- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
67.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo atebolrwydd yn ddyledus gan y rheolwr cynllun i dalu digollediad i berson (“P”) o dan adran 16(3) o DPGCSB 2022.
(2) Rhaid i’r rheolwr cynllun hysbysu P, drwy hysbysiad yn ysgrifenedig—
(a)am hawlogaeth P o dan adran 16(3) o DPGCSB 2022,
(b)y bydd P, os yw, maes o law, yn gwneud dewisiad adran 10 ar gyfer buddion cynllun 2015, yn agored i ad-dalu swm cyfwerth i’r hyn a gafwyd yn ddigollediad yn unol ag adran 16(3) o DPGCSB 2022, gyda llog a gyfrifir yn unol â’r Rhan hon, ac
(c)y gall P gytuno â’r rheolwr cynllun i hepgor atebolrwydd y rheolwr cynllun.
(3) Rhaid i’r rheolwr cynllun gytuno i hepgor yr atebolrwydd—
(a)os gwna P gais ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun i hepgor yr atebolrwydd, a
(b)os gwneir cais o’r fath o fewn 12 mis i ddyroddi hysbysiad o dan baragraff (2).
(4) O ran cytundeb o’r fath—
(a)rhaid ei wneud yn ysgrifenedig, a
(b)caniateir ei ddad-wneud â chytundeb y rheolwr cynllun a P.
(5) Os na wneir cytundeb o dan baragraff (4), mae hawlogaeth P i hepgor yr atebolrwydd yn darfod.
(6) Mae cytundeb o dan baragraff (4) yn cael ei ddad-wneud neu fel arall yn peidio â bod yn gymwys—
(a)pan fo diwedd y cyfnod dewisiad adran 10 mewn perthynas â P wedi mynd heibio, a
(b)pan nad oes dewisiad dewis gohiriedig wedi ei wneud, neu pan fernir nad yw wedi ei wneud, mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol P.
(7) Pan na wneir cytundeb yn unol â pharagraff (4) neu pan fo cytundeb yn cael ei ddad-wneud neu fel arall yn peidio â bod yn gymwys, mae’r atebolrwydd a grybwyllir ym mharagraff (1) yn ddyledus gan y rheolwr cynllun i P.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys