- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
34.—(1) Yn y Rhan hon—
ystyr “cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus” (“public service pension scheme”) yw—
cynllun Pennod 1(1);
cynllun barnwrol o fewn ystyr “judicial scheme” yn adran 70(1) o DPGCSB 2022;
cynllun llywodraeth leol o fewn ystyr “local government scheme” yn adran 86(1) o DPGCSB 2022;
ystyr “cynllun sy’n anfon” (“sending scheme”), mewn perthynas â gwerth rhwymedïol, yw’r cynllun a dalodd y gwerth rhwymedïol neu sydd i’w dalu;
ystyr “cynllun sy’n derbyn” (“receiving scheme”), mewn perthynas â gwerth rhwymedïol, yw’r cynllun y talwyd y gwerth rhwymedïol iddo, neu y mae i’w dalu iddo;
ystyr “gwerth rhwymedïol” (“remediable value”), ac eithrio ym Mhennod 4, yw gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol neu werth trosglwyddo rhwymedïol;
ystyr “gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol” (“remediable club transfer value”), mewn perthynas ag aelod, yw talu neu dderbyn gan y rheolwr cynllun—
taliad gwerth trosglwyddo o dan drefniadau yn unol â Rhan F o Atodlen 2 i Orchymyn 1992;
taliad gwerth trosglwyddo o dan drefniadau trosglwyddo’r sector cyhoeddus yn unol â Rhan 12 o baragraff 1 o Atodlen 1 i Orchymyn 2007;
taliad gwerth trosglwyddiad clwb o dan Ran 10 o Reoliadau 2015,
i’r graddau y bo’r gwerth trosglwyddo’n ymwneud â hawliau rhwymedïol yr aelod;
ystyr “gwerth trosglwyddo rhwymedïol” (“remediable transfer value”), mewn perthynas ag aelod, yw talu neu dderbyn gan y rheolwr cynllun werth trosglwyddo heblaw gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol o dan—
Rhan F o Atodlen 2 i Orchymyn 1992;
Rhan 12 o baragraff 1 o Atodlen 1 i Orchymyn 2007;
Rhan 10 o Reoliadau 2015,
i’r graddau y bo’r gwerth trosglwyddo’n ymwneud â hawliau rhwymedïol yr aelod;
ystyr “hawliau rhwymedïol” (“remediable rights”), mewn perthynas ag aelod, yw hawliau’r aelod i fuddion o dan gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus a sicrhawyd yn rhinwedd gwasanaeth rhwymedïol yr aelod.
(2) Yn y Rhan hon, yr hawliau cyffredinol mewn perthynas â gwerth rhwymedïol yn y cynllun gwaddol yw—
(a)pan fyddai cynllun gwaddol yr aelod wedi caniatáu trosglwyddo i mewn y gwerth rhwymedïol cyfan, gan gynnwys, pan fo hynny’n berthnasol, unrhyw daliad a dderbyniwyd o dan reoliad 37(3) neu unrhyw addasiad a dderbyniwyd o dan reoliad 42(2) pe bai’r trosglwyddiad wedi digwydd yn union cyn 1 Ebrill 2022, yr hawliau i fuddion cynllun gwaddol a fyddai wedi eu sicrhau pe bai’r gwerth rhwymedïol wedi ei drosglwyddo i mewn i’r cynllun hwnnw;
(b)fel arall, yr hawliau i fuddion cynllun gwaddol a fyddai wedi eu sicrhau pe bai’r gyfran honno o’r gwerth rhwymedïol y byddai’r cynllun gwaddol wedi caniatáu iddi gael ei throsglwyddo i mewn wedi ei throsglwyddo i mewn i’r cynllun hwnnw, ynghyd ag—
(i)pan fo gan aelod wasanaeth mewn cyflogaeth neu swydd ar 1 Ebrill 2022 neu ar ôl hynny sy’n wasanaeth pensiynadwy o dan gynllun 2015 (“gwasanaeth cynllun 2015 perthnasol”), yr hawliau i fuddion cynllun 2015 pe bai’r gyfran sy’n weddill o’r gwerth rhwymedïol wedi ei throsglwyddo i mewn i’r cynllun hwnnw;
(ii)pan nad oes gan yr aelod wasanaeth cynllun 2015 perthnasol, yr hawl i daliad o unrhyw swm fel digollediad sy’n hafal i werth hawliau i fuddion cynllun 2015 pe bai’r gyfran sy’n weddill o’r gwerth rhwymedïol wedi ei throsglwyddo i mewn i’r cynllun hwnnw.
(3) Pan fo darpariaeth yn y Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r rheolwr cynllun gyfrifo gwerth trosglwyddiad clwb neu werth trosglwyddo (gan gynnwys gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol neu werth trosglwyddo rhwymedïol) mewn perthynas â hawliau a sicrhawyd mewn cynllun pensiwn diffoddwyr tân, mae’r gwerth hwnnw i’w gyfrifo yn unol ag—
(a)y darpariaethau yn y cynllun pensiwn diffoddwyr tân sy’n gymwys i gyfrifo gwerthoedd o’r math hwnnw, a’r
(b)canllawiau a’r tablau a ddarperir gan Actiwari’r Llywodraeth at ddiben cyfrifo’r gwerthoedd hynny a oedd, neu sydd, yn cael eu defnyddio ar y dyddiad a ddefnyddir i gyfrifo’r gwerth a sicrhaodd yn wreiddiol hawliau o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân.
35. Pan fo aelod rhwymedi wedi trosglwyddo unrhyw hawliau mewn cysylltiad â gwasanaeth rhwymedïol allan o gynllun pensiwn diffoddwyr tân, rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu datganiad o wasanaeth rhwymedïol a drosglwyddwyd allan yn unol â chyfarwyddyd 6(2) i (4) o Gyfarwyddydau PGC 2022 (ac yn unol â hynny mae cyfarwyddyd 6(4) yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at “any provision made by virtue of section 29(1) of PSPJOA 2022” yn gyfeiriad at reoliad 4).
Gweler adran 33 o DPGCSB 2022 am ystyr “Chapter 1 scheme”.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys