Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 2Contractwyr: amodau a chymhwystra

Amodau: cyffredinol

4.  Dim ond os yw’r amodau a bennir yn rheoliadau 5 a 6 wedi eu bodloni y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ymrwymo i gontract.

Amodau sy’n ymwneud ag ymarferwyr meddygol yn unig

5.—(1Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ymrwymo i gontract, neu’n bwriadu ymrwymo i gontract—

(a)gydag ymarferydd meddygol, mae rhaid i’r ymarferydd meddygol hwnnw fod yn ymarferydd meddygol cyffredinol,

(b)gyda dau neu ragor o bersonau yn ymarfer mewn partneriaeth—

(i)rhaid i un partner o leiaf (na chaiff fod yn bartner cyfyngedig) fod yn ymarferydd meddygol cyffredinol, a

(ii)rhaid i unrhyw bartner arall sy’n ymarferydd cyffredinol fod—

(aa)yn ymarferydd meddygol cyffredinol, neu

(bb)wedi ei gyflogi gan Fwrdd Iechyd Lleol, (yng Nghymru a Lloegr a’r Alban) Ymddiriedolaeth GIG, ymddiriedolaeth sefydledig y GIG, (yn yr Alban) Bwrdd Iechyd, neu (yng Ngogledd Iwerddon) Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol, neu

(c)gyda chwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau—

(i)rhaid i un gyfran o leiaf yn y cwmni fod yn eiddo cyfreithiol a llesiannol i ymarferydd meddygol cyffredinol, a

(ii)rhaid i unrhyw gyfran arall neu unrhyw gyfrannau eraill yn y cwmni sy’n eiddo cyfreithiol a llesiannol i ymarferydd cyffredinol fod yn eiddo felly—

(aa)i ymarferydd meddygol cyffredinol, neu

(bb)i ymarferydd meddygol sydd wedi ei gyflogi gan Fwrdd Iechyd Lleol, (yng Nghymru a Lloegr a’r Alban) Ymddiriedolaeth GIG, ymddiriedolaeth sefydledig y GIG, (yn yr Alban) Bwrdd Iechyd neu, (yng Ngogledd Iwerddon) Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

(2Ym mharagraff (1)(a), (b)(i) ac (c)(i) nid yw “ymarferydd meddygol cyffredinol” yn cynnwys ymarferydd meddygol y mae ei enw wedi ei gynnwys yn y Gofrestr Ymarferwyr Cyffredinol yn rhinwedd y ffaith ei fod yn ymarferydd meddygol y mae paragraff (3), (4) neu (5) yn gymwys iddo.

(3Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ymarferydd meddygol y cyfeirir ato yn erthygl 4(3) o Orchymyn 2010 (ymarferwyr cyffredinol sy’n gymwys i’w cofnodi yn y Gofrestr Ymarferwyr Cyffredinol) a oedd wedi ei esemptio o’r gofyniad i fod â’r profiad rhagnodedig o dan—

(a)rheoliad 5(1)(d) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Hyfforddiant Galwedigaethol ar gyfer Ymarfer Meddygol Cyffredinol) 1997(1),

(b)rheoliad 5(1)(d) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Hyfforddiant Galwedigaethol ar gyfer Ymarfer Meddygol Cyffredinol) (Yr Alban) 1998(2), neu

(c)rheoliad 5(1)(d) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Hyfforddiant Galwedigaethol) (Gogledd Iwerddon) 1998(3).

(4Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ymarferydd meddygol sydd â hawl gaffaeledig at ddibenion erthygl 6(2) o Orchymyn 2010 (personau â hawliau caffaeledig) yn rhinwedd y ffaith—

(a)ei fod wedi bod yn brif ymarferydd gwasanaethau cyfyngedig, a

(b)bod enw’r ymarferydd meddygol hwnnw wedi ei gynnwys, fel yr oedd ar 31 Mawrth 1994—

(i)mewn rhestr feddygol a oedd, ar y dyddiad hwnnw, yn cael ei chadw gan Awdurdod Gwasanaethau Iechyd Teuluol(4), neu

(ii)mewn unrhyw restr gyfatebol a oedd, ar y dyddiad hwnnw, yn cael ei chadw gan Fwrdd Iechyd neu gan Asiantaeth Gwasanaethau Canolog Gogledd Iwerddon ar gyfer y Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon.

(5Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ymarferydd meddygol sydd â hawl gaffaeledig at ddibenion erthygl 6(6) o Orchymyn 2010 (sy’n ymwneud â phersonau sydd wedi eu cymryd ymlaen neu wedi eu darparu fel dirprwy neu wedi eu cyflogi fel cynorthwyydd) oherwydd bod yr ymarferydd meddygol hwnnw, ar o leiaf 10 diwrnod yn y 4 blynedd sy’n gorffen â 31 Mawrth 1994, neu ar o leiaf 40 diwrnod yn y 10 mlynedd sy’n gorffen â’r dyddiad hwnnw—

(a)wedi ei gymryd ymlaen fel dirprwy gan ymarferydd meddygol, neu wedi ei ddarparu fel dirprwy i ymarferydd meddygol, y cynhwyswyd ei enw—

(i)yn y rhestr feddygol a oedd, ar y dyddiad hwnnw, yn cael ei chadw gan Awdurdod Gwasanaethau Iechyd Teuluol, neu

(ii)mewn unrhyw restr gyfatebol a oedd, ar y dyddiad hwnnw, yn cael ei chadw gan Fwrdd Iechyd neu gan Asiantaeth Gwasanaethau Canolog Gogledd Iwerddon ar gyfer y Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon, neu

(b)wedi ei gyflogi fel cynorthwyydd (heblaw fel ymarferydd cyffredinol o dan hyfforddiant) gan ymarferydd meddygol o’r fath.

(6Ym mharagraff (4)(a), ystyr “prif ymarferydd gwasanaethau cyfyngedig” yw ymarferydd meddygol a ddarparodd wasanaethau meddygol cyffredinol a oedd yn gyfyngedig i wyliadwriaeth iechyd plant, gwasanaethau atal cenhedlu, gwasanaethau meddygol mamolaeth neu fân lawdriniaeth.

Amod cyffredinol yn ymwneud â phob contract

6.—(1Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ymrwymo i gontract—

(a)gydag ymarferydd meddygol y mae paragraff (2) yn gymwys iddo,

(b)gyda dau neu ragor o bersonau yn ymarfer mewn partneriaeth, pan fo paragraff (2) yn gymwys i unrhyw berson sy’n bartner yn y bartneriaeth, neu

(c)gyda chwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau pan fo paragraff (2) yn gymwys—

(i)i’r cwmni,

(ii)i unrhyw berson y mae cyfran yn y cwmni yn eiddo cyfreithiol neu lesiannol iddo, neu

(iii)i unrhyw gyfarwyddwr neu ysgrifennydd i’r cwmni.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os yw’r person yn destun anghymhwysiad cenedlaethol;

(b)os yw’r person, yn ddarostyngedig i baragraff (3), wedi ei anghymhwyso neu wedi ei atal dros dro (heblaw drwy orchymyn atal dros dro interim neu gyfarwyddyd wrth aros am ymchwiliad) rhag ymarfer gan unrhyw gorff trwyddedu unrhyw le yn y byd;

(c)os yw’r person, o fewn y 5 mlynedd naill ai cyn llofnodi’r contract neu cyn cychwyn y contract (pa un bynnag sydd gyntaf), wedi ei ddiswyddo (heblaw oherwydd dileu swydd) o unrhyw gyflogaeth gan gorff gwasanaeth iechyd, oni bai—

(i)bod y person, os oedd yn cael ei gyflogi fel aelod o broffesiwn gofal iechyd adeg y diswyddo, wedi cael ei gyflogi wedyn gan y corff gwasanaeth iechyd hwnnw neu gan gorff gwasanaeth iechyd arall, a

(ii)bod unrhyw dribiwnlys neu lys cymwys wedi dyfarnu bod y diswyddiad yn ddiswyddiad annheg;

(d)os yw’r person, o fewn y 5 mlynedd naill ai cyn llofnodi’r contract neu cyn cychwyn y contract (pa un bynnag sydd gyntaf), wedi ei ddileu o restr gofal sylfaenol, neu os gwrthodwyd ei gynnwys ynddi, oherwydd aneffeithlonrwydd, twyll neu anaddasrwydd (o fewn ystyr adran 107(2), (3) neu (4) o’r Ddeddf (anghymhwyso ymarferwyr)), neu os yw wedi ei ddileu o restr cyflawnwyr a gedwir gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn rhinwedd rheoliad a wnaed o dan adran 49(3) (personau sy’n cyflawni gwasanaethau meddygol sylfaenol) o’r Ddeddf neu os gwrthodwyd ei gynnwys ynddi, oni bai bod enw’r person wedi ei gynnwys wedyn yn y rhestr honno;

(e)os yw’r person wedi ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o lofruddiaeth;

(f)os yw’r person wedi ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o drosedd heblaw llofruddiaeth a gyflawnwyd ar neu ar ôl 14 Mawrth 2001 a’i fod wedi ei ddedfrydu i gyfnod hwy na 6 mis o garchar;

(g)os yw’r person, yn ddarostyngedig i baragraff (3), wedi ei euogfarnu y tu allan i’r Deyrnas Unedig o drosedd a fyddai’n llofruddiaeth pe bai wedi ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr, ac—

(i)bod y drosedd wedi ei chyflawni ar neu ar ôl 26 Mawrth 2002, a

(ii)bod y person wedi ei ddedfrydu i gyfnod hwy na 6 mis o garchar;

(h)os yw’r person wedi ei euogfarnu o drosedd, y cyfeirir ati yn Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933(5) (troseddau yn erbyn plant a phobl ifanc y mae darpariaethau arbennig o’r Ddeddf hon yn gymwys iddynt), neu yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(6) (troseddau yn erbyn plant o dan 17 oed y mae darpariaethau arbennig yn gymwys iddynt), a gyflawnwyd ar neu ar ôl 1 Mawrth 2004;

(i)os yw’r person ar unrhyw adeg wedi ei gynnwys—

(i)mewn unrhyw restr wahardd o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(7) (rhestrau gwahardd), neu

(ii)mewn unrhyw restr wahardd o fewn ystyr Erthygl 6 o Orchymyn Diogelu Grwpiau Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2007(8) (rhestrau gwahardd),

oni bai bod y person wedi ei ddileu o’r rhestr naill ai ar y sail nad oedd yn briodol i’r person fod wedi ei gynnwys ynddi neu o ganlyniad i apêl lwyddiannus;

(j)os yw’r person, o fewn y cyfnod o 5 mlynedd naill ai cyn llofnodi’r contract neu cyn cychwyn y contract (pa un bynnag sydd gyntaf), wedi ei ddiswyddo o swydd ymddiriedolwr elusen neu ymddiriedolwr ar gyfer elusen drwy orchymyn a wnaed gan y Comisiwn Elusennau, Comisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon neu’r Uchel Lys, a bod y gorchymyn hwnnw wedi ei wneud ar sail camymddwyn neu gamreoli wrth weinyddu elusen y bu’r person yn gyfrifol amdano neu yr oedd y person yn ymwybodol ohono, neu y cyfrannodd ymddygiad y person hwnnw ato, neu a hwyluswyd gan ymddygiad y person;

(k)os yw’r person, o fewn y 5 mlynedd naill ai cyn dyddiad llofnodi’r contract neu cyn cychwyn y contract (pa un bynnag sydd gyntaf), wedi ei ddiswyddo rhag ymwneud â rheoli neu reolaeth ar unrhyw gorff mewn achos pan fo’r diswyddo yn rhinwedd adran 34(5)(e) o Ddeddf Elusennau a Buddsoddi gan Ymddiriedolwyr (Yr Alban) 2005(9) (pwerau’r Llys Sesiwn);

(l)os —

(i)yw’r person wedi ei wneud yn fethdalwr ac nad yw wedi ei ryddhau o’r methdaliad neu nad yw’r gorchymyn methdaliad wedi ei ddirymu, neu

(ii)dyfarnwyd i ystad y person gael ei secwestru ac nad yw’r person wedi ei ryddhau o’r secwestru;

(m)os yw’r person yn ddarostyngedig i orchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn cyfyngu methdaliad interim o dan Atodlen 4A i Ddeddf Ansolfedd 1986(10) (gorchymyn cyfyngu methdaliad ac ymgymeriad), Atodlen 2A i Orchymyn Ansolfedd (Gogledd Iwerddon) 1989(11) (gorchymyn cyfyngu methdaliad ac ymgymeriad), neu adrannau 56A i 56K o Ddeddf Methdaliad (Yr Alban) 1985(12) (gorchymyn cyfyngu methdaliad, gorchymyn cyfyngu methdaliad interim ac ymgymeriad cyfyngu methdaliad), oni bai bod y person wedi ei ryddhau o’r gorchymyn hwnnw neu fod y gorchymyn hwnnw wedi ei ddirymu;

(n)os yw’r person—

(i)yn ddarostyngedig i gyfnod moratoriwm o dan orchymyn rhyddhau o ddyled o dan Ran VIIA o Ddeddf Ansolfedd 1986(13) (gorchmynion rhyddhau o ddyled), neu

(ii)yn ddarostyngedig i orchymyn cyfyngu rhyddhau o ddyled neu orchymyn cyfyngu rhyddhau o ddyled interim o dan Atodlen 4ZB i Ddeddf Ansolfedd 1986(14) (gorchmynion cyfyngu rhyddhau o ddyled ac ymgymeriadau);

(o)os yw’r person wedi gwneud cytundeb neu drefniant cyfansoddi gyda chredydwyr y person, neu wedi rhoi gweithred ymddiriedolaeth ar eu cyfer, ac nad yw’r person wedi ei ryddhau mewn perthynas â’r cytundeb neu â’r trefniant;

(p)os yw’r person yn ddarostyngedig—

(i)i orchymyn anghymhwyso o dan adran 1 o Ddeddf Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 1986(15) (gorchmynion anghymhwyso: cyffredinol) neu ymgymeriad anghymhwyso o dan adran 1A o’r Ddeddf honno(16) (ymgymeriadau anghymhwyso: cyffredinol),

(ii)i orchymyn anghymhwyso neu ymgymeriad anghymhwyso o dan Erthygl 3 (gorchmynion anghymhwyso: cyffredinol) neu Erthygl 4 (ymgymeriadau anghymhwyso: cyffredinol) o Orchymyn Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 2002(17), neu

(iii)gorchymyn anghymhwyso o dan adran 429(2) o Ddeddf Ansolfedd 1986(18) (anableddau pan ddirymir gorchymyn gweinyddu yn erbyn unigolyn);

(q)os oes gweinyddydd, derbynnydd gweinyddol neu dderbynnydd wedi ei benodi mewn cysylltiad â’r person;

(r)os yw’r person wedi peri i orchymyn gweinyddu gael ei wneud mewn perthynas â’r contractwr o dan Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986(19) (gweinyddu); neu

(s)os yw’r contractwr yn bartneriaeth ac—

(i)bod unrhyw lys, tribiwnlys neu gyflafareddwr cymwys yn gorchymyn diddymu’r bartneriaeth, neu

(ii)bod digwyddiad yn digwydd sy’n ei gwneud yn anghyfreithlon i fusnes y bartneriaeth barhau, neu i aelodau o’r bartneriaeth barhau mewn partneriaeth.

(3Nid yw paragraff (2)(b) neu, yn ôl y digwydd, paragraff (2)(g), yn gymwys i berson—

(a)pan fo’r person hwnnw—

(i)wedi ei anghymhwyso neu wedi ei atal dros dro rhag ymarfer gan gorff trwyddedu y tu allan i’r Deyrnas Unedig, neu

(ii)wedi ei euogfarnu o drosedd y tu allan i’r Deyrnas Unedig, a

(b)pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni nad yw’r anghymhwysiad, yr atal dros dro neu, yn ôl y digwydd, yr euogfarn yn gwneud y person hwnnw’n anaddas i fod—

(i)yn gontractwr,

(ii)yn bartner, yn achos contract â dau berson neu ragor yn ymarfer mewn partneriaeth, neu

(iii)yn achos cwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau—

(aa)yn berson y mae cyfran yn y cwmni yn eiddo iddo yn gyfreithiol neu’n llesiannol, neu

(bb)yn gyfarwyddwr neu’n ysgrifennydd i’r cwmni.

(4At ddibenion paragraff (2)(c), pan fo person wedi ei gyflogi fel aelod o broffesiwn gofal iechyd, rhaid i unrhyw gyflogaeth ddilynol hefyd fod fel aelod o’r proffesiwn hwnnw.

(5Yn y rheoliad hwn, mae “contractwr” yn cynnwys person y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn bwriadu ymrwymo i gontract gydag ef.

Hysbysiad bod amodau heb eu bodloni a rhesymau

7.—(1Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried nad yw’r amodau a bennir yn rheoliadau 5 a 6 ar gyfer ymrwymo i gontract wedi eu bodloni, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person neu’r personau sy’n bwriadu ymrwymo i’r contract am y canlynol—

(a)ei farn a’r rhesymau dros y farn honno, a

(b)yr hawl i apelio o dan reoliad 8.

(2Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hefyd roi hysbysiad ysgrifenedig o’i farn a’r rhesymau dros y farn honno i unrhyw berson sy’n berchen yn gyfreithiol ac yn llesiannol ar gyfran o gwmni, neu sy’n gyfarwyddwr neu’n ysgrifennydd i gwmni, sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (1) mewn unrhyw achos pan fo ei reswm dros y penderfyniad yn ymwneud â’r person hwnnw.

Hawl i apelio

8.  Caiff person sydd wedi cael hysbysiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 7(1) apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol nad yw’r amodau yn rheoliadau 5 neu 6 wedi eu bodloni.

(1)

O.S. 1997/2817, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 1998/669 ac fel y’i dirymwyd gan O.S. 2003/1250.

(2)

O.S. 1998/5, fel y’i diwygiwyd gan O.S.1998/669 ac O.S.A. 2000/23 ac fel y’i dirymwyd gan O.S. 2003/1250.

(3)

Rh. St. 1998/13, a ddirymwyd gan O.S. 2003/1250.

(4)

Nid yw Awdurdodau Gwasanaethau Iechyd Teuluol yn bodoli mwyach. Fe’u hunwyd ag Awdurdodau Iechyd yn 1994. Mae Awdurdodau Iechyd wedi eu diddymu erbyn hyn.

(5)

1933 p. 12. Diwygiwyd Atodlen 1 gan adran 51 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 1956 (p. 99) ac Atodlen 4 iddi; paragraff 8 o Atodlen 15 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p. 33) ac adran 170(2) ohoni, ac Atodlen 16 iddi; adran 139 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (p. 42) a pharagraff 7 o Atodlen 6 iddi; adran 58(1) o Ddeddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004 (p. 28), ac Atodlen 10 iddi; paragraff 53 o Atodlen 21 i Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 (p. 25); adran 115(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9) a pharagraff 136(a) a (b) o Atodlen 9 iddi; ac adran 57(1) o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015 (p. 30) a pharagraff 1 o Atodlen 5 iddi.

(6)

1995 p. 46. Diwygiwyd Atodlen 1 gan baragraff 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Diogelu Plant ac Atal Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2005 (dsa 9), paragraff 2(8)(a) o Atodlen 5 i Ddeddf Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2009 (dsa 9) ac adran 41(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Thrwyddedu (Yr Alban) 2010 (dsa 13).

(7)

2006 p. 47. Diwygiwyd adran 2 gan erthyglau 3(a) a 4 o O.S. 2012/3006.

(8)

O.S. 2007/1351 (G.I. 11), fel y’i diwygiwyd gan adran 81(2) a (3)(o)(i) o Ddeddf Plismona a Throseddu 2009 (p. 26).

(9)

2005 dsa 10. Diwygiwyd adran 34 gan adran 122 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010 (dsa 8).

(10)

1986 p. 45. Mewnosodwyd Atodlen 4A gan Atodlen 20 i Ddeddf Menter 2002 (p. 40), ac fe’i diwygiwyd gan adran 71(3) o Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013 (p. 24), a pharagraff 63(1), (3)(a), (2)(a) a (b) iddi.

(11)

O.S. 1989/2405 (G.I. 19). Mewnosodwyd Atodlen 2A gan Erthygl 13(2) o O.S. 2005/1455 (G.I. 10) ac Atodlen 5 iddo.

(12)

1985 p. 66. Mewnosodwyd adrannau 56A i 56K gan adran 2(1) o Deddf Methdaliad a Diwydrwydd etc. (Yr Alban) 2007 (asp 3).

(13)

Mewnosodwyd Rhan VIIA gan adran 108(1) o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15), ac Atodlen 17 iddi.

(14)

Mewnosodwyd Atodlen 4ZB gan 108(2) o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007, ac Atodlen 19 iddi.

(15)

1986 p. 46. Diwygiwyd adran 1 gan adrannau 5(1) a (2) ac 8 o Ddeddf Ansolfedd 2000 (p. 40), adran 204(1) a (3) o Ddeddf Menter 2002 (p. 40), ac adrannau 111 a 164(1) o Ddeddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015 (p. 26) a pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 7 iddi.

(16)

Mewnosodwyd adran 1A gan adran 6(1) a (2) o Ddeddf Ansolfedd 2000 (p. 39), ac fe’i diwygiwyd gan adran 111 o Ddeddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015 (p. 26), a pharagraffau 1, 3(1) a (2) o Atodlen 7 iddi.

(18)

Diwygiwyd adran 429 gan adran 269 o Ddeddf Menter 2002, ac Atodlen 23 iddi, a chan adran 106 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15), ac Atodlen 16 iddi.

(19)

Mewnosodwyd Atodlen B1 gan adran 248(2) o Ddeddf Menter 2002, ac Atodlen 16 iddi.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill