn llai na thri mis heb gael yr opsiwn o ddirwy;
(e)wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o gyngor bwrdeistref sirol neu gyngor sir yng Nghymru; neu
(f)wedi ei anghymhwyso rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni.
(2)At ddibenion is-baragraff (1)(a) mae person yn parhau i fod yn fethdalwr—
(a)hyd oni chaiff y person ei ryddhau o fethdaliad, neu
(b)hyd oni chaiff y gorchymyn methdalu a wnaed yn erbyn y person hwnnw ei ddiddymu.
(3)At ddibenion is-baragraff (1)(c) mae trefniant person gyda'i gredydwyr yn parhau i fod mewn grym—
(a)hyd onid yw'r person yn talu ei ddyledion yn llawn, neu
(b)os yw'n hwyrach, hyd ddiwedd y cyfnod o bum mlynedd sy'n dechrau ar y diwrnod y mae telerau'r trefniant yn cael eu cyflawni.
(4)Os bydd y cwestiwn a yw person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail anaddasrwydd yn codi mewn perthynas â phenodi person yn aelod o'r Tribiwnlys, mae unrhyw gollfarn a gafodd y person hwnnw fwy na phum mlynedd cyn dyddiad y penodiad i'w diystyru.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 11 para. 14 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I4Atod. 11 para. 14 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(k)
15Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n Llywydd neu'n aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith neu'n aelod lleyg o'r Tribiwnlys os yw'r person eisoes wedi cyrraedd [F175] oed ar ddyddiad y penodiad.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn Atod. 11 para. 15 wedi ei amnewid (10.3.2022) gan Public Service Pensions and Judicial Offices Act 2022 (c. 7), a. 131(1)(4)(a), Atod. 1 para. 39(2)(b) (ynghyd ag Atod. 1 para. 43)
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 11 para. 15 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I6Atod. 11 para. 15 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(k)
16(1)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n Llywydd ar sail penodiad blaenorol os yw'r person eisoes wedi ei benodi'n Llywydd am gyfnod o ddeng mlynedd neu fwy (boed mewn penodiadau olynol neu heb fod yn olynol).
(2)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n aelod o'r Tribiwnlys wedi ymgymhwyso yn y gyfraith ar sail penodiad blaenorol os yw'r person eisoes wedi ei benodi'n aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith am gyfnod o ddeng mlynedd neu fwy (boed mewn penodiadau olynol neu heb fod yn olynol).
(3)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n aelod lleyg ar sail penodiad blaenorol os yw'r person eisoes wedi ei benodi'n aelod lleyg am gyfnod o ddeng mlynedd neu fwy (boed mewn penodiadau olynol neu heb fod yn olynol).
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 11 para. 16 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I8Atod. 11 para. 16 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(k)
17Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n Llywydd neu'n aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith neu'n aelod lleyg o'r Tribiwnlys ar sail diswyddiad blaenorol os yw Gweinidogion Cymru wedi diswyddo'r person o'r Tribiwnlys yn flaenorol o dan baragraff 12.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 11 para. 17 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I10Atod. 11 para. 17 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(k)
The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Y Mesur Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cynulliad Cymru oedd yn gyfrifol am destun y Mesur i esbonio beth mae’r Mesur yn ceisio ei wneud ac i wneud y Mesur yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys