Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 2Cleifion

Rhestr o gleifion

22.—(1Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol lunio a diweddaru rhestr o’r cleifion sydd—

(a)wedi eu derbyn gan y contractwr i’w cynnwys yn rhestr y contractwr o gleifion o dan baragraffau 22 i 25 ac nad ydynt wedi eu dileu oddi ar y rhestr honno wedyn o dan baragraffau 28 i 36, a

(b)wedi eu neilltuo gan y Bwrdd Iechyd Lleol i restr y contractwyr o gleifion—

(i)o dan baragraff 44(1)(a), neu

(ii)o dan baragraff 44(1)(b) (yn rhinwedd penderfyniad gan y panel asesu o dan baragraff 46(7) na chafodd ei wyrdroi wedyn gan benderfyniad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 47 na chan lys).

(2Ar ôl cael cais ysgrifenedig rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol, rhaid i’r contractwr—

(a)cymryd camau priodol (gan gynnwys cysylltu â chleifion pan fo’n rhesymol angenrheidiol i gadarnhau bod eu data cleifion yn gywir) cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, i gywiro a diweddaru data cleifion a gedwir ar systemau clinigol cyfrifiadurol y practis, a phan fo’n angenrheidiol gofrestru neu ddatgofrestru cleifion i sicrhau bod y rhestr cleifion yn gywir, a

(b)darparu gwybodaeth ynglŷn â’i restr o gleifion i’r Bwrdd Iechyd Lleol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, a pha un bynnag, heb fod yn hwyrach na 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y daeth y cais i law’r contractwr, er mwyn cynorthwyo’r Bwrdd Iechyd Lleol i arfer ei ddyletswyddau o dan is-baragraff (1).

Gwneud cais am gynnwys person mewn rhestr o gleifion

23.—(1Oni bai bod paragraff 26(1) yn gymwys, os yw rhestr y contractwr o gleifion yn agored, rhaid i’r contractwr dderbyn cais i gynnwys person yn y rhestr honno o gleifion a wneir gan neu ar ran unrhyw berson, pa un a yw’n preswylio yn ardal ei bractis ai peidio, neu pa un a yw wedi ei gynnwys ai peidio, adeg y cais hwnnw, yn rhestr cleifion contractwr arall neu ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol arall.

(2Os yw rhestr y contractwr o gleifion wedi ei chau, ni chaiff y contractwr ond derbyn cais i gynnwys person yn y rhestr honno a wneir gan neu ar ran person sy’n aelod o deulu agos claf cofrestredig, pa un a yw’r person hwnnw’n preswylio yn ardal practis y contractwr ai peidio, neu pa un a yw wedi ei gynnwys ai peidio, adeg y cais hwnnw, yn rhestr cleifion contractwr arall neu ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol arall.

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), rhaid i gais i gynnwys person mewn rhestr contractwr o gleifion gael ei wneud gan y ceisydd, neu gan berson a awdurdodir gan y ceisydd, gan gyflwyno i’r contractwr ffurflen gais (gan gynnwys ffurflen gais electronig). Ni chaiff y contractwr ei gwneud yn rhagofyniad i geisydd ddangos prawf adnabod neu brawf o gyfeiriad i gael ei gynnwys yn rhestr y contractwr o gleifion (na pheri bod cais yn amodol ar ddangos prawf adnabod neu brawf o gyfeiriad o’r fath).

(4Caniateir i gais gael ei wneud—

(a)pan fo’r claf yn blentyn, ar ran y claf—

(i)gan y naill riant neu’r llall, neu yn absenoldeb y ddau riant, gan y gwarcheidwad neu’r oedolyn arall a chanddo ofal dros y plentyn,

(ii)gan berson a awdurdodir yn briodol gan awdurdod lleol y traddodwyd y plentyn i’w ofal o dan Ddeddf Plant 1989(1), neu

(iii)gan berson a awdurdodir yn briodol gan sefydliad gwirfoddol y mae’r plentyn yn cael llety ganddo o dan ddarpariaethau Deddf Plant 1989, neu

(b)pan fo’r claf yn oedolyn sydd heb alluedd i wneud y cais, neu i awdurdodi’r cais i gael ei wneud ar ei ran—

(i)gan berthynas i’r person hwnnw,

(ii)gan brif ofalwr i’r person hwnnw,

(iii)gan roddai atwrneiaeth arhosol a roddir gan y person hwnnw, neu

(iv)gan ddirprwy a benodir ar gyfer y person hwnnw gan y llys o dan ddarpariaethau Deddf Galluedd Meddyliol 2005(2).

(5Pan fo contractwr yn derbyn cais i gynnwys person yn rhestr y contractwr o gleifion, rhaid i’r contractwr roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod wedi derbyn y cais hwnnw cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(6Ar ôl cael hysbysiad a roddwyd o dan is-baragraff (5) rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)cynnwys y ceisydd yn rhestr y contractwr o gleifion o’r dyddiad y daw’r hysbysiad i law, a

(b)os dyma’r tro cyntaf i’r ceisydd gael ei dderbyn yn glaf cofrestredig gan gontractwr neu gontractwr GMDdA (neu gael ei neilltuo gan Fwrdd Iechyd Lleol iddo), roi hysbysiad ysgrifenedig i’r ceisydd fod y cais hwnnw wedi ei dderbyn (neu, yn achos plentyn neu oedolyn sydd heb alluedd, i’r person sy’n gwneud y cais ar ei ran).

Cynnwys yn y rhestr o gleifion: personél y lluoedd arfog

24.—(1Oni bai bod paragraff 26(1) yn gymwys, os yw ei restr o gleifion yn agored rhaid i’r contractwr gynnwys person y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo yn y rhestr honno am gyfnod o hyd at 2 flynedd ac nid yw paragraff 34(1)(b) yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw berson sy’n cael ei gynnwys yn rhestr y contractwr o gleifion yn rhinwedd y paragraff hwn.

(2Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson—

(a)sy’n aelod ar wasanaeth o luoedd arfog y Goron sydd wedi cael awdurdodiad ysgrifenedig gan y Gwasanaethau Meddygol Amddiffyn i gael gwasanaethau meddygol sylfaenol gan bractis y contractwr, a

(b)sy’n byw neu’n gweithio o fewn ardal practis y contractwr yn ystod y cyfnod y rhoddir yr awdurdodiad ysgrifenedig hwnnw mewn cysylltiad ag ef.

(3Pan fo’r contractwr wedi derbyn person y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo i’w restr o gleifion, rhaid i’r contractwr—

(a)sicrhau copi o gofnod meddygol y claf, neu grynodeb o’r cofnod hwnnw, gan y Gwasanaethau Meddygol Amddiffyn, a

(b)darparu diweddariadau rheolaidd i’r Gwasanaethau Meddygol Amddiffyn, fesul pa ysbeidiau bynnag y cytunwyd arnynt gyda’r Gwasanaethau Meddygol Amddiffyn, am unrhyw ofal a thriniaeth y mae’r contractwr wedi eu darparu i’r claf.

(4Ar ddiwedd y cyfnod o 2 flynedd, neu ar unrhyw ddyddiad cynharach pan fydd cyfrifoldeb y contractwr am y claf wedi dod i ben, rhaid i’r contractwr—

(a)hysbysu’r Gwasanaethau Meddygol Amddiffyn yn ysgrifenedig fod cyfrifoldeb y contractwr am y claf wedi dod i ben, a

(b)diweddaru cofnod meddygol y claf, neu grynodeb o’r cofnod hwnnw, a’i ddychwelyd i’r Gwasanaethau Meddygol Amddiffyn.

Preswylwyr dros dro

25.—(1Oni bai bod paragraff 26(1) yn gymwys, os yw ei restr o gleifion yn agored rhaid i’r contractwr dderbyn person yn breswylydd dros dro os yw’r person—

(a)yn preswylio dros dro i ffwrdd o’i fan preswylio arferol ac nad yw’n cael gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol) o dan unrhyw drefniant arall yn yr ardal lle y mae’r person hwnnw’n preswylio dros dro, neu

(b)yn symud o le i le ac nad yw am y tro yn preswylio mewn unrhyw le.

(2At ddibenion is-baragraff (1), mae person i’w ystyried yn breswylydd dros dro mewn lle os yw, pan fydd y person hwnnw’n cyrraedd y lle hwnnw, yn bwriadu aros yno am fwy na 24 o oriau ond dim mwy na 12 wythnos.

(3Pan fo contractwr yn awyddus i derfynu ei gyfrifoldeb am berson a dderbyniwyd ganddo yn breswylydd dros dro cyn pen—

(a)12 wythnos, neu

(b)unrhyw gyfnod byrrach y cytunodd y contractwr i dderbyn y person hwnnw yn breswylydd dros dro amdano,

rhaid i’r contractwr roi hysbysiad o’r ffaith honno i’r person naill ai ar lafar neu yn ysgrifenedig ac mae cyfrifoldeb y contractwr am y person hwnnw yn dod i ben 7 niwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.

(4Pan fo cyfrifoldeb y contractwr am berson fel preswylydd dros dro yn dod i ben, rhaid i’r contractwr roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod wedi derbyn y person hwnnw yn breswylydd dros dro—

(a)ar ddiwedd y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y derbyniodd y contractwr y person hwnnw yn breswylydd dros dro, neu

(b)os daeth cyfrifoldeb y contractwr am y person hwnnw fel preswylydd dros dro i ben yn gynharach nag ar ddiwedd y cyfnod o 12 wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (a), ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

Gwrthod ceisiadau i gynnwys person yn y rhestr o gleifion neu derfynu’r cyfrifoldeb am breswylwyr dros dro yn gynnar

26.—(1Ni chaiff contractwr wrthod cais a wneir o dan baragraffau 23, 24, neu 25 na therfynu ei gyfrifoldeb am berson a dderbyniwyd ganddo yn breswylydd dros dro o dan baragraff 25(3) ond os oes ganddo sail resymol dros wneud hynny nad yw’n ymwneud â hil, dosbarth cymdeithasol, oedran, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, golwg, rhywedd neu ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, anabledd neu gyflwr meddygol y ceisydd.

(2Caiff y seiliau rhesymol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), yn achos ceisiadau a wneir o dan baragraff 23, gynnwys y sail nad yw’r ceisydd yn byw yn ardal practis y contractwr.

(3Pan fo contractwr yn gwrthod cais a wneir o dan baragraffau 23, 24 neu 25 neu’n terfynu ei gyfrifoldeb am berson a dderbyniwyd ganddo yn breswylydd dros dro o dan baragraff 25(3), rhaid i’r contractwr roi hysbysiad ysgrifenedig o’r gwrthodiad hwnnw neu’r terfyniad hwnnw, a’r rhesymau drosto, i’r ceisydd (neu, yn achos plentyn neu oedolyn sydd heb alluedd, i’r person a wnaeth y cais ar ei ran) cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad ei benderfyniad.

(4Rhaid i’r contractwr—

(a)cadw cofnod ysgrifenedig—

(i)o’r penderfyniad i wrthod unrhyw gais a wneir o dan baragraffau 23, 24 neu 25 neu i derfynu ei gyfrifoldeb am berson a dderbyniwyd ganddo yn breswylydd dros dro o dan baragraff 25(3), a

(ii)o’r rhesymau dros y gwrthodiad hwnnw neu’r terfyniad hwnnw, a

(b)rhoi’r cofnodion hyn ar gael i’r Bwrdd Iechyd Lleol ar gais.

Hoff ddewis y claf o ymarferydd

27.—(1Pan fo’r contractwr wedi derbyn cais a wneir o dan baragraffau 23, 24 neu 25 i gynnwys person yn ei restr o gleifion, rhaid i’r contractwr gofnodi yn ysgrifenedig unrhyw hoff ddewis a fynegir gan y person hwnnw (neu, yn achos plentyn neu oedolyn sydd heb alluedd, y person a wnaeth y cais ar ran y ceisydd) i gael gwasanaethau gan gyflawnydd penodol, naill ai yn gyffredinol neu mewn perthynas ag unrhyw gyflwr penodol.

(2Rhaid i’r contractwr ymdrechu i gydymffurfio ag unrhyw hoff ddewis rhesymol a fynegir o dan is-baragraff (1) ond nid oes angen iddo wneud hynny—

(a)os oes gan y cyflawnydd sy’n hoff ddewis sail resymol dros wrthod darparu gwasanaethau i’r person a fynegodd y dewis, neu

(b)os nad yw’r cyflawnydd sy’n hoff ddewis yn rheolaidd yn cyflawni’r gwasanaeth o dan sylw o fewn practis y contractwr.

Dileu person o’r rhestr ar gais y claf

28.—(1Rhaid i’r contractwr hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig am unrhyw gais a wneir gan unrhyw berson sy’n glaf cofrestredig i gael ei ddileu o restr y contractwr o gleifion.

(2Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)yn cael hysbysiad gan y contractwr o dan is-baragraff (1), neu

(b)yn cael cais yn uniongyrchol gan y person am gael ei ddileu o restr y contractwr o gleifion,

rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddileu’r person hwnnw o restr y contractwr o gleifion.

(3Mae’r penderfyniad i ddileu person o restr contractwr o gleifion yn unol ag is-baragraff (2) i gael effaith ar ba un bynnag yw’r cyntaf o blith—

(a)y dyddiad y rhoddir hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol fod y person hwnnw wedi ei gofrestru gyda darparwr gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol) arall, neu

(b)14 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y daw’r hysbysiad a roddir o dan is-baragraff (1) neu’r cais a wneir o dan is-baragraff (2) i law’r Bwrdd Iechyd Lleol.

(4Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, roi hysbysiad ysgrifenedig—

(a)i’r person a wnaeth y cais am y dileu, a

(b)i’r contractwr,

fod enw’r person i’w ddileu, neu ei fod wedi ei ddileu, o restr y contractwr o gleifion ar y dyddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3).

(5Yn y paragraff hwn ac ym mharagraffau 29(1)(b) a (10), 30(5) a (6), 32 a 35, rhaid i gyfeiriad at gais sy’n dod i law oddi wrth berson, neu at gyngor, gwybodaeth neu hysbysiad y mae’n ofynnol eu rhoi iddo, gynnwys y canlynol—

(a)yn achos plentyn—

(i)cais sy’n dod i law gan y naill riant neu’r llall neu gyngor, gwybodaeth neu hysbysiad y mae’n ofynnol eu rhoi iddynt, neu yn absenoldeb y ddau riant, cais sy’n dod i law gan y gwarcheidwad neu’r oedolyn arall sydd â gofal dros y plentyn neu gyngor, gwybodaeth neu hysbysiad y mae’n ofynnol eu rhoi iddo,

(ii)cais sy’n dod i law gan berson a awdurdodir yn briodol gan awdurdod lleol y traddodwyd plentyn i’w ofal o dan Ddeddf Plant 1989 neu gyngor, gwybodaeth neu hysbysiad y mae’n ofynnol eu rhoi iddo, neu

(iii)cais sy’n dod i law gan berson a awdurdodir yn briodol gan sefydliad gwirfoddol y mae’r plentyn yn cael llety ganddo o dan ddarpariaethau Deddf Plant 1989 neu gyngor, gwybodaeth neu hysbysiad y mae’n ofynnol eu rhoi iddo, neu

(b)yn achos claf sy’n oedolyn sydd heb alluedd i wneud y cais perthnasol neu i dderbyn y cyngor, yr wybodaeth neu’r hysbysiad perthnasol—

(i)cais sy’n dod i law gan berthynas i’r person hwnnw neu gyngor, gwybodaeth neu hysbysiad y mae’n ofynnol eu rhoi iddo,

(ii)cais sy’n dod i law gan brif ofalwr i’r person hwnnw neu gyngor, gwybodaeth neu hysbysiad y mae’n ofynnol eu rhoi iddo,

(iii)cais sy’n dod i law gan roddai atwrneiaeth arhosol a roddwyd gan y person hwnnw neu gyngor, gwybodaeth neu hysbysiad y mae’n ofynnol eu rhoi iddo, neu

(iv)cais sy’n dod i law gan ddirprwy a benodwyd ar gyfer y person hwnnw gan y llys o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 neu gyngor, gwybodaeth neu hysbysiad y mae’n ofynnol eu rhoi iddo.

Dileu person o’r rhestr ar gais y contractwr

29.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff 30, rhaid i gontractwr a chanddo sail resymol dros fod yn awyddus i berson gael ei ddileu o’i restr o gleifion nad ydynt yn ymwneud â hil, dosbarth cymdeithasol, oedran, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, rhywedd neu ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, golwg, anabledd neu gyflwr meddygol y person—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod yn awyddus i ddileu’r person o’r rhestr a darparu o fewn yr hysbysiad esboniad o’r seiliau dros y cais am ei ddileu a pham y byddai’r penderfyniad i’w ddileu yn rhesymol, a

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r person o’i resymau penodol dros ofyn am gael dileu’r person hwnnw o’r rhestr.

(2Pan fo, ym marn resymol y contractwr—

(a)amgylchiadau dileu’r person o’r rhestr yn golygu nad yw’n briodol rhoi rheswm mwy penodol, a

(b)bod tor perthynas diwrthdro wedi bod rhwng y person perthnasol a’r contractwr,

caiff y rheswm a roddir i’r claf o dan is-baragraff (1) fod yn ddatganiad bod tor perthynas o’r fath wedi bod.

(3Ac eithrio o dan yr amgylchiadau a bennir yn is-baragraff (4), ni chaiff y contractwr wneud cais am ddileu person o’i restr o gleifion o dan is-baragraff (1) ond os yw’r contractwr, cyn diwedd y cyfnod o 1 flwyddyn sy’n dechrau â dyddiad cais y contractwr i’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)wedi rhybuddio’r person hwnnw am y risg o gael ei ddileu o’r rhestr honno, a

(b)wedi esbonio’r rhesymau dros hyn i’r person.

(4Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3) yw—

(a)bod y rheswm dros ddileu’r person o’r rhestr yn ymwneud â newid cyfeiriad,

(b)bod gan y contractwr sail resymol dros gredu y byddai rhoi rhybudd o dan is-baragraff (3)(a)—

(i)yn niweidiol i iechyd corfforol neu feddyliol y person, neu

(ii)yn creu risg i ddiogelwch un neu ragor o’r personau a bennir yn is-baragraff (5), neu

(c)bod y contractwr yn ystyried nad yw’n rhesymol neu’n ymarferol fel arall i rybudd gael ei roi.

(5Y personau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4) yw—

(a)y contractwr, pan fo’r contractwr yn ymarferydd meddygol unigol,

(b)yn achos contract gyda dau neu ragor o bersonau yn ymarfer mewn partneriaeth, partner yn y bartneriaeth honno,

(c)yn achos contract gyda chwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau, person y mae cyfrannau yn y cwmni hwnnw yn eiddo iddo yn gyfreithiol ac yn llesiannol,

(d)aelod o staff y contractwr,

(e)person a gymerwyd ymlaen gan y contractwr i gyflawni neu i helpu i gyflawni gwasanaethau o dan y contract, neu

(f)unrhyw berson arall sy’n bresennol—

(i)ar y fangre practis, neu

(ii)yn y man lle mae gwasanaethau’n cael eu darparu i’r claf o dan y contract.

(6Rhaid i’r contractwr gadw cofnod ysgrifenedig—

(a)o ddyddiad unrhyw rybudd a roddir yn unol ag is-baragraff (3)(a) a’r rhesymau dros roi’r rhybudd hwnnw fel y’u hesboniwyd i’r person o dan sylw, neu

(b)o’r rheswm pam na roddwyd rhybudd o’r fath.

(7Rhaid i’r contractwr gadw cofnod ysgrifenedig o ddileu unrhyw berson o’i restr o gleifion o dan y paragraff hwn sy’n cynnwys—

(a)y rheswm dros ddileu’r person o’r rhestr,

(b)amgylchiadau dileu’r person o’r rhestr, ac

(c)mewn achosion pan fo is-baragraff (2) yn gymwys, y sail sy’n golygu nad yw rheswm mwy penodol yn briodol,

a rhaid i’r contractwr sicrhau bod y cofnod hwn ar gael i’r Bwrdd Iechyd Lleol ar gais.

(8Yn ddarostyngedig i is-baragraff (9), rhaid i’r penderfyniad i ddileu person o restr y contractwr o gleifion gael effaith o ba un bynnag yw’r cynharaf o blith—

(a)y dyddiad y rhoddir hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol fod y person hwnnw wedi ei gofrestru gyda darparwr gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol) arall,

(b)yr wythfed niwrnod ar ôl i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad i’r contractwr ei fod yn cymeradwyo dileu’r person o’r rhestr, neu

(c)yr wythfed niwrnod ar hugain ar ôl y dyddiad y mae’r hysbysiad gan y contractwr yn dod i law’r Bwrdd Iechyd Lleol, os nad yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi cymeradwyo nac wedi gwrthod yr hysbysiad yn ystod y cyfnod hwnnw.

(9Pan fo’r contractwr, ar y dyddiad y byddai’r penderfyniad i ddileu’r person o’r rhestr yn cael effaith o dan is-baragraff (8), yn trin y person fesul ysbeidiau o lai na 7 niwrnod, rhaid i’r contractwr roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol o’r ffaith honno ac mae’r penderfyniad i ddileu’r person yn cael effaith ar ba un bynnag yw’r cynharaf o blith—

(a)yr wythfed diwrnod ar ôl i’r Bwrdd Iechyd Lleol gael hysbysiad gan y contractwr nad oes ar y person angen triniaeth o’r fath mwyach, neu

(b)y dyddiad y rhoddir hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol bod y person wedi ei gofrestru gyda darparwr arall gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol).

(10Os yw person i gael ei ddileu o restr y contractwr o gleifion yn unol ag is-baragraff (8) neu (9), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig—

(a)i’r person y cymeradwywyd ei ddileu o’r rhestr, a

(b)i’r contractwr,

fod enw’r person wedi ei ddileu neu i’w ddileu o restr y contractwr o gleifion ar y dyddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (8) neu (9).

Dileu o’r rhestr gleifion sy’n dreisgar

30.—(1Pan fo contractwr yn dymuno i berson gael ei ddileu o’i restr o gleifion ar y sail—

(a)bod y person wedi cyflawni gweithred o drais yn erbyn unrhyw un neu ragor o’r personau a bennir yn is-baragraff (2) neu wedi ymddwyn yn y fath fodd fel bod unrhyw un neu ragor o’r personau hynny wedi ofni am eu diogelwch, a

(b)bod y contractwr wedi adrodd am y digwyddiad i’r heddlu,

rhaid i’r contractwr roi hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol yn unol ag is-baragraff (3) yn gofyn i’r person gael ei ddileu o’i restr o gleifion.

(2Y personau a bennir yn yr is-baragraff hwn yw—

(a)y contractwr, pan fo’r contractwr yn ymarferydd meddygol unigol,

(b)yn achos contract gyda dau neu ragor o bersonau yn ymarfer mewn partneriaeth, partner yn y bartneriaeth honno,

(c)yn achos contract gyda chwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau, person y mae cyfrannau yn y cwmni hwnnw yn eiddo iddo yn gyfreithiol ac yn llesiannol,

(d)aelod o staff y contractwr,

(e)person a gymerwyd ymlaen gan y contractwr i gyflawni neu i helpu i gyflawni gwasanaethau o dan y contract, neu

(f)unrhyw berson arall sy’n bresennol—

(i)ar fangre practis y contractwr, neu

(ii)yn y man lle’r oedd gwasanaethau’n cael eu darparu i’r claf o dan y contract.

(3Rhaid i hysbysiad o dan is-baragraff (1) fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys y rhif cyfeirnod trosedd a ddyrannwyd i’r digwyddiad gan yr heddlu.

(4Mae penderfyniad i ddileu person o restr y gwnaed cais amdano yn unol ag is-baragraff (1) yn cael effaith o ba un bynnag yw’r cynharaf o blith—

(a)y dyddiad y rhoddir hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol bod y person hwnnw wedi ei gofrestru gyda darparwr arall gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol),

(b)drannoeth y diwrnod y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn rhoi hysbysiad i’r contractwr ei fod wedi cymeradwyo dileu’r person o’r rhestr, neu

(c)y seithfed niwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cael yr hysbysiad gan y contractwr, os nad yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi cymeradwyo nac wedi gwrthod yr hysbysiad o fewn y cyfnod hwnnw.

(5Pan fo’r contractwr, yn unol â’r paragraff hwn, wedi rhoi hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod yn dymuno dileu claf o’i restr o gleifion a bod y cais hwnnw wedi cymryd effaith o dan is-baragraff (4), rhaid i’r contractwr hysbysu’r person hwnnw o’r ffaith honno oni bai—

(a)nad yw’n rhesymol ymarferol i’r contractwr wneud hynny, neu

(b)bod gan y contractwr sail resymol dros gredu y byddai gwneud hynny—

(i)yn niweidiol i iechyd corfforol neu feddyliol y person hwnnw, neu

(ii)yn peri risg i ddiogelwch unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (2).

(6Pan fo person yn cael ei ddileu o restr y contractwr o gleifion o dan y paragraff hwn, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad i’r person hwnnw yn ysgrifenedig ei fod wedi ei ddileu o’r rhestr.

(7Rhaid i’r contractwr gofnodi penderfyniad i ddileu unrhyw berson o’i restr o gleifion o dan y paragraff hwn, a’r amgylchiadau sy’n arwain at ei ddileu, yng nghofnodion meddygol y person y dilëir ei enw.

Dileu cleifion o’r rhestr os ydynt wedi eu cofrestru mewn man arall

31.—(1Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddileu person o restr y contractwr o gleifion—

(a)os yw’r person wedi ei gofrestru wedyn gyda darparwr arall gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol) yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol, neu

(b)os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi cael hysbysiad gan Fwrdd Iechyd Lleol arall, GIG Lloegr, Bwrdd Iechyd neu Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod y claf wedi ei gofrestru wedyn gyda darparwr gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol) y tu allan i ardal y Bwrdd Iechyd Lleol.

(2Mae dileu person yn unol ag is-baragraff (1) i gael effaith—

(a)ar y dyddiad y rhoddir hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol fod y person wedi ei gofrestru gyda’r darparwr newydd, neu

(b)gyda chydsyniad y Bwrdd Iechyd Lleol, ar unrhyw ddyddiad arall y cytunir arno rhwng y contractwr a’r darparwr newydd.

(3Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig i gontractwr am unrhyw berson sy’n cael ei ddileu o’i restr o gleifion o dan is-baragraff (1).

Dileu o’r rhestr gleifion sydd wedi symud

32.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni, neu wedi ei hysbysu gan y contractwr, fod person ar restr y contractwr o gleifion wedi symud ac nad yw’n preswylio mwyach yn ardal practis y contractwr hwnnw, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)rhoi gwybod i’r person ac i’r contractwr nad oes rheidrwydd bellach ar y contractwr i ymweld â’r person a’i drin,

(b)cynghori’r person yn ysgrifenedig naill ai i sicrhau cytundeb y contractwr i’r person hwnnw barhau i gael ei gynnwys ar restr y contractwr o gleifion, neu i wneud cais i gofrestru gyda darparwr arall gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol), ac

(c)rhoi gwybod i’r person, os nad yw’r person hwnnw, ar ôl y cyfnod o 30 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad y rhoddwyd y cyngor a grybwyllir ym mharagraff (b), wedi gweithredu yn unol â’r cyngor hwnnw ac wedi hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â hynny, fod y person hwnnw i’w ddileu o restr y contractwr o gleifion.

(2Os nad yw’r Bwrdd Iechyd Lleol, ar ddiwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-baragraff (1)(c), wedi ei hysbysu gan y person am y camau a gymerwyd, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddileu’r person hwnnw o restr y contractwr o gleifion a hysbysu’r person hwnnw a’r contractwr ei fod wedi ei ddileu.

Dileu o’r rhestr gleifion nad yw eu cyfeiriad yn hysbys

33.  Pan na fo cyfeiriad person sydd ar restr y contractwr o gleifion yn hysbys i’r Bwrdd Iechyd Lleol mwyach a bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn credu yn rhesymol nad yw hyn oherwydd na all y claf ddangos prawf o gyfeiriad, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr ei fod, ar ddiwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad, yn bwriadu dileu’r person o restr y contractwr o gleifion, a

(b)ar ddiwedd y cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), ddileu’r person o restr y contractwr o gleifion oni bai bod y contractwr, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, yn bodloni’r Bwrdd Iechyd Lleol bod y person yn glaf y mae’n dal i fod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau unedig iddo.

Dileu o’r rhestr gleifion sy’n absennol o’r Deyrnas Unedig etc.

34.—(1Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddileu person o restr y contractwr o gleifion pan fo’n cael hysbysiad i’r perwyl bod y person—

(a)yn bwriadu bod i ffwrdd o’r Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 wythnos o leiaf,

(b)yn lluoedd arfog y Goron (ac eithrio yn achos claf y mae paragraff 24 yn gymwys iddo),

(c)yn treulio cyfnod yn y carchar o fwy na 2 flynedd, neu fwy nag un cyfnod yn y carchar sy’n gyfanswm cyfanredol o fwy na 2 flynedd,

(d)wedi bod yn absennol o’r Deyrnas Unedig am gyfnod o fwy na 12 wythnos, neu

(e)wedi marw.

(2Mae dileu person o restr contractwr o gleifion o dan y paragraff hwn yn cael effaith—

(a)pan fo is-baragraff (1)(a) i (c) yn gymwys, o ba un bynnag yw’r hwyraf o blith—

(i)y dyddiad y mae’r person yn ymadael, yn ymrestru neu’n cael ei garcharu, neu

(ii)y dyddiad y bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn cael hysbysiad am y tro cyntaf fod y person wedi ymadael, wedi ymrestru neu wedi ei garcharu, neu

(b)pan fo is-baragraff (1)(d) ac (e) yn gymwys, y dyddiad y rhoddir hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol fod y person yn absennol neu wedi marw.

(3Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr fod unrhyw berson wedi ei ddileu o restr y contractwr o gleifion o dan y paragraff hwn.

Dileu o’r rhestr gleifion a dderbyniwyd mewn mannau eraill yn breswylwyr dros dro

35.—(1Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddileu person o restr y contractwr o gleifion pan fo’r person wedi ei dderbyn yn breswylydd dros dro gan gontractwr arall neu ddarparwr arall gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol) pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni, ar ôl ymholiadau priodol—

(a)bod arhosiad y person yn y man preswylio dros dro wedi mynd dros 12 wythnos, a

(b)nad yw’r person wedi dychwelyd i’w fan preswylio arferol nac i unrhyw le arall o fewn ardal practis y contractwr.

(2Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig bod person wedi ei dynnu oddi ar restr contractwr o gleifion o dan y paragraff hwn—

(a)i’r contractwr, a

(b)pan fo’n ymarferol, i’r person hwnnw.

(3Rhaid i hysbysiad a roddir o dan is-baragraff (2)(b) roi gwybod i’r person—

(a)am hawlogaeth y person hwnnw i wneud trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol) i’r person hwnnw, gan gynnwys gan y contractwr y mae’r person hwnnw wedi ei drin ganddo fel preswylydd dros dro, a

(b)am enw, cyfeiriad post a chyfeiriad post electronig a rhif ffôn y Bwrdd Iechyd Lleol.

Dileu o’r rhestr ddisgyblion etc. ysgol

36.—(1Pan fo’r contractwr yn darparu gwasanaethau unedig o dan y contract i bersonau ar y sail eu bod yn ddisgyblion, yn staff neu’n breswylwyr mewn ysgol, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddileu o restr y contractwr o gleifion unrhyw berson nad yw’n ymddangos ar y manylion a ddarperir gan yr ysgol honno o bobl sy’n ddisgyblion, yn staff neu’n breswylwyr yn yr ysgol honno.

(2Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi gofyn i ysgol ddarparu’r manylion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) ac nad yw wedi cael y manylion hynny, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ymgynghori â’r contractwr ynghylch pa un a ddylai ddileu o restr y contractwr o gleifion unrhyw bersonau sy’n ymddangos yn y rhestr honno fel disgyblion, staff neu breswylwyr yn yr ysgol honno.

(3Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr fod unrhyw berson wedi ei ddileu o restr y contractwr o gleifion o dan y paragraff hwn.

Terfynu cyfrifoldeb am gleifion sydd heb eu cofrestru gyda’r contractwr

37.—(1Pan fo’r contractwr—

(a)wedi cael cais am ddarpariaeth gwasanaethau meddygol heblaw gwasanaethau unedig—

(i)gan berson nad yw wedi ei gynnwys (ac nad yw’n gwneud cais am gael ei gynnwys) yn rhestr y contractwr o gleifion,

(ii)gan berson nad yw’r contractwr wedi ei dderbyn yn breswylydd dros dro, neu

(iii)a wneir ar ran person y cyfeirir ato yn is-baragraff (i) neu (ii), gan berson a bennir ym mharagraff 23(4), a

(b)wedi derbyn y person sy’n gwneud y cais neu y gwneir y cais ar ei ran yn glaf ar gyfer darparu’r gwasanaeth o dan sylw,

mae cyfrifoldeb y contractwr am y person hwnnw yn terfynu o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-baragraff (2).

(2Yr amgylchiadau a ddisgrifir yn yr is-baragraff hwn yw—

(a)bod y contractwr yn cael gwybod nad yw’r person yn dymuno mwyach i’r contractwr fod yn gyfrifol am ddarparu’r gwasanaeth o dan sylw, neu

(b)bod y contractwr yn cael gwybod nad yw’r person—

(i)yn preswylio mwyach yn yr ardal y mae’r contractwr wedi cytuno i ddarparu’r gwasanaeth o dan sylw ar ei chyfer, neu

(ii)wedi ei gynnwys mwyach yn rhestr cleifion contractwr arall y mae’r contractwr wedi cytuno i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw i’w gleifion cofrestredig.

(3Rhaid i’r contractwr gadw cofnod ysgrifenedig o derfyniadau o dan y paragraff hwn ac o’r rhesymau dros y terfyniadau hynny, a rhaid iddo drefnu bod y cofnod hwn ar gael i’r Bwrdd Iechyd Lleol ar gais.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill