Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Credyd Cynhwysol (Darpariaethau Canlyniadol) (Gofal Plant, Tai a Thrafnidiaeth) (Cymru) 2013

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 2IS-DDEDDFWRIAETH

Diwygio Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996

5.—(1Mae Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Mae rheoliad 2(1) (dehongli)(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)yn lle’r diffiniad o “contributory employment and support allowance” rhodder—

“contributory employment and support allowance” means an allowance under Part 1 of the Welfare Reform Act 2007 (“the 2007 Act”) as amended by the provisions of Schedule 3, and Part 1 of Schedule 14, to the 2012 Act that remove references to an income-related allowance, and a contributory allowance under Part 1 of the 2007 Act as that Part has effect apart from those provisions;; a

(b)ar ôl y diffiniad o “training allowance” mewnosoder—

“universal credit” means universal credit under Part 1 of the 2012 Act;.

(3Yn rheoliad 10 (y swm cymwys)(3)

(a)ym mharagraff (3)—

(i)ar ôl is-baragraff (a)(v) hepgorer “or” ac ar ôl is-baragraff (a)(vi) mewnosoder—

; or

(vii)universal credit;;

(ii)ar ôl is-baragraff (b) hepgorer “or” ac ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—

; or

(d)subject to paragraph (5), a relevant person who has a partner, where the partner is entitled to universal credit; a

(b)ar ôl paragraff (4), mewnosoder—

(5) For the purposes of paragraph (3)(d) and regulation 11(2)(b), where the relevant person and a partner of that person are parties to a polygamous marriage, the fact that they are partners will be disregarded if—

(a)one of them is a party to an earlier marriage that still subsists; and

(b)the other party to that earlier marriage is living in the same household.

(4Yn rheoliad 11 (adnoddau ariannol)—

(a)ar y dechrau mewnosoder “(1) Subject to paragraph (2),”; a

(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(2) Subject to regulation 10(5), where a relevant person in the case of the application—

(a)is entitled to universal credit; or

(b)is not entitled to universal credit but their partner is so entitled,

then the income of that relevant person for the purposes of paragraph (1) will be taken to be nil.

(5Yn rheoliad 19 (trin taliadau gofal plant)(4), ym mharagraffau (3)(b) a (3)(c)(ii), ar ôl “Employment and Support Allowance Regulations 2008” mewnosoder “or the Employment and Support Allowance Regulations 2013”.

(6Yn rheoliad 31(10A)(b)(i) (incwm tybiannol) yn lle’r geiriau o “in accordance with” i’r diwedd rhodder “approved by the Welsh Ministers”.

Diwygio Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2002

6.—(1Mae Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2002(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(4) (cymhwyster i gael grant)(6), ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—

(ca)personau sy’n cael credyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012;.

Diwygio Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 2006

7.—(1Mae Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 2006(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)ym mharagraff (1), ar ôl y diffiniad o “Deddf 1996” mewnosoder—

ystyr “Deddf 2012” (“the 2012 Act”) yw Deddf Diwygio Lles 2012 (2012 p.5);;

(b)ar ddiwedd paragraff (3)(c)(ii), hepgorer y gair “a”;

(c)ar ddiwedd paragraff (ch), dileer yr atalnod llawn a mewnosoder “; a”; a

(d)ar ôl paragraff (ch), mewnosoder—

(d)ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth” (“employment and support allowance”) yw lwfans cyflogaeth a chymorth o dan Ran 2 o Ddeddf 2012; ac

(dd)ystyr “credyd cynhwysol” (“universal credit”) yw credyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf 2012.

(3Yn rheoliad 3(1)(ff) (dosbarthiadau o bersonau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ac sy’n gymwys i gael cymorth tai)—

(a)ar ôl “lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm” mewnosoder “, lwfans cyflogaeth a chymorth,”; a

(b)yn lle “cymhorthdal” rhodder “credyd cynhwysol neu gymhorthdal”.

Diwygio Rheoliadau Gorchmynion Ad-dalu Rhent (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2008

8.—(1Mae Rheoliadau Gorchmynion Ad-dalu Rhent (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2008(8) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle rheoliad 1(3) (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli) rhodder—

(3) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai 2004;

ystyr “dyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol” (“relevant award of universal credit”) yw dyfarniad y cyfeirir ato yn adran 73(6A) o Ddeddf Tai 2004.

(3Yn rheoliad 2 (diwygio cais am orchymyn ad-dalu rhent i dynnu ymaith fudd-dal tai nad oedd yn briodol daladwy)—

(a)ym mharagraff (1), ar ôl “budd-dal tai”, mewnosoder “neu ddyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol”; a

(b)ym mharagraff (2), yn lle’r geiriau o “yn lle cyfanswm y budd-dal” i’r diwedd rhodder—

(a)yn achos budd-dal tai, yn lle cyfanswm y budd-dal tai a dalwyd, y rhan honno o’r swm hwnnw y mae’n credu sy’n briodol daladwy;

(b)yn achos dyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol, yn lle’r swm y cyfeirir ato yn adran 74(2A)(a) o’r Ddeddf y credid yn wreiddiol ei fod yn gymwys, y swm y credir bellach ei fod yn gymwys (os yw’n wahanol).

(4Yn lle paragraff (3), rhodder—

(3) At ddibenion paragraffau (1) a (2)—

(a)mae swm o fudd-dal tai yn briodol daladwy os yw’r person y’i telir iddo, neu mewn cysylltiad ag ef, â hawl iddo o dan Reoliadau Budd-dal Tai 2006 neu Reoliadau Budd-dal Tai (Personau sydd wedi cyrraedd yr oed cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006 (p’un ai yn y penderfyniad cychwynnol neu fel y’i diwygiwyd neu y’i disodlwyd ar ôl hynny, neu fel y’i diwygiwyd neu y’i disodlwyd ymhellach); a

(b)mae dyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol yn briodol daladwy os yw’r person y’i telir iddo, neu mewn cysylltiad ag ef, â hawl iddo o dan Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013 (p’un ai yn y penderfyniad cychwynnol neu fel y’i diwygiwyd neu y’i disodlwyd ar ôl hynny, neu fel y’i diwygiwyd neu y’i disodlwyd ymhellach).

(2)

Mae rheoliad 2(1) wedi ei ddiwygio gan O.S. 2013/552 (Cy.62); mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

Diwygiwyd rheoliad 10 gan O.S. 2008/2377 ac O.S. 2010/297.

(4)

Diwygiwyd rheoliad 19(3) gan O.S. 2010/297.

(6)

Diwygiwyd rheoliad 3(4) gan O.S. 2008/1879.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill