Chwilio Deddfwriaeth

Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

Newidiadau dros amser i: Camau i’w cymryd cyn y bleidlais

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

Camau i’w cymryd cyn y bleidlaisLL+C

Hysbysiad y bleidlaisLL+C

27.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi hysbysiad o’r bleidlais yn datgan—

(a)y diwrnod a’r oriau a bennwyd ar gyfer y bleidlais,

(b)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros yr ardal etholiadol, ac

(c)enwau a disgrifiadau (os oes rhai) pob ymgeisydd sy’n dal wedi ei enwebu’n ddilys a’r wybodaeth am eu cyfeiriad cartref.

(2Rhaid i fanylion yr ymgeiswyr, a threfn enwau’r ymgeiswyr, fod yr un fath ag yn y datganiad o’r personau a enwebwyd.

(3Rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn cyhoeddi hysbysiad o’r bleidlais, neu yr un pryd, hefyd gyhoeddi hysbysiad—

(a)o safle pob gorsaf bleidleisio, a

(b)o’r disgrifiad o bleidleiswyr sydd â hawl i bleidleisio yno.

(4Rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyhoeddi hysbysiad o dan baragraff (3), roi copi ohono i bob un o’r ymgeiswyr neu i’w hasiantau etholiadol (os penodwyd rhai).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Papurau pleidleisio postLL+C

28.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau, yn unol â rheoliadau o dan Ddeddf 1983(1), ddyroddi i’r rhai sydd â hawl i bleidleisio drwy’r post—

(a)papur pleidleisio,

(b)datganiad pleidleisio post yn y ffurf a nodir yn Atodiad 4 neu ffurf i’r un perwyl, ac

(c)unrhyw amlenni ar gyfer dychwelyd y papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio post a ragnodir gan reoliadau o dan Ddeddf 1983.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd ddyroddi i’r rhai sydd â hawl i bleidleisio drwy’r post unrhyw wybodaeth y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn ei bod yn briodol ynghylch sut i gael—

(a)cyfieithiadau i ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg o unrhyw gyfarwyddydau neu ganllawiau i bleidleiswyr a anfonir gyda’r papur pleidleisio,

(b)cyfieithiad i Braille o’r cyfarwyddydau neu’r canllawiau hynny,

(c)delweddau graffig o’r cyfarwyddydau neu’r canllawiau hynny, a

(d)y cyfarwyddydau neu’r canllawiau ar unrhyw ffurf arall (gan gynnwys unrhyw ffurf glywadwy).

(3Rhaid i’r datganiad pleidleisio post gynnwys darpariaeth—

(a)i’r ffurflen gael ei llofnodi gan yr etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, gan y dirprwy, oni bai bod y swyddog cofrestru wedi hepgor y gofyniad ynglŷn â llofnod, a

(b)ar gyfer datgan dyddiad geni’r etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, dyddiad geni’r dirprwy.

(4Yn achos papur pleidleisio a ddyroddir i berson mewn cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, rhaid i’r swyddog canlyniadau sicrhau bod y pleidleisiwr yn gallu dychwelyd y papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio post yn rhad ac am ddim.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Darparu gorsafoedd pleidleisioLL+C

29.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)darparu nifer digonol o orsafoedd pleidleisio, a

(b)dyrannu’r etholwyr i’r gorsafoedd pleidleisio.

(2Caniateir darparu un neu ragor o orsafoedd pleidleisio yn yr un ystafell.

(3Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob gorsaf bleidleisio unrhyw nifer o fythau a all fod yn angenrheidiol lle gall pleidleiswyr farcio’u pleidleisiau wedi eu sgrinio heb gael eu gweld.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 29 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Penodi swyddogion llywyddu a chlercodLL+C

30.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau benodi a thalu—

(a)swyddog llywyddu i fod yn bresennol ym mhob gorsaf bleidleisio, a

(b)unrhyw nifer o glercod sy’n angenrheidiol at ddibenion y bleidlais neu’r cyfrif neu fel arall at ddibenion yr etholiad.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau beidio â phenodi’n fwriadol fel swyddog llywyddu neu glerc berson a gyflogwyd gan neu ar ran ymgeisydd mewn cysylltiad â’r etholiad.

(3Caiff y swyddog canlyniadau lywyddu mewn gorsaf bleidleisio.

(4Pan fo’r swyddog canlyniadau yn llywyddu mewn gorsaf bleidleisio, mae’r rheolau hyn yn gymwys i’r swyddog canlyniadau sy’n llywyddu felly gyda’r addasiadau angenrheidiol o ran pethau a wneir gan y swyddog canlyniadau mewn perthynas â’r swyddog llywyddu neu gan y swyddog llywyddu mewn perthynas â’r swyddog canlyniadau.

(5Caiff swyddog llywyddu awdurdodi’r clercod i wneud unrhyw beth (gan gynnwys gofyn cwestiynau) y mae’r rheolau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog llywyddu ei wneud neu’n awdurdodi’r swyddog llywyddu i’w wneud mewn gorsaf bleidleisio, ac eithrio gorchymyn i unrhyw berson gael ei wahardd neu ei symud o’r orsaf bleidleisio.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Dyroddi cardiau pleidleisio swyddogolLL+C

31.—(1Caiff y cyngor cymuned, heb fod yn hwyrach na 4 p.m. ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad, ofyn i’r swyddog canlyniadau ddyroddi cardiau pleidleisio ar gyfer yr etholiad.

(2Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael y cais, rhaid i’r swyddog canlyniadau anfon neu ddanfon—

(a)cerdyn pleidleisio swyddogol i etholwyr nad ydynt yn pleidleisio drwy’r post,

(b)cerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post i etholwyr sy’n pleidleisio drwy’r post ac nid drwy ddirprwy,

(c)cerdyn swyddogol pleidleisio drwy ddirprwy i berson sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr ac nid drwy’r post, a

(d)cerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post drwy ddirprwy i berson sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr drwy’r post.

(3Yn achos etholwr sydd â chofnod dienw, rhaid i’r swyddog canlyniadau ddyroddi’r cerdyn pleidleisio priodol p’un a yw’r cyngor wedi gofyn am i gardiau pleidleisio gael eu dyroddi o dan baragraff (1) ai peidio.

(4Rhaid i gerdyn pleidleisio swyddogol neu gerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post gael ei anfon neu ei ddanfon i gyfeiriad cymwys yr etholwr.

(5Rhaid i gerdyn swyddogol pleidleisio drwy ddirprwy neu gerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post drwy ddirprwy gael ei anfon neu ei ddanfon i gyfeiriad y dirprwy, fel y’i dangosir yn y rhestr dirprwyon.

(6Rhaid i bob cerdyn pleidleisio fod yn y ffurf briodol yn Atodiad 5 neu ffurf i’r un perwyl a rhaid iddo nodi—

(a)enw’r cyngor y mae cynghorwyr i’w hethol iddo,

(b)yr ardal etholiadol y mae cynghorwyr i’w hethol drosti,

(c)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros yr ardal etholiadol honno,

(d)enw, cyfeiriad cymwys a rhif cofrestr yr etholwr,

(e)dyddiad ac oriau’r bleidlais a safle gorsaf bleidleisio’r etholwr, ac

(f)unrhyw wybodaeth arall y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn ei bod yn briodol.

(7Caniateir i wybodaeth wahanol gael ei darparu o dan baragraff (6)(f) i wahanol etholwyr neu ddisgrifiadau o etholwr.

(8Yn achos etholwr sydd â chofnod dienw, rhaid i’r cerdyn pleidleisio—

(a)cynnwys unrhyw wybodaeth a bennir yn y ffurf briodol yn Atodiad 5 yn hytrach na’r wybodaeth a nodir ym mharagraff (6)(d), a

(b)cael ei anfon neu ei ddanfon mewn amlen neu fath arall o orchudd fel nad yw’n datgelu bod gan yr etholwr gofnod dienw.

(9Yn y rheol hon—

(a)ystyr “etholwr” yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal etholiadol o dan sylw ar y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad o’r etholiad, ac eithrio ei fod yn cynnwys person a ddangosir y pryd hwnnw yn y gofrestr (neu, yn achos person sydd â chofnod dienw yn y gofrestr, yn y cofnod o gofnodion dienw) fel person sydd o dan yr oedran pleidleisio dim ond os yw’n ymddangos o’r gofrestr (neu o’r cofnod o gofnodion dienw) y bydd y person o oedran pleidleisio ar y diwrnod a bennwyd ar gyfer y bleidlais;

(b)mae i “cyfeiriad cymwys” yr un ystyr ag sydd i “qualifying address” yn Neddf 1983 (gweler adran 202(1) o’r Ddeddf honno(2)).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 31 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Cyfarpar gorsafoedd pleidleisioLL+C

32.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob swyddog llywyddu unrhyw nifer o flychau pleidleisio a phapurau pleidleisio y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn eu bod yn angenrheidiol.

(2Rhaid i bob blwch pleidleisio fod wedi ei adeiladu fel y gellir rhoi papurau pleidleisio ynddo, ond na ellir eu tynnu’n ôl ohono, heb i’r blwch gael ei ddatgloi neu, pan nad oes clo ar y blwch, heb i’r sêl gael ei thorri.

(3Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob gorsaf bleidleisio—

(a)deunyddiau i alluogi’r pleidleiswyr i farcio’r papurau pleidleisio,

(b)copïau o’r gofrestr etholwyr berthnasol,

(c)copïau o unrhyw hysbysiadau a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983(3)i’r graddau y maent yn ymwneud â’r gofrestr etholwyr berthnasol,

(d)copïau o’r rhannau o unrhyw restrau o bersonau sydd â hawl i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy sy’n cyfateb i’r gofrestr etholwyr berthnasol, ac

(e)rhestr (“rhestr rhifau cyfatebol yr orsaf bleidleisio”) sy’n cynnwys y rhan honno o Ran 2 o’r rhestr rhifau cyfatebol a baratowyd o dan reol 23 sy’n cynnwys y rhifau, ond nid y marciau adnabod unigryw eraill, sy’n cyfateb i’r rhai ar y papurau pleidleisio a ddarperir i’r swyddog llywyddu o dan baragraff (1).

(4Ym mharagraff (3), ystyr “y gofrestr etholwyr berthnasol” yw’r gofrestr etholwyr ar gyfer yr ardal etholiadol neu unrhyw ran ohoni sy’n cynnwys y cofnodion sy’n ymwneud â’r etholwyr a ddyrannwyd i’r orsaf bleidleisio.

(5Rhaid i’r swyddog canlyniadau beri i gopi sampl wedi ei ehangu o’r papur pleidleisio gael ei arddangos ym mhob gorsaf bleidleisio.

(6Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd ddarparu i bob gorsaf bleidleisio—

(a)copi sampl wedi ei ehangu o’r papur pleidleisio i’w ddal yn y llaw er mwyn cynorthwyo pleidleiswyr sy’n rhannol ddall, a

(b)dyfais i alluogi pleidleiswyr sy’n ddall neu’n rhannol ddall i bleidleisio heb fod angen cymorth y swyddog llywyddu neu gydymaith (gweler rheolau 43 i 45 o ran y cymorth y caniateir i’r swyddog llywyddu neu gydymaith ei roi).

(7Rhaid i’r copi sampl o’r papur pleidleisio y mae’n ofynnol ei arddangos a’i ddarparu o dan baragraffau (5) a (6)(a) gael ei farcio’n glir fel sbesimen a’i ddarparu i arwain y pleidleiswyr yn unig.

(8Rhaid i’r ddyfais y cyfeirir ati ym mharagraff (6)(b)—

(a)caniatáu i bapur pleidleisio gael ei fewnosod yn y ddyfais a’i thynnu ohoni, neu ei gysylltu â’r ddyfais a’i datgysylltu oddi wrthi yn hawdd a heb ddifrodi’r papur,

(b)dal y papur pleidleisio yn gadarn yn ei le wrth gael ei defnyddio, ac

(c)darparu modd addas i’r pleidleisiwr—

(i)adnabod y bylchau ar y papur pleidleisio y gellir marcio pleidleisiau arnynt,

(ii)adnabod yr ymgeisydd y mae pob bwlch yn cyfeirio ato, a

(iii)marcio’i bleidlais yn y bwlch a ddewisir.

(9Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd beri i hysbysiad yn y ffurf yn Atodiad 6, yn rhoi cyfarwyddydau i arwain y pleidleiswyr wrth bleidleisio, gael ei arddangos—

(a)y tu mewn i bob gorsaf bleidleisio (ond y tu allan i’r bythau pleidleisio), a

(b)y tu allan i bob gorsaf bleidleisio.

(10Caniateir hefyd i’r swyddog canlyniadau ddarparu copïau o’r hysbysiad mewn Braille neu mewn unrhyw ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn eu bod yn briodol.

(11Rhaid dangos hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn y tu mewn i bob bwth pleidleisio ym mhob gorsaf bleidleisio—

(a)pan fo un cynghorydd yn unig i gael ei ethol, cyfarwyddyd i’r pleidleisiwr i bleidleisio unwaith yn unig drwy roi croes [X] yn y blwch gyferbyn â’i ddewis;

(b)pan fo mwy nag un cynghorydd i gael eu hethol, cyfarwyddyd i’r pleidleisiwr i bleidleisio dros ddim mwy na’r nifer sydd i’w ethol drwy roi croes [X] yn y blwch gyferbyn â phob un o’i ddewisiadau;

(c)rhybudd i’r pleidleisiwr i beidio â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio neu mae’n bosibl na fydd ei bleidlais yn cyfrif.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Penodi asiantau pleidleisio ac asiantau cyfrifLL+C

33.—(1Cyn i’r bleidlais ddechrau, caiff ymgeisydd benodi—

(a)asiantau pleidleisio i fod yn bresennol mewn gorsafoedd pleidleisio er mwyn canfod cambersonadu, a

(b)asiantau cyfrif i fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif.

(2Caniateir i’r un person gael ei benodi’n asiant pleidleisio neu’n asiant cyfrif gan fwy nag un ymgeisydd.

(3Uchafswm yr asiantau pleidleisio a gaiff fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio yw pedwar neu unrhyw nifer uwch a ganiateir gan y swyddog canlyniadau drwy hysbysiad.

(4Os yw nifer yr asiantau pleidleisio a benodir i fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio benodol yn fwy na phedwar (neu unrhyw nifer uwch a ganiateir gan y swyddog canlyniadau drwy hysbysiad)—

(a)rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu pa asiantau y caniateir iddynt fod yn bresennol drwy fwrw coelbren, a

(b)dim ond yr asiantau y mae’r coelbren yn mynd o’u plaid sydd i’w trin fel pe baent wedi eu penodi.

(5Caiff y swyddog canlyniadau osod terfyn ar nifer yr asiantau cyfrif y caniateir i bob ymgeisydd eu penodi ond rhaid i’r terfyn—

(a)bod yr un fath ar gyfer pob un o’r ymgeiswyr, a

(b)oni bai bod amgylchiadau arbennig, beidio â bod yn llai na’r nifer a geir drwy rannu nifer y clercod a gyflogir yn y cyfrif â nifer yr ymgeiswyr (gan anwybyddu unrhyw weddill).

(6At ddibenion y cyfrifiadau sy’n ofynnol gan baragraff (5), mae asiant cyfrif a benodwyd ar gyfer mwy nag un ymgeisydd yn asiant ar wahân ar gyfer pob un o’r ymgeiswyr y’i penodwyd ganddynt.

(7Rhaid i’r ymgeisydd roi hysbysiad i’r swyddog canlyniadau pan benodir asiantau pleidleisio neu asiantau cyfrif.

(8Rhaid i’r hysbysiad—

(a)rhoi enwau a chyfeiriadau’r personau a benodwyd, a

(b)cael ei roi dim hwyrach na’r pumed diwrnod cyn diwrnod y bleidlais, gan ddiystyru unrhyw ddiwrnod eithriedig.

(9Os bydd asiant pleidleisio neu asiant cyfrif yn marw neu’n dod yn analluog i weithredu—

(a)caiff yr ymgeisydd benodi asiant arall yn ei le, a

(b)rhaid i’r ymgeisydd roi hysbysiad i’r swyddog canlyniadau ar unwaith yn datgan enw a chyfeiriad yr asiant arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 33 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Asiantau pleidleisio ac asiantau cyfrif: darpariaeth atodolLL+C

34.—(1Caiff ymgeisydd neu asiant etholiadol yr ymgeisydd (os penodwyd un)—

(a)gwneud unrhyw beth y mae asiant pleidleisio neu asiant cyfrif yr ymgeisydd wedi ei awdurdodi i’w wneud (neu y byddai wedi ei awdurdodi i’w wneud, pe bai wedi ei benodi);

(b)cynorthwyo asiant pleidleisio neu asiant cyfrif yr ymgeisydd i wneud unrhyw beth y mae’r asiant pleidleisio neu’r asiant cyfrif wedi ei awdurdodi i’w wneud.

(2Caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud o dan y rheolau hyn ym mhresenoldeb yr asiantau pleidleisio neu’r asiantau cyfrif gael ei wneud yn hytrach ym mhresenoldeb asiant etholiadol yr ymgeisydd (os penodwyd un).

(3Pan fo’r rheolau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i rywbeth gael ei wneud neu’n awdurdodi rhywbeth i gael ei wneud ym mhresenoldeb yr asiantau pleidleisio neu’r asiantau cyfrif, nid yw diffyg presenoldeb yr asiant neu’r asiantau ar yr adeg a’r lle a benodwyd yn peri bod y peth a wneir yn annilys.

(4Pan nad oes gan ymgeisydd asiant cyfrif, caiff y swyddog canlyniadau roi unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi i’r asiant cyfrif o dan y rheolau hyn i’r ymgeisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 34 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Hysbysu’r gofyniad cyfrinacheddLL+C

35.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i sicrhau bod pawb sy’n bresennol mewn gorsaf bleidleisio, heblaw am berson a ddisgrifir ym mharagraff (2)(a) i (d), wedi cael hysbysiad yn nodi darpariaethau adran 66(1), (3) a (6) o Ddeddf 1983(4).

(2Y personau nad yw’r ddyletswydd o dan baragraff (1) yn gymwys iddynt yw—

(a)person sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio at ddiben pleidleisio;

(b)person o dan 16 oed sy’n mynd yng nghwmni pleidleisiwr i’r orsaf bleidleisio;

(c)person sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio fel cydymaith pleidleisiwr ag anableddau;

(d)person sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio fel cwnstabl ar ddyletswydd.

(3Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002(5) (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 35 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Dychwelyd papurau pleidleisio postLL+C

36.—(1Pan fo pleidlais bost wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â pherson sydd wedi ei gofnodi ar y rhestr pleidleiswyr post, rhaid i’r swyddog canlyniadau farcio’r rhestr yn y modd a ragnodir gan reoliadau o dan Ddeddf 1983.

(2Pan fo pleidlais bost drwy ddirprwy wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â dirprwy sydd wedi ei gofnodi ar y rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy, rhaid i’r swyddog canlyniadau farcio’r rhestr yn y modd a ragnodir gan reoliadau o dan y Ddeddf honno.

(3Nid yw rheol 54(8) yn gymwys at ddibenion penderfynu a yw pleidlais bost neu bleidlais bost drwy ddirprwy wedi ei dychwelyd at ddibenion y rheol hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 36 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

(1)

Gweler Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (O.S. 2001/341); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2002/871, O.S. 2006/752, O.S. 2006/2910 ac O.S. 2013/3198.

(2)

Diwygiwyd adran 202(1) er mwyn mewnosod diffiniad o “qualifying address” gan baragraff 22 o Atodlen 1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000.

(3)

Rhoddwyd adrannau 13 i 13B o Ddeddf 1983 yn lle adran 13 o’r Ddeddf honno gan baragraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000. Mewnosodwyd adran 13B(3B) a (3D) gan adran 11(4) o Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006.

(4)

Diwygiwyd adran 66 o Ddeddf 1983 gan baragraffau 82 ac 86 o Atodlen 1 i Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006 a pharagraff 3 o Atodlen 3 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985; mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheolau hyn.

(5)

2002 p. 30. Diwygiwyd adran 38 gan adran 38 o Ddeddf Plismona a Throseddu 2017.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill