- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
5.—(1) Pan fo Amod A neu B (a nodir yn rheoliad 4) wedi ei fodloni mewn perthynas â pherson (“P”), caiff Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig—
(a)(ar lafar neu mewn ysgrifen) osod ar P neu mewn perthynas â P un neu ragor o ofynion ynglŷn â sgrinio i lywio asesiad, gan Weinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig, ynghylch a yw P yn cyflwyno risg o heintio neu halogi eraill neu a allai beri risg o heintio neu halogi eraill,
(b)cyflawni asesiad o’r fath mewn perthynas â P, ac
(c)yn dilyn asesiad o’r fath, (ar lafar neu mewn ysgrifen) osod ar P neu mewn perthynas â P unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall y mae Gweinidogion Cymru neu, yn ôl y digwydd, ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig yn ystyried ei fod yn angenrheidiol at ddibenion dileu neu leihau’r risg y cyfeirir ati yn is-baragraff (a), gan gynnwys cyfyngiad neu ofyniad arbennig(1).
(2) Dim ond os bydd Gweinidogion Cymru neu, yn ôl y digwydd, ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig yn ystyried, wrth wneud y penderfyniad, fod y cyfyngiad neu’r gofyniad yn gymesur â’r hyn y ceisir ei gyflawni drwy ei osod y caniateir gwneud penderfyniad i osod cyfyngiad neu ofyniad o dan baragraff (1).
(3) Caniateir i gyfyngiad neu ofyniad a osodir o dan baragraff (1)—
(a)gan Weinidogion Cymru gael ei amrywio (ar lafar neu mewn ysgrifen) gan Weinidogion Cymru;
(b)gan ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig gael ei amrywio (ar lafar neu mewn ysgrifen) gan Weinidogion Cymru neu gan ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig.
(4) Pan osodir cyfyngiad neu ofyniad o dan baragraff (1)(c) ar blentyn neu mewn perthynas â phlentyn, rhaid i berson sy’n oedolyn cyfrifol mewn perthynas â’r plentyn sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio â’r cyfyngiad neu’r gofyniad, i’r graddau y mae’n rhesymol i’r person hwnnw allu gwneud hynny.
(5) Pan osodir cyfyngiad neu ofyniad ar lafar ar berson o dan y rheoliad hwn, neu pan gaiff cyfyngiad neu ofyniad a osodir o dan y rheoliad hwn ei amrywio ar lafar, rhaid darparu i’r person (neu, yn achos plentyn, i berson sy’n oedolyn cyfrifol mewn perthynas â’r plentyn) hysbysiad ysgrifenedig o’r cyfyngiad neu’r gofyniad a osodwyd neu a amrywiwyd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(6) Pan osodir cyfyngiad neu ofyniad arbennig o dan baragraff (1)(c), rhaid i’r person sy’n gosod y cyfyngiad neu’r gofyniad ddatgan ei fod yn ddibynnol ar y ffaith bod mynychder neu drosglwyddiad Coronafeirws yn fygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd fel y cyfeirir ato yn rheoliad 3.
(7) Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar arfer unrhyw un neu ragor o bwerau yn rhinwedd rheoliad 8.
Gweler adrannau 45C a 45T o Ddeddf 1984 i gael ystyr “special restriction or requirement”. Dyma gyfyngiad neu ofyniad a all gael ei osod gan ynad heddwch yn rhinwedd adran 45G(2), 45H(2) neu 45I(2) o Ddeddf 1984. Mae adran 45G(2) yn cynnwys cyfeiriadau at gadw ac ynysu.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys