- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
8.—(1) Rhaid i'r clerc gynnull cyfarfodydd y cydbwyllgor, a phan fydd yn arfer y swyddogaeth hon, rhaid iddo gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan y canlynol—
(a)y cydbwyllgor;
(b)cadeirydd y cydbwyllgor, i'r graddau nad yw'r cyfarwyddyd hwnnw'n anghyson ag unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd o dan is-baragraff (a).
(2) Pan na fo clerc wedi'i benodi, rhaid i'r cyfarfodydd gael eu cynnull gan y cadeirydd y mae'n rhaid iddo, pan fo'n arfer y swyddogaeth hon, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan y cydbwyllgor.
(3) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a roddir yn unol â pharagraff (1), o leiaf bum niwrnod clir ymlaen llaw rhaid i'r clerc roi i bob aelod o'r cydbwyllgor, i'r awdurdod addysg lleol ac i benaethiaid a phenaduriaid y cyrff sy'n cydlafurio (p'un a ydynt yn aelodau o'r cydbwyllgor ai peidio)—
(a)hysbysiad ysgrifenedig o'r cyfarfod;
(b)copi o'r agenda ar gyfer y cyfarfod; ac
(c)unrhyw adroddiadau neu bapurau arall sydd i'w hystyried yn y cyfarfod;
ond pan fo cadeirydd y cydbwyllgor yn penderfynu ar y sail bod materion y mae gofyn eu hystyried ar fyrder, bydd yn ddigonol os bydd yr hysbysiad ysgrifenedig o'r cyfarfod yn datgan y ffaith honno a bod yr hysbysiad, yr agenda a'r adroddiadau neu'r papurau eraill sydd i'w hystyried yn y cyfarfod yn cael eu rhoi o fewn unrhyw gyfnod byrrach y bydd yn cyfarwyddo bod rhaid eu rhoi ynddo (yn ôl y digwydd).
(4) Nid yw trafodion cydbwyllgor yn cael eu hannilysu gan y canlynol—
(a)unrhyw swydd wag ymhlith aelodau'r cydbwyllgor; neu
(b)unrhyw ddiffyg ym mhenodiad unrhyw aelod o'r cydbwyllgor.
(5) Ni chaniateir pleidleisio ar unrhyw fater mewn cyfarfod cydbwyllgor onid yw'r mwyafrif o aelodau'r cydbwyllgor sy'n bresennol yn aelodau o gorff sy'n cydlafurio.
(6) Mae pob cwestiwn sydd i'w benderfynu mewn un o gyfarfodydd y cydbwyllgor i'w benderfynu drwy fwyafrif o bleidleisiau aelodau'r cydbwyllgor sy'n bresennol ac sy'n pleidleisio ar y cwestiwn.
(7) Pan fo pleidleisiau'n rhannu'n gyfartal mae gan y person sy'n gweithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod ail bleidlais neu bleidlais fwrw, ar yr amod bod y person hwnnw yn aelod o gorff sy'n cydlafurio.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys