Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Dyletswyddau awdurdodau lleol mewn perthynas â’r plant sy’n derbyn gofal

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Croes Bennawd: Dyletswyddau awdurdodau lleol mewn perthynas â’r plant sy’n derbyn gofal yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 28 Ebrill 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to the whole Act associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Act (including any effects on those provisions):

  • s. 162(4)(ga) inserted by 2022 asc 1 Sch. 4 para. 30(2)(b)
  • s. 163(4A) inserted by 2014 c. 23 s. 75(10) (Effect inserting (4) not applied at s. 163 as it appears to relate to s. 194 in view of the title of the section as cited i.e. "ordinary residence". In s. 194 another (4), identically worded, is inserted on the same date by S.I. 2016/413, regs. 2(1), 316(a))

Dyletswyddau awdurdodau lleol mewn perthynas â’r plant sy’n derbyn gofalLL+C

78Prif ddyletswydd awdurdod lleol mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofalLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gofalu am unrhyw blentyn—

(a)diogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn, a

(b)defnyddio gwasanaethau sydd ar gael i blant, y mae eu rhieni eu hunain yn gofalu amdanynt, mewn modd sy’n ymddangos yn rhesymol i’r awdurdod yn achos y plentyn.

(2)Mae dyletswydd awdurdod lleol o dan is-adran (1)(a) i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plentyn sy’n derbyn gofal ganddynt yn cynnwys, er enghraifft—

(a)dyletswydd i hyrwyddo cyrhaeddiad addysgol y plentyn;

(b)dyletswydd—

(i)i asesu, o bryd i’w gilydd, a oes gan y plentyn anghenion am ofal a chymorth sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra a nodwyd o dan adran 32, a

(ii)os oes ar y plentyn anghenion sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra, i ddiwallu, o leiaf, yr anghenion hynny.

(3)Cyn gwneud unrhyw benderfyniad mewn cysylltiad â phlentyn y mae’n gofalu amdano, neu’n bwriadu gofalu amdano, rhaid i awdurdod lleol (yn ogystal â’r materion a nodir yn adrannau 6(2) a (4) a 7(2) (dyletswyddau hollgyffredinol eraill)), roi sylw i—

(a)barn, dymuniadau a theimladau unrhyw berson y mae ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau yn berthnasol ym marn yr awdurdod;

(b)argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn.

(4)Os yr ymddengys i awdurdod lleol ei bod yn angenrheidiol iddo, er mwyn amddiffyn aelodau o’r cyhoedd rhag niwed difrifol, arfer ei bwerau mewn cysylltiad â phlentyn y mae’n gofalu amdano mewn modd nad yw efallai yn gyson â’i ddyletswyddau o dan yr adran hon neu adran 6, caiff wneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 78 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 78 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

79Darparu llety i blant mewn gofalLL+C

Pan fo plentyn yng ngofal awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod ddarparu llety i’r plentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 79 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I4A. 79 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

80Cynnal plant sy’n derbyn gofalLL+C

Rhaid i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn gynnal y plentyn mewn agweddau eraill ar wahân i ddarparu llety ar ei gyfer.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 80 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I6A. 80 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

81Y ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya a’u cynnalLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn gofalu am blentyn (“C”).

(2)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau i C fyw gyda pherson sy’n dod o fewn is-adran (3), ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) ac (11).

(3)Mae person (“P”) yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a)os P yw rhiant C,

(b)os nad P yw rhiant C ond y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant dros C, neu

(c)mewn achos pan fo C yng ngofal yr awdurdod lleol ac yr oedd [F1gorchymyn trefniadau plentyn] mewn grym mewn cysylltiad ag C yn union cyn y gwnaed y gorchymyn gofal, os oedd P yn berson y gwnaed y [F1gorchymyn trefniadau plentyn] o’i blaid.

(4)Nid yw is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau o’r math a grybwyllwyd yn yr is-adran honno os byddai gwneud hynny—

(a)yn anghyson â llesiant C, neu

(b)yn gam na fyddai’n rhesymol ymarferol.

(5)Os nad yw awdurdod lleol yn gallu gwneud trefniadau o dan is-adran (2), rhaid iddo leoli C yn y lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael, yn ei farn ef (ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (11)).

(6)Yn is-adran (5) ystyr “lleoliad” yw—

(a)lleoliad gydag unigolyn sy’n berthynas, yn ffrind neu’n berson arall sy’n gysylltiedig ag C ac sydd hefyd yn rhiant maeth awdurdod lleol,

(b)lleoliad gyda rhiant maeth awdurdod lleol nad yw’n dod o fewn paragraff (a),

(c)lleoliad mewn cartref plant, neu

(d)yn ddarostyngedig i adran 82, lleoliad yn unol â threfniadau eraill sy’n cydymffurfio ag unrhyw reoliadau a wneir at ddibenion yr adran hon.

(7)Wrth benderfynu ar y lleoliad mwyaf priodol ar gyfer C o dan is-adran (5), rhaid i awdurdod lleol, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill y Rhan hon (yn enwedig, i’w ddyletswyddau o dan adran 78)—

(a)rhoi blaenoriaeth uwch i leoliad sy’n dod o fewn paragraff (a) o is-adran (6) na’r hyn a roddir i leoliadau sy’n dod o fewn paragraffau eraill yr is-adran honno,

(b)cydymffurfio â gofynion is-adran (8), i’r graddau y mae hynny’n rhesymol ymarferol o dan holl amgylchiadau achos C, ac

(c)cydymffurfio ag is-adran (9) oni bai nad yw hynny’n rhesymol ymarferol.

(8)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau—

(a)bod y lleoliad yn caniatáu i C fyw gerllaw cartref C;

(b)nad yw’r lleoliad yn amharu ar addysg na hyfforddiant C;

(c)os oes gan C frawd neu chwaer sydd hefyd yn derbyn llety gan yr awdurdod lleol, bod y lleoliad yn galluogi i C fyw gyda’r brawd neu’r chwaer;

(d)os yw C yn anabl, bod y llety a ddarperir yn addas i anghenion penodol C.

(9)Rhaid i’r lleoliad, o ran ei natur, olygu bod llety’n cael ei ddarparu i C o fewn ardal yr awdurdod lleol.

(10)Mae is-adran (11) yn gymwys pan—

(a)bo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni y dylai C gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu ac yn bwriadu lleoli C i’w fabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd penodol (“A”),

(b)bo asiantaeth fabwysiadu wedi dyfarnu bod A yn addas i fabwysiadu plentyn, ac

(c)na fo’r awdurdod lleol wedi ei awdurdodi i leoli C ar gyfer ei fabwysiadu.

(11)Rhaid i’r awdurdod lleol leoli C gydag A oni bai y byddai’n fwy priodol yn ei farn—

(a)i wneud trefniadau er mwyn i C fyw gyda pherson sy’n dod o fewn is-adran (3), neu

(b)i leoli C mewn lleoliad o ddisgrifiad a grybwyllwyd yn is-adran (6).

(12)At ddibenion is-adran (10)—

(a)mae i “asiantaeth fabwysiadu” yr ystyr a roddir i “adoption agency” gan adran 2 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002;

(b)nid yw awdurdod lleol wedi ei awdurdodi i leoli C ar gyfer ei fabwysiadu ond os yw wedi ei awdurdodi i wneud hynny o dan—

(i)adran 19 o’r Ddeddf honno (lleoli plant gyda chydsyniad rhiant), neu

(ii)gorchymyn lleoli a wneir o dan adran 21 o’r Ddeddf honno.

(13)Caiff yr awdurdod lleol ddyfarnu—

(a)telerau unrhyw drefniadau y mae’n eu gwneud o dan is-adran (2) mewn perthynas ag C (gan gynnwys telerau o ran talu), a

(b)y telerau ar gyfer gosod C gyda rhiant maeth awdurdod lleol o dan is-adran (5) neu gyda darpar fabwysiadydd o dan is-adran (11) (gan gynnwys telerau o ran talu ond yn ddarostyngedig i unrhyw orchymyn a wneir o dan adran 49 o Ddeddf Plant 2004).

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 81 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I8A. 81 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

82Adolygu achos plentyn cyn gwneud trefniadau amgen o ran lletyLL+C

(1)Pan fo awdurdod lleol yn darparu llety i blentyn (“C”) ac eithrio yn unol â threfniadau sy’n dod o fewn adran 81(6)(d), ni chaniateir iddo wneud trefniadau o’r fath ar gyfer C oni bai ei fod wedi penderfynu gwneud hynny o ganlyniad i adolygiad o achos C a gwblhawyd yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 102 (adolygu achosion ac ymchwiliadau i sylwadau).

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn rhwystro awdurdod lleol rhag gwneud trefniadau ar gyfer C o dan adran 81(6)(d) os yw wedi ei fodloni bod angen, er mwyn diogelu llesiant C—

(a)gwneud trefniadau o’r fath, a

(b)gwneud hynny ar frys.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 82 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I10A. 82 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

83Cynlluniau gofal a chymorthLL+C

(1)Pan fo plentyn yn dod yn un sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, rhaid i unrhyw gynllun gofal a chymorth a lunnir o dan adran 54 mewn perthynas â’r plentyn hwnnw gael—

(a)ei adolygu, a

(b)ei gynnal o dan yr adran hon.

(2)Pan fo plentyn nad oes ganddo gynllun gofal a chymorth o dan adran 54 yn dod yn un sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun gofal a chymorth mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.

[F2(2A)Rhaid i gynllun gofal a chymorth ar gyfer plentyn gynnwys cofnod o’r trefniadau a wneir i ddiwallu anghenion y plentyn mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant (“cynllun addysg personol”).

(2B)Ond nid yw is-adran (2A) yn gymwys i blentyn os yw o fewn categori o blentyn sy’n derbyn gofal a ragnodir mewn rheoliadau, nad oes cynllun addysg personol i gael ei lunio ar ei gyfer.

(2C)Os—

(a)oes gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol, a

(b)yw cynllun gofal a chymorth y plentyn yn cynnwys cynllun addysg personol,

rhaid cynnwys unrhyw gynllun datblygu unigol a gynhelir ar gyfer y plentyn o dan adran 19 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn y cynllun addysg personol.

(2D)At ddibenion is-adran (2C)—

(a)ystyr “plentyn” yw plentyn nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol (o fewn yr ystyr a roddir i “compulsory school age” gan adran 8 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56));

(b)mae i “anghenion dysgu ychwanegol” yr ystyr a roddir gan adran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.]

(3)Rhaid i awdurdod lleol barhau i adolygu’n gyson [F3y cynlluniau y mae’n eu cynnal o dan yr adran hon] [F3gynllun gofal a chymorth].

(4)Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni bod amgylchiadau’r plentyn y mae [F4cynllun] [F4cynllun gofal a chymorth] yn ymwneud ag ef wedi newid mewn ffordd sy’n effeithio ar y cynllun, rhaid i’r awdurdod—

(a)gwneud unrhyw asesiadau y mae’n barnu eu bod yn briodol, a

(b)diwygio’r cynllun.

(5)[F5Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rhan 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018,] Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)sut y mae [F6cynlluniau o dan yr adran hon] [F6cynlluniau gofal a chymorth] i’w paratoi;

(b)pa bethau y [F7mae’n rhaid i gynllun eu cynnwys] [F7mae cynllun gofal a chymorth i’w cynnwys (gan gynnwys pa bethau y mae cynllun addysg personol i’w cynnwys)];

(c)adolygu a diwygio [F8cynlluniau] [F8cynlluniau gofal a chymorth].

(6)Rhaid i reoliadau o dan is-adran (5)(c) bennu, yn benodol—

(a)y personau a gaiff ofyn am adolygiad o gynllun (ar eu rhan hwy eu hunain neu ar ran person arall);

(b)o dan ba amgylchiadau—

(i)y caiff awdurdod lleol wrthod cydymffurfio â chais am adolygiad o gynllun, a

(ii)na chaiff awdurdod lleol wrthod gwneud hynny.

(7)Wrth lunio, adolygu neu ddiwygio [F9cynllun o dan yr adran hon] [F9cynllun gofal a chymorth], rhaid i awdurdod lleol gynnwys y plentyn y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef ac unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

(8)Caiff yr awdurdod lleol—

(a)llunio, adolygu neu ddiwygio [F10cynllun o dan yr adran hon] [F10cynllun gofal a chymorth] yr un pryd ag y mae ef neu gorff arall yn llunio, adolygu neu ddiwygio dogfen arall yn achos y plentyn o dan sylw, a

(b)cynnwys y ddogfen arall yn y cynllun.

(9)Caniateir i unrhyw ran o [F11gynllun a gynhelir o dan yr adran hon] [F11gynllun gofal a chymorth] sy’n bodloni’r gofynion a osodir gan neu o dan adran 31A o Ddeddf Plant 1989 gael ei thrin at ddibenion y Ddeddf honno fel cynllun a lunnir o dan adran 31A o’r Ddeddf honno.

[F12(10)Mae cyfeiriadau yn is-adrannau (2A) i (9) at gynllun gofal a chymorth i’w dehongli fel cyfeiriadau at gynllun gofal a chymorth a lunnir neu a gynhelir o dan yr adran hon.]

Diwygiadau Testunol

F2A. 83(2A)-(2D) wedi ei fewnosod (2.11.2020 at ddibenion penodedig, 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 16(2), 100(3); O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(a); O.S. 2021/373, ergl. 8(za) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(5)(a))

F3Geiriau yn a. 83(3) wedi eu hamnewid (2.11.2020 at ddibenion penodedig, 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 16(3), 100(3); O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(a); O.S. 2021/373, ergl. 8(za) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(5)(a))

F4Geiriau yn a. 83(4) wedi eu hamnewid (2.11.2020 at ddibenion penodedig, 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 16(4), 100(3); O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(a); O.S. 2021/373, ergl. 8(za) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(5)(a))

F5Geiriau yn a. 83(5) wedi eu mewnosod (2.11.2020 at ddibenion penodedig, 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 16(5)(a), 100(3); O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(a); O.S. 2021/373, ergl. 8(za) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(5)(a))

F6Geiriau yn a. 83(5)(a) wedi eu hamnewid (2.11.2020 at ddibenion penodedig, 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 16(5)(b), 100(3); O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(a); O.S. 2021/373, ergl. 8(za) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(5)(a))

F7Geiriau yn a. 83(5)(b) wedi eu hamnewid (2.11.2020 at ddibenion penodedig, 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 16(5)(c), 100(3); O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(a); O.S. 2021/373, ergl. 8(za) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(5)(a))

F8Geiriau yn a. 83(5)(c) wedi eu hamnewid (2.11.2020 at ddibenion penodedig, 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 16(5)(d), 100(3); O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(a); O.S. 2021/373, ergl. 8(za) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(5)(a))

F9Geiriau yn a. 83(7) wedi eu hamnewid (2.11.2020 at ddibenion penodedig, 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 16(6), 100(3); O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(a); O.S. 2021/373, ergl. 8(za) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(5)(a))

F10Geiriau yn a. 83(8)(a) wedi eu hamnewid (2.11.2020 at ddibenion penodedig, 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 16(7), 100(3); O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(a); O.S. 2021/373, ergl. 8(za) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(5)(a))

F11Geiriau yn a. 83(9) wedi eu hamnewid (2.11.2020 at ddibenion penodedig, 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 16(8), 100(3); O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(a); O.S. 2021/373, ergl. 8(za) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(5)(a))

F12A. 83(10) wedi ei fewnosod (2.11.2020 at ddibenion penodedig, 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 16(9), 100(3); O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(a); O.S. 2021/373, ergl. 8(za) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(5)(a))

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 83 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I12A. 83 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

84Rheoliadau ynghylch cynlluniau gofal a chymorthLL+C

Caiff rheoliadau o dan adran 83, er enghraifft—

(a)ei gwneud yn ofynnol bod cynlluniau ar ffurf benodedig;

(b)ei gwneud yn ofynnol bod cynlluniau yn cynnwys pethau penodedig;

(c)gwneud darpariaeth ynghylch personau pellach y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cynnwys yn y broses o lunio, adolygu neu ddiwygio cynlluniau;

(d)ei gwneud yn ofynnol bod cynlluniau’n cael eu llunio, eu hadolygu neu eu diwygio gan bersonau penodedig;

(e)rhoi swyddogaethau i bersonau a bennir yn y rheoliadau mewn cysylltiad ag adolygu neu ddiwygio cynlluniau;

(f)pennu personau y mae’n rhaid darparu copïau ysgrifenedig o gynllun ar eu cyfer (gan gynnwys, mewn achosion penodedig, darparu copïau heb gydsyniad y person y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef);

(g)pennu’r amgylchiadau pellach y mae’n rhaid adolygu’r cynlluniau odanynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 84 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I14A. 84 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

85Cyfraniadau tuag at gynhaliaeth plant sy’n derbyn gofalLL+C

Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfraniadau tuag at gynhaliaeth plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 85 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I16A. 85 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

[F1486Cartrefi F13... sy’n cael eu darparu, eu cyfarparu a’u cynnal gan Weinidogion CymruLL+C

Pan fo awdurdod lleol yn lleoli plentyn y mae’n gofalu amdano mewn cartref F13 ... y mae Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol yn ei ddarparu, ei gyfarparu ac yn ei gynnal o dan adran 82(5) o Ddeddf Plant 1989, rhaid iddo wneud hynny ar y telerau a’r amodau a ddyfernir o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol (yn ôl y digwydd).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 86 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I18A. 86 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan

Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni

Y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill