Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 1

 Help about opening options

No versions valid at: 14/10/2019

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 14/10/2019. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Atodlen yn cynnwys darpariaethau nad ydynt yn ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn. Help about Status

Close

Statws

 Nid yw'n ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn yn golygu yn gyffredinol nad oedd darpariaeth mewn grym ar gyfer y pwynt mewn amser rydych wedi dewis.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018, ATODLEN 1. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Yn ddilys o 02/03/2020

(a gyflwynir gan adran 9)

ATODLEN 1LL+CCOSBAU PENODEDIG

This Atodlen has no associated Nodiadau Esboniadol

Cynnwys hysbysiad cosb penodedigLL+C

1Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—

(a)datgan y drosedd honedig, a

(b)rhoi manylion am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

2Rhaid i hysbysiad cosb benodedig hefyd ddatgan—

(a)enw a chyfeiriad yr awdurdod lleol y rhoddir yr hysbysiad ar ei ran;

(b)swm y gosb a’r cyfnod ar gyfer ei thalu;

(c)y swm gostyngol a’r cyfnod ar gyfer ei dalu;

(d)effaith talu’r gosb neu’r swm gostyngol cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (b) neu (c);

(e)canlyniadau peidio â thalu’r gosb neu’r swm gostyngol cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (b) neu (c);

(f)y person y caniateir i’r taliad gael ei wneud iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir i’r taliad gael ei wneud;

(g)y dull y caniateir i’r taliad gael ei wneud ynddo;

(h)y person y caniateir i unrhyw sylwadau sy’n ymwneud â’r hysbysiad gael eu cyflwyno iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir i unrhyw sylwadau o’r fath gael eu cyflwyno.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

3Rhaid i hysbysiad cosb benodedig hefyd—

(a)hysbysu’r person y’i rhoddir iddo am hawl y person hwnnw i ofyn am gael sefyll prawf am y drosedd honedig, a

(b)esbonio sut y caniateir i’r hawl honno gael ei harfer.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

4Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach o ran cynnwys a ffurf hysbysiad cosb benodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

Swm y gosb a’r cyfnod ar gyfer ei thaluLL+C

5(1)Swm y gosb yw £200.

(2)Caiff rheoliadau ddiwygio swm y gosb.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

6Y cyfnod ar gyfer talu’r gosb yw’r cyfnod o 29 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

Y swm gostyngol a’r cyfnod ar gyfer ei daluLL+C

7(1)Mae’r swm gostyngol yn daladwy, yn lle swm y gosb, os gwneir taliad cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r swm gostyngol.

(2)Y cyfnod hwnnw yw’r cyfnod o 15 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad, oni bai nad yw’r 15fed diwrnod yn ddiwrnod gwaith.

(3)Os nad yw’r 15fed diwrnod yn ddiwrnod gwaith, y cyfnod hwnnw yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad ac sy’n dod i ben pan ddaw’r diwrnod gwaith cyntaf yn dilyn y 15fed diwrnod i ben.

(4)Yn y paragraff hwn, ystyr “diwrnod gwaith” yw unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith nac yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 (Banking and Financial Dealings Act 1971 (c. 80)).

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

8Y swm gostyngol yw £150.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

9Caiff rheoliadau ddiwygio’r swm gostyngol.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

Effaith hysbysiad a thaluLL+C

10(1)Ni chaniateir i achos am y drosedd y rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â hi gael ei ddwyn cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r gosb.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys os yw’r person y rhoddwyd yr hysbysiad iddo wedi gofyn yn unol â pharagraffau 15 ac 16 am gael sefyll prawf am y drosedd honedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

11Os telir y gosb yn unol â’r hysbysiad cosb cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff 10(1), ni chaniateir i achos am y drosedd gael ei ddwyn, ac nid yw paragraff 15 yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

12Os telir y swm gostyngol yn unol â’r hysbysiad cosb cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r swm gostyngol, ni chaniateir i achos am y drosedd gael ei ddwyn, ac nid yw paragraff 15 yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

13Os yw achos wedi ei ddwyn yn unol â chais o dan baragraff 15, ond yna telir y gosb neu’r swm gostyngol fel y’i crybwyllir ym mharagraff 11 neu 12, rhaid peidio â pharhau â’r achos hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

14Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif sy’n dogfennu taliad o gosb neu swm gostyngol yn dystiolaeth o’r ffeithiau y mae’n eu datgan—

(a)os yw’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan y person sy’n gyfrifol am faterion ariannol yr awdurdod lleol yr oedd y swyddog awdurdodedig a roddodd hysbysiad cosb yn gweithredu ar ei ran, neu ei bod wedi ei llofnodi ar ran y person hwnnw, a

(b)os yw’n datgan bod taliad o’r gosb benodedig neu’r swm gostyngol yn unol â’r hysbysiad wedi ei gael, neu nad oedd wedi ei gael, erbyn dyddiad a bennir yn y dystysgrif.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

TreialLL+C

15Os yw’r person y mae hysbysiad cosb wedi ei roi iddo yn gofyn am gael sefyll prawf am y drosedd honedig, caniateir i achos gael ei ddwyn yn erbyn y person.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

16Rhaid i unrhyw gais i sefyll prawf gael ei wneud—

(a)drwy hysbysiad a roddir i’r awdurdod lleol o dan sylw cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r gosb;

(b)yn y modd a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 1 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

Tynnu hysbysiadau yn ôlLL+C

17(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw awdurdod lleol yn ystyried na ddylai hysbysiad cosb benodedig y mae swyddog awdurdodedig sy’n gweithredu ar ei ran wedi ei roi i berson (“P”) fod wedi ei roi.

(2)Caiff yr awdurdod lleol roi hysbysiad i P sy’n tynnu’r hysbysiad cosb benodedig yn ôl.

(3)Os yw’n gwneud hynny—

(a)rhaid iddo ad-dalu unrhyw swm sydd wedi ei dalu ar ffurf cosb yn unol â’r hysbysiad cosb benodedig, a

(b)ni chaniateir dwyn achos na pharhau ag achos yn erbyn P am y drosedd o dan sylw.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

Derbyniadau cosb benodedigLL+C

18Ni chaiff awdurdod lleol ddefnyddio’r symiau y mae’n eu cael yn unol â hysbysiadau o dan adran 9 ond at ddiben ei swyddogaethau sy’n ymwneud â gorfodi darpariaethau’r Ddeddf hon a rheoliadau a wneir odani.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 1 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill