- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) At ddibenion adran 46A(1) o Ddeddf 1984, mae’r gweithgareddau a ganlyn wedi eu rhagnodi’n weithgaredd cyfyngedig—
(a)pan gyflwynir cynlluniau sy’n ymwneud ag unrhyw waith adeiladu i awdurdod lleol o dan unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliadau 2010, gwirio bod y cynlluniau hynny yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad yn y rheoliadau adeiladu(1) sy’n gymwys i’r gwaith adeiladu hwnnw;
(b)pan fo arolygiad o waith adeiladu i’w gynnal gan awdurdod lleol at ddiben gwirio y cydymffurfir ag unrhyw ofyniad yn y rheoliadau adeiladu sy’n gymwys i’r gwaith, cynnal yr arolygiad hwnnw ac amserlennu’r camau neu’r pwyntiau ar gyfer arolygiadau.
(2) At ddibenion adran 46A(2) o Ddeddf 1984, mae’r swyddogaethau a ganlyn wedi eu rhagnodi’n swyddogaeth gyfyngedig—
(a)penderfynu cais am gyfarwyddyd o dan adran 8 o Ddeddf 1984 (llacio rheoliadau adeiladu);
(b)pasio neu wrthod cynlluniau o dan adran 16 o Ddeddf 1984 (pasio neu wrthod cynlluniau) gan gynnwys arfer, mewn perthynas â’r cynlluniau hynny, bŵer yn—
(i)adran 19(1) o Ddeddf 1984 (defnyddio deunyddiau byrhoedlog),
(ii)adran 21(4) o Ddeddf 1984 (darparu draenio), neu
(iii)adran 25(1) o Ddeddf 1984 (darparu cyflenwad dŵr);
(c)pennu cyfnod y mae rhaid cael gwared ar adeilad neu waith adeiladu pan fo’r cyfnod hwnnw yn dod i ben, estyn y cyfnod hwnnw, gosod amodau mewn perthynas ag adeilad neu amrywio’r amodau hynny, o dan adran 19(2) neu (3) o Ddeddf 1984 (defnyddio deunyddiau byrhoedlog);
(d)ei gwneud yn ofynnol i adeilad gael ei ddraenio ar y cyd o dan adran 22 o Ddeddf 1984 (draenio adeiladau ar y cyd);
(e)rhoi cydsyniad o dan adran 23 o Ddeddf 1984 (darparu cyfleusterau ar gyfer sbwriel);
(f)rhoi hysbysiad neu roi tystysgrif o dan adran 25(3) o Ddeddf 1984 (darparu cyflenwad dŵr);
(g)arfer unrhyw bŵer o dan adran 33 o Ddeddf 1984 (profion i ganfod a gydymffurfir â rheoliadau adeiladu);
(h)penderfynu, at ddibenion adran 35 o Ddeddf 1984 (cosb am dorri rheoliadau adeiladu), a yw darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn rheoliadau adeiladu wedi ei thorri;
(i)rhoi hysbysiad adran 36(2) neu benderfynu tynnu i lawr neu gael gwared ar waith neu wneud addasiadau iddo fel y’i tybir yn angenrheidiol o dan adran 36(3) o Ddeddf 1984 (cael gwared ar waith tramgwyddus neu ei addasu);
(j)penderfynu a ddylid tynnu hysbysiad adran 36 yn ôl pan roddir adroddiad ysgrifenedig o dan adran 37(1)(a) o Ddeddf 1984 (cael adroddiad pan roddir hysbysiad adran 36);
(k)rhoi hysbysiad canslo o dan adran 52A(4) o Ddeddf 1984 (canslo hysbysiad cychwynnol pan fo gwaith yn dod yn waith adeilad risg uwch)(3);
(l)rhoi tystysgrif gwblhau o dan reoliad 17 o Reoliadau 2010 (tystysgrifau cwblhau);
(m)rhoi tystysgrif gwblhau o dan reoliad 17A o Reoliadau 2010 (tystysgrif ar gyfer adeilad a feddiennir cyn cwblhau’r gwaith)(4);
(n)penderfynu, pan fo rheoliad 18 o Reoliadau 2010 (gwaith adeiladu anawdurdodedig) yn gymwys—
(i)a ganiateir rhoi tystysgrif unioni o dan reoliad 18 o Reoliadau 2010;
(ii)a oes angen cymryd unrhyw gamau rhesymol o dan reoliad 18(3) o Reoliadau 2010;
(o)penderfynu, pan fo rheoliad 19(1) o’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy (gwaith sydd wedi ei gwblhau yn rhannol) yn gymwys—
(i)a yw cynlluniau a roddwyd o dan reoliad 19(2)(a) o’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy yn ddigonol i ddangos na fyddai’r gwaith a fwriedir yn torri unrhyw ofyniad yn Rheoliadau 2010;
(ii)a ddylai fod yn ofynnol i berchennog, mewn perthynas ag unrhyw ran o’r gwaith, dorri i mewn iddo, ei agor neu ei dynnu i lawr o dan reoliad 19(2)(b) o’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy.
Gweler y diffiniad o “building regulations” yn adran 122 o Ddeddf 1984.
Gweler y diffiniad o “section 36 notice” yn adran 36(4) o Ddeddf 1984.
Mewnosodwyd adran 52A yn Neddf 1984 gan adran 46 o Ddeddf 2022.
Mewnosodwyd rheoliad 17A yn Rheoliadau Adeiladu 2010 (O.S. 2010/2214) gan O.S. 2012/3119.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys