- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
1. Mae’r Rheoliadau hyn—
(a)yn dwyn yr enw Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2014;
(b)yn gymwys o ran Cymru ac o ganlyniad i hynny mae’r diwygiadau a wneir gan reoliad 2—
(i)yn ymestyn i Gymru a Lloegr; a
(ii)yn gymwys o ran Cymru yn unig; ac
(c)yn dod i rym ar 5 Medi 2014.
2.—(1) Yn adran 10 o Ddeddf Drylliau 1968(1) (cigydda anifeiliaid)—
(a)yn is-adran (1), yn lle “licensed under the Welfare of Animals (Slaughter or Killing) Regulations 1995 to slaughter horses, cattle, sheep, swine or goats” rhodder “holding a relevant licence”; a
(b)ar ôl is-adran (1), mewnosoder—
“(1A) For the purposes of subsection (1) a person holds a relevant licence if that person—
(a)is licensed under the Welfare of Animals (Slaughter or Killing) Regulations 1995 to slaughter horses, cattle, sheep, swine or goats; or
(b)holds a certificate of competence or is licensed under the Welfare of Animals at the Time of Killing (Wales) Regulations 2014.”
(2) Yn adran 16(1)(c) o Ddeddf Lladd-dai 1974(2) (rheoli lladd-dai cyhoeddus), ar ôl “the Welfare of Animals (Slaughter or Killing) Regulations 1995” mewnosoder “or the Welfare of Animals at the Time of Killing (Wales) Regulations 2014”.
(3) Yn Atodlen 1 i Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986(3) (dulliau priodol o ladd heb boen), yn Nhabl A, yn y golofn ar y chwith o’r pumed cofnod, ar ôl “a current licence granted under the Welfare of Animals (Slaughter or Killing) Regulations 1995” mewnosoder “or a certificate of competence or licence issued under the Welfare of Animals at the Time of Killing (Wales) Regulations 2014”.
(4) Ym mharagraff 12 o’r Atodlen i Reoliadau Trwyddedu Meistri Gangiau (Eithriadau) 2013(4)—
(a)dileer y gair “or” ar ôl is-baragraff (a); a
(b)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder
“or;
(c)a certificate of competence or licence to kill animals under the Welfare of Animals at the Time of Killing (Wales) Regulations 2014.”
1968 p. 27; diwygiwyd adran 10 gan O.S. 1995/731, rheoliad 28(2) ac Atodlen 14, paragraff (1).
1974 p. 3; diwygiwyd adran 16(1)(c) gan O.S. 1995/731, rheoliad 28(2) ac Atodlen 14, paragraff 2(3).
1986 p. 14; gwnaed diwygiadau perthnasol i Dabl A yn Atodlen 1 gan O.S. 2012/3039, rheoliadau 2 ac 16(1) a (4)(d).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys