Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 3SICRHAU ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL A’U CYLLIDO

Cyllido’r Comisiwn

85Pŵer Gweinidogion Cymru i gyllido’r Comisiwn

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu unrhyw gyllid i’r Comisiwn y maent yn ystyried ei fod yn briodol er mwyn arfer swyddogaethau’r Comisiwn.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu bod cyllid o dan is-adran (1) yn ddarostyngedig i delerau ac amodau a gaiff (ymhlith pethau eraill)—

(a)galluogi Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol ad-dalu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, symiau a dalwyd ganddynt os na chydymffurfir ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau y talwyd y symiau yn ddarostyngedig iddynt;

(b)ei gwneud yn ofynnol talu llog mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fydd swm sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru yn unol ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau yn parhau i fod heb ei dalu;

(c)galluogi Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn ymrwymo i gytundeb canlyniadau â pherson y mae’r Comisiwn yn bwriadu darparu adnoddau ariannol iddo.

(3)Yn is-adran (2)(c), ystyr “cytundeb canlyniadau” yw cytundeb rhwng—

(a)y Comisiwn, a

(b)y person y mae’r Comisiwn yn bwriadu darparu adnoddau ariannol iddo,

sy’n nodi’r gweithgareddau i’w cyflawni gan y person hwnnw at ddibenion cyfrannu at weithredu cynllun strategol y Comisiwn a gymeradwyir o dan adran 15.

(4)Caiff cytundeb canlyniadau fod yn ofynnol o dan is-adran (2)(c)—

(a)ym mhob achos pan fo’r Comisiwn yn bwriadu darparu adnoddau ariannol;

(b)ym mhob achos pan fo’r Comisiwn yn bwriadu darparu adnoddau ariannol yn ddarostyngedig i eithriadau penodedig;

(c)yn yr achosion hynny pan fo’r Comisiwn yn bwriadu darparu adnoddau ariannol i bersonau penodedig neu i bersonau o ddisgrifiad penodedig;

(d)yn yr achosion hynny pan fo’r Comisiwn yn bwriadu darparu adnoddau ariannol at ddibenion penodedig neu at ddibenion o ddisgrifiad penodedig;

(e)yn yr achosion hynny pan fo’r Comisiwn yn bwriadu darparu adnoddau ariannol uwchlaw swm penodedig neu islaw’r swm hwnnw.

(5)Yn is-adran (4) , ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn y telerau a’r amodau.

86Cyllido’r Comisiwn: cyfyngiadau ar delerau ac amodau

(1)Ni chaiff telerau ac amodau o dan adran 85 sy’n ymwneud ag adnoddau ariannol a ddarperir gan y Comisiwn i berson o dan adran 88 neu 89 (addysg uwch), adran 97 (addysg bellach neu hyfforddiant) neu adran 105 (ymchwil ac arloesi) ymwneud â gweithgareddau a gynhelir gan berson penodol oni bai eu bod yn gosod gofynion y mae rhaid cydymffurfio â hwy—

(a)mewn cysylltiad â phob person, neu bob person o ddosbarth neu ddisgrifiad penodedig, a

(b)cyn bod adnoddau ariannol o swm penodedig neu ddisgrifiad penodedig yn cael eu darparu gan y Comisiwn mewn cysylltiad â gweithgareddau a gynhelir gan berson.

(2)Yn is-adran (1), ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn y telerau a’r amodau.

(3)Ni chaniateir i delerau ac amodau o dan adran 85 sy’n ymwneud â darparu adnoddau ariannol gan y Comisiwn gael eu llunio drwy gyfeirio—

(a)at y meini prawf ar gyfer dethol, penodi neu ddiswyddo staff academaidd, a sut y maent yn cael eu cymhwyso, neu

(b)at y meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr, neu sut y maent yn cael eu cymhwyso.

(4)Caniateir i delerau ac amodau o dan adran 85 sy’n ymwneud â darparu adnoddau ariannol gan y Comisiwn o dan adran 105 (ymchwil ac arloesi) gael eu llunio drwy gyfeirio at faes ymchwil neu arloesi ond dim ond os yw’r maes hwnnw wedi ei bennu yng nghynllun strategol y Comisiwn a gymeradwyir o dan adran 15.

(5)Caniateir i delerau ac amodau o dan adran 85 sy’n ymwneud â darparu adnoddau ariannol gan y Comisiwn o dan adran 88 neu 89 (addysg uwch) gael eu llunio drwy gyfeirio at gwrs astudio penodol, ond ni chânt ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn arfer swyddogaeth mewn ffordd sy’n gwahardd neu’n ei gwneud yn ofynnol darparu cwrs astudio penodol.

(6)Ni chaniateir i delerau ac amodau o dan adran 85 sy’n ymwneud â darparu adnoddau ariannol gan y Comisiwn o dan adran 88 neu 89 (addysg uwch) neu adran 105 (ymchwil ac arloesi) gael eu llunio drwy gyfeirio—

(a)at rannau penodol o gyrsiau astudio;

(b)at raglenni ymchwil penodol neu brosiectau arloesi penodol;

(c)at gynnwys cyrsiau astudio, rhaglenni ymchwil neu brosiectau arloesi;

(d)at y modd y caiff y cyrsiau hynny, y rhaglenni hynny neu’r prosiectau hynny eu haddysgu, eu goruchwylio neu eu hasesu.

(7)Nid yw is-adrannau (5) a (6) yn atal telerau ac amodau rhag cael eu llunio drwy gyfeirio at ddarparu ac asesu cyrsiau astudio neu rannau o gyrsiau astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Polisi cyllido’r Comisiwn

87Polisi ar bwerau cyllido

(1)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi datganiad o’i bolisi ar sut y mae’n bwriadu arfer ei bwerau cyllido.

(2)Wrth lunio’r datganiad, rhaid i’r Comisiwn roi sylw i’r egwyddor y dylai penderfyniadau am ddarparu neu sicrhau adnoddau ariannol gael eu gwneud mewn ffordd sy’n dryloyw.

(3)Rhaid i’r Comisiwn gadw’r datganiad o dan adolygiad a chaiff y Comisiwn ei ddiwygio.

(4)Cyn cyhoeddi’r datganiad neu ddatganiad diwygiedig, rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

(5)Pwerau cyllido’r Comisiwn yw ei bwerau i ddarparu neu sicrhau adnoddau ariannol o dan adrannau 88, 89, 97, 101, 103, 104 a 105

Cyllido addysg uwch

88Cymorth ariannol i ddarparwyr penodedig ar gyfer addysg uwch

(1)Caiff y Comisiwn ddarparu adnoddau ariannol i gorff llywodraethu darparwr penodedig mewn cysylltiad â gwariant yr aed iddo, neu wariant yr eir iddo, gan y corff llywodraethu neu gan gorff sy’n cydlafurio at ddibenion—

(a)darparu addysg uwch gan, neu ar ran, y darparwr penodedig;

(b)darparu cyfleusterau, a chynnal gweithgareddau eraill, gan neu ar ran y darparwr penodedig y mae ei gorff llywodraethu yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n dymunol eu darparu neu eu cynnal at ddibenion addysg uwch y mae’n ei darparu neu sy’n cael ei darparu ar ei ran neu mewn cysylltiad â hi.

(2)Caiff y Comisiwn hefyd ddarparu adnoddau ariannol i unrhyw berson mewn cysylltiad â gwariant yr aed iddo, neu wariant yr eir iddo, gan y person at ddiben darparu gwasanaethau gan unrhyw berson at ddibenion darparu addysg uwch gan, neu ar ran, darparwr penodedig neu mewn cysylltiad â hi.

(3)Yn yr adran hon—

  • ystyr “corff sy’n cydlafurio” (“collaborating body”), mewn perthynas â darparwr penodedig, yw person—

    (a)

    y mae corff llywodraethu’r darparwr penodedig yn bwriadu talu idd‍o yr holl adnoddau ariannol neu rai ohonynt a ddarperir iddo o dan is-adran (1), a

    (b)

    sy’n darparu, sy’n bwriadu darparu neu sydd wedi darparu addysg uwch ar ran y darparwr penodedig, neu sy’n cydlafurio, sy’n bwriadu cydlafurio neu sydd wedi cydlafurio â’r darparwr at y diben y darperir yr adnoddau ariannol ar ei gyfer;

  • ystyr “darparwr penodedig” (“specified provider”) yw darparwr cofrestredig sydd wedi ei gofrestru mewn categori a bennir at ddibenion yr adran hon mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i’r Comisiwn roi ei gydsyniad cyn i gorff llywodraethu’r darparwr penodedig wneud taliad i gorff sy’n cydlafurio (gweler adran 109 am ddarpariaeth bellach ynghylch cydsyniad y Comisiwn).

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu na chaniateir i adnoddau ariannol gael eu darparu o dan yr adran hon mewn cysylltiad â gwariant yr aed iddo neu wariant yr eir iddo gan berson at ddibenion darparu cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon oni fydd y cwrs yn bodloni gofynion a nodir yn y rheoliadau.

89Cymorth ariannol ar gyfer cyrsiau addysg uwch a bennir mewn rheoliadau

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu cwrs addysg uwch penodol neu ddisgrifiad o gwrs addysg uwch at ddibenion yr adran hon (“cwrs cymwys”).

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddisgrifio cwrs drwy gyfeirio at (ymhlith pethau eraill)—

(a)gofynion sydd i’w bodloni gan y cwrs;

(b)y disgrifiad o berson sy’n darparu’r cwrs;

(c)y cymhwyster y mae’r cwrs yn arwain ato.

(3)Caiff y Comisiwn ddarparu adnoddau ariannol i berson (“darparwr”) mewn cysylltiad â gwariant yr aed iddo, neu wariant yr eir iddo, gan y darparwr neu gan gorff sy’n cydlafurio at ddiben—

(a)darparu cwrs cymwys yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;

(b)darparu cwrs cymwys i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru.

(4)Yn is-adran (3), ystyr “corff sy’n cydlafurio”, mewn perthynas â darparwr, yw person—

(a)y mae’r darparwr yn bwriadu talu idd‍o yr holl adnoddau ariannol, neu rai ohonynt, a ddarperir iddo o dan is-adran (3), a

(b)sy’n darparu, sy’n bwriadu darparu neu sydd wedi darparu cwrs cymwys (neu ran o’r cwrs hwnnw) ar ran y darparwr, neu sy’n cydlafurio, sy’n bwriadu cydlafurio neu sydd wedi cydlafurio â’r darparwr at y diben y darperir yr adnoddau ariannol ar ei gyfer.

(5)Rhaid i’r Comisiwn roi ei gydsyniad cyn i’r darparwr wneud taliad i gorff sy’n cydlafurio (gweler adran 109 am ddarpariaeth bellach ynghylch cydsyniad y Comisiwn).

90Cymorth ariannol o dan adrannau 88 a 89: telerau ac amodau

(1)Caiff y Comisiwn ddarparu adnoddau ariannol o dan adran 88 neu 89 ar y telerau a’r amodau y mae’r Comisiwn yn ystyried eu bod yn briodol.

(2)Caiff y telerau a’r amodau (ymhlith pethau eraill)—

(a)galluogi’r Comisiwn i’w gwneud yn ofynnol ad-dalu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, symiau a dalwyd ganddo os na chydymffurfir ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau y talwyd y symiau yn ddarostyngedig iddynt;

(b)ei gwneud yn ofynnol talu llog mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fydd swm sy’n ddyledus i’r Comisiwn yn unol ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau yn parhau i fod heb ei dalu.

(3)Ni chaiff y telerau a’r amodau ymwneud â chymhwyso unrhyw symiau sy’n deillio ac eithrio o’r Comisiwn.

(4)Rhaid i’r telerau a’r amodau mewn perthynas ag adnoddau ariannol a ddarperir o dan adran 89(3)(a) i berson nad yw’n ddarparwr cofrestredig, gynnwys gofyniad i’r person—

(a)os yw wedi cael hysbysiad o dan adran 126(1), gael cynllun diogelu dysgwyr yn ei le sydd wedi ei gymeradwyo gan y Comisiwn (o dan adran 126(3) neu (5)) ar y dyddiad a bennir yn y telerau a’r amodau neu cyn y dyddiad hwnnw, a rhoi effaith i’r cynllun,

(b)os yw’r person yn ddarparwr addysg drydyddol yng Nghymru, gydymffurfio â’r gofynion sydd wedi eu cynnwys yn y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr a gyhoeddir o dan adran 129(1) neu unrhyw god diwygiedig a gyhoeddir o dan adran 129(3), ac

(c)rhoi sylw i gyngor neu ganllawiau a roddir gan y Comisiwn i’r person (naill ai’n benodol neu i bersonau yn gyffredinol) wrth arfer swyddogaethau’r Comisiwn yn y Ddeddf hon.‍

91Cymorth ariannol o dan adrannau 88 ac 89: atodol

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan adran 88 neu 89 i ddarparu adnoddau ariannol i berson, rhaid i’r Comisiwn roi sylw i ddymunoldeb peidio ag anghefnogi’r person hwnnw rhag cynnal neu ddatblygu cyllid o ffynonellau eraill.

(2)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan adran 88 neu 89 i ddarparu adnoddau ariannol i berson, rhaid i’r Comisiwn roi sylw (i’r graddau y mae’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny yng ngoleuni unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill) i ddymunoldeb cynnal unrhyw nodweddion arbennig i unrhyw ddarparwr addysg drydyddol y darperir adnoddau ariannol ar gyfer ei weithgareddau.

92Cymorth ariannol gan Weinidogion Cymru ar gyfer cyrsiau addysg uwch penodol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru‍ sicrhau bod adnoddau ariannol yn cael eu darparu i berson (“darparwr”) mewn cysylltiad â gwariant yr aed iddo, neu wariant yr eir iddo, gan y darparwr neu gan gorff sy’n cydlafurio at ddiben—

(a)darparu cwrs addysg uwch perthnasol yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;

(b)darparu cwrs addysg uwch perthnasol i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru sicrhau bod adnoddau ariannol yn cael eu darparu o dan is-adran (1)—

(a)drwy ddarparu adnoddau eu hunain;

(b)drwy wneud trefniadau i berson arall ddarparu adnoddau;

(c)drwy wneud trefniadau i bersonau ddarparu adnoddau ar y cyd (pa un a yw hynny’n cynnwys Gweinidogion Cymru ai peidio).

(3)Os yw Gweinidogion Cymru eu hunain yn darparu adnoddau ariannol o dan yr adran hon, cânt osod y telerau a’r amodau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(4)Caiff y telerau a’r amodau (ymhlith pethau eraill)—

(a)galluogi Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol ad-dalu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, symiau a dalwyd ganddynt os na chydymffurfir ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau y talwyd y symiau yn ddarostyngedig iddynt;

(b)ei gwneud yn ofynnol talu llog mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fydd swm sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru yn unol ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau yn parhau i fod heb ei dalu.

(5)Yn yr adran hon—

  • ystyr “corff sy’n cydlafurio” (“collaborating body”), mewn perthynas â darparwr, yw person—

    (a)

    y mae’r darparwr yn bwriadu talu iddo, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, yr holl adnoddau ariannol, neu rai ohonynt, a ddarperir iddo o dan is-adran (1), a

    (b)

    sy’n darparu, sy’n bwriadu darparu neu sydd wedi darparu cwrs addysg uwch perthnasol (neu ran o’r cwrs hwnnw) ar ran y darparwr, neu sy’n cydlafurio, sy’n bwriadu cydlafurio neu sydd wedi cydlafurio â’r darparwr at y diben y darperir yr adnoddau ariannol ar ei gyfer;

  • ystyr “cwrs addysg uwch perthnasol” (“relevant higher education course”) yw cwrs o fewn paragraff 1(g) neu (h) o Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40) (cyrsiau er mwyn paratoi at arholiadau proffesiynol ar lefel uwch neu sy’n darparu addysg ar lefel uwch).

Addysg bellach a hyfforddiant

93Addysg a hyfforddiant ar gyfer personau 16 i 19 oed

(1)Rhaid i’r Comisiwn sicrhau bod cyfleusterau priodol yn cael eu darparu‍ i Gymru ar gyfer—

(a)addysg bellach sy’n addas i ofynion personau sydd dros yr oedran ysgol gorfodol ond nad ydynt wedi cyrraedd 19 oed, a

(b)hyfforddiant sy’n addas i ofynion personau o’r fath.

(2)Mae cyfleusterau yn briodol os ydynt—

(a)o nifer sy’n ddigonol i ddiwallu anghenion rhesymol unigolion,

(b)o ansawdd sy’n ddigonol i ddiwallu’r anghenion hynny, ac

(c)yn ddigonol i fodloni’r hawlogaethau a roddir o dan adran 33F o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21).

94Addysg a hyfforddiant ar gyfer personau cymwys dros 19 oed

(1)Rhaid i’r Comisiwn sicrhau bod cyfleusterau priodol yn cael eu darparu‍ i Gymru ar gyfer addysg berthnasol a hyfforddiant perthnasol i bersonau cymwys sy’n addas i’w gofynion hwy.

(2)Mae cyfleusterau yn briodol os ydynt—

(a)o nifer sy’n ddigonol i ddiwallu anghenion rhesymol unigolion, a

(b)o ansawdd sy’n ddigonol i ddiwallu’r anghenion hynny.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu fel addysg berthnasol a hyfforddiant perthnasol at ddibenion is-adran (1) ddisgrifiad o addysg bellach neu hyfforddiant.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) ddisgrifio addysg bellach neu hyfforddiant drwy gyfeirio at (ymhlith pethau eraill)—

(a)y pwnc;

(b)lefel yr astudio, gan gynnwys drwy gyfeiri‍o—

(i)at y lefel cyrhaeddiad sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi ei dangos gan gymhwyster sy’n dod o fewn lefel 1, 2 neu 3 o Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, neu

(ii)at ddogfen arall a bennir yn y rheoliadau sy’n nodi disgrifiadau o lefelau cymwysterau;

(c)y math o gymhwyster.

(5)Yn is-adran (4)‍,‍ ystyr ”Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru” yw’r ddogfen sy’n dwyn y teitl hwnnw a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru (fel y mae’n cael ei diweddaru o bryd i’w gilydd) ac sy’n cynnwys disgrifiadau o lefelau cymwysterau.

(6)Wrth ffurfio barn at ddibenion is-adran‍ (4)(b)(i)‍ a chyn pennu dogfen o dan is-adran (4)(b)(ii)‍, caiff Gweinidogion Cymru roi sylw, yn benodol, i gyngor neu wybodaeth a ddarperir gan Gymwysterau Cymru sy’n ymwneud â chymwysterau.

(7)Mae person cymwys yn berson—

(a)sydd wedi cyrraedd 19 oed, a

(b)sy’n dod o fewn disgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru (os oes rhai).

(8)Caiff rheoliadau o dan is-adran (7)(b)—

(a)disgrifio person cymwys drwy gyfeirio at (ymhlith pethau eraill)—

(i)oedran;

(ii)cymwysterau neu gyrhaeddiad addysgol arall;

(iii)statws;

(iv)incwm;

(b)pennu disgrifiadau gwahanol o berson cymwys mewn perthynas â disgrifiadau gwahanol o addysg bellach neu hyfforddiant.

95Addysg a hyfforddiant ar gyfer personau dros 19 oed

(1)Rhaid i’r Comisiwn sicrhau bod cyfleusterau rhesymol yn cael eu darparu‍ i Gymru ar gyfer—

(a)addysg bellach sy’n addas i ofynion personau sydd wedi cyrraedd 19 oed, a

(b)hyfforddiant sy’n addas i ofynion personau o’r fath.

(2)Mae cyfleusterau yn rhesymol os ydynt (gan roi sylw i adnoddau’r Comisiwn) o’r nifer hwnnw a’r ansawdd hwnnw y gellir disgwyl yn rhesymol i’r Comisiwn sicrhau’r ddarpariaeth ohonynt.

96Gofynion ar y Comisiwn wrth sicrhau addysg bellach a hyfforddiant

(1)Wrth gyflawni’r dyletswyddau a osodir arno gan adrannau 93 i 95, rhaid i’r Comisiwn—

(a)rhoi sylw i’r mannau lle y darperir cyfleusterau, natur y cyfleusterau a’r ffordd y maent wedi eu cyfarparu;

(b)rhoi sylw i’r galluoedd gwahanol a’r doniau gwahanol sydd gan bersonau gwahanol;

(c)rhoi sylw i ofynion cyflogwyr, cyflogeion a chyflogeion posibl mewn perthynas â’r addysg a’r hyfforddiant sy’n ofynnol mewn sectorau cyflogaeth gwahanol;

(d)rhoi sylw i’r addysg a’r hyfforddiant sy’n ofynnol er mwyn sicrhau bod cyflogeion a chyflogeion posibl ar gael sy’n gallu cyflwyno darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg;

(e)rhoi sylw i’r addysg a’r hyfforddiant sy’n ofynnol er mwyn sicrhau bod cyfleusterau ar gael ar gyfer asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a oes gan bersonau anghenion dysgu ychwanegol;

(f)rhoi sylw i gyfleusterau y mae’r Comisiwn yn meddwl y gellid sicrhau’r ddarpariaeth ohonynt yn rhesymol gan bersonau eraill (gan gynnwys darpariaeth a sicrheir gan awdurdodau lleol o dan Ran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2));

(g)gwneud y defnydd gorau o adnoddau’r Comisiwn ac, yn benodol, osgoi darpariaeth a allai beri gwariant anghymesur.

(2)Nid yw darpariaeth i’w hystyried yn un sy’n peri gwariant anghymesur dim ond oherwydd bod y ddarpariaeth honno yn ddrutach na darpariaeth gyffelyb.

97Cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach neu hyfforddiant

(1)Caiff y Comisiwn neu Weinidogion Cymru sicrhau bod adnoddau ariannol yn cael eu darparu—

(a)i bersonau at ddiben darparu, neu’r bwriad i ddarparu, ganddynt hwy neu gan gorff sy’n cydlafurio (o fewn yr ystyr a roddir gan is-adran (3)), addysg bellach neu hyfforddiant yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;

(b)i bersonau at ddiben darparu, neu’r bwriad i ddarparu, ganddynt hwy neu gan gorff sy’n cydlafurio (o fewn yr ystyr a roddir gan is-adran (3)), addysg bellach neu hyfforddiant i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru;

(c)i bersonau at ddiben darparu, neu’r bwriad i ddarparu, nwyddau neu wasanaethau ganddynt hwy, mewn cysylltiad â darparu addysg bellach neu hyfforddiant ganddynt hwy neu gan eraill yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;

(d)i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy’n cael neu’n bwriadu cael addysg bellach neu hyfforddiant;

(e)i bersonau nad ydynt yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy’n cael neu’n bwriadu cael addysg bellach neu hyfforddiant yng Nghymru;

(f)i ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliadau o fewn y sector addysg bellach neu uwch at ddiben darparu, neu’r bwriad i ddarparu, addysg uwchradd ganddynt hwy, i bersonau o’r oedran ysgol gorfodol;

(g)i bersonau sy’n cynnal profion modd o dan drefniadau a wneir o dan adran 100.

(2)Caiff y Comisiwn neu Weinidogion Cymru sicrhau bod adnoddau ariannol yn cael eu darparu o dan is-adran (1)—

(a)drwy ddarparu adnoddau ei hunan neu eu hunain;

(b)drwy wneud trefniadau i berson arall ddarparu adnoddau;

(c)drwy wneud trefniadau i bersonau ddarparu adnoddau ar y cyd (pa un a yw hynny’n cynnwys y Comisiwn neu Weinidogion Cymru ai peidio).

(3)Caiff person (“darparwr”) dalu’r holl adnoddau ariannol, neu rai ohonynt, a ddarperir i’r darparwr o dan is-adran (1)(a) neu (b) i berson arall (“corff sy’n cydlafurio”)‍⁠ os yw is-adran (4) yn gymwys.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r corff sy’n cydlafurio yn darparu, yn bwriadu darparu neu wedi darparu addysg bellach neu hyfforddiant ar ran y darparwr, neu os yw’n cydlafurio, yn bwriadu cydlafurio neu wedi cydlafurio â’r darparwr at y diben y sicrheir yr adnoddau ariannol ar ei gyfer.

(5)Rhaid i’r Comisiwn (yn achos adnoddau ariannol a sicrheir ganddo) neu Weinidogion Cymru (yn achos adnoddau ariannol a sicrheir ganddynt) roi ei gydsyniad neu eu cydsyniad cyn i’r darparwr wneud taliad i gorff sy’n cydlafurio (gweler adran 109 am ddarpariaeth bellach ynghylch cydsyniad y Comisiwn).

(6)Ni chaiff y Comisiwn ddarparu ei adnoddau ariannol o dan is-adran (1)(a) neu (1)(b), neu wneud trefniadau i awdurdod lleol ddarparu adnoddau o’r fath o dan is-adran (2)(b), i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru at ddiben darparu addysg gan yr ysgol sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol, neu at ddiben sy’n gysylltiedig â hynny (am ddarpariaeth o ran cyllido’r chweched dosbarth mewn ysgolion, gweler adran 101).

(7)Ond caiff y Comisiwn ddarparu ei adnoddau ariannol o dan yr is-adran hon, neu wneud trefniadau i awdurdod lleol ddarparu adnoddau o’r fath, i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru sy’n darparu addysg sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol at ddiben gweithgareddau arloesi.

(8)Mae gweithgaredd arloesi yn weithgaredd—

(a)a fydd, ym marn y Comisiwn, yn cyfrannu at godi safonau addysg drydyddol, a

(b)sydd wedi ei ddisgrifio mewn dogfen sydd wedi ei llunio gan y Comisiwn ac sydd wedi ei chymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

98Cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach neu hyfforddiant: darpariaeth bellach

(1)Wrth arfer y pŵer o dan adran 97(1)(d) neu (e), caiff y Comisiwn neu Weinidogion Cymru sicrhau bod adnoddau ariannol yn cael eu darparu drwy gyfeirio at unrhyw ffioedd neu daliadau sy’n daladwy gan y person sy’n cael neu’n bwriadu cael yr addysg neu’r hyfforddiant neu drwy gyfeirio at unrhyw fater arall (megis trafnidiaeth neu ofal plant).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu na chaniateir i adnoddau ariannol at ddibenion penodedig gael eu sicrhau o dan adran 97(1)(a) neu (b) ond i ddarparwyr cofrestredig mewn categorïau penodedig.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) ddarparu ar gyfer eithriadau i gyrsiau addysg bellach neu hyfforddiant penodedig neu i ddisgrifiadau penodedig o gyrsiau o’r fath; a chaniateir i gwrs gael ei ddisgrifio drwy gyfeirio at (ymhlith pethau eraill)—

(a)gofynion sydd i’w bodloni gan y cwrs;

(b)y disgrifiad o berson sy’n darparu’r cwrs;

(c)y cymhwyster y mae’r cwrs yn arwain ato.

(4)Yn is-adrannau (2) a (3), ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn y rheoliadau.

99Adnoddau ariannol ar gyfer addysg bellach neu hyfforddiant: telerau ac amodau

(1)Os yw’r Comisiwn ei hunan, neu Weinidogion Cymru eu hunain, yn darparu adnoddau ariannol o dan adran 97, caniateir iddo neu iddynt osod y telerau a’r amodau hynny y mae’n ystyried, neu y maent yn ystyried, eu bod yn briodol.

(2)Caiff y telerau a’r amodau (ymhlith pethau eraill)—

(a)galluogi’r Comisiwn neu Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol ad-dalu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, symiau a dalwyd ganddo neu ganddynt os na chydymffurfir ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau y talwyd y symiau yn ddarostyngedig iddynt;

(b)ei gwneud yn ofynnol talu llog mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fydd swm sy’n ddyledus i’r Comisiwn neu i Weinidogion Cymru yn unol ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau yn parhau i fod heb ei dalu;

(c)ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n darparu neu’n bwriadu darparu addysg neu hyfforddiant (“y darparwr”) wneud trefniadau sy’n darparu ar gyfer pob un neu unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(i)i’r darparwr godi ffioedd drwy gyfeirio at feini prawf penodedig;

(ii)i’r darparwr wneud dyfarndaliadau drwy gyfeirio at feini prawf penodedig;

(iii)i’r darparwr adennill symiau oddi wrth bersonau sy’n cael addysg neu hyfforddiant neu oddi wrth gyflogwyr (neu oddi wrth y ddau);

(iv)i symiau gael eu penderfynu drwy gyfeirio at feini prawf penodedig pan fo darpariaeth wedi ei gwneud o dan is-baragraff (iii);

(v)i esemptiadau penodedig weithredu pan fo darpariaeth wedi ei gwneud o dan is-baragraff (iii).

(3)Yn is-adran (2), ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn y telerau a’r amodau.

(4)Rhaid i’r telerau a’r amodau wahardd person sy’n darparu, neu sy’n bwriadu darparu, addysg bellach neu hyfforddiant sy’n addas i ofynion personau sydd dros yr oedran ysgol gorfodol ond nad ydynt wedi cyrraedd 19 oed rhag codi ffi ar bersonau o’r oedran hwnnw sy’n cael yr addysg bellach neu’r hyfforddiant.

(5)Rhaid i’r telerau a’r amodau hefyd wahardd person sy’n darparu, neu sy’n bwriadu darparu, addysg berthnasol a hyfforddiant perthnasol sy’n addas i ofynion personau cymwys rhag codi ffi ar bersonau cymwys sy’n cael yr addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw; yn yr is-adran hon mae i “addysg berthnasol a hyfforddiant perthnasol” a “personau cymwys” yr un ystyr ag yn adran 94.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu ar gyfer esemptiadau i’r gofyniad yn is-adran (4) neu (5).

(7)Rhaid i’r telerau a’r amodau a osodir gan y Comisiwn mewn perthynas ag adnoddau ariannol a ddarperir o dan adran 97(1)(a) i berson nad yw’n ddarparwr cofrestredig—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r person, os rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 126(1), gael cynllun diogelu dysgwyr yn ei le sydd wedi ei gymeradwyo gan y Comisiwn (o dan adran 126(3) neu (5)) ar y dyddiad a bennir yn y telerau a’r amodau neu cyn y dyddiad hwnnw, a rhoi effaith i’r cynllun;

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r person, os yw’r person yn ddarparwr addysg drydyddol yng Nghymru, gydymffurfio â’r gofynion sydd wedi eu cynnwys yn y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr a gyhoeddir o dan adran 129(1) neu unrhyw god diwygiedig a gyhoeddir o dan adran 129(3);

(c)ei gwneud yn ofynnol i’r person roi sylw i gyngor neu ganllawiau a roddir gan y Comisiwn (naill ai’n benodol neu i bersonau yn gyffredinol) wrth arfer swyddogaethau’r Comisiwn yn y Ddeddf hon.

(8)Os yw’r Comisiwn wedi gwneud trefniadau o dan adran 97(2)(b) i berson arall ddarparu adnoddau ariannol y Comisiwn, o ran y Comisiwn—

(a)caiff ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ddarparu’r adnoddau yn ddarostyngedig i unrhyw delerau ac amodau y mae’r Comisiwn yn ystyried eu bod yn briodol (gan gynnwys telerau ac amodau o fath a allai gael eu gosod o dan is-adran (2)), a

(b)rhaid iddo ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ddarparu’r adnoddau yn ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau a ddisgrifir yn is-adrannau (4) i (7).

100Profion modd

(1)Caiff y Comisiwn neu Weinidogion Cymru—

(a)cynnal profion modd;

(b)trefnu i bersonau eraill gynnal profion modd.

(2)Caiff y Comisiwn a Gweinidogion Cymru ystyried canlyniadau’r profion modd a gynhelir o dan is-adran (1) wrth arfer y pŵer o dan adran 97(1)(d) neu (e).

101Y chweched dosbarth mewn ysgolion

(1)Caiff y Comisiwn roi grant i awdurdod lleol—

(a)ar yr amod bod y grant yn cael ei gymhwyso fel rhan o gyllideb ysgolion yr awdurdod am gyfnod cyllido, a

(b)gyda golwg ar y grant yn cael ei ddefnyddio at ddibenion darparu addysg gan ysgolion sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol neu at ddibenion sy’n gysylltiedig â darparu addysg o’r fath.

(2)Caniateir i grant a wneir o dan yr adran hon gael ei roi ar delerau ac amodau yn ychwanegol at yr amod a grybwyllir yn is-adran (1)(a) (gan gynnwys telerau ac amodau o fath a allai gael eu gosod o dan adran 99(2)).

(3)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru sy’n darparu addysg sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol gydymffurfio â’r gofynion sydd wedi eu cynnwys yn y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr a gyhoeddir o dan adran 129(1) neu unrhyw god diwygiedig a gyhoeddir o dan adran 129(3).

(4)Rhaid i’r canlynol roi sylw i gyngor neu ganllawiau a roddir gan y Comisiwn (naill ai yn benodol neu i bersonau yn gyffredinol) wrth arfer swyddogaethau’r Comisiwn yn y Ddeddf hon—

(a)awdurdod lleol sy’n cael grant o dan yr adran hon, a

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru sy’n darparu addysg sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol.

(5)Yn yr adran hon—

  • ystyr “cyfnod cyllido” (“funding period”) yw blwyddyn ariannol neu, os yw rhyw gyfnod arall wedi ei ragnodi o ran Cymru o dan is-adran (1B) o adran 45 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31) (ysgolion a gynhelir i gael cyfrannau cyllideb), y cyfnod arall hwnnw;

  • mae i “cyllideb ysgolion” yr un ystyr â “schools budget” yn adran 45A(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (penderfynu cyllidebau penodedig awdurdod lleol).

102Personau ag anghenion dysgu ychwanegol

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y darpariaethau a nodir yn is-adran (2), rhaid i’r Comisiwn roi sylw—

(a)i anghenion personau ag anghenion dysgu ychwanegol;

(b)i ddymunoldeb bod cyfleusterau ar gael a fyddai’n cynorthwyo i gyflawni dyletswyddau o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2).

(2)Y darpariaethau yw—

(a)adran 93 (addysg a hyfforddiant ar gyfer personau 16 i 19 oed);

(b)adran 94 (addysg a hyfforddiant ar gyfer personau cymwys dros 19 oed);

(c)adran 95 (addysg a hyfforddiant ar gyfer personau dros 19 oed);

(d)adran 97(1)(a) i (e) a (7) (cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach neu hyfforddiant);

(e)adran 103(1) (cymorth ariannol ar gyfer darparu gwybodaeth, cyngor, canllawiau ac i greu cysylltiadau â chyflogwyr);

(f)adran 103(2) (cymorth ariannol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ac addysgu Cymraeg) ac eithrio i’r graddau y mae darparu addysg drydyddol a’r addysgu y cyfeirir atynt yn yr is-adran honno yn cynnwys addysg uwch.

Cymorth ariannol ar gyfer gweithgareddau eraill sy’n gysylltiedig ag addysg drydyddol

103Cymorth ariannol ar gyfer gweithgareddau eraill sy’n gysylltiedig ag addysg drydyddol

(1)Caiff y Comisiwn neu Weinidogion Cymru sicrhau bod adnoddau ariannol yn cael eu darparu at ddiben, neu mewn cysylltiad ag—

(a)darparu neu’r bwriad i ddarparu gwybodaeth, cyngor neu ganllawiau ynghylch addysg‍ berthnasol neu faterion cysylltiedig;

(b)darparu neu’r bwriad i ddarparu gwybodaeth, cyngor neu ganllawiau i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ynghylch addysg neu hyfforddiant y tu allan i Gymru neu faterion cysylltiedig;

(c)darparu neu’r bwriad i ddarparu cyfleusterau sydd wedi eu dylunio i greu cysylltiadau rhwng (ar y naill law) cyflogwyr ac (ar y llaw arall) personau sy’n darparu neu’n cael addysg‍ berthnasol.

(2)Caiff y Comisiwn sicrhau bod adnoddau ariannol yn cael eu darparu—

(a)at ddiben darparu addysg‍ berthnasol sy’n addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg;

(b)at ddiben addysgu Cymraeg‍ drwy gyfrwng addysg berthnasol sy’n addysg drydyddol;

(c)at ddibenion eraill sy’n gysylltiedig â’r rheini ym mharagraffau (a) a (b).

(3)Yn is-adrannau (1) a (2), ystyr “addysg berthnasol” yw—

(a)addysg drydyddol Gymreig, neu

(b)addysg arall neu hyfforddiant arall a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru neu i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru.

(4)Caiff y Comisiwn neu Weinidogion Cymru sicrhau bod adnoddau ariannol yn cael eu darparu o dan is-adran (1), a chaiff y Comisiwn sicrhau bod adnoddau ariannol yn cael eu darparu o dan is-adran (2)—

(a)drwy ddarparu adnoddau ei hunan neu eu hunain;

(b)drwy wneud trefniadau ar gyfer darparu adnoddau gan berson arall;

(c)drwy wneud trefniadau ar gyfer darparu adnoddau gan bersonau ar y cyd (pa un a yw hynny’n cynnwys y Comisiwn neu Weinidogion Cymru ai peidio).

(5)Ni chaiff y Comisiwn ddarparu ei adnoddau ariannol o dan is-adran (2), neu wneud trefniadau i awdurdod lleol ddarparu adnoddau o’r fath o dan is-adran (4)(b), i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru at ddiben darparu addysg gan yr ysgol sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol, neu at ddiben sy’n gysylltiedig â hynny (am ddarpariaeth o ran cyllido’r chweched dosbarth mewn ysgolion, gweler adran 101.

(6)Os yw’r Comisiwn ei hunan, neu os yw Gweinidogion Cymru eu hunain, yn darparu adnoddau ariannol o dan is-adran (1) neu (2), caniateir iddo neu iddynt osod y telerau a’r amodau hynny y mae’n ystyried, neu y maent yn ystyried, eu bod yn briodol.

(7)Caiff y telerau a’r amodau (ymhlith pethau eraill)—

(a)galluogi’r Comisiwn neu Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol ad-dalu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, symiau a dalwyd ganddo neu ganddynt os na chydymffurfir ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau y talwyd y symiau yn ddarostyngedig iddynt;

(b)ei gwneud yn ofynnol talu llog mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fydd swm sy’n ddyledus i’r Comisiwn neu i Weinidogion Cymru yn unol ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau yn parhau i fod heb ei dalu.

(8)Os yw’r Comisiwn wedi gwneud trefniadau o dan is-adran (4) i berson arall ddarparu adnoddau ariannol y Comisiwn, caiff y Comisiwn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ddarparu’r adnoddau yn ddarostyngedig i unrhyw delerau ac amodau y mae’r Comisiwn yn ystyried eu bod yn briodol (gan gynnwys telerau ac amodau o fath a allai gael eu gosod o dan is-adran (7)).

Cymorth ariannol ar gyfer prentisiaethau

104Cymorth ariannol ar gyfer prentisiaethau

(1)Caiff y Comisiwn ddarparu adnoddau ariannol i berson mewn cysylltiad â gwariant yr aed iddo, neu wariant yr eir iddo—

(a)gan y person neu gan gorff sy’n cydlafurio (o fewn yr ystyr a roddir gan is-adran (2)) ar gyfer darparu prentisiaeth Cymreig gymeradwy neu mewn cysylltiad â hynny;

(b)gan y person ar gyfer llunio fframwaith prentisiaeth neu mewn cysylltiad â hynny.

(2)Caiff person (“darparwr”) dalu’r holl adnoddau ariannol, neu rai ohonynt, a ddarperir i’r darparwr o dan is-adran (1)(a), i berson arall (“corff sy’n cydlafurio”‍) os yw is-adran (3)‍ yn gymwys.‍

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r corff sy’n cydlafurio yn darparu, yn bwriadu darparu neu wedi darparu prentisiaeth Gymreig gymeradwy ar ran y darparwr, neu os yw’n cydlafurio, yn bwriadu cydlafurio neu wedi cydlafurio â’r darparwr at y diben y darperir yr adnoddau ariannol ar ei gyfer.

(4)Rhaid i’r Comisiwn roi ei gydsyniad cyn i’r darparwr wneud taliad i gorff sy’n cydlafurio (gweler adran 109 am ddarpariaeth bellach ynghylch cydsyniad y Comisiwn).

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu na chaiff y Comisiwn ddarparu adnoddau ariannol o dan is-adran (1)(a) ond i ddarparwyr addysg drydyddol sydd wedi eu cofrestru mewn categorïau a bennir yn y rheoliadau.

(6)Caiff rheoliadau o dan is-adran (5) ddarparu ar gyfer eithriadau i’r gofyniad i fod yn gofrestredig; a chaniateir i eithriad gael ei lunio drwy gyfeirio at (ymhlith pethau eraill)—

(a)gofynion i’w bodloni gan brentisiaeth Gymreig gymeradwy;

(b)y disgrifiad o berson sy’n darparu prentisiaeth Gymreig gymeradwy;

(c)cymwysterau sy’n ffurfio rhan o brentisiaeth Gymreig gymeradwy.

(7)Caiff y Comisiwn ddarparu adnoddau ariannol o dan yr adran hon ar y telerau a’r amodau y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

(8)Caiff y telerau a’r amodau (ymhlith pethau eraill)—

(a)galluogi’r Comisiwn i’w gwneud yn ofynnol ad-dalu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, symiau a dalwyd ganddo os na chydymffurfir ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau y talwyd y symiau yn ddarostyngedig iddynt;

(b)ei gwneud yn ofynnol talu llog mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fydd swm sy’n ddyledus i’r Comisiwn yn unol ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau yn parhau i fod heb ei dalu.

(9)Rhaid i’r telerau a’r amodau a osodir gan y Comisiwn mewn perthynas ag adnoddau ariannol a ddarperir o dan is-adran (1)(a) i berson nad yw’n ddarparwr cofrestredig—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r person, os rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 126(1), gael cynllun diogelu dysgwyr yn ei le sydd wedi ei gymeradwyo gan y Comisiwn (o dan adran 126(3) neu (5)) ar y dyddiad a bennir yn y telerau a’r amodau neu cyn y dyddiad hwnnw, a rhoi effaith i’r cynllun;

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r person, os yw’r person yn ddarparwr addysg drydyddol yng Nghymru, gydymffurfio â’r gofynion sydd wedi eu cynnwys yn y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr a gyhoeddir o dan adran 129(1) neu unrhyw god diwygiedig a gyhoeddir o dan adran 129(3);

(c)ei gwneud yn ofynnol i’r person roi sylw i gyngor neu ganllawiau a roddir gan y Comisiwn (naill ai’n benodol neu i bersonau yn gyffredinol) wrth arfer swyddogaethau’r Comisiwn yn y Ddeddf hon.

(10)Wrth ddarparu adnoddau ariannol i berson o dan is-adran (1)(a), rhaid i’r Comisiwn roi sylw—

(a)i ddymunoldeb peidio ag anghefnogi’r person hwnnw rhag cynnal neu ddatblygu cyllid o ffynonellau eraill, a

(b)(i’r graddau y mae’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny yng ngoleuni unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill) i ddymunoldeb cynnal unrhyw nodweddion arbennig i unrhyw ddarparwr addysg drydyddol y darperir adnoddau ariannol ar gyfer ei weithgareddau.

(11)Yn yr adran hon—

  • mae i “fframwaith prentisiaeth” (“apprenticeship framework”) yr ystyr a roddir gan adran 114;

  • mae i “prentisiaeth Gymreig gymeradwy” (“approved Welsh apprenticeship”) yr ystyr a roddir gan adran 111.

Ymchwil ac arloesi

105Cymorth ariannol ar gyfer ymchwil ac arloesi

(1)Caiff y Comisiwn ddarparu adnoddau ariannol i gorff llywodraethu darparwr penodedig mewn cysylltiad â gwariant yr aed iddo, neu wariant yr eir iddo, gan y corff llywodraethu neu gan gorff sy’n cydlafurio at ddibenion ymchwil neu arloesi, neu mewn cysylltiad ag ymchwil neu arloesi.

(2)Caiff y Comisiwn hefyd ddarparu adnoddau ariannol i unrhyw berson mewn cysylltiad â gwariant yr aed iddo, neu wariant yr eir iddo, gan y person at ddiben darparu gwasanaethau gan unrhyw berson at ddibenion gwneud gwaith ymchwil neu arloesi gan ddarparwr penodedig, neu mewn cysylltiad â gwneud gwaith ymchwil neu arloesi ganddo.

(3)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon i ddarparu adnoddau ariannol i ddarparwr penodedig, rhaid i’r Comisiwn roi sylw—

(a)i ddymunoldeb peidio ag anghefnogi’r darparwr hwnnw rhag cynnal neu ddatblygu cyllid o ffynonellau eraill, a

(b)(i’r graddau y mae’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny yng ngoleuni unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill) i ddymunoldeb cynnal unrhyw nodweddion arbennig i’r darparwr.

(4)Yn yr adran hon—

  • ystyr “corff sy’n cydlafurio” (“collaborating body”), mewn perthynas â darparwr penodedig, yw person—

    (a)

    y mae corff llywodraethu’r darparwr penodedig yn bwriadu talu idd‍o yr holl adnoddau ariannol neu rai ohonynt a roddir i’r corff llywodraethu o dan is-adran (1), a

    (b)

    sy’n‍ gwneud, sy’n bwriadu gwneud neu sydd wedi gwneud gwaith ymchwil neu arloesi ar ran y darparwr penodedig, neu sy’n cydlafurio, sy’n bwriadu cydlafurio neu sydd wedi cydlafurio, â’r darparwr at y diben y darperir yr adnoddau ariannol ar ei gyfer;

  • ystyr “darparwr penodedig” (“specified provider”) yw darparwr cofrestredig sydd wedi ei gofrestru mewn categori a bennir at ddibenion yr adran hon mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(5)Rhaid i’r Comisiwn roi ei gydsyniad cyn i gorff llywodraethu’r darparwr penodedig wneud taliad i gorff sy’n cydlafurio (gweler adran 109 am ddarpariaeth bellach ynghylch cydsyniad y Comisiwn).

106Cymorth ariannol ar gyfer ymchwil ac arloesi: telerau ac amodau

(1)Caiff y Comisiwn ddarparu adnoddau ariannol o dan adran 105 ar y telerau a’r amodau y mae’r Comisiwn yn ystyried eu bod yn briodol.

(2)Caiff y telerau a’r amodau (ymhlith pethau eraill)—

(a)galluogi’r Comisiwn i’w gwneud yn ofynnol ad-dalu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, symiau a dalwyd ganddo os na chydymffurfir ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau y talwyd y symiau yn ddarostyngedig iddynt;

(b)ei gwneud yn ofynnol talu llog mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fydd swm sy’n ddyledus i’r Comisiwn yn unol ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau yn parhau i fod heb ei dalu.

(3)Ni chaiff y telerau a’r amodau ymwneud â chymhwyso unrhyw symiau sy’n deillio ac eithrio o’r Comisiwn.

(4)Wrth—

(a)penderfynu darparu adnoddau ariannol o dan adran 105, a

(b)penderfynu unrhyw delerau ac amodau ar gyfer adnoddau ariannol a ddarperir o dan yr adran honno,

rhaid i’r Comisiwn roi sylw i’r egwyddor ei bod yn well gwneud penderfyniadau ar gynigion ymchwil neu arloesi unigol yn dilyn gwerthusiad o ansawdd y cynigion a’u heffaith tebygol (megis proses adolygu gan gymheiriaid).

107Swyddogaethau eraill y Comisiwn mewn perthynas ag ymchwil ac arloesi

(1)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth yng Nghymru o’r gweithgareddau ymchwil ac arloesi y mae’n eu cyllido;

(b)lledaenu yng Nghymru ganlyniadau’r gweithgareddau ymchwil ac arloesi y mae’n eu cyllido;

(c)hwyluso cymhwyso’n ymarferol yng Nghymru ganlyniadau’r gweithgareddau ymchwil ac arloesi y mae’n eu cyllido.‍

(2)Rhaid i’r Comisiwn fonitro sut y mae adnoddau ariannol a ddarperir o dan adran 105 yn cael eu defnyddio.

(3)Rhaid i’r Comisiwn gynnwys yn ei adroddiad blynyddol (a lunnir o dan baragraff 16 o Atodlen 1) y casgliadau y mae’n dod iddynt o’r monitro hwnnw o ran y graddau y mae’r gweithgareddau y mae’n eu cyllido, ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi—

(a)yn cyflawni canlyniadau llwyddiannus,

(b)yn cael eu cyflwyno’n effeithiol, ac

(c)yn cynrychioli gwerth am arian.

Telerau ac amodau: ansawdd, llywodraethu etc., lles a chyfle cyfartal

108Cymorth ariannol o dan adrannau 89, 97 a 104: darpariaeth bellach ynghylch telerau ac amodau

(1)Wrth benderfynu’r telerau a’r amodau i’w gosod mewn perthynas ag adnoddau ariannol a ddarperir o dan adran 89(3), 97(1)(a) neu (b) neu 104(1)(a) i ddarparwr nad yw’n ddarparwr cofrestredig, rhaid i’r Comisiwn ystyried pa un ai i osod telerac ac amodau sy’n ymwneud—

(a)ag ansawdd yr addysg berthnasol a ddarperir gan neu ar ran y darparwr;

(b)ag effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu a rheoli’r darparwr (gan gynnwys ei drefniadau rheoli ariannol);

(c)â chynaliadwyedd ariannol y darparwr;

(d)ag effeithiolrwydd trefniadau’r darparwr ar gyfer cefnogi a hybu lles ei fyfyrwyr a’i staff;

(e)â chyflawni canlyniadau y gellir eu mesur i hyrwyddo pob un o’r nodau yn is-adran (2).

(2)Y nodau yw—

(a)cynyddu cyfranogiad, gan bersonau sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, mewn addysg berthnasol a ddarperir gan neu ar ran y darparwr;

(b)cadw myfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol hyd at ddiwedd cyrsiau addysg berthnasol a ddarperir gan neu ar ran y darparwr;

(c)lleihau unrhyw fylchau o ran cyrhaeddiad mewn addysg berthnasol a ddarperir gan neu ar ran y darparwr rhwng grwpiau gwahanol o fyfyrwyr a bennir yn y telerau a’r amodau pan fo’r gwahaniaethau yn codi oherwydd ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol;

(d)darparu cymorth i fyfyrwyr sy’n gorffen cyrsiau addysg berthnasol a ddarperir gan neu ar ran y darparwr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i barhau â’u haddysg drydyddol, dod o hyd i gyflogaeth neu ddechrau busnes.

(3)Yn yr adran hon—

  • ystyr “addysg berthnasol” (“relevant education”) yw—

    (a)

    pan fo adnoddau ariannol yn cael eu darparu o dan adran 89(3)(a) neu (b), y cwrs cymwys (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 89(1)) y darperir yr adnoddau mewn cysylltiad ag ef;

    (b)

    pan fo adnoddau ariannol yn cael eu darparu o dan adran 97(1)(a) neu (b), yr addysg bellach neu’r hyfforddiant y darperir yr adnoddau mewn cysylltiad â hi neu ag ef;

    (c)

    pan fo adnoddau ariannol yn cael eu darparu o dan adran 104(1)(a), y brentisiaeth Gymreig gymeradwy (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 111) y darperir yr adnoddau mewn cysylltiad â hi;

  • grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol” (“under-represented groups”) yw grwpiau a bennir yn y telerau a’r amodau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg berthnasol o ganlyniad i ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol.

Cyrff sy’n cydlafurio: cydsyniad

109Cydsyniad i daliadau i gyrff sy’n cydlafurio‍

(1)Caiff y Comisiwn roi cydsyniad at ddiben adran 88(4)‍, 89(5)‍, 97(5)‍, 104(4)‍ neu 105(5)‍ yn gyffredinol neu mewn perthynas â thaliad penodol neu gorff penodol sy’n cydlafurio.

(2)Caiff y Comisiwn roi cydsyniad at ddiben unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hynny yn ddarostyngedig i amodau.

(3)Rhaid i’r amodau gynnwys gofyniad bod y person y mae adnoddau ariannol yn cael eu darparu neu eu sicrhau iddo o dan adran 88, 89, 97, 104 neu 105 (yn ôl y digwydd) yn gwneud trefniadau at ddiben sicrhau bod yr adnoddau a delir i gorff sy’n cydlafurio yn cael eu rheoli’n effeithlon ac yn cael eu defnyddio mewn ffordd sy’n darparu gwerth am arian.

(4)Caiff y Comisiwn dynnu’n ôl, atal dros dro neu amrywio cydsyniad a roddir at ddiben unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hynny, a phan fo cydsyniad wedi ei roi yn gyffredinol, caiff wneud hynny yn gyffredinol neu mewn perthynas â thaliad penodol neu gorff penodol sy’n cydlafurio.

(5)Cyn tynnu’n ôl, amrywio neu atal dros dro gydsyniad, rhaid i’r Comisiwn roi hysbysiad i’r person y mae adnoddau ariannol yn cael eu darparu neu eu sicrhau iddo o dan adran 88, 89, 97, 104 neu 105 (yn ôl y digwydd).

(6)Rhaid i’r hysbysiad ddatgan—

(a)y rhesymau dros fwriadu tynnu’n ôl, amrywio neu atal dros dro gydsyniad,

(b)y cyfnod pan ganiateir i sylwadau ynghylch y camau gweithredu arfaethedig gael eu cyflwyno, ac

(c)y ffordd y caniateir i’r sylwadau hynny gael eu cyflwyno.

(7)Rhaid i’r Comisiwn roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir yn unol â’r hysbysiad wrth benderfynu pa un ai i dynnu’n ôl, amrywio neu atal dros dro gydsyniad.

(8)Nid yw’r gofynion yn is-adrannau (5) i (7) yn gymwys os yw’r Comisiwn wedi ei fodloni ei bod yn angenrheidiol tynnu’n ôl, amrywio neu atal dros dro gydsyniad cyn y byddai’n ymarferol cydymffurfio â’r gofynion hynny.

(9)Rhaid i’r Comisiwn gadw cydsyniad a roddir at ddiben adran 88(4)‍, 89(5)‍, 97(5)‍, 104(4)‍ neu 105(5)‍ o dan adolygiad.

Cyfarwyddydau cymorth ariannol

110Cyfarwyddydau cymorth ariannol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddydau cymorth ariannol i’r Comisiwn mewn perthynas â pherson perthnasol.

(2)Ni chaniateir i gyfarwyddydau cymorth ariannol gael eu rhoi ond os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru fod materion ariannol y person perthnasol wedi cael eu camreoli neu’n cael eu camreoli.

(3)“Cyfarwyddydau cymorth ariannol” yw unrhyw gyfarwyddydau ynghylch darparu neu sicrhau adnoddau ariannol o dan adran 88, 89, 97, 101, 103, 104 neu 105 i berson perthnasol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu’n hwylus oherwydd y camreoli.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol” yw—

(a)darparwr cofrestredig;

(b)person (ac eithrio darparwr cofrestredig neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir) sy’n cael adnoddau ariannol a ddarperir neu a sicrheir gan y Comisiwn o dan adran 88(2), 89, 97, 101, 103, 104, neu 105(2).

(5)Cyn rhoi cyfarwyddyd cymorth ariannol, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn a’r person perthnasol oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)ei bod yn angenrheidiol rhoi’r cyfarwyddyd cyn y byddai’n ymarferol ymgynghori â’r Comisiwn a’r person perthnasol, neu

(b)y byddai’r ymgynghori yn tanseilio diben rhoi’r cyfarwyddyd.

(6)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd cymorth ariannol, rhaid iddynt—

(a)cyhoeddi’r cyfarwyddyd,

(b)adrodd i Senedd Cymru fod cyfarwyddyd wedi ei roi a gosod copi o’r cyfarwyddyd gerbron y Senedd, ac

(c)cadw’r cyfarwyddyd o dan adolygiad.

(7)Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio â chyfarwyddyd cymorth ariannol a roddir o dan yr adran hon.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan

Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bwnc y Ddeddf i esbonio beth mae’r Ddeddf yn ceisio ei wneud ac i wneud y Ddeddf yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Ddeddfau Senedd Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill