- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
14.—(1) Caniateir gwneud penderfyniad (“penderfyniad dewis gohiriedig”) yn unol â’r Bennod hon—
(a)i wneud dewisiad (“dewisiad adran 10”) yn rhinwedd adran 10 o DPGCSB 2022 mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, neu
(b)nad oes dewisiad adran 10 i’w wneud mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw.
(2) Caniateir i benderfyniad dewis gohiriedig gael ei wneud—
(a)gan A, neu
(b)pan fo A yn ymadawedig, gan y penderfynwr cymwys a benderfynir yn unol â’r Atodlen.
(3) Pan y rheolwr cynllun yw’r penderfynwr cymwys, rhaid iddo wneud dewisiad ar gyfer buddion cynllun 2015 mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(4) Mae penderfyniad dewis gohiriedig wedi ei wneud pan roddir gwybod amdano yn ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun a’i fod yn ei gael.
(5) Ni chaniateir gwneud penderfyniad dewis gohiriedig ond cyn diwedd y cyfnod dewisiad adran 10.
(6) Mae penderfyniad dewis gohiriedig i wneud dewisiad adran 10 yn cael effaith fel dewisiad adran 10 (gweler adrannau 10(4) a (5), 11(3)(b) a (4) a (7) a 13 o DPGCSB 2022 ynghylch effaith dewisiad adran 10).
(7) Pan mai’r penderfyniad dewis gohiriedig yw nad oes dewisiad adran 10 i’w wneud, buddion cynllun gwaddol yw’r buddion sy’n daladwy i A neu mewn cysylltiad ag A, i’r graddau y’u canfyddir drwy gyfeirio at wasanaeth rhwymedïol A.
(8) Mae’r darpariaethau a ganlyn o DPGCSB 2022 yn cael effaith mewn perthynas â phenderfyniad nad oes dewisiad adran 10 i’w wneud fel y maent yn cael effaith mewn perthynas â dewisiad adran 10—
(a)adran 10(5) (dewisiad adran 10 yn cael effaith mewn cysylltiad â phob gwasanaeth rhwymedïol yn y gyflogaeth neu’r swydd);
(b)adran 11(3)(b), (4) a (7) (darpariaeth ynghylch pryd y mae dewisiad adran 10 yn cael effaith, ac effaith dewisiad adran 10 yn darfod neu’n cael ei ddirymu);
(c)adran 13 (darpariaeth ynghylch personau a chanddynt wasanaeth rhwymedïol mewn mwy nag un cynllun gwaddol Pennod 1).
(9) Nid oes unrhyw fuddion yn daladwy o dan y cynllun gwaddol mewn cysylltiad â gwasanaeth pensiynadwy A o dan y cynllun hwnnw oni bai—
(a)bod penderfyniad dewis gohiriedig wedi ei wneud mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A,
(b)y bernir bod dewisiad adran 10 wedi ei wneud o dan reoliad 18 mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw, neu
(c)bod paragraff (10) yn gymwys.
(10) Pan fo A yn ymadawedig, caiff y rheolwr cynllun, cyn i benderfyniad dewis gohiriedig gael ei wneud, neu cyn y bernir bod dewisiad adran 10 wedi ei wneud, mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, dalu i unrhyw berson (“y buddiolwr”) sydd, neu a fydd, â hawlogaeth i gael buddion marwolaeth mewn perthynas â gwasanaeth pensiynadwy A y lleiaf o—
(a)unrhyw fuddion cyfandaliad neu fuddion pensiwn eraill y byddai gan y buddiolwr hawlogaeth iddynt os gwneir dewisiad adran 10, neu os bernir ei fod wedi ei wneud, mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, neu
(b)unrhyw fuddion cyfandaliad neu fuddion pensiwn eraill y byddai gan y buddiolwr hawlogaeth iddynt os na wneir dewisiad adran 10, neu os bernir nad yw wedi ei wneud, mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A.
(11) Pan fo, ar yr adeg weithredol—
(a)cyfanswm y buddion cyfandaliad neu’r buddion pensiwn sydd wedi eu talu yn unol â pharagraff (10) i fuddiolwr yn llai na
(b)cyfanswm y buddion cyfandaliad neu’r buddion pensiwn y mae gan y buddiolwr (ar ôl ystyried effaith paragraff (7) o’r rheoliad hwn neu adran 10(4) o DPGCSB 2022, os oes effaith iddo neu iddi) hawlogaeth iddynt o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân mewn cysylltiad â gwasanaeth pensiynadwy A,
rhaid i’r rheolwr cynllun dalu swm sy’n hafal i’r gwahaniaeth i’r buddiolwr.
(12) Ym mharagraff (11), ystyr “yr adeg weithredol” yw—
(a)os—
(i)gwneir penderfyniad dewis gohiriedig, neu
(ii)bernir bod dewisiad adran 10 wedi ei wneud,
mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, yr adeg y gwneir y penderfyniad neu’r dewisiad;
(b)fel arall, ddiwedd y cyfnod dewisiad adran 10 mewn perthynas ag A.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys