- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Adran 28 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 29 Ebrill 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Act (including any effects on those provisions):
(1)Pan fo gan berson, y mae’n ymddangos bod arno angen gofal a chymorth, ofalwr, caiff awdurdod lleol gyfuno—
(a)asesiad o anghenion y person o dan adran 19 neu 21, a
(b)asesiad o anghenion y gofalwr o dan adran 24,
ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) i (4).
(2)Ni chaiff awdurdod lleol gyfuno asesiad o anghenion ar gyfer oedolyn (p’un ai o dan adran 19 neu 24) ag asesiad o anghenion ar gyfer person arall oni bai—
(a)bod yr oedolyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn rhoi cydsyniad dilys, neu
(b)y caniateir i’r gofyniad i gael cydsyniad dilys gael ei hepgor.
(3)Ni chaiff awdurdod lleol gyfuno asesiad o anghenion ar gyfer plentyn sy’n 16 neu’n 17 oed (p’un ai o dan adran 21 neu 24) ag asesiad o anghenion ar gyfer person arall oni bai—
(a)bod y plentyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn rhoi cydsyniad dilys,
(b)bod person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn rhoi cydsyniad dilys o dan amgylchiadau pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)nad oes gan y plentyn alluedd i benderfynu a gydsynia i’r asesiadau o anghenion gael eu cyfuno, a
(ii)nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y plentyn, neu
(c)y caniateir i’r gofyniad i gael cydsyniad dilys gael ei hepgor.
(4)Ni chaiff awdurdod lleol gyfuno asesiad o anghenion ar gyfer plentyn o dan 16 oed (p’un ai o dan adran 21 neu 24) ag asesiad o anghenion ar gyfer person arall oni bai—
(a)bod y plentyn neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn rhoi cydsyniad dilys, neu
(b)y caniateir i’r gofyniad i gael cydsyniad dilys gael ei hepgor.
(5)Mae cydsyniad a roddir o dan is-adran (2), (3) neu (4) yn ddilys ac eithrio yn yr achosion a ganlyn—
ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos cydsyniad a roddir gan oedolyn neu blentyn sy’n 16 neu’n 17 oed, nad oes gan yr oedolyn neu’r plentyn alluedd i gydsynio i’r asesiadau o anghenion gael eu cyfuno;
ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos cydsyniad a roddir gan blentyn o dan 16 oed, nad oes gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cyfuno’r asesiadau o anghenion;
ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos cydsyniad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn o dan 16 oed mewn perthynas ag asesiad o anghenion y plentyn—
bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cyfuno’r asesiadau o anghenion, a
nad yw’r plentyn yn cytuno â’r cydsyniad a roddir gan y person sydd â chyfrifoldeb rhiant.
(6)Caiff awdurdod lleol hepgor y gofyniad i gael cydsyniad dilys yn yr achosion a ganlyn—
ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, o ran asesiad o anghenion oedolyn—
nad oes unrhyw berson a gaiff roi cydsyniad dilys, a
y byddai cyfuno’r asesiadau o anghenion er lles pennaf yr oedolyn;
ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, o ran asesiad o anghenion plentyn sy’n 16 neu’n 17 oed—
nad oes gan y plentyn alluedd i roi cydsyniad dilys,
nad oes person awdurdodedig a gaiff roi cydsyniad dilys ar ran y plentyn, ac
y byddai cyfuno’r asesiadau o anghenion er lles pennaf y plentyn;
ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, o ran asesiad o anghenion plentyn o dan 16 oed—
nad oes gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cyfuno’r asesiadau o anghenion, a
y byddai cyfuno’r asesiadau o anghenion yn gyson â llesiant y plentyn.
(7)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn gyffredinol neu yn benodol) i benderfynu a gydsynia ar ran yr oedolyn neu’r plentyn i’r asesiadau o anghenion gael eu cyfuno.
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys