Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Diwygio) 2014

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (a bennir yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992) fel y mae’n cael effaith yng Nghymru (“y Cynllun”). Mae rhai o’r diwygiadau yn cyflwyno darpariaethau newydd. Mae diwygiadau eraill yn gwneud cywiriadau.

Ac eithrio fel a grybwyllir isod, mae’r Gorchymyn hwn yn cael effaith ôl-weithredol o 1 Gorffennaf 2013. Rhoddir y pŵer i roi effaith i’r Gorchymyn yn ôl-weithredol gan adran 12 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 fel y’i cymhwysir gan adran 16(3) o’r Ddeddf honno.

Yn y nodyn hwn, oni nodir yn wahanol, mae’r cyfeiriadau at baragraff yn gyfeiriadau at baragraffau yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn, a’r cyfeiriadau at reolau a Rhannau yn gyfeiriadau at reolau a Rhannau o’r Cynllun.

Mae paragraff 1 yn gwneud diwygiadau i Ran A. Mae paragraff 1(b) yn hepgor rheol A14 (ymddeol gorfodol ar sail effeithlonrwydd) a rheol A15 (ymddeol gorfodol ar sail anabledd). Hepgorir rheolau A4 i A8 ac A12 yn ogystal.

Mae paragraff 2(a) yn diwygio rheol B1 fel nad yw’n ofynnol bellach fod prif swyddog tân a benodir ar ôl 1 Gorffennaf 2013 yn cael caniatâd yr awdurdod tân ac achub cyn ymddeol.

Mae paragraff 2(e) yn diwygio’r fformiwla ar gyfer cyfrifo pensiwn pan fo hawl gan berson i gael dyfarndal oherwydd afiechyd neu bensiwn gohiriedig a buddion o’r hawlogaeth i ddau bensiwn.

Mae paragraff 2(f)(i) yn gwneud mân gywiriadau i reol B5B er mwyn gwneud yn eglur pa wasanaeth pensiynadwy a gaiff gyfrif ar gyfer y budd pensiwn ychwanegol ar sail cynyddiad gwasanaeth hir. Cyfnodau o wasanaeth gydag Awdurdod Tân ac Achub Cymreig yn unig a gynhwysir gan y diwygiad.

Mae paragraff 2(g) yn mewnosod rheol B5C newydd sy’n estyn y budd pensiwn ychwanegol er mwyn cynnwys—

  • taliadau i wobrwyo sgiliau a chyfrifoldebau ychwanegol sydd y tu allan i ofynion dyletswyddau’r aelod-ddiffoddwr tân o dan y contract cyflogaeth ond sydd o fewn swyddogaethau ehangach y swydd;

  • unrhyw dâl ychwanegol a geir yn ystod dyrchafiad dros dro, neu wrth gyflawni dyletswyddau rôl uwch dros dro;

  • unrhyw daliad ar wahân ar sail perfformiad.

Bydd unrhyw daliadau mewn perthynas â datblygiad proffesiynol parhaus aelod-ddiffoddwr tân yn parhau o fewn cwmpas y budd pensiwn ychwanegol.

Mae’r diwygiadau a wneir gan baragraffau 2(f)(ii), (iii) a (iv) a 2(g) mewn perthynas â pharagraffau (3) a (4) o’r rheol B5C newydd, yn newid y dull o uwchraddio budd pensiwn ychwanegol ar gyfer y cynyddiad gwasanaeth hir (rheol B5B) a datblygiad proffesiynol parhaus (rheol B5C), o ddefnyddio mynegai penodol, sef y mynegai prisiau manwerthu, i ddefnyddio mynegai yn unol â Deddf Pensiynau (Cynnydd) 1971. Darperir yn benodol mai’r mynegai prisiau defnyddwyr a ddefnyddir ar gyfer y flwyddyn dreth 2010/2011. Mae’r diwygiadau hyn yn cael effaith ôl-weithredol o 11 Ebrill 2011.

Mae’r diwygiadau a wneir gan baragraff 2(i) i reol B7 (darpariaeth gyffredinol o ran cymudo) yn rhoi disgresiwn i awdurdod tân ac achub ganiatáu cymudo pensiwn am gyfandaliad o fwy na dwy a chwarter gwaith swm llawn y pensiwn ym mhob achos pan fo’r awdurdod wedi rhoi sylw i’r angen i reoli ei swyddogaethau yn ddarbodus, yn effeithiol ac yn effeithlon a’r costau tebygol a dynnir mewn achos penodol. Pan fo’r awdurdod yn arfer y disgresiwn hwn, mae diwygiad a wneir gan baragraff 14(iv), sy’n mewnosod paragraff (10) newydd yn rheol LA2, yn ei gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod yn trosglwyddo i Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân swm sy’n hafal i’r cynnydd yn y cyfandaliad cymudedig.

Mae paragraff 4 yn rhoi rheol D5 newydd (lwfans plentyn: cyfyngiadau a pharhad) yn lle’r un bresennol.

Mae paragraff 5 yn gwneud amryw ddiwygiadau i Ran E (dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth — darpariaethau ychwanegol).

Mae paragraff 6 yn diwygio Rhan F (gwasanaeth pensiynadwy a gwerthoedd trosglwyddo), ac yn benodol yn mewnosod rheol F1A newydd (cyfrif gwasanaeth at ddibenion dyfarndaliadau) sy’n ail-wneud y rhan fwyaf o ddarpariaethau’r rheol A7 a hepgorwyd.

Mae paragraff 7(a) yn diwygio’r diffiniad o dâl pensiynadwy yn rheol G1(1) i gynnwys taliadau sy’n bensiynadwy o dan y budd pensiwn ychwanegol (rheol newydd B5C(1)) ac yn darparu bod yn rhaid cyfrifo tâl pensiynadwy cyfartalog heb gynnwys unrhyw fudd pensiwn ychwanegol sy’n daladwy o dan reol B5C. Diwygir rheol G1 hefyd drwy fewnosod paragraff (9) newydd, sy’n darparu na fydd taliadau nad ydynt o fewn y diffiniad o dâl pensiynadwy yn rheol G1(1)(a) fel y’i diwygiwyd, heblaw buddion pensiwn ychwanegol sy’n daladwy am wasanaeth hir neu mewn perthynas â datblygiad proffesiynol parhaus diffoddwr tân, yn parhau yn bensiynadwy ac eithrio tra bo’r diffoddwr tân yn parhau i’w cael.

Mae paragraff 7(d) yn mewnosod rheol G2B (cyfraniadau pensiwn cyfanredol at ddibenion dyfarndaliadau) sy’n ail-wneud y rhan fwyaf o’r rheol A8 (cyfraniadau pensiwn cyfanredol at ddibenion dyfarndaliadau) a hepgorwyd, ond gyda rhai diwygiadau.

Ym mharagraff 8 mewnosodir un rheol newydd a rhoddir 2 reol newydd arall yn lle’r rhai presennol yn Rhan H (dyfarnu cwestiynau ac apelau). Mae’r rhain yn galluogi—

  • adolygu barn feddygol pan fo tystiolaeth newydd (rheol H1A: adolygu barn feddygol);

  • gwella’r weithdrefn mewn apêl (rheol newydd H2: apêl i ganolwr meddygol);

  • diddymu’r hawl i apelio i Lys y Goron neu Siryf, ac yn lle hynny sefydlu trefniadau ar gyfer datrys anghydfodau gan yr awdurdod tân ac achub o dan adran 50 o Ddeddf Pensiynau 1995 (rheol H3: apelau ar faterion eraill).

Mae paragraff 9 yn diwygio’r darpariaethau yn Rhan I (aelodau o’r lluoedd arfog) i adlewyrchu newidiadau yn y ddeddfwriaeth berthnasol.

Mae paragraff 12(b) yn diwygio rheol K1A i ddileu hawlogaeth aelod gohiriedig i gael taliadau pensiwn gohiriedig yn gynnar pan fo’r aelod wedi dod yn alluog i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd. Mae paragraff 12(c) yn rhoi rheol K4 newydd yn lle’r un bresennol er mwyn estyn pŵer yr awdurdod tân ac achub i dynnu pensiwn yn ôl, neu ei gwtogi, fel y bo’n gymwys pan fo pensiynwr yn ymgymryd â chyflogaeth gydag awdurdod mewn unrhyw rôl. Mae’r diwygiad hwn yn cael effaith ôl-weithredol o 25 Medi 2009.

Mae paragraff 14(a)(iv) yn mewnosod paragraff (9) newydd yn rheol LA2 (taliadau arbennig a throsglwyddiadau i mewn i Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân). Gwneir yn ofynnol bod awdurdod tân ac achub yn trosglwyddo i Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân swm sy’n hafal i swm unrhyw bensiwn a delir i berson y mae’r awdurdod wedi dewis peidio ag arfer ei ddisgresiwn mewn cysylltiad ag ef i dynnu’n ôl y swm a ganiateir o bensiwn yr unigolyn, neu ei gwtogi, o dan reol K4 (tynnu pensiwn yn ôl yn ystod cyflogaeth gydag awdurdod tân ac achub). Nid yw’r diwygiad hwn yn cael effaith mewn perthynas â phensiynwr a ymgymerodd â chyflogaeth cyn y dyddiad y daw’r Gorchymyn hwn i rym.

Mae paragraff 15(f), (j) a (k) yn diwygio’r diffiniad o “retained firefighter” a “volunteer firefighter” fel eu bod wedi eu diffinio ar wahân yn awr.

Mae paragraff 20(b) yn ganlyniadol i ddiwygiadau a wnaed i Gynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) gan O.S. 2014/3254 (W.330) sy’n darparu mynediad i gynllun pensiwn am y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2000 a 6 Ebrill 2006, ar gyfer personau yng Nghymru a gyflogid fel diffoddwyr tân wrth gefn yn y cyfnod hwnnw. Mae paragraff 20(b) yn diwygio Rhan 4 o Atodlen 6 i’r Cynllun. Gwneir y diwygiad er mwyn darparu swm gwahanol o werth trosglwyddo pa fo aelod o’r Cynllun yn bodloni gofynion penodol.

Mae paragraff 23 yn diwygio Rhan 1 (apêl i fwrdd canolwyr meddygol) o Atodlen 9 (apelau) i’r Cynllun, drwy roi paragraffau 1(1), 2, 8(2), ac 8(2A) newydd yn lle’r rhai presennol a mewnosod paragraff 2B a pharagraff 6A newydd. Mae’r diwygiadau hyn yng ngweithdrefnau’r bwrdd yn ei alluogi i adolygu ei benderfyniad os gwnaed camgymeriad ffeithiol perthnasol, i benodi aelod adolygu i sicrhau bod gan y bwrdd yr holl ddogfennau sy’n ofynnol cyn cynnal gwrandawiad, a hefyd yn darparu seiliau ychwanegol fel y caiff awdurdod ei gwneud yn ofynnol bod apelydd yn talu rhan neu’r cyfan o gostau’r bwrdd. Mae paragraff 23(2) yn hepgor Rhan 2 (tribiwnlysoedd apêl), o ganlyniad i ddiwygio rheol H3 (apelau ar faterion eraill).

Ystyriwyd Cod Asesiad Effaith Rheoleiddiol Gweinidogion Cymru ar gyfer Is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o’r Gorchymyn hwn.

Gellir cael copi o’r asesiad gan y Gangen Tân, Yr Adran Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ (ffôn 0300 0628219).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill