Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Newidiadau dros amser i: RHAN 3

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, RHAN 3. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 3LL+CGOFAL CYMDEITHASOL CYMRU

Parhad Cyngor Gofal Cymru a’i ailenwiLL+C

67Gofal Cymdeithasol CymruLL+C

(1)Mae adran 54 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14) wedi ei diddymu.

(2)Mae’r corff corfforaethol a elwir Cyngor Gofal Cymru a sefydlwyd gan yr adran honno i barhau i fodoli.

(3)Ond mae wedi ei ailenwi, a’i enw yw Gofal Cymdeithasol Cymru (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “GCC”).

(4)Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch GCC.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 67 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 67 mewn grym ar 11.7.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/713, ergl. 2

I3A. 67 mewn grym ar 3.4.2017 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

Amcanion GCCLL+C

68Amcanion GCCLL+C

(1)Prif amcan GCC wrth gyflawni ei swyddogaethau yw diogelu, hybu a chynnal diogelwch a llesiant y cyhoedd yng Nghymru.

(2)Wrth gyflawni’r amcan hwnnw, rhaid i GCC arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar hybu a chynnal—

(a)safonau uchel yn y ddarpariaeth o wasanaethau gofal a chymorth,

(b)safonau uchel o ymddygiad ac ymarfer ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol,

(c)safonau uchel o ran hyfforddi gweithwyr gofal cymdeithasol, a

(d)hyder y cyhoedd mewn gweithwyr gofal cymdeithasol.

(3)Gweler adran 69 am ystyr “gwasanaethau gofal a chymorth” ac adran 79 am ystyr “gweithiwr gofal cymdeithasol”.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 68 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I5A. 68 mewn grym ar 11.7.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/713, ergl. 2

I6A. 68 mewn grym ar 3.4.2017 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

Cyngor a chynhorthwyLL+C

69Cyngor a chynhorthwy mewn perthynas â gwasanaethau gofal a chymorthLL+C

(1)Caiff GCC roi cyngor neu gynhorthwy arall (gan gynnwys grantiau) i unrhyw berson sy’n darparu gwasanaeth gofal a chymorth at ddiben annog gwelliant yn y ddarpariaeth o’r gwasanaeth hwnnw.

(2)Caiff GCC atodi unrhyw amodau i grant a roddir o dan is-adran (1) sy’n briodol yn ei farn ef.

(3)Ystyr “gwasanaeth gofal a chymorth” yw—

(a)gwasanaeth rheoleiddiedig, neu

(b)unrhyw wasanaeth arall yng Nghymru sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth o ofal a chymorth gan weithwyr gofal cymdeithasol.

(4)Gweler adran 2 am ystyr “gwasanaeth rheoleiddiedig” ac adran 3 am ystyr “gofal a chymorth”.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 69 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I8A. 69 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

70Astudiaethau o ran darbodaeth, effeithlonrwydd etc.LL+C

Caiff GCC hybu neu gynnal astudiaethau cymharol neu astudiaethau eraill sydd wedi eu dylunio er mwyn ei alluogi i wneud argymhellion o dan adran 69 ar gyfer gwella darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn y ddarpariaeth o wasanaeth gofal a chymorth.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 70 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I10A. 70 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

Ymgysylltu â’r cyhoedd etc.LL+C

71Ymgysylltu â’r cyhoedd a gweithwyr gofal cymdeithasolLL+C

(1)Rhaid i GCC—

(a)rhoi gwybodaeth am GCC a’r arferiad o’i swyddogaethau ar gael i—

(i)y cyhoedd, a

(ii)gweithwyr gofal cymdeithasol;

(b)llunio a chyhoeddi datganiad o’i bolisi mewn cysylltiad â chynnwys y cyhoedd a gweithwyr gofal cymdeithasol yn yr arferiad o’r swyddogaethau hynny (pa un ai drwy ymgynghoriad neu drwy ddulliau eraill).

(2)O ran GCC—

(a)caiff ddiwygio ei ddatganiad polisi a rhaid iddo gyhoeddi’r datganiad diwygiedig, neu

(b)caiff gyhoeddi datganiad polisi newydd.

(3)Rhaid i GCC roi sylw i’r datganiad polisi diweddaraf a gyhoeddwyd o dan yr adran hon wrth arfer ei swyddogaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 71 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I12A. 71 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

Polisi mewn cysylltiad â dwyn achosion troseddolLL+C

72Datganiad polisi mewn cysylltiad â dwyn achosion troseddolLL+C

(1)Rhaid i GCC lunio a chyhoeddi datganiad o’i bolisi mewn cysylltiad â dwyn achosion troseddol ganddo.

(2)Caiff GCC—

(a)diwygio ei ddatganiad polisi a chyhoeddi’r datganiad diwygiedig, neu

(b)cyhoeddi datganiad polisi newydd.

(3)Rhaid i GCC roi sylw i’r datganiad polisi diweddaraf a gyhoeddwyd o dan yr adran hon wrth arfer ei swyddogaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 72 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I14A. 72 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

Rheolau a wneir gan GCC o dan y Ddeddf honLL+C

73Rheolau: cyffredinolLL+C

(1)Rhaid i unrhyw bŵer a roddir i GCC gan neu o dan y Ddeddf hon i wneud rheolau gael ei arfer yn ysgrifenedig drwy offeryn.

(2)Rhaid i offeryn sy’n cynnwys rheolau bennu’r ddarpariaeth y gwneir y rheolau odani.

(3)I’r graddau nad yw offeryn sy’n cynnwys rheolau yn cydymffurfio ag is-adran (2) mae’n ddi-rym.

(4)Caniateir i unrhyw bŵer sydd gan GCC i wneud rheolau a roddir gan neu o dan y Ddeddf hon gael ei arfer—

(a)er mwyn gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(b)er mwyn gwneud darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol a throsiannol.

(5)Rhaid i GCC—

(a)cyhoeddi rheolau a wneir ganddo, a

(b)sicrhau bod y rheolau ar gael yn gyhoeddus hyd nes y byddant yn peidio â chael effaith.

(6)Caiff GCC godi ffi am ddarparu i berson gopi o’r rheolau a wneir ganddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 73 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I16A. 73(1)(2) mewn grym ar 11.7.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/713, ergl. 2

I17A. 73(1)(2) mewn grym ar 3.4.2017 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

I18A. 73(3)-(6) mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

74Rheolau: ffioeddLL+C

(1)Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd i GCC mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau gan—

(a)GCC;

(b)y cofrestrydd (gweler adran 81).

(2)Yn benodol, caiff y rheolau wneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd mewn cysylltiad ag⁠—

(a)darparu cyngor neu gynhorthwy arall o dan adran 69;

(b)cofrestru yn y gofrestr (gweler Rhan 4);

(c)cymeradwyo cyrsiau o dan adran 114 (cymeradwyo cyrsiau i bersonau sy’n weithwyr gofal cymdeithasol neu sy’n dymuno dod yn weithwyr gofal cymdeithasol);

(d)darparu hyfforddiant o dan adran 116 (hyfforddiant a ddarperir neu a sicrheir gan GCC);

(e)darparu copïau o godau ymarfer neu gopïau o’r gofrestr neu ddarnau ohoni.

F1(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 74 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I20A. 74 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

Ymgynghori cyn gwneud rheolau etc.LL+C

75Ymgynghori cyn gwneud rheolau etc.LL+C

(1)Rhaid i GCC gydymffurfio â gofynion is-adran (2)—

(a)cyn gwneud unrhyw reolau o dan y Ddeddf hon;

(b)cyn cyhoeddi cod ymarfer o dan adran 112 (codau sy’n pennu’r safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol a’u cyflogwyr);

(c)cyn cyhoeddi canllawiau o dan adran 162 (canllawiau i baneli addasrwydd i ymarfer a phaneli gorchmynion interim mewn cysylltiad ag achosion o dan Ran 6),

oni bai bod is-adran (3) yn gymwys.

(2)Cyn gwneud y rheolau neu gyhoeddi’r cod neu ganllawiau rhaid i GCC—

(a)cyhoeddi drafft o’r rheolau, cod neu ganllawiau arfaethedig yn ogystal ag—

(i)esboniad o ddiben y rheolau, cod neu ganllawiau arfaethedig a chrynodeb o effaith fwriadedig y rheolau, cod neu ganllawiau arfaethedig;

(ii)hysbysiad sy’n pennu’r cyfnod ar gyfer caniatáu i sylwadau gael eu cyflwyno i GCC ynghylch y cynnig, a

(b)cymryd camau rhesymol i roi hysbysiad o’r cynnig a’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau i—

(i)gweithwyr gofal cymdeithasol y mae GCC yn meddwl y gall y cynnig effeithio arnynt,

(ii)Gweinidogion Cymru, a

(iii)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn GCC.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw GCC—

(a)wedi ei fodloni bod natur y rheolau, cod neu ganllawiau arfaethedig o’r fath fel y byddai ymgynghori yn amhriodol neu’n anghymesur, a

(b)wedi cael cytundeb Gweinidogion Cymru i fwrw ymlaen heb ymgynghori.

(4)Nid yw adran 184 (cyflwyno dogfennau etc.) yn gymwys i unrhyw beth a wneir gan GCC o dan is-adran (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 75 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I22A. 75 mewn grym ar 11.7.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/713, ergl. 2

I23A. 75 mewn grym ar 3.4.2017 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

Canllawiau a chyfarwyddydauLL+C

76CanllawiauLL+C

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau rhaid i GCC roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau a roddant i GCC.

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 76 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I25A. 76 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

77CyfarwyddydauLL+C

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau rhaid i GCC gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.

(2)O ran cyfarwyddyd—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd dilynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 77 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I27A. 77 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

Pwerau diofyn Gweinidogion CymruLL+C

78Pwerau diofyn Gweinidogion CymruLL+C

(1)Mae’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn arferadwy gan Weinidogion Cymru os ydynt wedi eu bodloni bod GCC—

(a)wedi methu heb esgus rhesymol â chyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, neu

(b)wrth gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, wedi methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 77 mewn perthynas â’r swyddogaethau hynny.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi datganiad sy’n datgan bod GCC wedi methu, a

(b)cyfarwyddo GCC i gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, mewn unrhyw fodd ac o fewn unrhyw gyfnod neu gyfnodau, a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Os yw GCC yn methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (2)(b), caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cyflawni’r swyddogaethau y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud â hwy eu hunain, neu

(b)gwneud trefniadau i unrhyw berson arall gyflawni’r swyddogaethau hynny ar eu rhan.

(4)O ran cyfarwyddyd o dan is-adran (2)(b)—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd dilynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 78 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I29A. 78 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan

Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni

Y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill