- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, Croes Bennawd: Canlyniadau adolygiadau ac apelau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys i benderfyniad sy’n ymwneud â chosb y gallai person fod yn agored iddi.
(2)Pan fo ACC yn cynnal adolygiad mewn cysylltiad â’r penderfyniad, nid yw [F1dyddiad talu arferol y gosb] yn gymwys i unrhyw swm o gosb y mae anghydfod yn ei gylch (“swm y mae anghydfod yn ei gylch”).
(3)Pan fo’r adolygiad yn dod i’r casgliad bod swm y mae anghydfod yn ei gylch yn daladwy, rhaid i’r person dalu’r swm hwnnw cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad i’r person o dan adran 176(5) [F2, (6)] neu (7) mewn perthynas â’r adolygiad; ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (4).
(4)Pan fo’r person yn gwneud apêl mewn cysylltiad â’r penderfyniad—
(a)nid yw [F3dyddiad talu arferol y gosb] yn gymwys i unrhyw swm y mae anghydfod yn ei gylch, a
(b)nid yw is-adran (3) yn gymwys.
(5)Pan fo’r apêl yn cael ei thynnu’n ôl, rhaid i’r person dalu—
(a)unrhyw swm y mae anghydfod yn ei gylch, os nad yw’r penderfyniad wedi ei adolygu, neu
(b)os yw’r penderfyniad wedi ei adolygu, unrhyw swm y mae anghydfod yn ei gylch y daeth yr adolygiad i’r casgliad ei fod yn daladwy,
cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod tynnu’n ôl.
(6)Pan ddyfernir yn derfynol, o ganlyniad i’r apêl, fod swm y mae anghydfod yn ei gylch yn daladwy, rhaid i’r person dalu’r swm hwnnw cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyfernir yn derfynol ar yr apêl.
[F4(7)Yn yr adran hon, ystyr “dyddiad talu arferol y gosb” yw’r dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid talu cosb o dan—
(a)adran 154, neu
(b)adran 70 o DTGT.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 182(2) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), a. 97(2), Atod. 4 para. 17(a); O.S. 2018/35, ergl. 3
F2Gair yn a. 182(3) wedi ei fewnosod (25.1.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 64; O.S. 2018/34, ergl. 2(b)(iv)
F3Geiriau yn a. 182(4)(a) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), a. 97(2), Atod. 4 para. 17(b); O.S. 2018/35, ergl. 3
F4A. 182(7) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), a. 97(2), Atod. 4 para. 17(c); O.S. 2018/35, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 182 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 182 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)
(1)Pan fo casgliadau adolygiad o dan adran 176 yn cadarnhau neu’n amrywio penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu ofyniad mewn hysbysiad o’r fath, rhaid i’r person y dyroddwyd yr hysbysiad iddo gydymffurfio â’r hysbysiad neu’r gofyniad (fel y’i cadarnhawyd neu y’i hamrywiwyd) o fewn unrhyw gyfnod a bennir gan ACC.
(2)Pan fo’r tribiwnlys yn cadarnhau neu’n amrywio penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu gynnwys gofyniad mewn hysbysiad o’r fath, rhaid i’r person y dyroddwyd yr hysbysiad iddo gydymffurfio â’r hysbysiad neu’r gofyniad (fel y’i cadarnhawyd neu y’i hamrywiwyd)—
(a)o fewn y cyfnod a bennir gan y tribiwnlys, neu
(b)os nad yw’r tribiwnlys yn pennu cyfnod, o fewn unrhyw gyfnod a bennir gan ACC.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 183 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I4A. 183 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—
(a)ar apêl yn erbyn penderfyniad apeliadwy, y tribiwnlys yn dyfarnu
[F6(i)]bod ACC i ad-dalu swm o dreth ddatganoledig a dalwyd gan berson, [F7neu
(ii)bod swm a dalwyd gan berson mewn cysylltiad â chredyd treth i’w ad-dalu gan ACC,]
(b)ACC yn gwneud cais o dan adran 11(4) neu 13(4) o DTLlG am ganiatâd i wneud apêl bellach.
(2)Wrth wneud cais am ganiatâd caiff ACC ofyn am ganiatâd y tribiwnlys i ohirio ad-dalu’r swm hyd—
(a)y dyfernir ar yr apêl bellach, neu
(b)y mae ACC yn cael sicrhad digonol ar gyfer y swm.
(3)Rhaid i’r tribiwnlys neu’r llys perthnasol ganiatáu cais ACC—
(a)os yw’n rhoi caniatâd i’r apêl bellach gael ei chynnal, a
(b)os yw’n credu bod angen caniatáu’r cais er mwyn diogelu’r refeniw.
(4)Os na roddir caniatâd i wneud apêl bellach—
(a)gan Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn dilyn cais o dan adran 11(4)(a) o DTLlG, neu
(b)gan yr Uwch Dribiwnlys yn dilyn cais o dan adran 13(4)(a) o’r Ddeddf honno,
nid yw’r ffaith fod ACC wedi gwneud cais o dan is-adran (2) wrth wneud y cais am ganiatâd yn rhwystro ACC rhag gwneud cais arall o dan yr is-adran honno os yw ACC yn gwneud cais am ganiatâd i wneud apêl bellach o dan adran 11(4)(b) neu 13(4)(b) o DTLlG.
(5)Ond fel arall, mae penderfyniad y tribiwnlys neu’r llys perthnasol ynglŷn â chais o dan adran (2) yn derfynol.
(6)Yn yr adran hon—
ystyr “tribiwnlys neu lys perthnasol” (“relevant tribunal or court”) yw pa un bynnag o’r canlynol y mae ACC yn gwneud cais iddo am ganiatâd i wneud apêl bellach—
Tribiwnlys yr Haen Gyntaf;
yr Uwch Dribiwnlys;
y llys apeliadol perthnasol;
ystyr “llys apeliadol perthnasol” (“relevant appellate court”) yw’r llys a bennir felly o dan adran 13(11) o DTLlG.]
Diwygiadau Testunol
F5A. 183A wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 65; O.S. 2018/34, ergl. 3
F6Geiriau yn a. 183A(1)(a) wedi ei ailrifo fel a. 183A(1)(a)(i) (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 46(a)
F7A. 183A(1)(a)(ii) ac gair wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 46(b)
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys