Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “addysg bellach” yr ystyr a roddir i “further education” yn adran 2(3) o Ddeddf 1996;

mae i “addysg uwchradd” yr ystyr a roddir i “secondary education” yn adran 2(2) o Ddeddf 1996;

mae i “awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “local authority” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996(1);

mae i “busnes cyflogi” yr ystyr a roddir i “employment business” yn adran 13(3) o Ddeddf Asiantaethau Cyflogi 1973(2);

mae “cadeirydd” (“chair”), fel cyfeiriad at gadeirydd yr ysgol annibynnol, yn gyfeiriad at unigolyn sy’n gadeirydd corff o bersonau corfforedig neu anghorfforedig sydd wedi ei enwi fel perchennog yr ysgol annibynnol yn y gofrestr neu mewn cais i gynnwys yr ysgol annibynnol yn y gofrestr, ac mae’n cynnwys cyfeiriad at swyddog tebyg;

ystyr “y Confensiwn” (“the Convention”) yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a fabwysiadwyd ac a agorwyd i’w lofnodi, ei gadarnhau a’i gytuno gan benderfyniad y Cynulliad Cyffredinol 44/25 dyddiedig 20 Tachwedd 1989(3)

mae i “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yr ystyr a roddir yn adran 10 o Ddeddf 2018;

ystyr “datganiad” (“statement”) yw datganiad anghenion addysgol arbennig a wneir o dan adran 324(1)(4) o Ddeddf 1996;

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989(5);

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(6);

ystyr “Deddf 1997” (“the 1997 Act”) yw Deddf yr Heddlu 1997(7);

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(8);

ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Addysg a Sgiliau 2008(9);

ystyr “Deddf 2010” (“the 2010 Act”) yw Deddf Cydraddoldeb 2010(10);

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014(11);

ystyr “Deddf 2018” (“the 2018 Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(12);

mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3(1) o Ddeddf 1996(13);

mae i “disgybl cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered pupil” yn adran 434(5) o Ddeddf 1996;

ystyr “disgybl sy’n byrddio” (“boarder”) yw disgybl y mae ysgol annibynnol yn darparu llety ar ei gyfer, pa un a yw’r disgybl yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol annibynnol honno ai peidio;

ystyr “y gofrestr” (“theregister”) yw’r gofrestr o ysgolion annibynnol a gedwir gan yr awdurdod cofrestru o dan adran 158(3)(14) o Ddeddf 2002;

ystyr “gorchymyn atal dros dro” (“suspension order”) yw gorchymyn a wneir gan Gyngor y Gweithlu Addysg o dan adran 26(5) o Ddeddf 2014 ac sy’n cael yr effaith a ddisgrifir yn adran 30(2) a (3) o’r Ddeddf honno;

mae i “gorchymyn atal dros dro interim” (“interim suspension order”) yr ystyr a roddir yn erthygl 2 o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Gorchmynion Atal Dros Dro Interim) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2021(15);

ystyr “gorchymyn gwahardd” (“prohibition order”) yw gorchymyn a wneir gan Gyngor y Gweithlu Addysg o dan adran 26(5) o Ddeddf 2014 ac sy’n cael yr effaith a ddisgrifir yn adran 31(2) a (3) o’r Ddeddf honno neu, yn ôl y digwydd, mae iddo’r ystyr a roddir i “prohibition order” yn adran 141B(4)(16) o Ddeddf 2002;

mae i “gorchymyn gwahardd interim” yr ystyr a roddir i “interim prohibition order” yn adran 141C(7)(17) o Ddeddf 2002;

ystyr “gwasanaeth diweddaru’r GDG” (“DBS up-date service”) yw’r gwasanaeth a weithredir gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd sy’n darparu gwybodaeth ddiweddaru berthnasol o fewn yr ystyr a roddir i “up-date information” yn adran 116A(8)(b)(i)(18) neu 116A(8)(c)(i) o Ddeddf 1997;

mae i “llesiant” (“well-being”) yr ystyr a roddir yn adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

ystyr “llety byrddio” (“boarding accommodation”) yw llety dros nos a drefnir neu a ddarperir gan yr ysgol annibynnol yn yr ysgol annibynnol neu yn rhywle arall, ac eithrio llety ar gyfer disgyblion sy’n cael eu lletya i ffwrdd o fangre’r ysgol annibynnol yn ystod trip ysgol;

mae i “mangre” yr ystyr a roddir i “premises” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996(19);

mae i “perchennog” yr ystyr a roddir i “proprietor” yn adran 579(1)(20) o Ddeddf 1996;

mae i “Prif Arolygydd” yr ystyr a roddir i “Chief Inspector” yn adran 171(21) o Ddeddf 2002;

ystyr “y rheoliadau mangreoedd ysgolion” (“the school premises regulations”) yw rheoliadau sydd wedi eu gwneud o dan adran 542(1) o Ddeddf 1996(22);

mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” yn adran 576 o Ddeddf 1996(23);

ystyr “y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Arbennig Preswyl(24)” (“the National Minimum Standards for Residential Special Schools”) yw’r datganiad o safonau gofynnol cenedlaethol a gyhoeddir o dan y teitl hwnnw o dan adran 87C(1) o Ddeddf 1989;

ystyr “y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Preswyl y Brif Ffrwd(25)” (“the National Minimum Standards for Boarding Schools”) yw’r datganiad o safonau gofynnol cenedlaethol a gyhoeddir o dan y teitl hwnnw o dan adran 87C(1)(26) o Ddeddf 1989;

ystyr “staff” (“staff”) yw unrhyw berson sy’n gweithio yn yr ysgol annibynnol pa un ai o dan gontract cyflogaeth, o dan gontract am wasanaethau neu o dan gontract fel arall, ond nid yw’n cynnwys staff cyflenwi na gwirfoddolwyr;

ystyr “staff cyflenwi” (“supply staff”) yw unrhyw berson sy’n gweithio yn yr ysgol annibynnol, a gyflenwir gan fusnes cyflogi;

mae i “sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol” (“looked after by a local authority”) yr ystyr a roddir yn adran 74(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(27) neu, yn ôl y digwydd, yn adran 22(1) o Ddeddf 1989(28);

ystyr “tystysgrif GDG” (“DBS certificate”) yw tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir o dan adran 113B(1)(29) o Ddeddf 1997, sy’n cynnwys, mewn unrhyw achosion a ragnodir o bryd i’w gilydd o dan adran 113BA(1) o’r Ddeddf honno, wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant;

mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr ystyr a roddir yn adran 99(1) o Ddeddf 2018(30);

mae i “ysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent school” yn adran 463 o Ddeddf 1996(31);

ystyr “ysgol annibynnol gofrestredig” (“registered independent school”) yw ysgol annibynnol y mae ei henw wedi ei gofnodi yn y gofrestr.

(2Yn y Rheoliadau hyn, pan fo “rhoi ar gael” wybodaeth neu ddogfen yn elfen o safon, mae’r elfen honno o’r safon wedi ei chyrraedd—

(a)mewn achos pan fo gan yr ysgol annibynnol wefan—

(i)os yw’r wybodaeth neu gopi o’r ddogfen ar gael ar y wefan ar ffurf sy’n hygyrch i ddisgyblion, rhieni disgyblion a rhieni darpar ddisgyblion a bod yr wybodaeth neu’r copi o’r ddogfen ar gael ym mangre’r ysgol annibynnol er mwyn iddynt edrych ar yr wybodaeth neu’r copi o’r ddogfen yn ystod y diwrnod ysgol, a

(ii)os yw’r perchennog yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod disgyblion, rhieni disgyblion a rhieni darpar ddisgyblion yn ymwybodol bod yr wybodaeth neu gopi o’r ddogfen ar gael ac ar ba ffurf y mae’r wybodaeth neu’r copi ar gael,

(b)mewn achos pan fo gan yr ysgol annibynnol wefan ond nad yw’r wybodaeth na chopi o’r ddogfen ar gael ar y wefan, neu pan na fo gan yr ysgol annibynnol wefan—

(i)os yw’r perchennog yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod disgyblion, rhieni disgyblion a rhieni darpar ddisgyblion yn cael gwybod y cânt ofyn am yr wybodaeth neu am gopi o’r ddogfen, a

(ii)os anfonir yr wybodaeth neu gopi o’r ddogfen am ddim at ddisgyblion neu rieni o’r fath, neu os rhoddir yr wybodaeth neu gopi o’r ddogfen am ddim iddynt, a hynny mewn ymateb i gais am yr wybodaeth neu gopi o’r ddogfen.

(3Yn y Rheoliadau hyn, pan fo “darparu” gwybodaeth neu ddogfen i berson yn elfen o safon, mae’r elfen honno o’r safon wedi ei chyrraedd—

(a)pan fo’r person wedi rhoi cyfeiriad e-bost i’r ysgol annibynnol, drwy anfon i’r cyfeiriad hwnnw—

(i)yr wybodaeth neu gopi o’r ddogfen ar ffurf electronig, neu

(ii)cyfeiriad gwefan lle y gall y person lawrlwytho’r wybodaeth neu gopi o’r ddogfen,

ac yn yr achos hwn rhaid i’r wybodaeth neu gopi o’r ddogfen fod ar gael ym mangre’r ysgol annibynnol er mwyn i’r person edrych ar yr wybodaeth neu’r copi o’r ddogfen yn ystod y diwrnod ysgol, neu

(b)drwy anfon yr wybodaeth neu gopi o’r ddogfen at y person neu drwy roi’r wybodaeth neu gopi o’r ddogfen iddo.

(4At ddibenion paragraffau 20(2)(e), 21(2)(a)(i)(bb), 22(3)(b), (5)(b) a (6)(b)(i) o’r Atodlen, nid yw tystysgrif GDG neu wiriad gwasanaeth diweddaru’r GDG ond yn berthnasol pan fo unigolyn yn cymryd rhan, neu pan fydd yn cymryd rhan, mewn—

(a)gweithgaredd rheoleiddiedig o fewn yr ystyr a roddir i “regulated activity” yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Ddeddf 2006, neu

(b)gweithgaredd rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “regulated activity” yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Ddeddf 2006 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn i adran 64 o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 ddod i rym.

(1)

Amnewidiwyd y diffiniad o “local authority” gan erthygl 3(1) a (2)(b) o O.S. 2010/1158.

(3)

Cyfres Cytuniadau Rhif 44 (1992) Cm 1976.

(4)

Diwygiwyd adran 324(1) gan erthygl 5(1) o O.S. 2010/1158 a pharagraff 7(1) a (2) o Atodlen 2 iddo.

(13)

Diwygiwyd adran 3(1) gan adran 57(1) o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44) a pharagraff 9 o Atodlen 7 iddi.

(14)

Diwygiwyd adran 158(3) gan adran 169(1) o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25) a pharagraffau 13 a 17(b) o Atodlen 1 iddi.

(16)

Mewnosodwyd adran 141B yn Neddf Addysg 2002 (p. 32) gan adran 8(1) o Ddeddf Addysg 2011 (p. 21).

(17)

Mewnosodwyd adran 141C yn Neddf Addysg 2002 (p. 32) gan adran 8(1) o Ddeddf Addysg 2011 (p. 21).

(18)

Mewnosodwyd adran 116A gan adran 83 o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9) ac fe’i diwygiwyd gan erthyglau 36 a 37(g) o O.S. 2012/3006.

(19)

Mae adran 579(1) wedi ei diwygio ond nid yw’r diwygiadau hynny yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(20)

Diwygiwyd y diffiniad o “proprietor” gan adran 140(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31) a pharagraff 183(a)(iii) o Atodlen 30 iddi. Mae offerynnau diwygio eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(21)

Diwygiwyd adran 171 gan adran 169 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25) a pharagraffau 13 a 24(1), (2)(a) a 2(b) o Atodlen 1, ac Atodlen 2 iddi. Mae diwygiadau eraill i adran 171 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(22)

Diwygiwyd adran 542(1) gan erthygl 5(1) o Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158) a pharagraff 7(1) a (3) o Ran 1 o Atodlen 2 iddo, a chan adran 140(1) a (3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 158(a) o Atodlen 30, ac Atodlen 31, i’r Ddeddf honno. Y Rheoliadau cyfredol yw Rheoliadau Addysg (Mangreoedd Ysgolion) 1999 (O.S. 1999/2) a ddiwygiwyd gan O.S. 2010/1142 (Cy. 101) ac O.S. 2012/1943.

(23)

Diwygiwyd adran 576 gan adran 140(1) a (3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31) a pharagraff 180 o Atodlen 30, ac Atodlen 31, i’r Ddeddf honno.

(24)

ISBN 0 7504 3076 1.

(25)

ISBN 0 7504 3077 X.

(26)

Mewnosodwyd adran 87C gan adran 107 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p. 14). Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(28)

Diwygiwyd adran 22(1) gan adran 107 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22) a pharagraff 19 o Atodlen 5 iddi, adran 2(1) a (2) o Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p. 35) ac adran 116(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p. 38). Fe’i diwygiwyd hefyd gan reoliadau 55 a 69(a) o O.S. 2016/413.

(29)

Mewnosodwyd adran 113B yn Neddf yr Heddlu 1997 (p. 50) gan adran 163(2) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15). Diwygiwyd adran 113B(1) gan erthyglau 36 a 37(c) o O.S. 2012/3006, gan adrannau 97(2) a 112(2) o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 (p. 26) a Rhan 8 o Atodlen 8 iddi, a chan adran 80(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9).

(30)

Mae adran 99(1) wedi ei diwygio ond nid yw’r diwygiadau hynny yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(31)

Amnewidiwyd adran 463 gan adran 172 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32). Diwygiwyd is-adran (1) gan adran 26 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2) a pharagraff 4 o Atodlen 1 iddi, a chan O.S. 2010/1158 ac O.S. 2016/413 (Cy. 131). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill