Newidiadau dros amser i: Paragraff 16
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 10/07/2011.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, Paragraff 16 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 31 Mai 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Cyhoeddusrwydd am osod cosbau sifilLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
[16(1)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth sy'n galluogi awdurdod gorfodi i roi hysbysiad cyhoeddusrwydd i berson y gosodwyd cosb sifil arno yn unol â rheoliadau o dan yr Atodlen hon.
(2)Mae “hysbysiad cyhoeddusrwydd” yn hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person roi cyhoeddusrwydd—
(a)i'r ffaith bod y gosb sifil wedi ei gosod, a
(b)i unrhyw wybodaeth arall a bennir yn y rheoliadau,
mewn unrhyw ffordd a bennir yn yr hysbysiad.
(3)Caiff y rheoliadau ddarparu i hysbysiad cyhoeddusrwydd—
(a)pennu amser i gydymffurfio â'r hysbysiad, a
(b)ei gwneud yn ofynnol i'r person y rhoddir ef iddo roi tystiolaeth i'r awdurdod gorfodi ei fod wedi cydymffurfio erbyn yr amser a bennir yn yr hysbysiad.
(4)Caiff y rheoliadau ddarparu, os bydd person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio, bod awdurdod gorfodi yn cael—
(a)rhoi cyhoeddusrwydd i'r wybodaeth y mae'n ofynnol rhoi cyhoeddusrwydd iddi gan yr hysbysiad, a
(b)adennill costau gwneud hynny oddi wrth y person hwnnw.]
Yn ôl i’r brig