Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Arbed a Darpariaethau Trosiannol) 2022

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Tenantiaethau diogel

2.—(1Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 1985 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â’r materion penodedig—

(a)adran 83(1)(1) (achosion adennill meddiant neu derfynu: gofynion hysbysu cyffredinol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r adran honno cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig;

(b)adran 83ZA(2)(2) (gofynion hysbysu mewn perthynas ag achos adennill meddiant ar sail absoliwt oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r adran honno cyn y diwrnod penodedig;

(c)adran 83A(1)(3) (gofynion ychwanegol mewn perthynas ag achosion adennill meddiant penodol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig (ond gweler paragraff (2) o’r rheoliad hwn);

(d)adran 83A(2)(4), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig (ond gweler paragraff (2) o’r rheoliad hwn);

(e)adran 83A(3)(5), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;

(f)adran 83A(4)(6) a (6), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig (pa un a ychwanegir Sail 2A o Atodlen 2 i Ddeddf 1985 at yr hysbysiad hwnnw cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw);

(g)adran 83A(5)(7), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;

(h)adran 84(1)(8) (seiliau meddiant a gorchmynion adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo;

(i)adran 84(2)(9), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo;

(j)adran 84(3)(10), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;

(k)adran 84(4)(11), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83(3) o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;

(l)adran 84A(1) i (9)(12) (sail absoliwt ar gyfer meddiannu am ymddygiad gwrthgymdeithasol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;

(m)adran 85(13) (disgresiwn estynedig y llys mewn achosion adennill meddiant penodol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo;

(n)adran 85ZA(1) a (2)(14) (adolygiad o benderfyniad i geisio adennill meddiant ar sail absoliwt am ymddygiad gwrthgymdeithasol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;

(o)adran 85ZA(3) i (6), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig (pa un a wnaed y cais am adolygiad cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw);

(p)adran 85A(15) (achosion adennill meddiant ar seiliau nad ydynt yn rhai absoliwt: ymddygiad gwrthgymdeithasol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo;

(q)Atodlen 2(16) (seiliau ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau diogel), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo;

(r)Atodlen 2A(17) (sail absoliwt ar gyfer meddiannu am ymddygiad gwrthgymdeithasol: troseddau difrifol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig.

(2Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022—

(a)mae adran 83(3)(b) ac 83(4)(b) o Ddeddf 1985 yn parhau i gael effaith, ond fel pe bai “twelve months after the date so specified, or six months after the appointed day, whichever comes first” wedi ei roi yn lle “twelve months after the date so specified”,

(b)mae adran 83ZA(9)(b) o Ddeddf 1985 yn parhau i gael effaith, ond fel pe bai “12 months after the date so specified, or 6 months after the appointed day, whichever comes first” wedi ei roi yn lle “12 months after the date so specified”, ac

(c)mae cyfeiriad at adeg pan fo’r hysbysiad yn parhau i fod mewn grym yn adran 83A(1) a (2) o Ddeddf 1985 (fel y’i harbedir gan baragraff (1)(c) a (d) o’r rheoliad hwn) i’w ddarllen yn unol â hynny.

(3Mae paragraff (2) o’r rheoliad hwn yn cael blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig.

(4Mae adran 206(1) o Ddeddf 2016 (effaith gorchymyn adennill meddiant) yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys yn unol ag adran 84 neu 84A o Ddeddf 1985 ar ôl y diwrnod penodedig (yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn) fel y mae’n gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed o dan Ddeddf 2016.

(5Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022 a Rheoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022, mae Rheoliadau Tenantiaethau Diogel (Sail Absoliwt ar gyfer Meddiannu am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol) (Y Weithdrefn Adolygu) (Cymru) 2014(18) yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag adolygiad a gynhelir o dan adran 85ZA o Ddeddf 1985 yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn (pa un a gynhelir yr adolygiad, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig).

(6Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae adran 82(2)(19) o Ddeddf 1985 (diogelwch deiliadaeth) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan adran 84 neu 84A o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig.

(7Mae unrhyw arbedion yn y rheoliad hwn sy’n ymwneud â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig yn cael effaith pa un a gychwynnwyd yr achos cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw.

(8Mae unrhyw arbedion yn y rheoliad hwn sy’n ymwneud ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo yn cael effaith pa un a oedd y llys wedi hepgor y gofyniad i gyflwyno hysbysiad cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig.

(1)

Amnewidiwyd adran 83 gan adran 147(1) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52), diwygiwyd y pennawd ac is-adran (1) gan adran 181 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12) a pharagraff 7(1), (2) a (4) o Ran 1 o Atodlen 11 iddi. Mae diwygiadau eraill i adran 83 o Ddeddf 1985 nad yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

Mewnosodwyd adran 83ZA gan adran 95 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12).

(3)

Amnewidiwyd adran 83A gan adran 147(1) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52).

(4)

Diwygiwyd adran 83A(2) gan adran 181 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), a pharagraff 8(1), (2) a (3) o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(5)

Diwygiwyd adran 83A(3) gan adran 181 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), a pharagraff 8(1) a (4) o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(6)

Diwygiwyd adran 83A(4) gan adran 181 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), a pharagraff 8(1) a (5) o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(7)

Diwygiwyd adran 83A(5)gan adran 181 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), a pharagraff 8(1), (5) a (6) o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(8)

Diwygiwyd adran 84(1) gan adran 181 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), a pharagraff 9(1) a (2) o Ran 1 o Atodlen 11 iddi, adran 155(2) o Ran 7 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) ac adran 118 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22), a pharagraffau 2 a 9 o Atodlen 7 iddi.

(9)

Diwygiwyd adran 84(2) gan adran 181 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), a pharagraff 9(1) a (3) o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(10)

Amnewidiwyd adran 84(3) gan adran 147(2) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) ac fe’i diwygiwyd gan adran 181 oDdeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), a pharagraff 9(1) a (4) o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(11)

Amnewidiwyd adran 84(4) gan adran 147(2) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52).

(12)

Mewnosodwyd adran 84A gan adran 94(1) o Ran 5 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12) a diwygiwyd is-adran (5) gan adran 410 o Ddeddf Dedfrydu 2020 (p. 17) a pharagraff 84 o Ran 1 o Atodlen 24 iddi.

(13)

Diwygiwyd adran 85 gan adran 66(1) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 (p. 27) a pharagraff 53(2) a (3) o Atodlen 8 iddi ac adrannau 299 a 321(1) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17) a pharagraffau 1 a 3 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi, ac Atodlen 16 iddi.

(14)

Mewnosodwyd adran 85ZA gan adran 96 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12).

(15)

Mewnosodwyd adran 85A gan adran 16(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p. 38) ac fe’i diwygiwyd gan adran 181 oDdeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), a pharagraff 10 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(16)

Diwygiwyd Atodlen 2 gan adrannau 144, 145 a 146 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52), adran 83(6) o Ddeddf Tai 1988 (p. 50), adran 222 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) a pharagraffau 9 ac 16 o Atodlen 22 iddi, adrannau 98(1) a 99(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), adran 111 o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15) a pharagraff 45 o Ran 3 o Atodlen 7 iddi, adran 81 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) a pharagraff 33 o Atodlen 8 iddi, adran 152 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) a Rhan 4 o Atodlen 18 iddi, rheoliad 41(a) o Reoliadau Partneriaeth Sifil (Cyplau o Rywiau Gwahanol) 2019 (O.S. 2019/1458) a pharagraff 10 o Ran 1 o Atodlen 3 iddynt ac erthygl 4 o Orchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Darpariaethau Canlyniadol) 2008 (O.S. 2008/3002) a pharagraffau 2 a 29 o Atodlen 1 iddo.

(17)

Mewnosodwyd Atodlen 2A gan adran 94(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12) ac Atodlen 3 iddi, ac fe’i diwygiwyd gan adran 70 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 (p. 17) a pharagraff 2 o Atodlen 2 iddi ac erthygl 2 o Orchymyn Deddf Tai 1985 (Diwygio Atodlen 2A) (Troseddau Difrifol) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/173 (Cy. 74)).

(19)

Amnewidiwyd adran 82(2) gan adran 299 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17) a pharagraffau 1 a 2 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi ac fe’i diwygiwyd gan adran 119 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22). Mewnosodwyd is-adran (A1) gan adran 119 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a mewnosodwyd is-adran (1A) gan adran 299 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 a pharagraffau 1 a 2 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill