- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
61.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ni chaiff unrhyw ymarferydd meddygol gyflawni gwasanaethau meddygol o dan y contract oni bai—
(a)bod yr ymarferydd meddygol wedi ei gynnwys mewn rhestr o gyflawnwyr meddygol ar gyfer Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru,
(b)nad yw’r ymarferydd meddygol wedi ei atal dros dro o’r rhestr honno neu o’r Gofrestr Feddygol, ac
(c)nad yw’r ymarferydd meddygol yn destun ataliad dros dro interim o dan adran 41A o Ddeddf Meddygaeth 1983 (gorchymyn interim).
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i unrhyw ymarferydd meddygol sy’n ymarferydd meddygol esempt o fewn ystyr is-baragraff (3), ond dim ond i’r graddau y mae unrhyw wasanaethau meddygol y mae’r ymarferydd meddygol yn eu cyflawni yn rhan o raglen ôl-gofrestru.
(3) At ddibenion y paragraff hwn, “ymarferydd meddygol esempt” yw—
(a)ymarferydd meddygol a gyflogir gan ymddiriedolaeth GIG(1), ymddiriedolaeth sefydledig y GIG(2), Bwrdd Iechyd, neu Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n darparu gwasanaethau heblaw gwasanaethau meddygol sylfaenol yn y fangre practis,
(b)person sydd wedi ei gofrestru dros dro o dan adran 15 (cofrestru dros dro), 15A (cofrestru dros dro ar gyfer gwladolion yr AEE) neu 21 (cofrestru dros dro) o Ddeddf Meddygaeth 1983 ac sy’n gweithredu yng nghwrs cyflogaeth y person yn rhinwedd swyddogaeth feddygol breswyl,
(c)Cofrestrydd Arbenigol Ymarfer Cyffredinol sydd wedi gwneud cais i Fwrdd Iechyd Lleol am gynnwys ei enw yn ei restr o gyflawnwyr meddygol hyd nes y digwydd y cyntaf o’r digwyddiadau a ganlyn—
(i)bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn hysbysu’r Cofrestrydd Arbenigol Ymarfer Cyffredinol am ei benderfyniad ynghylch y cais hwnnw, neu
(ii)diwedd cyfnod o 12 wythnos, sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r Cofrestrydd Arbenigol Ymarfer Cyffredinol hwnnw yn dechrau cynllun addysg a hyfforddiant meddygol i raddedigion, sy’n angenrheidiol i ddyfarnu Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant,
(d)ymarferydd meddygol sydd eisoes wedi ei gynnwys yn rhestr cyflawnwyr meddygol sefydliad gofal sylfaenol arall ac sydd wedi cyflwyno cais i Fwrdd Iechyd Lleol yn unol â rheoliad 4A o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004 hyd nes y digwydd y cyntaf o’r digwyddiadau a ganlyn—
(i)mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn hysbysu’r ymarferydd meddygol am ei benderfyniad ynghylch y cais hwnnw, neu
(ii)diwedd cyfnod o 12 wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad y cafodd y cais ei gyflwyno, neu
(e)ymarferydd meddygol—
(i)nad yw’n Gofrestrydd Arbenigol Ymarfer Cyffredinol,
(ii)sy’n ymgymryd â rhaglen ymarfer clinigol ôl-gofrestru o dan oruchwyliaeth y Cyngor Meddygol Cyffredinol,
(iii)sydd wedi hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod yn mynd i ymgymryd â rhan neu’r cyfan o raglen ôl-gofrestru yn ei ardal o leiaf 24 o oriau cyn dechrau unrhyw ran o’r rhaglen honno sy’n digwydd yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol, a
(iv)sydd, ynghyd â’r hysbysiad hwnnw, wedi darparu digon o dystiolaeth i’r Bwrdd Iechyd Lleol er mwyn iddo ei fodloni ei hun fod yr ymarferydd yn ymgymryd â rhaglen ôl-gofrestru,
ond dim ond i’r graddau y mae unrhyw wasanaethau meddygol a gyflawnir gan yr ymarferydd meddygol yn rhan o raglen ôl-gofrestru.
62. Ni chaiff proffesiynolyn gofal iechyd (heblaw un y mae paragraff 61 yn gymwys iddo) gyflawni gwasanaethau clinigol o dan y contract oni bai—
(a)bod y person hwnnw wedi ei gofrestru â’r corff proffesiynol sy’n berthnasol i broffesiwn y person hwnnw, a
(b)nad yw’r cofrestriad hwnnw yn ddarostyngedig i gyfnod o ataliad dros dro.
63. Pan fo cofrestru proffesiynolyn gofal iechyd yn ddarostyngedig i amodau neu, yn achos ymarferydd meddygol, pan fo cynnwys yr ymarferydd meddygol mewn rhestr gofal sylfaenol yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i’r contractwr sicrhau cydymffurfedd â’r amodau hynny i’r graddau y maent yn berthnasol i’r contract.
64. Ni chaiff unrhyw broffesiynolyn gofal iechyd gyflawni unrhyw wasanaethau clinigol oni bai bod gan y proffesiynolyn gofal iechyd y fath brofiad clinigol a’i fod wedi cael y fath hyfforddiant clinigol sy’n angenrheidiol i alluogi’r proffesiynolyn gofal iechyd i gyflawni gwasanaethau o’r fath yn briodol.
65.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (4), ni chaiff contractwr gyflogi na chymryd ymlaen ymarferydd meddygol (heblaw ymarferydd meddygol esempt o fewn ystyr is-baragraff 61(3)) oni bai—
(a)bod yr ymarferydd hwnnw wedi darparu i’r contractwr enw a chyfeiriad y Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r ymarferydd yn ymddangos yn ei restr o gyflawnwyr meddygol, a
(b)bod y contractwr wedi gwirio bod yr ymarferydd yn bodloni’r gofynion ym mharagraff 61.
(2) Pan—
(a)bo angen cyflogi neu gymryd ymlaen ymarferydd meddygol ar frys, a
(b)nad yw’n bosibl i’r contractwr wirio bod yr ymarferydd meddygol yn bodloni’r gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff 61 cyn cyflogi neu gymryd ymlaen y proffesiynolyn gofal iechyd,
caiff y contractwr gyflogi neu gymryd ymlaen yr ymarferydd meddygol ar sail dros dro am un cyfnod o hyd at 7 niwrnod tra bo gwiriadau o’r fath yn cael eu cyflawni.
(3) Pan fo’r darpar gyflogai yn Gofrestrydd Arbenigol Ymarfer Cyffredinol, mae’r gofynion a nodir yn is-baragraff (1) yn gymwys gyda’r addasiadau—
(a)y caiff yr enw a’r cyfeiriad a ddarperir o dan is-baragraff (1) fod yn enw a chyfeiriad y Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r Cofrestrydd Arbenigol Ymarfer Cyffredinol wedi gwneud cais am gael ei gynnwys yn ei restr, a
(b)na fydd yn ofynnol cadarnhau bod enw’r Cofrestrydd Arbenigol Ymarfer Cyffredinol yn ymddangos yn y rhestr honno hyd nes i 12 wythnos gyntaf cyfnod hyfforddiant y Cofrestrydd Arbenigol Ymarfer Cyffredinol ddod i ben.
(4) Pan fo’r darpar gyflogai yn ymarferydd meddygol sydd eisoes wedi ei gynnwys yn rhestr cyflawnwyr meddygol sefydliad gofal sylfaenol arall ac sydd wedi cyflwyno cais i’r Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â rheoliad 4A o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004, mae’r gofynion a nodir yn is-baragraff (1) yn gymwys gyda’r addasiadau—
(a)y caiff yr enw a’r cyfeiriad a ddarperir o dan is-baragraff (1) fod yn enw a chyfeiriad y Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r ymarferydd meddygol wedi gwneud cais am gael ei gynnwys ar ei restr, ar yr amod y darperir yn ogystal enw a chyfeiriad y sefydliad gofal sylfaenol y mae’r ymarferydd meddygol eisoes wedi ei gynnwys ar ei restr, a
(b)bod cadarnhad bod enw’r ymarferydd meddygol yn ymddangos yn y rhestr honno yn golygu cadarnhad bod yr ymarferydd meddygol wedi ei gynnwys yn amodol yn rhestr y Bwrdd Iechyd Lleol o gyflawnwyr meddygol yn unol â rheoliad 4A o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004.
(5) Yn y paragraff hwn mae i “sefydliad gofal sylfaenol” yr ystyr a roddir i “primary care organisation” yn rheoliad 2 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004.
66.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff contractwr gyflogi na chymryd ymlaen broffesiynolyn gofal iechyd i gyflawni gwasanaethau clinigol o dan y contract oni bai—
(a)bod y contractwr wedi gwirio bod y proffesiynolyn gofal iechyd yn bodloni gofynion paragraff 62, a
(b)bod y contractwr wedi cymryd camau rhesymol i’w fodloni ei hun fod y proffesiynolyn gofal iechyd yn bodloni gofynion paragraff 64.
(2) Pan—
(a)bo angen cyflogi neu gymryd ymlaen broffesiynolyn gofal iechyd ar frys, a
(b)nad yw’n bosibl i’r contractwr wirio bod y proffesiynolyn gofal iechyd yn bodloni’r gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff 62 cyn cyflogi neu gymryd ymlaen y proffesiynolyn gofal iechyd,
caiff y contractwr gyflogi neu gymryd ymlaen y proffesiynolyn gofal iechyd ar sail dros dro am un cyfnod o 7 niwrnod tra bo gwiriadau o’r fath yn cael eu cyflawni.
(3) Pan fydd contractwr yn ystyried profiad a hyfforddiant proffesiynolyn gofal iechyd at ddibenion paragraff 1(b), rhaid i’r contractwr, yn benodol, roi sylw i—
(a)unrhyw gymhwyster ôl-radd neu ôl-gofrestru a ddelir gan y proffesiynolyn gofal iechyd, a
(b)unrhyw hyfforddiant perthnasol yr ymgymerwyd ag ef, ac unrhyw brofiad clinigol perthnasol a enillwyd, gan y proffesiynolyn gofal iechyd.
67.—(1) Ni chaiff y contractwr gyflogi na chymryd ymlaen broffesiynolyn gofal iechyd i gyflawni gwasanaethau clinigol o dan y contract (heblaw ymarferydd meddygol esempt y mae paragraff 61(3)(e) yn gymwys iddo) oni bai—
(a)bod y person hwnnw wedi darparu dau eirda clinigol, yn ymwneud â dwy swydd ddiweddar (y caniateir iddynt gynnwys unrhyw swydd bresennol) fel proffesiynolyn gofal iechyd a barodd am o leiaf 12 wythnos heb doriad sylweddol neu, pan na fo hyn yn bosibl, esboniad llawn o ran pam y mae hyn yn wir ynghyd â manylion canolwyr eraill, a
(b)bod y contractwr wedi gwirio’r geirdaon ac yn fodlon arnynt.
(2) Pan—
(a)bo angen cyflogi neu gymryd ymlaen broffesiynolyn gofal iechyd ar frys, a
(b)nad yw’n bosibl i’r contractwr gael a gwirio’r geirdaon yn unol ag is-baragraff 1(b) cyn cyflogi neu gymryd ymlaen y proffesiynolyn gofal iechyd hwnnw,
caiff y contractwr gyflogi neu gymryd ymlaen y proffesiynolyn gofal iechyd ar sail dros dro am un cyfnod o hyd at 14 o ddiwrnodau tra bo’r geirdaon yn cael eu gwirio a’u hystyried, ac am gyfnod ychwanegol o 7 niwrnod os yw’r contractwr yn credu bod y person sy’n darparu’r geirdaon hynny yn sâl, ar wyliau neu nad yw ar gael fel arall am gyfnod dros dro.
(3) Pan fo’r contractwr yn cyflogi neu’n cymryd ymlaen yr un person ar fwy nag achlysur o fewn cyfnod o 12 wythnos, caiff y contractwr ddibynnu ar y geirdaon a ddarparwyd ar yr achlysur cyntaf, ar yr amod nad yw’r geirdaon hynny yn fwy na blwydd oed.
68.—(1) Rhaid i’r contractwr, cyn cyflogi unrhyw berson neu gymryd unrhyw berson ymlaen—
(a)cydymffurfio â’r Safonau Gwirio Cyn Cyflogaeth mewn perthynas â’r person hwnnw, a
(b)cymryd camau rhesymol i’w fodloni ei hun fod y person o dan sylw yn briodol gymwysedig a chymwys i gyflawni’r dyletswyddau y mae’r person hwnnw i gael ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen ar eu cyfer.
(2) Mae’r ddyletswydd a osodir gan is-baragraff (1) yn ychwanegol at y dyletswyddau a osodir gan baragraffau 61 i 67.
(3) Wrth ystyried cymhwysedd ac addasrwydd unrhyw berson at ddiben is-baragraff (1), rhaid i’r contractwr, yn benodol, roi sylw i—
(a)cymwysterau academaidd a galwedigaethol y person hwnnw,
(b)addysg a hyfforddiant y person hwnnw, ac
(c)cyflogaeth flaenorol neu brofiad gwaith blaenorol y person hwnnw.
69.—(1) Rhaid i’r contractwr sicrhau, ar gyfer unrhyw broffesiynolyn gofal iechyd—
(a)sy’n cyflawni gwasanaethau clinigol o dan y contract, neu
(b)sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen i gynorthwyo i gyflawni gwasanaethau o’r fath,
bod trefniadau yn eu lle at ddiben cynnal a diweddaru sgiliau a gwybodaeth y proffesiynolyn gofal iechyd mewn perthynas â’r gwasanaethau y mae’n eu cyflawni neu’n cynorthwyo i’w cyflawni.
(2) Rhaid i’r contractwr gynnig cyfleoedd rhesymol i bob cyflogai i ymgymryd â hyfforddiant priodol gyda’r bwriad o gynnal cymhwysedd y cyflogai hwnnw.
70. Ni chaiff y contractwr ond cynnig cyflogaeth i ymarferydd meddygol cyffredinol ar delerau ac amodau nad ydynt yn llai ffafriol na’r rhai sydd wedi eu cynnwys yn “Model terms and conditions of service for a salaried general practitioner employed by a GMS practice” a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Feddygol Prydain a Chonffederasiwn y GIG fel eitem 1.2 o’r dogfennau atodol i gontract GMC 2003(3).
71.—(1) Ni chaiff y contractwr ond cyflogi Cofrestrydd Arbenigol Ymarfer Cyffredinol yn ddarostyngedig i’r amodau yn is-baragraff (2).
(2) Yr amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw na chaiff y contractwr, dim ond oherwydd ei fod wedi cyflogi neu wedi cymryd ymlaen Gofrestrydd Arbenigol Ymarfer Cyffredinol, leihau cyfanswm nifer yr oriau y mae ymarferwyr meddygol eraill yn eu treulio yn cyflawni gwasanaethau meddygol sylfaenol o dan y contract, na chyfanswm nifer yr oriau y mae aelodau eraill o staff yn eu treulio yn eu cynorthwyo i gyflawni’r gwasanaethau hynny.
(3) Rhaid i gontractwr sy’n cyflogi Cofrestrydd Ymarfer Cyffredinol—
(a)cynnig telerau cyflogaeth i’r Cofrestrydd Ymarfer Cyffredinol yn unol â’r cyfraddau ac yn ddarostyngedig i’r amodau a gynhwysir mewn unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru i Fyrddau Iechyd Lleol o dan adran 12 o’r Ddeddf (Swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol) sy’n ymwneud â’r grantiau, y ffioedd, y lwfansau teithio a’r lwfansau eraill sy’n daladwy i Gofrestrwyr Ymarfer Cyffredinol, a
(b)ystyried y canllawiau sydd wedi eu cynnwys yn y ddogfen o’r enw “A Reference Guide For Postgraduate Foundation and Specialty Training in the UK”(4).
72.—(1) At ddibenion y paragraff hwn, ystyr “rhagnodydd perthnasol” yw—
(a)nyrs sy’n rhagnodi’n annibynnol,
(b)nyrs-ragnodydd annibynnol,
(c)parafeddyg-ragnodydd annibynnol,
(d)fferyllydd-ragnodydd annibynnol,
(e)ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol,
(f)podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol,
(g)rhagnodydd atodol, neu
(h)radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol.
(2) Rhaid i’r contractwr roi hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)pan fo rhagnodydd perthnasol wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen gan gontractwr i gyflawni swyddogaethau sy’n cynnwys rhagnodi,
(b)pan fo rhagnodydd perthnasol y mae ei swyddogaethau yn cynnwys rhagnodi yn barti i’r contract, neu
(c)pan fo swyddogaethau rhagnodydd perthnasol y mae’r contractwr eisoes yn ei gyflogi neu eisoes wedi ei gymryd ymlaen yn cael eu hestyn i gynnwys rhagnodi.
(3) Rhaid i’r hysbysiad o dan is-baragraff (2) gael ei roi yn ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol cyn i’r cyfnod o 7 niwrnod ddod i ben gan ddechrau â’r dyddiad—
(a)y cafodd y rhagnodydd perthnasol ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen gan y contractwr neu, yn ôl y digwydd, y daeth yn barti i’r contract (oni bai, yn union cyn dod yn barti o’r fath, fod paragraff 2(a) yn gymwys i’r rhagnodydd perthnasol hwnnw), neu
(b)y cafodd swyddogaethau’r rhagnodydd perthnasol eu hestyn i gynnwys rhagnodi.
(4) Rhaid i’r contractwr roi hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)pan fo’r contractwr yn peidio â chyflogi neu gymryd ymlaen ragnodydd perthnasol ym mhractis y contractwr y mae ei swyddogaethau yn cynnwys rhagnodi ym mhractis y contractwr,
(b)pan fo rhagnodydd perthnasol yn peidio â bod yn barti i’r contract,
(c)pan fo swyddogaethau rhagnodydd perthnasol sydd wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen gan gontractwr ym mhractis y contractwr yn cael eu newid fel nad ydynt mwyach yn cynnwys rhagnodi ym mhractis y contractwr, neu
(d)pan fo’r contractwr yn dod yn ymwybodol bod rhagnodydd perthnasol y mae’n ei gyflogi neu’n ei gymryd ymlaen wedi cael ei ddileu o’r gofrestr berthnasol neu wedi cael ei atal dros dro ohoni.
(5) Rhaid i’r hysbysiad o dan is-baragraff (4) gael ei roi yn ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol cyn diwedd yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl y diwrnod y digwyddodd digwyddiad a ddisgrifir yn is-baragraffau (4)(a) i (d) mewn perthynas â’r rhagnodydd perthnasol.
(6) Rhaid i’r contractwr ddarparu’r wybodaeth a ganlyn pan fydd yn rhoi hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol yn unol ag is-baragraff (2)—
(a)enw llawn y person,
(b)cymwysterau proffesiynol y person,
(c)rhif adnabod y person, sy’n ymddangos yn y gofrestr berthnasol,
(d)y dyddiad y cafodd cofnod y person yn y gofrestr berthnasol ei anodi i’r perwyl bod y person yn gymwysedig i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar ar gyfer cleifion,
(e)y dyddiad—
(i)y cafodd y person ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen (os yw’n berthnasol),
(ii)y daeth y person yn barti i’r contract (os yw’n berthnasol), neu
(iii)y cafodd swyddogaethau’r person eu hestyn i gynnwys rhagnodi ym mhractis y contractwr.
(7) Rhaid i’r contractwr ddarparu’r wybodaeth a ganlyn pan fydd yn rhoi hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol yn unol ag is-baragraff (4)—
(a)enw llawn y person,
(b)cymwysterau proffesiynol y person,
(c)rhif adnabod y person, sy’n ymddangos yn y gofrestr berthnasol,
(d)y dyddiad—
(i)y peidiodd y person â chael ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen ym mhractis y contractwr,
(ii)y peidiodd y person â bod yn barti i’r contract,
(iii)y cafodd swyddogaethau’r person eu newid i beidio â chynnwys rhagnodi ym mhractis y contractwr mwyach, neu
(iv)y cafodd y person ei ddileu o’r gofrestr berthnasol neu ei atal dros dro ohoni.
73.—(1) Rhaid i’r contractwr sicrhau—
(a)bod y dogfennau a bennir yn is-baragraff (2) yn cynnwys—
(i)proffesiwn clinigol y proffesiynolyn gofal iechyd a lofnododd y ddogfen, a
(ii)enw’r contractwr y mae’r ddogfen wedi ei llofnodi ar ei ran, a
(b)bod y dogfennau a bennir yn is-baragraff (3) yn cynnwys proffesiwn clinigol y proffesiynolyn gofal iechyd a lofnododd y ddogfen.
(2) Y dogfennau a bennir yn yr is-baragraff hwn yw—
(a)tystysgrifau a ddyroddir yn unol â rheoliad 19, oni bai bod rheoliadau sy’n ymwneud â thystysgrifau penodol yn darparu fel arall, a
(b)unrhyw ddogfennau clinigol eraill ar wahân i—
(i)ffurflenni archebu ocsigen cartref, a
(ii)y dogfennau a bennir yn is-baragraff (3).
(3) Y dogfennau a bennir yn y paragraff hwn yw swpddyroddiadau, ffurflenni presgripsiwn a phresgripsiynau amlroddadwy.
(4) Mae’r paragraff hwn yn ychwanegol at unrhyw ofynion eraill sy’n ymwneud â’r dogfennau a bennir yn is-baragraffau (2) a (3) pa un ai yn y Rheoliadau hyn neu yn rhywle arall.
74. Rhaid i’r contractwr wneud y canlynol, a rhaid iddo sicrhau bod y rhai y mae’n eu cyflogi neu’n eu cymryd ymlaen yn gwneud y canlynol—
(a)cyflawni rhwymedigaethau’r contractwr o dan y contract â gofal a sgìl rhesymol, a
(b)ystyried cymhwyso llwybrau cyflwr cenedlaethol sy’n berthnasol ar gyfer pob claf.
75.—(1) Rhaid i’r contractwr sicrhau bod unrhyw ymarferydd meddygol sy’n cyflawni gwasanaethau o dan y contract—
(a)yn cymryd rhan yn y system arfarnu a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol oni bai bod yr ymarferydd meddygol hwnnw yn cymryd rhan mewn system arfarnu briodol a ddarperir gan gorff gwasanaeth iechyd arall neu ei fod yn ymarferydd cyffredinol i’r lluoedd arfog, a
(b)yn cydweithredu â’r Bwrdd Iechyd Lleol mewn perthynas â swyddogaethau diogelwch cleifion y Bwrdd Iechyd Lleol.
(2) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddarparu system arfarnu at ddibenion is-baragraff 1(a) ar ôl ymgynghori â’r Pwyllgor Meddygol Lleol (os oes un) ar gyfer yr ardal y mae’r ymarferydd yn darparu gwasanaethau ynddi o dan y contract, ac ag unrhyw bersonau eraill y mae’n ymddangos iddo eu bod yn briodol.
(3) Ym mharagraff (1), ystyr “ymarferydd cyffredinol i’r lluoedd arfog” yw ymarferydd meddygol sydd wedi ei gyflogi ar gontract gwasanaeth gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, pa un a yw’n aelod o luoedd arfog y Goron ai peidio.
Fe’i sefydlwyd o dan adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (p. 41).
Fe’i sefydlwyd o dan adran 30 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (p. 41).
Mae’r ddogfen hon ar gael yn: https://www.nhsemployers.org/system/files/2021-06/TCS-GP-GMS-150409.pdf. Gellir gofyn am gopïau caled oddi wrth: The British Medical Association, BMA House, Tavistock Square, London WC1H 9JP.
Mae’r canllaw hwn, a gafodd ei gyhoeddi ddiwethaf ym mis Awst 2022, ar gael ar gais oddi wrth Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ar ffurf copi caled, drwy ysgrifennu i: AaGIC, Tŷ Dysgu, Cefn Coed, Nantgarw, CF15 7QQ neu drwy anfon e-bost i heiw@wales.nhs.uk.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys