- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—
mae “adeilad” (“building”) yn cynnwys unrhyw strwythur neu adeiledd, neu unrhyw ran o adeilad, strwythur neu adeiledd;
mae i'r ymadrodd “awdurdod strydoedd” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “street authority” yn Rhan 3 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991(1);
ystyr “y CCC” (“the PLC”) yw Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus Rheilffordd Llangollen plc, cwmni a gofrestrwyd o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 a'i rif cofrestredig yw 2716476 a chyda'i swyddfa gofrestredig yng Ngorsaf y Rheilffordd, Stryd yr Abaty, Llangollen, Sir Ddinbych LL20 8SN;
mae “cyfeiriad” (“address”) yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion trosglwyddiad electronig;
mae “cynnal a chadw” (“maintain”) yn cynnwys arolygu, trwsio, addasu, altro, symud ymaith, ail adeiladu ac amnewid, a rhaid dehongli “gwaith cynnal a chadw” (“maintenance”) yn unol â hynny;
mae “cwrs dŵr” (“watercourse”) yn cynnwys pob afon, ffrwd, ffos, traen, camlas, toriad, cwlfert, arglawdd, llifddor, carthffos a llwybrau y mae dŵr yn llifo drwyddynt, ac eithrio carthffosydd neu draeniau cyhoeddus;
ystyr “Deddf 1961” (“the 1961 Act”) yw Deddf Iawndal Tir 1961(2);
ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(3);
ystyr “y gwaith rhestredig” (“the scheduled work”) yw'r gwaith a bennir yn Atodlen 1 (Gwaith rhestredig) neu unrhyw ran ohono;
ystyr “gweithfeydd awdurdodedig” (“authorised works”) yw'r gwaith rhestredig ac unrhyw weithfeydd eraill a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn;
ystyr “yr hen reilffordd” (“the former railway”) yw'r rheilffordd neu'r hen reilffordd a awdurdodwyd gan Ddeddf Rheilffordd Llangollen a Chorwen 1860(4) a pha faint bynnag o unrhyw reilffordd neu hen reilffordd arall ag sydd wedi'i lleoli o fewn terfynau'r Gorchymyn ynghyd â pha faint bynnag o bob gweithfeydd sy'n ymwneud â'r cyfryw reilffordd neu hen reilffordd ag sydd wedi'u lleoli felly;
mae i “perchennog”, mewn perthynas â thir, yr un ystyr ag sydd i “owner” yn Neddf Caffael Tir 1981(5);
ystyr “planiau'r gweithfeydd” (“the works plans”) yw'r planiau yr ardystiodd Gweinidogion Cymru eu bod yn blaniau'r gweithfeydd at ddibenion y Gorchymyn hwn.
mae i'r ymadroddion “priffordd” ac “awdurdod priffyrdd” yr un ystyr ag sydd i'r ymadroddion “highway” a “highway authority” yn Neddf y Priffyrdd 1980(6);
ystyr “y rheilffordd bresennol” (“the existing railway”) yw'r rheilffordd a awdurdodir gan Orchymyn Rheilffordd Ysgafn Llangollen a Chorwen 1984 ynghyd â'r holl diroedd a'r gweithfeydd sy'n ymwneud â'r rheilffordd honno;
ystyr “y rheilffordd estyniadol” (“the extension railway”) yw'r rheilffordd yr awdurdodir ei hadeiladu gan y Gorchymyn hwn ynghyd â'r holl diroedd a'r gweithfeydd sy'n ymwneud â'r rheilffordd honno a chyn cwblhau unrhyw ran o'r rheilffordd estyniadol honno bydd yr ymadrodd hwnnw yn cynnwys safle'r rhan honno;
ystyr “y rheilffyrdd” (“the railways”) yw'r rheilffordd bresennol a'r rheilffordd estyniadol, neu'r naill neu'r llall ohonynt;
mae “stryd” (“street”) yn cynnwys rhan o stryd;
ystyr “terfynau'r Gorchymyn” (“the Order limits”) yw unrhyw derfynau gwyriad a'r terfynau pellach;
ystyr “terfynau'r gwyriad” (“the limits of deviation”) yw terfynau'r gwyriad ar gyfer y gwaith rhestredig a ddangosir ar blaniau'r gweithfeydd;
ystyr “y terfynau pellach” (“the further limits”)
yw'r terfynau a ddangosir gan y llinellau sydd ar blaniau'r gweithfeydd ac wedi'u marcio “terfynau'r tir sydd i'w ddefnyddio” (“limits of land to be used”);
ystyr “y trawsluniau” (“the sections”) yw'r trawsluniau yr ardystiodd Gweinidogion Cymru eu bod yn drawsluniau at ddibenion y Gorchymyn hwn;
ystyr “trosglwyddiad electronig (“electronic transmission”) yw cyfathrebiad a drosglwyddir—
drwy rwydwaith gyfathrebu electronig; neu
drwy ddull arall ond yn parhau ar ffurf electronig;
ystyr “yr Ymddiriedolaeth” (“the Trust”) yw Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen, sef elusen gofrestredig a chwmni cyfyngedig drwy warant a gofrestrwyd o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 a'i rif cofrestredig yw 3040336 (a ymgorfforwyd yn wreiddiol fel Cymdeithas Reilffordd Llangollen Cyfyngedig o dan Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965(7)) a chyda'i swyddfa gofrestredig yng Ngorsaf y Rheilffordd, Stryd yr Abaty, Llangollen, Sir Ddinbych LL20 8SN; ac
ystyr “yr ymgymerwr” (“the undertaker”) yw'r Ymddiriedolaeth ac yn dilyn unrhyw werthiant, prydles neu is-brydles o dan erthygl 17 (trosglwyddo rheilffyrdd gan yr ymgymerwr) bydd yr ymadrodd hwn yn golygu neu'n cynnwys y trosglwyddai o fewn ystyr yr erthygl honno.
(2) Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at hawliau dros dir yn cynnwys cyfeiriadau at hawliau i wneud, neu i osod a chynnal a chadw, unrhyw beth yn y tir neu arno, neu oddi tano, neu yn y gofod awyr uwchben ei arwynebedd.
(3) Brasgywir yn unig yw pob pellter, cyfeiriad a hyd a roddir mewn disgrifiad o'r gwaith rhestredig neu mewn unrhyw ddisgrifiad o bwerau neu o diroedd a chymerir y bydd pellteroedd rhwng pwyntiau ar waith rhestredig wedi'u mesur ar hyd y gwaith rhestredig.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys