- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
41.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phob aelod (“A”) y talwyd gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol mewn cysylltiad ag ef gan y rheolwr cynllun cyn 1 Hydref 2023.
(2) Rhaid i’r rheolwr cynllun, ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, gyfrifo’r symiau a ganlyn—
(a)gwerth trosglwyddiad clwb hawliau A o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân fel pe bai hawliau rhwymedïol A wedi eu sicrhau yng nghynllun gwaddol A;
(b)gwerth trosglwyddiad clwb hawliau A o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân fel pe bai hawliau rhwymedïol A wedi eu sicrhau yng nghynllun 2015.
(3) Rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu i’r cynllun sy’n derbyn ganlyniad y cyfrifiadau a grybwyllir ym mharagraff (2).
(4) Pan fo’r cynllun sy’n derbyn yn gynllun llywodraeth leol o fewn ystyr “local government scheme” yn adran 89(1) o DPGCSB 2022, ac
(a)bod y mwyaf o’r symiau a gyfrifwyd o dan baragraff (2) (“x”) yn fwy na
(b)swm y gwerth trosglwyddo rhwymedïol (“y”),
rhaid i’r rheolwr cynllun dalu i’r cynllun sy’n derbyn swm sy’n hafal i x - y.
(5) Mae taliad a wneir o dan baragraff (4) yn ddarostyngedig i’r un amodau â’r gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol.
42.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phob gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol mewn cysylltiad ag aelod (“A”) a dderbyniwyd gan y rheolwr cynllun cyn 1 Hydref 2023.
(2) Caiff y rheolwr cynllun dderbyn addasiad yng ngwerth gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol—
(a)mewn cysylltiad â’r hawliau rhwymedïol y mae’r gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol yn ymwneud â hwy, a
(b)a wneir gan y cynllun sy’n anfon yn unol â DPGCSB 2022 neu yn unol â darpariaeth a wneir odani.
(3) Mae addasiad a dderbynnir o dan baragraff (2) i’w ddefnyddio at ddiben canfod buddion A o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân ar yr un telerau â’r gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol.
(4) Rhaid i’r rheolwr cynllun, ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, ganfod—
(a)hawliau cyffredinol A mewn perthynas â’r gwerth trosglwyddo rhwymedïol yn y cynllun gwaddol;
(b)buddion A pe cymhwysid y gwerth trosglwyddo clwb rhwymedïol, ynghyd ag unrhyw addasiad a dderbynnir o dan baragraff (2), mewn cysylltiad â hawliau yng nghynllun 2015.
43. Mae’r Adran hon yn gymwys mewn cysylltiad ag aelod (“A”) sy’n aelod dewis gohiriedig, ac nad oes buddion pensiwn wedi dod yn daladwy mewn perthynas â’i wasanaeth rhwymedïol.
44.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol sydd i’w dalu mewn cysylltiad ag aelod gan y rheolwr cynllun ar 1 Hydref 2023 neu ar ôl hynny.
(2) Rhaid i’r rheolwr cynllun, ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, gyfrifo’r symiau a ganlyn—
(a)gwerth trosglwyddiad clwb hawliau A o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân fel pe bai hawliau rhwymedïol A wedi eu sicrhau yng nghynllun gwaddol A;
(b)gwerth trosglwyddiad clwb hawliau A o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân fel pe bai hawliau rhwymedïol A wedi eu sicrhau yng nghynllun 2015.
(3) Swm y gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol yw’r mwyaf o’r symiau a gyfrifwyd o dan baragraff (2).
(4) Rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu i’r cynllun sy’n derbyn ganlyniad y cyfrifiadau a grybwyllir ym mharagraff (2).
45.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â thaliad gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol a dderbynnir gan y rheolwr cynllun ar 1 Hydref 2023 neu ar ôl hynny.
(2) Rhaid i’r rheolwr cynllun, ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, ganfod—
(a)hawliau cyffredinol A mewn perthynas â’r gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol yn y cynllun gwaddol;
(b)buddion A pe cymhwysid y gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol mewn cysylltiad â hawliau yng nghynllun 2015.
46. Mae rheoliad 150 o Reoliadau 2015 yn gymwys mewn perthynas ag—
(a)aelod rhwymedi nad yw’n aelod diogelwch llawn o fewn ystyr paragraff 1 o Atodlen 4 i’r Rheoliadau hynny, a
(b)chais am daliad trosglwyddo ar gyfer taliad gwerth trosglwyddiad clwb mewn cysylltiad ag aelod o’r fath,
fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (2)(b)—
“(b)yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid iddo gael ei wneud—
(i)erbyn 1 Hydref 2024, neu,
(ii)cyn dechrau’r cyfnod o un flwyddyn sy’n gorffen â’r dyddiad y mae’r aelod yn cyrraedd oedran ymddeol arferol ar yr amod nad yw’r dyddiad hwnnw yn hwyrach na 1 Hydref 2024.”.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys