Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 11Amrywio a therfynu contractau

Amrywio contract: cyffredinol

109.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau 76(8), 110, 111 a 124 o’r Atodlen hon, nid yw unrhyw ddiwygiad nac amrywiad yn cael effaith oni bai ei fod yn ysgrifenedig ac wedi ei lofnodi gan neu ar ran y Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr.

(2Yn ychwanegol at y ddarpariaeth benodol a wneir ym mharagraffau 110(6), 111(11) a 124 caiff y Bwrdd Iechyd Lleol amrywio’r contract heb gydsyniad y contractwr—

(a)pan fo wedi ei fodloni’n rhesymol ei bod yn angenrheidiol amrywio’r contract er mwyn cydymffurfio â’r Ddeddf, ag unrhyw reoliadau a wnaed yn unol â’r Ddeddf honno, neu ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru yn unol â’r Ddeddf honno, a

(b)pan fo’n hysbysu’r contractwr yn ysgrifenedig am eiriad yr amrywiad arfaethedig a’r dyddiad y mae’r amrywiad hwnnw i gymryd effaith, a

pan fo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, ni chaiff y dyddiad y mae’r amrywiad arfaethedig i ddod i rym fod yn llai na 14 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad o dan baragraff (b) i’r contractwr.

Darpariaethau ynglŷn ag amrywiad sy’n benodol i gontract gydag ymarferydd meddygol unigol

110.—(1Os yw contractwr sy’n ymarferydd meddygol unigol yn bwriadu ymarfer mewn partneriaeth ag un neu ragor o bobl yn ystod bodolaeth y contract, rhaid i’r contractwr hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig am y canlynol—

(a)enw’r person neu’r personau y mae’n bwriadu ymarfer mewn partneriaeth ag ef neu â hwy, a

(b)y dyddiad y mae’r contractwr yn dymuno newid ei statws fel contractwr o ymarferydd meddygol unigol i bartneriaeth, na chaiff fod lai nag 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cyflwynodd yr hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â’r is-baragraff hwn.

(2Rhaid i hysbysiad o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â’r person neu bob un o’r personau y mae’r contractwr yn bwriadu ymarfer ag ef neu â hwy mewn partneriaeth, a hefyd mewn cysylltiad ag ef ei hun o ran y materion a bennir ym mharagraff (c)—

(a)cadarnhau bod y person naill ai—

(i)yn ymarferydd meddygol, neu

(ii)yn berson sy’n bodloni’r amodau a bennir yn adran 44(2)(b)(i) i (iv) o’r Ddeddf,

(b)cadarnhau bod y person yn bodloni’r amodau a osodir gan reoliadau 5 a 6,

(c)nodi pa un a yw’r bartneriaeth i fod yn bartneriaeth gyffredinol ynteu’n bartneriaeth gyfyngedig a rhoi enwau’r partneriaid cyfyngedig a’r partneriaid cyffredinol yn y bartneriaeth, a

rhaid i’r hysbysiad gael ei lofnodi gan yr ymarferydd meddygol unigol a chan y person, neu bob un o’r personau (yn ôl y digwydd), y mae’r ymarferydd meddygol yn bwriadu ymarfer mewn partneriaeth â hwy.

(3Rhaid i’r contractwr sicrhau bod unrhyw berson sydd i ymarfer mewn partneriaeth gydag ef wedi ei rwymo gan y contract, pa un ai yn rhinwedd cytundeb partneriaeth neu fel arall.

(4Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni ynghylch cywirdeb y materion a bennir yn is-baragraff (2) sydd wedi eu cynnwys yn yr hysbysiad, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr yn cadarnhau bod y contract yn parhau â’r bartneriaeth yr ymrwymwyd iddi gan y contractwr a’i bartneriaid, o ddyddiad y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ei bennu yn yr hysbysiad hwnnw.

(5Pan fo’n rhesymol ymarferol, y dyddiad a bennir gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn unol ag is-baragraff (4) yw’r dyddiad y gofynnir amdano yn yr hysbysiad a gyflwynir gan y contractwr yn unol ag is-baragraff (1), neu, pan na fo’r dyddiad hwnnw’n rhesymol ymarferol, mae’r dyddiad a bennir i fod yn ddyddiad ar ôl y dyddiad y gofynnwyd amdano sydd mor agos at y dyddiad y gofynnwyd amdano ag sy’n rhesymol ymarferol.

(6Pan fo contractwr wedi rhoi hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol yn unol ag is-baragraff (1), o ran y Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)caiff amrywio’r contract ond dim ond i’r graddau y mae wedi ei fodloni ei bod yn angenrheidiol adlewyrchu’r newid yn statws y contractwr o ymarferydd meddygol unigol i bartneriaeth, a

(b)os yw’n bwriadu amrywio’r contract felly, rhaid iddo gynnwys yn yr hysbysiad a gyflwynir i’r contractwr yn unol ag is-baragraff (4) eiriad yr amrywiad arfaethedig a’r dyddiad y mae’r amrywiad hwnnw i gael effaith.

Darpariaethau ynglŷn ag amrywiad sy’n benodol i gontract gyda dau neu ragor o unigolion yn ymarfer mewn partneriaeth

111.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), pan fo contractwr yn cynnwys dau neu ragor o unigolion yn ymarfer mewn partneriaeth, os bydd y bartneriaeth yn cael ei therfynu neu ei diddymu, mae’r contract yn parhau gyda’r bartneriaeth honno oni chaiff y contract ei derfynu gan y contractwr neu gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan ddarpariaethau’r Rhan hon ac ni chaiff y contract ond parhau gydag un yn unig o’r cyn-bartneriaid os yw’r partner hwnnw—

(a)wedi ei enwebu yn unol ag is-baragraff (3), a

(b)yn ymarferydd meddygol sy’n bodloni’r amod yn rheoliad 5(1)(a),

ac ar yr amod bod y gofynion yn is-baragraffau (2) a (3) wedi eu bodloni.

(2Rhaid i gontractwr hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y dyddiad y mae’r contractwr yn bwriadu newid ei statws o bartneriaeth i ymarferydd meddygol unigol yn unol ag is-baragraff (1).

(3Rhaid i hysbysiad o dan is-baragraff (2)—

(a)pennu’r dyddiad y mae’r contractwr yn bwriadu newid ei statws o bartneriaeth i ymarferydd meddygol unigol,

(b)pennu enw’r ymarferydd meddygol y mae’r contract i barhau gydag ef, y mae’n rhaid iddo fod yn un o’r partneriaid, ac

(c)cael ei lofnodi gan bob un o’r personau sy’n ymarfer mewn partneriaeth.

(4Pan fo contractwr yn cynnwys dau berson yn ymarfer mewn partneriaeth a bod y bartneriaeth yn cael ei therfynu neu ei diddymu am fod un o’r partneriaid wedi marw, rhaid i’r partner sy’n goroesi yn y bartneriaeth roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol o’r farwolaeth honno cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ac yn yr achos hwnnw, mae is-baragraffau (5) a (6) yn gymwys.

(5Os yw’r partner sy’n goroesi yn y bartneriaeth yn ymarferydd meddygol cyffredinol, mae’r contract i barhau gyda’r ymarferydd meddygol cyffredinol hwnnw.

(6Os nad yw’r partner sy’n goroesi yn y bartneriaeth yn ymarferydd meddygol cyffredinol, o ran y Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)rhaid iddo ddechrau trafodaethau â’r partner hwnnw a defnyddio ymdrechion rhesymol i ddod i gytundeb i alluogi gwasanaethau clinigol i barhau i gael eu darparu o dan y contract,

(b)os yw’n ystyried bod hynny’n briodol, caiff ymgynghori â’r Pwyllgor Meddygol Lleol (os oes un) ar gyfer yr ardal yr oedd y bartneriaeth yn darparu gwasanaethau clinigol o dan y contract ynddi, neu ag unrhyw berson arall y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ei ystyried yn angenrheidiol,

(c)os yw o’r farn bod hynny’n briodol i alluogi gwasanaethau clinigol i barhau i gael eu darparu o dan y contract, caiff gynnig cymorth rhesymol i’r partner sy’n goroesi yn y bartneriaeth, a

(d)rhaid iddo roi hysbysiad i’r partner sy’n goroesi yn y bartneriaeth os daethpwyd i gytundeb yn unol ag is-baragraff (7) neu, os na ellir dod i gytundeb, yn unol ag is-baragraff (8).

(7Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn dod i gytundeb, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig i’r partner sy’n goroesi yn y bartneriaeth yn cadarnhau—

(a)y telerau y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cytuno i’r contract barhau â’r partner hwnnw arnynt gan gynnwys y cyfnod, fel y’i pennir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, pryd y mae’r contract i barhau ynddo (“y cyfnod interim”) ac ni chaiff cyfnod o’r fath fod yn fwy na 6 mis,

(b)bod y partner yn cytuno i gyflogi neu i gymryd ymlaen ymarferydd meddygol cyffredinol am y cyfnod interim i gynorthwyo wrth ddarparu gwasanaethau clinigol o dan y contract, ac

(c)y cymorth, os oes cymorth o gwbl, y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol i’w ddarparu i alluogi gwasanaethau clinigol i barhau i gael eu darparu o dan y contract yn ystod y cyfnod interim.

(8Os—

(a)nad yw’r partner sy’n goroesi yn y bartneriaeth yn dymuno cyflogi na chymryd ymlaen ymarferydd meddygol,

(b)na ellir dod i gytundeb yn unol ag is-baragraff (6), neu

(c)hoffai’r partner sy’n goroesi yn y bartneriaeth dynnu’n ôl o’r trefniadau y cytunwyd arnynt ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod interim,

rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig i’r partner hwnnw yn terfynu’r contract gydag effaith ar unwaith.

(9Os nad yw’r contractwr, ar ddiwedd y cyfnod interim, wedi ymrwymo i bartneriaeth gydag ymarferydd meddygol cyffredinol nad yw’n bartner cyfyngedig yn y bartneriaeth, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr yn terfynu’r contract gydag effaith ar unwaith.

(10Pan fo contractwr yn rhoi hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol o dan is-baragraff (2) neu (4), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)cydnabod yn ysgrifenedig fod yr hysbysiad wedi dod i law, a

(b)mewn perthynas â hysbysiad a roddir o dan is-baragraff (2), cydnabod bod yr hysbysiad wedi dod i law cyn y dyddiad a bennir yn unol ag is-baragraff (3)(a).

(11Pan fo contractwr yn rhoi hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol o dan is-baragraff (2) neu (4), caiff y Bwrdd Iechyd Lleol amrywio’r contract ond dim ond i’r graddau y mae wedi ei fodloni ei bod yn angenrheidiol er mwyn adlewyrchu newid statws y contractwr o bartneriaeth i ymarferydd meddygol unigol.

(12Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn amrywio’r contract o dan is-baragraff (11), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr am eiriad yr amrywiad arfaethedig a’r dyddiad y bydd yr amrywiad hwnnw yn cael effaith.

(13Yn y paragraff hwn, mae i “ymarferydd meddygol cyffredinol” yr un ystyr ag yn rheoliad 5(1).

(14Nid yw is-baragraffau (5) i (9) yn effeithio ar unrhyw hawl arall sydd gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan y contract i amrywio neu derfynu’r contract.

Terfynu drwy gytundeb

112.  Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr gytuno yn ysgrifenedig i derfynu’r contract, ac os yw’r partïon yn cytuno felly, rhaid iddynt gytuno ar y dyddiad y bydd y terfyniad hwnnw yn cael effaith ac unrhyw delerau pellach y dylid terfynu’r contract arnynt.

Terfynu yn sgil marwolaeth ymarferydd meddygol unigol

113.—(1Pan fo’r contractwr yn ymarferydd meddygol unigol a bod y contractwr yn marw, mae’r contract yn terfynu ar ddiwedd y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad y bu’r contractwr farw oni bai, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, fod is-baragraff (2) yn gymwys.

(2Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cytuno’n ysgrifenedig gyda chynrychiolwyr personol y contractwr fod y contract i barhau am gyfnod ychwanegol, nad yw’n hwy na 28 o ddiwrnodau, o ddiwedd y cyfnod o 7 niwrnod ymlaen, a

(b)pan fo cynrychiolwyr personol y contractwr yn cadarnhau yn ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol eu bod yn dymuno cyflogi neu gymryd ymlaen un neu ragor o ymarferwyr meddygol cyffredinol i gynorthwyo â pharhau â’r ddarpariaeth o wasanaethau clinigol o dan y contract ac, ar ôl trafod â’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(i)bo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cytuno i ddarparu cymorth rhesymol a fyddai’n galluogi gwasanaethau o dan y contract i barhau,

(ii)bo’r Bwrdd Iechyd Lleol a chynrychiolwyr personol y contractwr yn cytuno ar y telerau y caiff y gwasanaethau clinigol barhau odanynt; a

(iii)bo’r Bwrdd Iechyd Lleol a chynrychiolwyr personol y contractwr yn cytuno ar y cyfnod y bydd rhaid darparu gwasanaethau clinigol ynddo, sy’n gyfnod nad yw’n hwy nag 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod o 7 niwrnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (1).

(3Nid yw’r paragraff hwn yn effeithio ar unrhyw hawliau eraill i derfynu’r contract a all fod gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu’r contractwr.

Terfynu gan y contractwr

114.—(1Caiff contractwr derfynu’r contract drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol ar unrhyw bryd.

(2Pan fo contractwr yn cyflwyno hysbysiad yn unol ag is-baragraff (1), rhaid i’r contract, yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), derfynu 6 mis ar ôl y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad (“y dyddiad terfynu”), heblaw bod rhaid i’r contract, os nad yw’r dyddiad terfynu ar ddiwrnod calendr olaf mis, derfynu yn lle hynny ar ddiwrnod calendr olaf y mis y mae’r dyddiad terfynu yn syrthio ynddo.

(3Pan fo’r contractwr yn ymarferydd meddygol unigol a bo is-baragraff (2) yn gymwys i’r contractwr, mae gan y Bwrdd Iechyd Lleol ddisgresiwn i gytuno ar ddyddiad terfynu cynharach os ceir amgylchiadau eithriadol sy’n ei gwneud yn rhesymol i’r dyddiad terfynu gael ei ddwyn ymlaen. Os yw’r dyddiad terfynu i gael ei ddwyn ymlaen, mae’r dyddiad hwn i’w gytuno gan y Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr.

(4Nid yw’r paragraff hwn yn rhagfarnu unrhyw hawliau eraill i derfynu’r contract a all fod gan y contractwr.

Hysbysiadau talu hwyr

115.—(1Caiff y contractwr roi hysbysiad ysgrifenedig (“hysbysiad talu hwyr”) i’r Bwrdd Iechyd Lleol os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi methu â gwneud unrhyw daliadau sy’n ddyledus i’r contractwr yn unol ag unrhyw un neu ragor o delerau’r contract ynghylch talu’n brydlon sy’n cael yr effaith a bennir yn rheoliad 20(1) a rhaid i’r contractwr bennu yn yr hysbysiad talu hwyr y taliadau y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi methu â’u gwneud yn unol â’r rheoliad hwnnw.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), caiff y contractwr, o leiaf 28 o ddiwrnodau ar ôl cyflwyno hysbysiad talu hwyr, derfynu’r contract drwy hysbysiad ysgrifenedig pellach os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn dal heb allu gwneud y taliadau sy’n ddyledus i’r contractwr, ac a bennwyd yn yr hysbysiad talu hwyr a gyflwynwyd i’r Bwrdd Iechyd Lleol yn unol ag is-baragraff (1).

(3Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol, ar ôl cael hysbysiad talu hwyr, yn atgyfeirio’r mater at weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad talu hwyr iddo, a’i fod yn hysbysu’r contractwr yn ysgrifenedig ei fod wedi gwneud hynny o fewn y cyfnod amser hwnnw, ni chaiff y contractwr derfynu’r contract yn unol ag is-baragraff (2)—

(a)hyd nes y penderfynir ar yr anghydfod yn unol â pharagraff 106 a bod y penderfyniad hwnnw’n caniatáu i’r contractwr derfynu’r contract, neu

(b)hyd nes y bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn rhoi’r gorau i ddilyn gweithdrefn datrys anghydfodau’r GIG,

pa un bynnag sydd gyntaf.

(4Nid yw’r paragraff hwn yn rhagfarnu unrhyw hawliau eraill i derfynu’r contract a all fod gan y contractwr.

Terfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol: cyffredinol

116.  Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ond terfynu’r contract yn unol â’r canlynol—

(a)y darpariaethau yn y Rhan hon, neu

(b)unrhyw ddarpariaethau eraill ynglŷn â therfynu y mae’r contractwr a’r Bwrdd Iechyd Lleol yn eu cynnwys yn y contract.

Terfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol oherwydd torri amodau yn rheoliad 5

117.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr yn terfynu’r contract gydag effaith ar unwaith pan fo contractwr sy’n ymarferydd meddygol unigol wedi peidio â bod yn ymarferydd meddygol cyffredinol mewn unrhyw achos.

(2Pan fo’r contractwr y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) wedi peidio â bodloni’r amod a bennir yn rheoliad 5(1)(a) o ganlyniad i ataliad dros dro a bennir yn is-baragraff (6), nid yw is-baragraff (1) yn gymwys oni bai—

(a)nad yw’r contractwr yn gallu bodloni’r Bwrdd Iechyd Lleol fod ganddo drefniadau digonol ar waith i ddarparu gwasanaethau clinigol o dan y contract cyhyd ag y bydd yr ataliad dros dro yn parhau, neu

(b)bod y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni bod amgylchiadau’r ataliad dros dro yn golygu, os na chaiff y contract ei derfynu ar unwaith—

(i)bod diogelwch cleifion y contractwr yn wynebu risg ddifrifol, neu

(ii)bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn wynebu risg o gael colled ariannol sylweddol.

(3Ac eithrio mewn achos y mae paragraff 111(4) yn gymwys iddo, pan fo’r contractwr—

(a)yn ddau neu ragor o bersonau yn ymarfer mewn partneriaeth, ac nad yw’r amod a bennir yn rheoliad 5(1)(b) wedi ei fodloni mwyach, neu

(b)yn gwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau, ac nad yw’r amod a bennir yn rheoliad 5(1)(c) wedi ei fodloni mwyach,

mae is-baragraff (4) yn gymwys.

(4Pan fo is-baragraff (3)(a) neu (b) yn gymwys, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, yn ddarostyngedig i is-baragraff (8)—

(a)cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr yn terfynu’r contract ar unwaith, neu

(b)cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr yn cadarnhau y bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn caniatáu i’r contract barhau, am gyfnod a bennir gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â pharagraff (5) (y “cyfnod interim”), yn ystod y cyfryw gyfnod y mae rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, gyda chydsyniad y contractwr, gyflogi neu gyflenwi un neu ragor o ymarferwyr meddygol cyffredinol i’r contractwr am y cyfnod interim i gynorthwyo’r contractwr wrth ddarparu gwasanaethau clinigol o dan y contract.

(5Ni chaiff y cyfnod a bennir gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan is-baragraff (4)(b) fod yn fwy na—

(a)6 mis, neu

(b)mewn achos pan fo methiant y contractwr i barhau i fodloni’r amod yn rheoliad 5(1)(b) neu, yn ôl y digwydd, 5(1)(c), yn deillio o ganlyniad i ataliad dros dro y cyfeirir ato yn is-baragraff (6), y cyfnod y mae’r ataliad hwnnw’n parhau.

(6Yr ataliadau dros dro y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (2) a (5)(b) yw ataliad dros dro—

(a)gan Banel Addasrwydd i Ymarfer o dan—

(i)adran 35D (swyddogaethau panel addasrwydd i ymarfer) o Ddeddf Meddygaeth 1983 mewn achos iechyd, heblaw ataliad dros dro am gyfnod amhenodol o dan adran 35D(6), neu

(ii)adran 38(1) (pŵer i orchymyn ataliad dros dro ar unwaith etc ar ôl canfod amhariad ar addasrwydd i ymarfer) o’r Ddeddf honno, neu

(b)gan Banel Addasrwydd i Ymarfer neu Banel Gorchmynion Interim o dan adran 41A (gorchmynion interim) o’r Ddeddf honno.

(7Ym mharagraff (6), mae i “achos iechyd” yr ystyr a roddir i “health case” yn adran 35E(4) o Ddeddf Meddygaeth 1983.

(8Cyn penderfynu pa un o’r opsiynau yn is-baragraff (4) i’w ddilyn, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, pryd bynnag y bo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, ymgynghori â’r Pwyllgor Meddygol Lleol (os oes un) ar gyfer ei ardal.

(9Os nad yw’r contractwr, yn unol ag is-baragraff (4)(b), yn cydsynio i’r Bwrdd Iechyd Lleol gyflogi neu gyflenwi ymarferydd meddygol cyffredinol yn ystod y cyfnod interim, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr yn terfynu’r contract gydag effaith ar unwaith.

(10Os yw’r contractwr, ar ddiwedd y cyfnod interim, yn dal i syrthio o fewn is-baragraff (3)(a) neu (b), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr yn terfynu’r contract gydag effaith ar unwaith.

(11Yn y paragraff hwn, mae i “ymarferydd meddygol cyffredinol” yr un ystyr ag yn rheoliad 5(2).

Terfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol am ddarparu gwybodaeth anwir etc.

118.  Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr yn terfynu’r contract gydag effaith ar unwaith, neu o unrhyw ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad os daw y Bwrdd Iechyd Lleol i wybod, ar ôl i’r contract gael ei ymrwymo iddo, fod gwybodaeth ysgrifenedig a ddarparwyd i’r Bwrdd Iechyd Lleol gan y contractwr—

(a)cyn i’r contract gael ei ymrwymo iddo, neu

(b)yn unol â pharagraff 96(1)(a) neu 97(1)(b),

mewn perthynas â’r amodau a nodir yn rheoliadau 5 a 6 (ac â chydymffurfio â’r amodau hynny) yn anwir neu’n anghywir mewn ffordd berthnasol pan gafodd ei rhoi.

Seiliau eraill dros derfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol

119.—(1Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig i gontractwr yn terfynu’r contract ar unwaith, neu o unrhyw ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad, os yw is-baragraff (3) yn gymwys i’r contractwr—

(a)yn ystod bodolaeth contract, neu

(b)os yw’n ddiweddarach, ar neu ar ôl y dyddiad y rhoddwyd hysbysiad mewn cysylltiad â chydymffurfedd y contractwr â’r amod yn rheoliadau 5 a 6 o dan baragraff 96(1)(a) neu 97(1).

(2Mae is-baragraff (3) yn gymwys—

(a)pan fo’r contract yn gontract gydag ymarferydd meddygol cyffredinol, i’r ymarferydd meddygol cyffredinol hwnnw,

(b)pan fo’r contract yn gontract gyda dau berson neu ragor yn ymarfer mewn partneriaeth, i’r bartneriaeth neu i unrhyw bartner yn y bartneriaeth, ac

(c)pan fo’r contract yn gontract gyda chwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau—

(i)i’r cwmni,

(ii)i unrhyw berson sy’n berchennog cyfreithiol neu lesiannol ar gyfran yn y cwmni, neu

(iii)i unrhyw gyfarwyddwr neu ysgrifennydd i’r cwmni.

(3Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)os nad yw’r contractwr yn bodloni’r amodau a ragnodir yn adrannau 44(2) neu (3) o’r Ddeddf (personau sy’n gymwys i ymrwymo i gontractau GMC);

(b)os yw’r contractwr yn destun anghymhwysiad cenedlaethol;

(c)os yw’r contractwr, yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), wedi ei anghymhwyso neu wedi ei atal dros dro (heblaw drwy orchymyn atal dros dro interim neu gyfarwyddyd wrth aros am ymchwiliad neu atal dros dro ar sail afiechyd) rhag ymarfer gan gorff trwyddedu mewn unrhyw le yn y byd;

(d)os yw’r contractwr, yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), wedi ei ddiswyddo (heblaw oherwydd dileu swydd) o gyflogaeth gan gorff gwasanaeth iechyd oni bai bod y contractwr, cyn i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad i’r contractwr yn terfynu’r contract o dan y paragraff hwn, yn cael ei gyflogi gan y corff gwasanaeth iechyd y diswyddwyd y contractwr ohono neu gan gorff gwasanaeth iechyd arall;

(e)os yw’r contractwr wedi ei ddileu o restr gofal sylfaenol, neu os gwrthodwyd ei dderbyn i restr o’r fath, oherwydd aneffeithlonrwydd, twyll neu anaddasrwydd (o fewn ystyr adran 107(2), (3) a (4) o’r Ddeddf yn y drefn honno) oni bai bod enw’r contractwr wedi ei gynnwys ar restr o’r fath wedyn;

(f)os yw’r contractwr wedi ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o lofruddiaeth;

(g)os yw’r contractwr wedi ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o drosedd heblaw llofruddiaeth ac wedi ei ddedfrydu i gyfnod hwy na 6 mis o garchar;

(h)os yw’r contractwr, yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), wedi ei euogfarnu mewn man arall o drosedd a fyddai, pe bai wedi ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr, yn llofruddiaeth, ac—

(i)bod y drosedd wedi ei chyflawni ar neu ar ôl 26 Awst 2002, a

(ii)bod y contractwr wedi ei ddedfrydu i gyfnod hwy na 6 mis o garchar;

(i)os yw’r contractwr wedi ei euogfarnu o drosedd, y cyfeirir ati yn Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933(1) (troseddau yn erbyn plant a phobl ifanc y mae darpariaethau arbennig yn y Ddeddf hon yn gymwys iddynt), neu yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(2) (troseddau yn erbyn plant o dan 17 oed y mae darpariaethau arbennig yn gymwys iddynt);

(j)os yw’r contractwr ar unrhyw adeg wedi ei gynnwys—

(i)mewn unrhyw restr wahardd o fewn ystyr Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(3), neu

(ii)mewn unrhyw restr wahardd o fewn ystyr Gorchymyn Diogelu Grwpiau Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2007(4) (rhestrau gwahardd),

oni bai bod y contractwr wedi ei ddileu o’r rhestr naill ai ar y sail nad oedd yn briodol i’r contractwr fod wedi ei gynnwys ynddi neu o ganlyniad i apêl lwyddiannus;

(k)os yw’r contractwr, o fewn y cyfnod o 5 mlynedd cyn llofnodi’r contract, wedi ei ddiswyddo o swydd ymddiriedolwr elusen neu ymddiriedolwr ar gyfer elusen drwy orchymyn a wnaed gan y Comisiwn Elusennau, Comisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon neu’r Uchel Lys, a bod y gorchymyn hwnnw wedi ei wneud ar sail camymddwyn neu gamreoli wrth weinyddu elusen y bu’r contractwr yn gyfrifol amdano neu y bu’r contractwr yn gyfrannog iddo, neu y cyfrannwyd ato gan ymddygiad y contractwr, neu a hwyluswyd gan ymddygiad y contractwr;

(l)os yw’r contractwr, o fewn y cyfnod o 5 mlynedd cyn llofnodi’r contract neu gychwyn y contract (pa un bynnag sydd gyntaf), wedi ei ddiswyddo rhag ymwneud â rheoli neu reolaeth ar gorff mewn unrhyw achos pan fo’r diswyddo yn rhinwedd adran 34(5)(e) o Ddeddf Elusennau a Buddsoddi gan Ymddiriedolwyr (Yr Alban) 2005(5) (pwerau’r Llys Sesiwn); neu

(m)os —

(i)yw’r contractwr wedi ei wneud yn fethdalwr ac nad yw wedi ei ryddhau o’r methdaliad neu nad yw’r gorchymyn methdaliad wedi ei ddirymu, neu

(ii)dyfarnwyd i ystad y contractwr gael ei secwestru ac nad yw’r contractwr wedi ei ryddhau o’r secwestru;

(n)os yw’r contractwr yn ddarostyngedig i orchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn cyfyngu methdaliad interim o dan Atodlen 4A i Ddeddf Ansolfedd 1986(6) (gorchymyn cyfyngu methdaliad ac ymgymeriad), neu Atodlen 2A i Orchymyn Ansolfedd (Gogledd Iwerddon) 1989(7) (gorchymyn cyfyngu methdaliad ac ymgymeriad) neu Ran 13 o Ddeddf Methdaliad (Yr Alban) 2016(8) (gorchmynion cyfyngu methdaliad a gorchmynion cyfyngu methdaliad interim), oni bai bod y contractwr wedi ei ryddhau o’r gorchymyn hwnnw neu fod y gorchymyn hwnnw wedi ei ddirymu;

(o)os yw’r contractwr—

(i)yn ddarostyngedig i gyfnod moratoriwm o dan orchymyn rhyddhau o ddyled o dan Ran VIIA o Ddeddf Ansolfedd 1986(9) (gorchmynion rhyddhau o ddyled), neu

(ii)yn ddarostyngedig i orchymyn cyfyngu rhyddhau o ddyled neu orchymyn cyfyngu rhyddhau o ddyled interim o dan Atodlen 4ZB i’r Ddeddf honno (gorchmynion ac ymgymeriadau cyfyngiadau rhyddhau o ddyled), oni bai bod y gorchymyn hwnnw wedi peidio â chael effaith neu wedi ei ddirymu;

(p)os yw’r contractwr wedi gwneud cytundeb neu drefniant cyfansoddi gyda chredydwyr y contractwr, neu wedi rhoi gweithred ymddiriedolaeth ar eu cyfer, ac nad yw’r contractwr wedi ei ryddhau mewn perthynas â’r cytundeb neu â’r trefniant;

(q)os yw’r contractwr yn gwmni sydd wedi ei ddirwyn i ben o dan Ran IV o Ddeddf Ansolfedd 1986 (dirwyn cwmnïau sydd wedi eu cofrestru o dan y Deddfau Cwmnïau i ben);

(r)os oes gweinyddwr, derbynnydd gweinyddol neu dderbynnydd wedi ei benodi mewn cysylltiad â’r contractwr;

(s)os oes gorchymyn gweinyddu wedi ei wneud mewn cysylltiad â’r contractwr o dan Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986 (gweinyddiaeth);

(t)os yw’r contractwr yn bartneriaeth ac—

(i)bod y bartneriaeth yn cael ei diddymu gan un o’r partneriaid, neu fod unrhyw lys, tribiwnlys neu gymrodeddwr cymwys yn gorchymyn diddymu’r bartneriaeth, neu

(ii)bod digwyddiad yn digwydd sy’n ei gwneud yn anghyfreithlon i fusnes y bartneriaeth barhau, neu i aelodau’r bartneriaeth barhau mewn partneriaeth;

(u)os yw’r contractwr yn ddarostyngedig i—

(i)gorchymyn anghymhwyso o dan adran 1 o Ddeddf Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 1986(10) (gorchmynion anghymhwyso: cyffredinol) neu ymgymeriad anghymhwyso o dan adran 1A o’r Ddeddf honno (ymgymeriadau anghymhwyso: cyffredinol),

(ii)gorchymyn anghymhwyso neu ymgymeriad anghymhwyso o dan erthygl 3 (gorchmynion anghymhwyso: cyffredinol) neu erthygl 4 (ymgymeriadau anghymhwyso: cyffredinol) o Orchymyn Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 2002(11), neu

(iii)gorchymyn anghymhwyso o dan adran 429(2) o Ddeddf Ansolfedd 1986 (anableddau wrth ddirymu gorchymyn gweinyddu yn erbyn unigolyn);

(v)os yw’r contractwr wedi gwrthod cydymffurfio â chais gan y Bwrdd Iechyd Lleol i’r contractwr gael ei archwilio’n feddygol am fod y Bwrdd Iechyd Lleol yn pryderu nad yw’r contractwr yn gallu darparu gwasanaethau yn ddigonol o dan y contract ac, mewn achos pan fo’r contract gyda dau neu ragor o unigolion yn ymarfer mewn partneriaeth neu gyda chwmni, bod y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni bod y contractwr yn cymryd camau digonol i ddelio â’r mater; neu

(w)os yw’r contractwr neu ei gyflogeion neu ei asiantau (neu unrhyw un sy’n gweithredu ar ei ran neu ar eu rhan) yn cyflawni unrhyw weithred waharddedig mewn perthynas â’r contract drwy wybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol neu yn ddiarwybod iddo.

(4Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol derfynu’r contract o dan is-baragraff (3)(c) pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni nad yw’r anghymhwysiad neu’r ataliad dros dro a osodwyd gan gorff trwyddedu y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn gwneud y person yn anaddas i fod—

(a)yn gontractwr,

(b)yn bartner, yn achos contract gyda dau berson neu ragor yn ymarfer mewn partneriaeth, neu

(c)yn achos contract gyda chwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau—

(i)yn berson y mae cyfran yn y cwmni yn eiddo cyfreithiol neu lesiannol iddo, neu

(ii)yn gyfarwyddwr neu’n ysgrifennydd i’r cwmni,

yn ôl y digwydd.

(5Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol derfynu’r contract o dan is-baragraff (3)(d)—

(a)hyd nes bod cyfnod o 12 wythnos o leiaf wedi mynd heibio ers dyddiad diswyddo’r person o dan sylw, neu

(b)os bydd y person o dan sylw, yn ystod y cyfnod a bennir ym mharagraff (a), yn dwyn achos mewn unrhyw dribiwnlys neu lys cymwys mewn cysylltiad â diswyddo’r person, hyd nes bod yr achos gerbron y tribiwnlys neu’r llys hwnnw wedi dod i ben,

ac ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ond terfynu’r contract ar ddiwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (b) os na cheir dyfarniad o ddiswyddo annheg ar ddiwedd yr achos hwnnw.

(6Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol derfynu’r contract o dan is-baragraff (3)(h) pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni nad yw’r euogfarn yn gwneud y person yn anaddas i fod—

(a)yn gontractwr,

(b)yn bartner, yn achos contract gyda dau berson neu ragor yn ymarfer mewn partneriaeth, neu

(c)yn achos contract gyda chwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau—

(i)yn berson y mae cyfran yn y cwmni yn eiddo cyfreithiol neu lesiannol iddo, neu

(ii)yn gyfarwyddwr neu’n ysgrifennydd i’r cwmni,

yn ôl y digwydd.

Terfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol pan fo risg ddifrifol i ddiogelwch cleifion neu pan fo risg o golled ariannol sylweddol i’r Bwrdd Iechyd Lleol

120.  Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr yn terfynu’r contract gydag effaith ar unwaith neu o unrhyw ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad—

(a)os yw’r contractwr wedi torri’r contract a bod risg ddifrifol i ddiogelwch cleifion y contractwr o ganlyniad i’r toriad hwnnw os na therfynir y contract, neu

(b)os yw sefyllfa ariannol y contractwr yn golygu bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn wynebu risg o gael colled ariannol sylweddol.

Terfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol am is-gontractio anghyfreithlon

121.  Os yw’r contractwr yn torri’r amod a bennir ym mharagraff 76(11) a bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn cael gwybod bod y contractwr wedi gwneud hynny, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr—

(a)yn terfynu’r contract gydag effaith ar unwaith, neu

(b)yn cyfarwyddo’r contractwr i derfynu’r trefniadau is-gontractio sy’n arwain at y toriad gydag effaith ar unwaith, ac os yw’n methu â chydymffurfio â’r cyfarwyddiad, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr yn terfynu’r contract ar unwaith.

Terfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol: hysbysiadau adfer a hysbysiadau torri

122.—(1Pan fo contractwr wedi torri’r contract heblaw fel y pennir ym mharagraffau 117 i 121 a bod modd unioni’r toriad, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, cyn cymryd unrhyw gamau y mae ganddo hawlogaeth i’w cymryd fel arall yn rhinwedd y contract, gyflwyno hysbysiad i’r contractwr yn ei gwneud yn ofynnol iddo unioni’r toriad (“hysbysiad adfer”).

(2Rhaid i hysbysiad adfer bennu—

(a)manylion y toriad,

(b)y camau y mae rhaid i’r contractwr eu cymryd er boddhad y Bwrdd Iechyd Lleol er mwyn unioni’r toriad, ac

(c)y cyfnod y mae rhaid cymryd y camau o’i fewn (“cyfnod yr hysbysiad”).

(3Oni bai bod y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni bod cyfnod byrrach yn angenrheidiol er mwyn—

(a)amddiffyn diogelwch cleifion y contractwr, neu

(b)ei amddiffyn ei hun rhag colled ariannol sylweddol,

ni chaiff cyfnod yr hysbysiad fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.

(4Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni nad yw’r contractwr wedi cymryd y camau gofynnol i unioni’r toriad erbyn diwedd cyfnod yr hysbysiad, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol derfynu’r contract gydag effaith o unrhyw ddyddiad a bennir gan y Bwrdd Iechyd Lleol mewn hysbysiad pellach i’r contractwr.

(5Pan fo contractwr wedi torri’r contract heblaw fel y pennir ym mharagraffau 117 i 121 ac na ellir unioni’r toriad, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol gyflwyno hysbysiad i’r contractwr yn ei gwneud yn ofynnol i’r contractwr beidio ag ailadrodd y toriad (“hysbysiad torri”).

(6Os bydd y contractwr, yn dilyn hysbysiad torri neu hysbysiad adfer—

(a)yn ailadrodd y toriad a oedd yn destun yr hysbysiad torri neu’r hysbysiad adfer, neu

(b)fel arall yn torri’r contract gan arwain naill ai at hysbysiad adfer neu at hysbysiad torri pellach,

caiff y Bwrdd Iechyd Lleol gyflwyno hysbysiad i’r contractwr yn terfynu’r contract gydag effaith o unrhyw ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad hwnnw.

(7Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol arfer ei hawl i derfynu’r contract o dan is-baragraff (6) oni bai ei fod wedi ei fodloni bod effaith gronnol y toriadau yn golygu bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried y byddai caniatáu i’r contract barhau yn niweidiol i effeithlonrwydd y gwasanaethau sydd i’w darparu o dan y contract.

(8Os yw’r contractwr wedi torri unrhyw rwymedigaeth a bod hysbysiad torri neu hysbysiad adfer mewn cysylltiad â’r diffyg hwnnw wedi ei roi i’r contractwr, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol gadw’n ôl neu ddidynnu arian a fyddai fel arall yn daladwy o dan y contract mewn cysylltiad â’r rhwymedigaeth honno sy’n destun y diffyg.

Terfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol: darpariaethau ychwanegol sy’n benodol i gontractau gyda dau neu ragor o unigolion yn ymarfer mewn partneriaeth a chwmnïau cyfyngedig drwy gyfrannau

123.—(1Pan fo’r contractwr yn gwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau, os caiff y Bwrdd Iechyd Lleol wybod bod y contractwr yn cynnal unrhyw fusnes y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried ei fod yn niweidiol i’r modd y mae’r contractwr yn cyflawni ei rwymedigaethau o dan y contract—

(a)mae gan y Bwrdd Iechyd Lleol hawlogaeth i roi hysbysiad i’r contractwr yn ei gwneud yn ofynnol iddo roi’r gorau i gynnal y busnes hwnnw cyn diwedd cyfnod o ddim llai nag 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad (“cyfnod yr hysbysiad”), a

(b)os nad yw’r contractwr wedi bodloni’r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod wedi rhoi’r gorau i gynnal y busnes hwnnw erbyn diwedd cyfnod yr hysbysiad, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol, drwy hysbysiad ysgrifenedig pellach, derfynu’r contract ar unwaith neu o unrhyw ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2Pan fo’r contractwr yn ddau neu ragor o bersonau yn ymarfer mewn partneriaeth, mae gan y Bwrdd Iechyd Lleol hawlogaeth i derfynu’r contract drwy hysbysiad ysgrifenedig ar unrhyw ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad hwnnw pan fo un neu ragor o’r partneriaid wedi ymadael â’r practis yn ystod bodolaeth y contract os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol, yn ei farn resymol, yn ystyried bod y newid yn aelodaeth y bartneriaeth yn debygol o gael effaith andwyol ddifrifol ar allu’r contractwr neu’r Bwrdd Iechyd Lleol i gyflawni ei rwymedigaethau o dan y contract.

(3Rhaid i hysbysiad a roddir i’r contractwr yn unol ag is-baragraff (2) bennu—

(a)y dyddiad y mae’r contract i gael ei derfynu, a

(b)rhesymau’r Bwrdd Iechyd Lleol dros ystyried bod y newid yn aelodaeth y bartneriaeth yn debygol o gael effaith andwyol ddifrifol ar allu’r contractwr neu’r Bwrdd Iechyd Lleol i gyflawni ei rwymedigaethau o dan y contract.

Sancsiynau’r contract

124.—(1Yn y paragraff hwn a pharagraff 125, ystyr “sancsiynau’r contract” yw—

(a)terfynu neu atal cydrwymedigaethau penodedig o dan y contract, a/neu

(b)cadw’n ôl neu ddidynnu arian sy’n daladwy fel arall o dan y contract.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), pan fo gan y Bwrdd Iechyd Lleol hawlogaeth i derfynu’r contract o dan baragraffau 118, 119, 120, 122(4) neu 122(6) neu 123, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol yn hytrach osod unrhyw un neu ragor o sancsiynau’r contract os yw wedi ei fodloni’n rhesymol fod y sancsiwn contract sydd i’w osod yn briodol ac yn gymesur â’r amgylchiadau sy’n arwain at hawlogaeth y Bwrdd Iechyd Lleol i derfynu’r contract.

(3Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu gosod sancsiwn contract, rhaid iddo hysbysu’r contractwr yn ysgrifenedig am y sancsiwn contract y mae’n bwriadu ei osod, y dyddiad y mae’r sancsiwn hwnnw i’w osod a darparu esboniad yn yr hysbysiad hwnnw o effaith gosod y sancsiwn hwnnw.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff 125, ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol osod y sancsiwn contract hyd nes bod o leiaf 28 o ddiwrnodau wedi mynd heibio, gan ddechrau â’r dyddiad y cyflwynodd hysbysiad i’r contractwr yn unol ag is-baragraff (5) oni bai bod y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn—

(a)amddiffyn diogelwch cleifion y contractwr,

(b)sicrhau parhad gofal cleifion y contractwr, neu

(c)ei amddiffyn ei hun rhag colled ariannol sylweddol.

(5Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn gosod sancsiwn contract, rhaid i’r contractwr ddarparu pob gwybodaeth a chymorth i’r Bwrdd Iechyd Lleol, drwy gydol y cyfnod y mae’r sancsiwn contract yn gymwys, yn unol â gofynion rhesymol y Bwrdd Iechyd Lleol.

(6Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn gosod sancsiwn contract, mae gan y Bwrdd Iechyd Lleol hawlogaeth i godi ar y contractwr y costau rhesymol y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi mynd iddynt er mwyn gosod y sancsiwn contract, neu o ganlyniad i osod y sancsiwn contract.

Sancsiynau’r contract a gweithdrefn datrys anghydfodau’r GIG

125.—(1Os ceir anghydfod rhwng y Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr mewn perthynas â sancsiwn contract y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn bwriadu ei osod, ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol, yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), osod y sancsiwn contract arfaethedig ac eithrio o dan yr amgylchiadau a bennir yn is-baragraff (2)(a) neu (b).

(2Os yw’r contractwr yn atgyfeirio’r anghydfod ynglŷn â’r sancsiwn contract at weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad y cyflwynodd y Bwrdd Iechyd Lleol hysbysiad i’r contractwr yn unol â pharagraff 124(3) (neu unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno’n ysgrifenedig gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol), a’i fod yn hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig ei fod wedi gwneud hynny, ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol osod y sancsiwn contract oni bai—

(a)bod penderfyniad wedi ei wneud ar yr anghydfod yn unol â pharagraff 106 a bod y penderfyniad hwnnw’n caniatáu i’r Bwrdd Iechyd Lleol osod y sancsiwn contract, neu

(b)bod y contractwr yn rhoi’r gorau i ddilyn gweithdrefn datrys anghydfodau’r GIG,

pa un bynnag sydd gyntaf.

(3Os nad yw’r contractwr yn troi at weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG o fewn yr amser a bennir yn is-baragraff (2), mae gan y Bwrdd Iechyd Lleol hawlogaeth i osod y sancsiwn contract ar unwaith.

(4Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn fodlon ei bod yn angenrheidiol gosod y sancsiwn contract cyn i weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG ddod i ben er mwyn—

(a)amddiffyn diogelwch cleifion y contractwr, neu

(b)ei amddiffyn ei hun rhag colled ariannol sylweddol,

mae gan y Bwrdd Iechyd Lleol hawlogaeth i osod y sancsiwn contract ar unwaith, wrth aros canlyniad y weithdrefn honno.

Terfynu a gweithdrefn datrys anghydfodau’r GIG

126.—(1Pan fo gan y Bwrdd Iechyd Lleol hawlogaeth i gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr yn terfynu’r contract yn unol â pharagraff 118, 119, 120, 122(4) neu 122(6) neu 123, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, yn yr hysbysiad a gyflwynir i’r contractwr yn unol â’r darpariaethau hynny, bennu dyddiad y mae’r contract yn terfynu arno nad yw’n llai nag 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi cyflwyno’r hysbysiad hwnnw i’r contractwr oni bai bod is-baragraff (2) yn gymwys.

(2Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni bod angen cyfnod o lai nag 28 o ddiwrnodau er mwyn—

(a)amddiffyn diogelwch cleifion y contractwr, neu

(b)ei amddiffyn ei hun rhag colled ariannol sylweddol.

(3Mewn achos sy’n dod o fewn is-baragraff (1) pan na fo’r eithriad yn is-baragraff (2) yn gymwys, pan fo’r contractwr yn troi at weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG cyn diwedd cyfnod yr hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), a’i fod yn hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig ei fod wedi gwneud hynny, nid yw’r contract yn terfynu ar ddiwedd cyfnod yr hysbysiad ond yn hytrach mae’n terfynu o dan yr amgylchiadau a bennir yn is-baragraff (4) yn unig.

(4Nid yw’r contract yn terfynu ond—

(a)os oes penderfyniad wedi ei wneud a phan fo penderfyniad wedi ei wneud ar yr anghydfod yn unol â pharagraff 106 a bod y penderfyniad hwnnw’n caniatáu i’r Bwrdd Iechyd Lleol derfynu’r contract, neu

(b)os bydd y contractwr yn rhoi’r gorau a phan fydd y contractwr yn rhoi’r gorau i ddilyn gweithdrefn datrys anghydfodau’r GIG,

pa un bynnag sydd gyntaf.

(5Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni ei bod yn angenrheidiol terfynu’r contract cyn i weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG ddod i ben er mwyn—

(a)amddiffyn diogelwch cleifion y contractwr, neu

(b)ei amddiffyn ei hun rhag colled ariannol sylweddol,

nid yw is-baragraffau (3) a (4) yn gymwys ac mae gan y Bwrdd Iechyd Lleol hawlogaeth i gadarnhau, drwy hysbysiad ysgrifenedig sydd i’w gyflwyno i’r contractwr, fod y contract i derfynu serch hynny ar ddiwedd cyfnod yr hysbysiad a gyflwynwyd ganddo yn unol â pharagraff 118, 119, 120, 122(4) neu 122(6) neu 123(2).

Ymgynghori â’r Pwyllgor Meddygol Lleol

127.—(1Pryd bynnag y bo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried—

(a)terfynu’r contract yn unol â pharagraffau 118, 119, 120, 122(4) neu 122(6) neu 123,

(b)pa un o blith yr hysbysiadau ysgrifenedig eraill sydd ar gael o dan ddarpariaethau paragraff 121 y bydd yn ei gyflwyno, neu

(c)gosod sancsiwn contract,

rhaid iddo, pryd bynnag y bo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, ymgynghori â’r Pwyllgor Meddygol Lleol ar gyfer ei ardal cyn iddo derfynu’r contract, cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig neu osod sancsiwn contract.

(2Pa un a ymgynghorwyd â’r Pwyllgor Meddygol Lleol yn unol ag is-baragraff (1) ai peidio, pryd bynnag y bo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn gosod sancsiwn contract ar gontractwr neu’n terfynu contract yn unol â’r Rhan hon, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, hysbysu’r Pwyllgor Meddygol Lleol yn ysgrifenedig am y sancsiwn contract a osodir neu ei hysbysu bod y contract wedi ei derfynu (yn ôl y digwydd).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill