Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 3

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, ATODLEN 3. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

(a gyflwynir gan adran 57)

ATODLEN 3LL+CDARPARIAETHAU PELLACH YNGHYLCH GORCHMYNION SY’N YMWNEUD Â THIR COMIN

This Atodlen has no associated Nodiadau Esboniadol

Dyletswydd i ymgynghori â gwarchodwyrLL+C

1Cyn gwneud gorchymyn o dan adran 57(2) o ran tir sy’n dir comin neu sy’n ffurfio rhan o dir comin y mae gwarchodwyr wedi eu penodi iddo o dan unrhyw Ddeddf leol, neu o dan unrhyw orchymyn a wnaed o dan Ddeddf Seneddol, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r gwarchodwyr.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(e) (ynghyd ag ergl. 4)

Y weithdrefn ynglŷn â gwneud gorchmynion sy’n gosod gwaharddiadauLL+C

2Cyn gwneud unrhyw orchymyn o dan adran 57(2), heblaw gorchymyn ei unig effaith yw dirymu neu amrywio gorchymyn blaenorol, rhaid i’r awdurdod lleol gyhoeddi mewn 1 neu ragor o bapurau newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal y mae’r tir wedi ei leoli ynddi hysbysiad—

(a)sy’n datgan effaith gyffredinol y gorchymyn,

(b)sy’n pennu lle yn yr ardal honno lle y gall unrhyw berson edrych ar gopi o’r gorchymyn drafft yn rhad ac am ddim ar bob adeg resymol yn ystod cyfnod o 28 o ddiwrnodau o ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad am y tro cyntaf, ac

(c)sy’n datgan y caiff unrhyw berson wrthwynebu gwneud y gorchymyn, o fewn y cyfnod hwnnw, drwy hysbysiad i’r awdurdod lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I4Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(e) (ynghyd ag ergl. 4)

3(1)Heb fod yn hwyrach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad o dan baragraff 2 am y tro cyntaf, rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno copi ohono i bob person sydd â hawl fel arglwydd y maenor neu fel arall i bridd y tir oni bai bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y personau sydd â hawl i bridd y tir yn niferus neu ei fod ar ôl ymholi’n ddiwyd yn methu eu canfod.

(2)Caniateir i hysbysiad o dan is-baragraff (1) gael ei gyflwyno i unrhyw berson drwy ei anfon mewn llythyr cofrestredig wedi ei gyfeirio at y person yng nghyfeiriad arferol neu gyfeiriad hysbys diweddaraf y person.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I6Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(e) (ynghyd ag ergl. 4)

4(1)Os bydd gwrthwynebiad i wneud y gorchymyn y mae’r hysbysiad yn cyfeirio ato wedi ei wneud yn y modd priodol i’r awdurdod lleol gan unrhyw beron sydd â hawl i bridd y tir cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad y cyhoeddir hysbysiad o dan baragraff 2 am y tro cyntaf, ac nad yw’r hysbysiad yn cael ei dynnu’n ôl wedyn, rhaid i’r awdurdod lleol beidio â bwrw ymlaen i wneud y gorchymyn.

(2)Yn ddarostyngedig i hynny, caiff yr awdurdod lleol, ar unrhyw adeg o fewn 1 flwyddyn ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, wneud gorchymyn yn nhelerau’r gorchymyn drafft.

(3)Ond os cafodd unrhyw wrthwynebiad i wneud y gorchymyn ei wneud yn y modd priodol o fewn y cyfnod hwnnw gan person a oedd heb hawl i bridd y tir, ac nad yw’r gwrthwynebiad wedi ei dynnu’n ôl ar y dyddiad y gwneir y gorchymyn, nid yw’r gorchymyn yn effeithiol hyd nes ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru.

(4)Os bydd yr awdurdod lleol yn cyflwyno gorchymyn i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau, rhaid iddo anfon copi at Weinidogion Cymru o bob gwrthwynebiad o’r fath y cyfeirir ato yn is-baragraff (3).

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried pob gwrthwynebiad o’r fath ac (os ydynt yn gweld yn dda) ar ôl peri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal, gadarnhau neu wrthod cadarnhau’r gorchymyn ac, os byddant yn ei gadarnhau, cânt wneud hynny yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau y maent yn credu eu bod yn ddymunol (os oes addasiadau o gwbl).

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 3 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I8Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(e) (ynghyd ag ergl. 4)

Hysbysu gorchmynion eraill i arglwyddi maenorauLL+C

5Os unig effaith gorchymyn o dan adran 57(2) yw dirymu neu amrywio gorchymyn blaenorol (fel nad yw paragraffau 2 i 4 yn gymwys o ran gwneud y gorchymyn) rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno unrhyw hysbysiadau, a chymryd unrhyw gamau eraill, y mae’n ymddangos iddo eu bod yn briodol i roi gwybod i’r personau sydd â hawl i bridd y tir am effaith y gorchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 3 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I10Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(e) (ynghyd ag ergl. 4)

Tir y GoronLL+C

6(1)Pan fwriedir gwneud gorchymyn o’r math a ddisgrifir ym mharagraff 2 o ran tir y mae buddiant ynddo gan y Goron neu Ddugaeth, a bod natur y buddiant yn golygu y byddai gan y person y mae’r buddiant yn perthyn iddo, heblaw am y paragraff hwn, hawl o dan baragraff 3 i gael copi o’r hysbysiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw—

(a)mae paragraff 3 yn effeithiol fel pe bai’n ei gwneud yn ofynnol i’r copi gael ei gyflwyno yn hytrach i’r awdurdod priodol, a

(b)nid yw paragraff 4(1) yn gymwys o ran y gorchymyn ond rhaid i’r awdurdod lleol beidio â gwneud y gorchymyn hyd nes ac oni bai ei fod wedi sicrhau cydsyniad ysgrifenedig yr awdurdod priodol.

(2)Yn y paragraff hwn ystyr “buddiant gan y Goron neu Ddugaeth” yw buddiant sy’n perthyn i’w Mawrhydi yn rhinwedd hawl y Goron neu hawl Dugaeth Caerhirfryn, neu sy’n perthyn i Ddugaeth Cernyw, neu sy’n perthyn i adran o’r llywodraeth, neu sy’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth i’w Mawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth.

(3)Yn y paragraff hwn ystyr “yr awdurdod priodol”—

(a)o ran tir sy’n perthyn i’w Mawrhydi yn rhinwedd hawl y Goron ac sy’n ffurfio rhan o Ystâd y Goron, yw Comisiynwyr Ystâd y Goron, ac, o ran unrhyw dir arall sy’n perthyn i’w Mawrhydi yn rhinwedd hawl y Goron, yw’r adran o’r llywodraeth sy’n rheoli’r tir hwnnw,

(b)o ran tir sy’n perthyn i’w Mawrhydi yn rhinwedd hawl Dugaeth Caerhirfryn, yw Canghellor y Ddugaeth,

(c)o ran tir sy’n perthyn i Ddugaeth Cernyw, yw unrhyw berson y mae Dug Cernyw, neu berchennog Dugaeth Cernyw am y tro, yn ei benodi, a

(d)o ran tir sy’n perthyn i adran o’r llywodraeth neu sy’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth i’w Mawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth, yw’r adran honno.

(4)Os bydd unrhyw gwestiwn yn codi o ran pa awdurdod yw’r awdurdod priodol o ran unrhyw dir, mae’r cwestiwn hwnnw i’w gyfeirio at y Trysorlys, sydd biau’r penderfyniad terfynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 3 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I12Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(e) (ynghyd ag ergl. 4)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill