- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
33.—(1) Cyn i’r bleidlais ddechrau, caiff ymgeisydd benodi—
(a)asiantau pleidleisio i fod yn bresennol mewn gorsafoedd pleidleisio er mwyn canfod cambersonadu, a
(b)asiantau cyfrif i fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif.
(2) Caniateir i’r un person gael ei benodi’n asiant pleidleisio neu’n asiant cyfrif gan fwy nag un ymgeisydd.
(3) Uchafswm yr asiantau pleidleisio a gaiff fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio yw pedwar neu unrhyw nifer uwch a ganiateir gan y swyddog canlyniadau drwy hysbysiad.
(4) Os yw nifer yr asiantau pleidleisio a benodir i fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio benodol yn fwy na phedwar (neu unrhyw nifer uwch a ganiateir gan y swyddog canlyniadau drwy hysbysiad)—
(a)rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu pa asiantau y caniateir iddynt fod yn bresennol drwy fwrw coelbren, a
(b)dim ond yr asiantau y mae’r coelbren yn mynd o’u plaid sydd i’w trin fel pe baent wedi eu penodi.
(5) Caiff y swyddog canlyniadau osod terfyn ar nifer yr asiantau cyfrif y caniateir i bob ymgeisydd eu penodi ond rhaid i’r terfyn—
(a)bod yr un fath ar gyfer pob un o’r ymgeiswyr, a
(b)oni bai bod amgylchiadau arbennig, beidio â bod yn llai na’r nifer a geir drwy rannu nifer y clercod a gyflogir yn y cyfrif â nifer yr ymgeiswyr (gan anwybyddu unrhyw weddill).
(6) At ddibenion y cyfrifiadau sy’n ofynnol gan baragraff (5), mae asiant cyfrif a benodwyd ar gyfer mwy nag un ymgeisydd yn asiant ar wahân ar gyfer pob un o’r ymgeiswyr y’i penodwyd ganddynt.
(7) Rhaid i’r ymgeisydd roi hysbysiad i’r swyddog canlyniadau cydlynol pan benodir asiantau pleidleisio neu asiantau cyfrif.
(8) Rhaid i’r hysbysiad—
(a)rhoi enwau a chyfeiriadau’r personau a benodwyd, a
(b)cael ei roi dim hwyrach na’r pumed diwrnod cyn diwrnod y bleidlais, gan ddiystyru unrhyw ddiwrnod eithriedig.
(9) Os bydd asiant pleidleisio neu asiant cyfrif yn marw neu’n dod yn analluog i weithredu—
(a)caiff yr ymgeisydd benodi asiant arall yn ei le, a
(b)rhaid i’r ymgeisydd roi hysbysiad i’r swyddog canlyniadau cydlynol ar unwaith yn datgan enw a chyfeiriad yr asiant arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 33 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys