Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 3Gweithdrefnau cydsyniad sylweddau peryglus

Ceisiadau am gydsyniad sylweddau peryglus

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 25 (cymhwyso’r DCSP i awdurdodau sylweddau peryglus), rhaid i gais am gydsyniad sylweddau peryglus—

(a)cael ei wneud i’r awdurdod sylweddau peryglus;

(b)cynnwys enw a chyfeiriad y ceisydd;

(c)cynnwys map safle a phlan lleoliad sylwedd;

(d)cynnwys manylion am—

(i)lleoliad y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

(ii)y person sy’n rheoli’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

(iii)pob sylwedd peryglus y ceisir cydsyniad ar ei gyfer (“sylwedd perthnasol”), gan gynnwys uchafswm maintioli pob sylwedd perthnasol y bwriedir iddo fod yn bresennol;

(iv)y prif weithgareddau a gyflawnir neu y bwriedir eu cyflawni ar y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

(v)sut y mae cadw a defnyddio pob sylwedd perthnasol ac ym mhle;

(vi)sut y bwriedir cludo pob sylwedd perthnasol i’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef ac oddi yno,

(vii)cyffiniau’r tir perthnasol, pan fo manylion o’r fath yn berthnasol i’r risgiau o ddamwain fawr neu i ganlyniadau damwain o’r fath; ac

(viii)y mesurau a gymerir neu y bwriedir eu cymryd i gyfyngu ar ganlyniadau damwain fawr; a

(e)cael ei gyflwyno ynghyd â’r hysbysiadau a’r tystysgrifau sy’n ofynnol gan reoliadau 6 a 7.

(2Yn ddarostyngedig i reoliad 25 (cymhwyso’r DCSP i awdurdodau sylweddau peryglus), rhaid i gais y mae adran 13 o’r DCSP yn gymwys iddo (cais am gydsyniad sylweddau peryglus heb amod y rhoddwyd cydsyniad blaenorol yn ddarostyngedig iddo)—

(a)cael ei wneud i’r awdurdod sylweddau peryglus;

(b)cynnwys enw a chyfeiriad y ceisydd;

(c)cynnwys plan newid lleoliad, os yw’r cais yn ymwneud ag amod sy’n cyfyngu ar leoliad sylwedd peryglus;

(d)mewn perthynas ag unrhyw gydsyniad perthnasol, gynnwys copi o—

(i)y cydsyniad, pan fo’r cydsyniad perthnasol yn gydsyniad a roddwyd ar gais o dan y DCSP;

(ii)yr hawliad perthnasol, pan fo’r cydsyniad perthnasol yn gydsyniad y tybir ei fod wedi ei roi o dan adran 11 o’r DCSP; neu

(iii)y cyfarwyddwyd perthnasol, pan fo’r cydsyniad perthnasol yn gydsyniad y tybir ei fod wedi ei roi o dan adran 12;

(e)nodi unrhyw amod a osodwyd yn flaenorol ar y cydsyniad perthnasol—

(i)y cynigir na ddylid ei osod mwyach ar y cydsyniad; neu

(ii)y cynigir mai dim ond ar ffurf wedi ei haddasu y dylid ei osod;

(f)ar gyfer unrhyw amod a nodir o dan is-baragraff (e)(i), roi’r rhesymau pam na ddylid ei osod;

(g)ar gyfer unrhyw amod a nodir o dan is-baragraff (e)(ii)—

(i)nodi’r addasiad arfaethedig; a

(ii)rhoi’r rhesymau pam mai dim ond ar ffurf wedi ei haddasu y dylid ei osod;

(h)disgrifio unrhyw newidiadau perthnasol mewn amgylchiadau ers dyddiad y cydsyniad perthnasol; ac

(i)cael ei gyflwyno ynghyd â’r hysbysiadau a’r tystysgrifau sy’n ofynnol gan reoliadau 6 a 7.

(3Rhaid i gais o dan adran 17 o’r DCSP (cais ar gyfer parhau â chydsyniad yn dilyn newid rheolaeth)—

(a)cael ei wneud i’r awdurdod sylweddau peryglus;

(b)cynnwys enw a chyfeiriad y ceisydd;

(c)cynnwys plan newid rheolaeth;

(d)cynnwys, mewn perthynas ag unrhyw gydsyniad perthnasol, ba bynnag rai o’r dogfennau a restrir ym mharagraff (2)(d) sy’n gymwys i’r cydsyniad perthnasol;

(e)nodi’r dyddiad y mae’r person sy’n rheoli rhan o’r tir yn newid, pan fo’n hysbys;

(f)disgrifio defnydd pob ardal o’r safle a nodwyd yn y plan newid rheolaeth;

(g)disgrifio unrhyw newidiadau perthnasol mewn amgylchiadau ers rhoi’r cydsyniad perthnasol; a

(h)cael ei gyflwyno ynghyd â’r hysbysiadau a’r tystysgrifau sy’n ofynnol gan reoliadau 6 a 7.

(4Rhaid cyflwyno tri chopi o unrhyw gais y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ac unrhyw beth y mae’n ofynnol ei gyflwyno ynghyd ag ef, os gofynna’r awdurdod sylweddau peryglus amdanynt.

(5Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cydsyniad perthnasol” (“relevant consent”) yw cydsyniad sylweddau peryglus presennol y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

“map safle” (“site map”) yw map, sydd wedi ei atgynhyrchu o un o fapiau’r Arolwg Ordnans, neu sydd wedi ei seilio ar fap o’r fath gyda graddfa heb fod yn llai na 1:10,000, sy’n nodi’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef ac sy’n dangos llinellau a rhifau cyfeirnod y Grid Cenedlaethol;

“plan lleoliad sylwedd” (“substance location plan”) yw plan o’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, sydd wedi ei lunio i raddfa heb fod yn llai na 1:2,500, sy’n nodi—

(a)

unrhyw ardal o’r tir y bwriedir ei defnyddio ar gyfer storio’r sylwedd;

(b)

pan fo’r sylwedd i’w ddefnyddio mewn proses weithgynhyrchu, proses drin neu broses ddiwydiannol arall, leoliad prif eitemau’r offer sy’n ymwneud â’r broses honno y bydd y sylwedd yn bresennol ynddi;

(c)

mannau mynediad i’r tir ac oddi yno;

“plan newid lleoliad” (“change of location plan”) yw plan o’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, sydd wedi ei lunio i raddfa heb fod yn llai na 1:2,500, sy’n nodi lleoliad y sylwedd peryglus ar ddyddiad y cais a’r lleoliad arfaethedig y mae’r cais yn ofynnol ar ei gyfer; a

“plan newid rheolaeth” (“change of control plan”) yw plan o’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, sydd wedi ei lunio i raddfa heb fod yn llai na 1:2,500, sy’n nodi pob ardal o’r safle sydd o dan reolaeth ar wahân ar ôl y newid rheolaeth arfaethedig.

(6Mae rheoliadau 6 i 13 yn gymwys i geisiadau a wnaed o dan adran 17 o’r DCSP (dirymu cydsyniad sylweddau peryglus wrth newid rheolaeth o dir) fel y maent yn gymwys i geisiadau ar gyfer cydsyniad sylweddau peryglus.

Cyhoeddi hysbysiadau o geisiadau

6.—(1Cyn gwneud cais am gydsyniad sylweddau peryglus i’r awdurdod sylweddau peryglus, rhaid i’r ceisydd, yn ystod y cyfnod o 21 o ddiwrnodau yn union cyn y cais—

(a)hysbysu’r cyhoedd drwy hysbysiad a gyhoeddwyd mewn papur newydd lleol sy’n cael ei ddosbarthu yng nghyffiniau’r tir y mae’r cais sy’n ymwneud ag ef wedi ei leoli, neu drwy gyfrwng priodol arall, gan gynnwys cyfathrebiadau electronig, o’r materion a ganlyn—

(i)disgrifiad o’r cynnig a chyfeiriad neu leoliad y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

(ii)pan fo’n gymwys, y ffaith bod y cynnig yn brosiect, neu’n rhan o brosiect, sy’n ddarostyngedig i asesiad effaith amgylcheddol cenedlaethol neu drawsffiniol neu ymgyngoriadau rhwng Aelod-wladwriaethau yn unol ag Erthygl 14(3) o’r Gyfarwyddeb;

(iii)bydd yr awdurdod sylweddau peryglus (y gellir cael gwybodaeth berthnasol ganddo) yn penderfynu pa un ai i roi cydsyniad ai peidio, ac os y’i rhoddir, bydd yn penderfynu pa amodau i’w rhoi;

(iv)y caniateir i sylwadau (gan gynnwys sylwadaethau neu gwestiynau) gael eu cyflwyno i’r awdurdod sylweddau peryglus;

(v)manylion am sut y dylid cyflwyno sylwadau o’r fath a’r cyfnod o amser ar gyfer eu cyflwyno, na chaniateir iddo fod yn llai na 21 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr anfonwyd y cais o dan reoliad 5 i’r awdurdod sylweddau peryglus;

(vi)awgrym o’r mannau lle y bydd gwybodaeth berthnasol ar gael a phryd, neu drwy ba gyfrwng y bydd ar gael; a

(b)yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), arddangos hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (a) ar y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef am gyfnod nad yw’n llai na 7 niwrnod gan ei osod a’i arddangos yn y fath fodd fel y gellir ei ddarllen yn hawdd heb fynd ar y tir.

(2Nid yw’n ofynnol i geisydd gydymffurfio â pharagraff (1)(b)—

(a)os nad oes gan y ceisydd hawl mynediad neu hawliau eraill mewn cysylltiad â thir a fyddai’n galluogi’r ceisydd i arddangos yr hysbysiad fel sy’n ofynnol; a

(b)os yw’r ceisydd wedi cymryd pob cam rhesymol i gaffael yr hawliau ond ei fod wedi methu.

(3Nid yw’r ceisydd i’w drin fel petai wedi methu â chydymffurfio â pharagraff (1)(b) os yw’r hysbysiad, heb unrhyw fai neu fwriad y ceisydd, yn cael ei symud ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn diwedd y cyfnod o 7 niwrnod y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw, cyhyd â bod y ceisydd wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad ac, os oes angen, ei ailosod.

(4Ni chaiff yr awdurdod sylweddau peryglus ystyried cais am gydsyniad sylweddau peryglus oni bai y cyflwynir ynghyd ag ef—

(a)copi o’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) a ardystiwyd gan, neu ar ran, y ceisydd fel un sydd wedi ei gyhoeddi yn unol â pharagraff (1)(a);

(b)pan fo’n cael ei gyhoeddi mewn papur newydd lleol, fanylion am enw’r papur newydd a dyddiad ei gyhoeddi;

(c)pan fo’n cael ei gyhoeddi drwy gyfrwng arall, fanylion y cyfryngau eraill hynny; a

(d)y dystysgrif briodol ar Ffurflen 1, wedi ei llofnodi gan neu ar ran y ceisydd.

Hysbysiadau o geisiadau i berchnogion

7.—(1Ni chaiff awdurdod sylweddau peryglus ystyried cais am gydsyniad sylweddau peryglus oni bai bod pa bynnag rai o dystysgrifau A i D a nodir yn Ffurflen 2 sy’n briodol, wedi eu llofnodi gan neu ar ran y ceisydd, yn cael eu cyflwyno ynghyd â’r cais.

(2Yn achos cais am gydsyniad sylweddau peryglus, rhaid i’r hysbysiad gofynnol y cyfeirir ato yn nhystysgrifau B ac C o Ffurflen 2 fod yn hysbysiad a roddir ar Ffurflen 3 a rhaid i gopi o’r hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyhoeddi o dan reoliad 6(1)(a) fynd ynghyd ag ef.

Edrych ar geisiadau

8.  Ar ôl cael cais o dan reoliad 5, rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus sicrhau bod copi o’r cais ar gael i edrych arno yn swyddfeydd yr awdurdod sylweddau peryglus yn ystod y cyfnod a ganiateir ar gyfer cyflwyno sylwadau yn unol â rheoliad 6(1).

Ceisiadau yn dod i law awdurdod sylweddau peryglus

9.—(1Pan fo’r awdurdod sylweddau peryglus yn cael cais dilys am gydsyniad sylweddau peryglus neu gais am unrhyw gydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth sy’n ofynnol gan amod a osodir ar roi cydsyniad sylweddau peryglus, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n ymarferol—

(a)cydnabod yn ysgrifenedig bod y cais wedi dod i law; a

(b)anfon copi o’r cais i’r awdurdod COMAH cymwys.

(2Pan fo cais sy’n dod i law yn un annilys, ym marn yr awdurdod sylweddau peryglus, rhaid i’r awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, hysbysu’r ceisydd am ei farn, gan roi ei resymau.

(3At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliadau 10 ac 11—

(a)mae cais yn ddilys os yw’n cydymffurfio â rheoliad 5 a bod unrhyw ddogfennau sy’n ofynnol gan reoliadau 6 a 7 yn cael eu cyflwyno ynghyd ag ef; a

(b)ystyrir bod cais dilys am gydsyniad sylweddau peryglus wedi dod i law—

(i)pan fo yn nwylo’r awdurdod sylweddau peryglus; a

(ii)pan fo unrhyw ffi sy’n ofynnol i’w thalu mewn cysylltiad â’r cais wedi ei thalu i’r awdurdod hwnnw.

Ymgynghori cyn rhoi cydsyniad sylweddau peryglus

10.—(1Ac eithrio pan fo’r corff neu’r person dan sylw wedi hysbysu’r awdurdod sylweddau peryglus nad yw’n dymuno i’r awdurdod ymgynghori ag ef, rhaid i’r awdurdod, cyn penderfynu cais am gydsyniad sylweddau peryglus, ymgynghori â’r canlynol—

(a)awdurdod COMAH cymwys;

(b)y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol dan sylw, os nad y cyngor hwnnw yw’r awdurdod sylweddau peryglus hefyd;

(c)y cyngor cymuned neu’r cyngor tref dan sylw;

(d)yr awdurdod tân ac achub dan sylw, os nad yr awdurdod hwnnw yw’r awdurdod sylweddau peryglus hefyd;

(e)y person dan sylw y mae trwydded wedi ei rhoi iddo o dan adran 7(2) o Ddeddf Nwy 1986 (trwyddedu cludwyr nwy)(1);

(f)y person dan sylw y mae trwydded wedi ei rhoi iddo o dan adran 6(1)(b) ac (c) o Ddeddf Trydan 1989 (trwyddedau sy’n awdurdodi cyflenwi etc.)(2);

(g)pan fo’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef o fewn 2 cilometr o balas, parc neu breswylfa frenhinol, yr Ysgrifennydd Gwladol;

(h)pan fo’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef mewn ardal sydd wedi ei dynodi’n dref newydd, corfforaeth datblygu’r dref newydd;

(i)pan fo’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef wedi ei leoli o fewn 2 cilometr o—

(i)sir, bwrdeistref sirol, neu ddosbarth cyfagos, y cyngor ar gyfer y sir honno, y fwrdeistref sirol honno neu’r dosbarth hwnnw;

(ii)ardal awdurdod tân ac achub cyfagos, yr awdurdod hwnnw; neu

(iii)tref newydd gyfagos, corfforaeth datblygu’r dref newydd;

(j)pan fo’n ymddangos i’r awdurdod sylweddau peryglus sy’n delio â’r cais y gellid effeithio ar dir yn ardal unrhyw awdurdod sylweddau peryglus arall, yr awdurdod hwnnw;

(k)pan fo’r cais yn ymwneud â thir mewn ardal y mae adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(3) yn gymwys iddi (safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig) neu pan ymddengys i’r awdurdod sylweddau peryglus sy’n delio â’r cais y gellid effeithio ar ardal o sensitifrwydd naturiol penodol neu o ddiddordeb penodol, yng Nghymru, Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu yn Lloegr, Natural England;

(l)pan fo’r cais yn ymwneud â thir mewn ardal gwaith glo a hysbyswyd i’r awdurdod sylweddau peryglus gan yr Awdurdod Glo, yr Awdurdod Glo; ac

(m)pan fo’r cais yn ymwneud â thir a ddefnyddir ar gyfer gwaredu neu storio gwastraff a reolir, yr awdurdod gwaredu gwastraff dan sylw, os nad yr awdurdod hwnnw yw’r awdurdod sylweddau peryglus hefyd.

(2Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus hefyd, cyn penderfynu cais am gydsyniad sylweddau peryglus, ymgynghori ag unrhyw bersonau eraill, gan gynnwys unrhyw sefydliad anllywodraethol sy’n hyrwyddo gwaith diogelu’r amgylchedd, y mae’r cais yn effeithio arnynt neu y mae’n debygol o effeithio arnynt, neu sydd â buddiant ynddo, ac sydd ym marn yr awdurdod yn annhebygol o ddod yn ymwybodol o’r cais drwy’r hysbysiadau o dan reoliad 6.

(3Pan fo’n ymgynghori o dan baragraff (1) neu (2) o’r rheoliad hwn, rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus hefyd, o fewn 7 niwrnod ar ôl cael y cais—

(a)hysbysu’r corff neu’r person dan sylw yn ysgrifenedig ei fod wedi cael cais am gydsyniad sylweddau peryglus a rhoi gwybod iddo am y materion a ganlyn—

(i)disgrifiad o’r cynnig a chyfeiriad neu leoliad y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

(ii)pan fo’n gymwys, y ffaith bod y cynnig yn brosiect, neu’n rhan o brosiect, sy’n ddarostyngedig i asesiad effaith amgylcheddol cenedlaethol neu drawsffiniol neu ymgyngoriadau rhwng Aelod-wladwriaethau yn unol ag Erthygl 14(3) o’r Gyfarwyddeb;

(iii)y bydd yr awdurdod sylweddau peryglus (y gellir cael gwybodaeth berthnasol ganddo) yn penderfynu pa un ai i roi cydsyniad ai peidio, ac os y’i rhoddir, bydd yn penderfynu ar ba amodau i’w roi;

(iv)y caniateir i sylwadau (gan gynnwys sylwadaethau neu gwestiynau) gael eu cyflwyno i’r awdurdod sylweddau peryglus;

(v)manylion am sut y dylid cyflwyno sylwadau o’r fath a’r cyfnod o amser ar gyfer eu cyflwyno, na chaniateir iddo fod yn llai na 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr hysbysir y person neu’r corff fod cais dilys wedi dod i law’r awdurdod sylweddau peryglus;

(vi)awgrym o’r mannau lle y bydd gwybodaeth berthnasol ar gael a phryd, neu drwy ba gyfrwng y bydd ar gael; a

(b)sicrhau bod copi o’r cais ar gael i edrych arno yn swyddfeydd yr awdurdod sylweddau peryglus yn ystod y cyfnod neu’r cyfnodau a ganiateir ar gyfer cyflwyno sylwadau.

(4Pan fo’n ofynnol i awdurdod sylweddau peryglus ymgynghori â chorff o dan—

(a)paragraff (1)(a), neu

(b)paragraff (1)(k), pan ymddengys i’r awdurdod y gellid effeithio ar ardal o sensitifrwydd naturiol penodol neu o ddiddordeb penodol,

nid yw’r esemptiad ym mharagraff (1) yn gymwys.

(5Yn y rheoliad hwn—

(a)mae i “ardal o sensitifrwydd naturiol penodol neu o ddiddordeb penodol” yr un ystyr ag “area of particular natural sensitivity or interest” at ddibenion y Gyfarwyddeb;

(b)mae i “gwastraff a reolir” yr ystyr a roddir i’r ymadrodd “controlled waste” gan adran 75(4) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990(4) ac mae “awdurdod gwaredu gwastraff” (“waste disposal authority”) i’w ddehongli yn unol ag adran 30(2)(5) o’r Ddeddf honno; ac

(c)mae i “sir”, “bwrdeistref sirol” a “dosbarth” yr un ystyron ag sydd i “county”, “county borough” a “district”, yn eu trefn, yn Neddf Llywodraeth Leol 1972(6).

Penderfynu ceisiadau am gydsyniad sylweddau peryglus

11.—(1Ni chaiff awdurdod sylweddau peryglus benderfynu cais am gydsyniad sylweddau peryglus cyn y daw’r cyfnod neu’r cyfnodau i ben a ganiateir ar gyfer cyflwyno sylwadau yn unol â rheoliad 6(1) a 10(3).

(2Wrth benderfynu cais am gydsyniad sylweddau peryglus, rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad a gynhelir mewn perthynas â’r cais hwnnw.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (1), rhaid i awdurdod sylweddau peryglus, o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (4), roi i’r ceisydd hysbysiad ysgrifenedig am ei benderfyniad neu hysbysiad bod y cais wedi ei gyfeirio at Weinidogion Cymru i’w benderfynu.

(4Y cyfnod a bennir at ddibenion paragraff (3) yw—

(a)cyfnod o 8 wythnos o’r dyddiad y mae’r awdurdod sylweddau peryglus yn cael y cais; neu

(b)ac eithrio pan fo’r ceisydd eisoes wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, y cyfryw gyfnod hwy ag y caiff y ceisydd a’r awdurdod sylweddau peryglus gytuno arno yn ysgrifenedig.

(5Pan fo awdurdod sylweddau peryglus yn rhoi hysbysiad o benderfyniad ar gais rhaid i’r hysbysiad, pan fo cydsyniad sylweddau peryglus yn cael ei wrthod neu ei roi yn ddarostyngedig i amodau—

(a)nodi, yn glir ac yn fanwl, ei resymau llawn am ei wrthod neu am unrhyw amod a osodir; a

(b)os yw’r ceisydd wedi ei dramgwyddo gan y penderfyniad, gynnwys datganiad i’r perwyl y caiff y ceisydd apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 21 o’r DCSP o fewn 6 mis i ddyddiad yr hysbysiad o benderfyniad, neu’r cyfryw gyfnod hwy ag y caiff Gweinidogion Cymru ei ganiatáu ar unrhyw adeg.

(6Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, hysbysu’r personau a ganlyn am delerau ei benderfyniad—

(a)yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch;

(b)pan fo’r tir y mae’r penderfyniad yn ymwneud ag ef yn safle niwclear, neu ar safle o’r fath, y Swyddfa dros Reoli Niwclear;

(c)y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol dan sylw, os nad y cyngor hwnnw yw’r awdurdod sylweddau peryglus dan sylw hefyd;

(d)unrhyw ymgyngoreion eraill sydd wedi cyflwyno sylwadau iddo ar y cais; ac

(e)unrhyw berchnogion sydd wedi cyflwyno sylwadau iddo ar y cais.

(7Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus sicrhau bod y canlynol ar gael i edrych arnynt yn swyddfeydd yr awdurdod sylweddau peryglus—

(a)cynnwys y penderfyniad a’r rhesymau y seiliwyd y penderfyniad arnynt, gan gynnwys unrhyw hysbysiadau dilynol a gafwyd gan yr awdurdod COMAH cymwys yn unol â pharagraff 17 o Atodlen 2; a

(b)canlyniadau’r ymgyngoriadau a gynhaliwyd cyn gwneud y penderfyniad ac esboniad am sut y’u hystyriwyd wrth wneud y penderfyniad hwnnw.

Hysbysiad o gyfeirio ceisiadau at Weinidogion Cymru

12.  Wrth gyfeirio unrhyw gais at Weinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 20 o’r DCSP, rhaid i awdurdod sylweddau peryglus gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd—

(a)yn hysbysu’r ceisydd bod y cais wedi ei gyfeirio at Weinidogion Cymru;

(b)yn nodi’r rhesymau a roddir gan Weinidogion Cymru am ddyroddi’r cyfarwyddyd; ac

(c)yn cynnwys datganiad y bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfle i’r ceisydd ymddangos gerbron person a benodwyd gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw a chael ei glywed ganddo, os yw’r ceisydd yn dymuno hynny.

Apelau

13.—(1Rhaid i unrhyw apêl i Weinidogion Cymru o dan adran 21(1) o’r DCSP (apelau yn erbyn penderfyniadau sy’n ymwneud â sylweddau peryglus) gael ei wneud o fewn 6 mis i ddyddiad yr hysbysiad o’r penderfyniad sy’n arwain at yr apêl, neu o fewn y cyfryw gyfnod hwy y caiff Gweinidogion Cymru ei ganiatáu ar unrhyw adeg.

(2Rhaid i apêl o dan adran 21 o’r DCSP (apelau yn erbyn penderfyniadau neu fethiant i wneud penderfyniadau sy’n ymwneud â sylweddau peryglus)—

(a)cael ei gwneud i Weinidogion Cymru ar ffurflen a geir oddi wrth Weinidogion Cymru;

(b)cynnwys yr wybodaeth a bennir yn y ffurflen; ac

(c)cael ei chyflwyno ynghyd â’r dogfennau a bennir ym mharagraff (3) a’r dystysgrif sy’n ofynnol gan baragraff (4).

(3Y dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (2)(c) yw—

(a)y cais a wnaed i’r awdurdod sylweddau peryglus sydd wedi achosi’r apêl;

(b)unrhyw hysbysiadau a thystysgrifau sy’n ofynnol gan reoliadau 6 a 7 a gyflwynwyd ynghyd â’r cais;

(c)unrhyw ohebiaeth â’r awdurdod sy’n ymwneud â’r cais; a

(d)yr hysbysiad o benderfyniad, os oes un.

(4Ni chaiff Gweinidogion Cymru ystyried apêl o dan adran 21 o’r DCSP oni bai bod pa bynnag rai o dystysgrifau A i D sy’n briodol yn Ffurflen 2, wedi eu llofnodi gan neu ar ran yr apelydd, yn cael eu cyflwyno ynghyd â hi.

(5Rhaid i’r hysbysiad gofynnol y cyfeirir ato yn nhystysgrifau B ac C, yn achos apêl o dan adran 21 o’r DCSP, fod yn hysbysiad a roddir ar Ffurflen 4.

(6Rhaid i’r apelydd anfon copi o’r ffurflen hysbysiad o apêl wedi ei llenwi a’r dystysgrif sy’n cael ei chyflwyno ynghyd â hi i’r awdurdod sylweddau peryglus ar yr un pryd ag y gwneir yr apêl i Weinidogion Cymru.

Y cyfnod ar gyfer penderfynu gweithdrefn o dan adrannau 20 ac 21 o’r DCSP

14.—(1At ddibenion adran 21B(3) o’r DCSP (penderfyniad gan Weinidogion Cymru ar y weithdrefn ar gyfer ceisiadau o dan adran 20 o’r DCSP ac apelau o dan adran 21) y cyfnod rhagnodedig yw saith niwrnod gwaith o’r dyddiad perthnasol.

(2Yn y rheoliad hwn—

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru; ac

ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”)—

(a)

mewn perthynas â chyfeiriadau o dan adran 20(7) o’r DCSP (cyfeirio ceisiadau at Weinidogion Cymru), yw’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad gan yr awdurdod sylweddau peryglus bod y cais yn cael ei gyfeirio; a

(b)

mewn perthynas ag apêl o dan adran 21 o’r DCSP (apelau yn erbyn penderfyniadau neu fethiant i wneud penderfyniadau sy’n ymwneud â sylweddau peryglus), yw’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o’r apêl ynghyd ag unrhyw wybodaeth y caniateir ei rhagnodi.

(1)

1986 p. 44. Amnewidiwyd adran 7 gan adran 5 o Ddeddf Nwy 1995 (p. 45) a diwygiwyd is-adran (2) gan adrannau 3(2) a 76 o Ddeddf Cyfleustodau 2000, a pharagraffau 1 a 4 o Ran 1 o Atodlen 6 iddi a chan O.S. 2011/2704.

(2)

1989 p. 29. Amnewidiwyd adran 6 gan adran 30 o Ddeddf Cyfleustodau 2000 (p. 27), amnewidiwyd is-adran (1)(b) gan adran 136(1) o Ddeddf Ynni 2004 (p. 20) a diwygiwyd is-adran (1)(c) gan adran 197(9) o Ddeddf Ynni 2004, a Rhan 1 o Atodlen 23 iddi.

(3)

1981 p. 69. Amnewidiwyd adran 28 gan baragraff 1 o Atodlen 9 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p. 37) ac fe’i diwygiwyd gan adran 105(1) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p. 16) a pharagraff 79 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi, a pharagraff 2 o Ran 2 o Atodlen 13 i Ddeddf Mynediad i Arfordiroedd a Glannau’r Môr 2009 (p. 23).

(4)

1990 p. 43. Diwygiwyd adran 75(1) gan O.S. 2006/937. Diwygiwyd adran 75(2) gan O.S. 2011/988.

(5)

Diwygiwyd adran 30(2) gan adran 22(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, a pharagraff 17(2) o Atodlen 9 iddi. Mae diwygiadau eraill i’r adran hon nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(7)

Mae diwygiadau i adran 20 nad ydynt yn berthnasol i’r ddarpariaeth hon.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill