- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
46.—(1) Mae’r rheol hon yn nodi amgylchiadau pan fo gan berson sy’n gwneud cais am bleidlais (“y ceisydd”) hawl i bleidleisio ar ôl ateb yn foddhaol y cwestiynau y mae’r gyfraith yn caniatáu eu gofyn yn y bleidlais ond pan fo’r weithdrefn ar gyfer rhoi’r bleidlais yn cael ei haddasu yn y ddwy ffordd a ganlyn—
(a)bod rhaid i’r person ddefnyddio papur pleidleisio sydd o liw gwahanol i bapurau pleidleisio eraill, a
(b)bod rhaid i’r person roi’r papur pleidleisio i’r swyddog llywyddu (yn hytrach na’i roi yn y blwch pleidleisio).
(2) Y set gyntaf o amgylchiadau yw—
(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn etholwr penodol a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru ac nad yw wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post neu’r rhestr dirprwyon, a
(b)pan fo person arall eisoes wedi pleidleisio’n bersonol naill ai fel yr etholwr hwnnw neu fel dirprwy’r etholwr hwnnw.
(3) Yr ail set o amgylchiadau yw—
(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn berson penodol a enwir yn y rhestr dirprwyon fel dirprwy ar ran etholwr ac nad oes ganddo hawl i bleidleisio drwy’r post fel dirprwy, a
(b)pan fo person arall eisoes wedi pleidleisio’n bersonol naill ai fel yr etholwr hwnnw neu fel dirprwy’r etholwr hwnnw.
(4) Y drydedd set o amgylchiadau yw—
(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn etholwr penodol a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru,
(b)pan fo’r ceisydd hefyd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post, ac
(c)pan fo’r ceisydd yn honni nad yw wedi gwneud cais am bleidleisio drwy’r post yn yr etholiad.
(5) Y bedwaredd set o amgylchiadau yw—
(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn berson penodol a enwir yn ddirprwy yn y rhestr dirprwyon,
(b)pan fo’r person hwnnw hefyd wedi ei enwi ar y rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy, ac
(c)pan fo’r ceisydd yn honni nad yw wedi gwneud cais am bleidleisio drwy’r post fel dirprwy yn yr etholiad.
(6) Y bumed set o amgylchiadau yw—
(a)pan fo’r ceisydd, ar ôl yr amser olaf y caiff person wneud cais am bapur pleidleisio post newydd ond cyn i’r bleidlais gau, yn honni ei fod yn etholwr penodol a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru sydd hefyd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post, a
(b)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod wedi colli papur pleidleisio post y person hwnnw neu heb ei gael.
(7) Y chweched set o amgylchiadau yw—
(a)pan fo’r ceisydd, ar ôl yr amser olaf y caiff person wneud cais am bapur pleidleisio post newydd ond cyn i’r bleidlais gau, yn honni ei fod yn berson penodol a enwir yn ddirprwy yn y rhestr dirprwyon sydd hefyd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy, a
(b)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod wedi colli papur pleidleisio post y person hwnnw neu heb ei gael.
(8) Cyfeirir at bapur pleidleisio a roddir i swyddog llywyddu yn unol â’r rheol hon yn y rheolau hyn fel “papur pleidleisio a dendrwyd”.
(9) Pan fo gan etholwr gofnod dienw, mae’r cyfeiriadau yn y rheol hon at berson a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru neu mewn rhestr i’w darllen fel cyfeiriadau at berson sydd â rhif yn y copïau neu yn y rhestr.
(10) Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 46 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys